Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EFENGYLEIDDIO INDIA.

News
Cite
Share

EFENGYLEIDDIO INDIA. RHYW dasg anobeithiol yw i'r cenadon Grist- ioneiddo yr Indiaid," sydd frawddeg a lefarwyd, ac a gyhoeddvvyd yn y newyddiaduron. Llef- arwyd hi gerbron gorsedd Prydain Fawr, yn Nhy enwog ein Pendefigion. Ei thadog yw Iarll Derby, gwr boneddig o'r dalent benaf, ac o'r hyawdledd mwyaf dylanwadol yn mysg yr Arglwyddi. Iaith lnfidelaidd yw hon. Mae ei Arglwyddiaeth yn gyffredin yn arfer dangos teimlad tanllyd dros yr Eglwys Sefydledig. Nid ydym yn cofio ar hyn o bryd ei fod wedi ergydio yn erbyn yr Eglwys end pan unodd ag Iarll Grey i ysgythru ymaith amryw benau meitrog yn yr Iwerddon, a gadael y gweddill yn gydrif a deuddeg Apostol yr Oen. Byth ar ol hyny, y mae yn bleidiwr tafodrydd iddi, ac yn amddiffynwr ffyddlawn i'w holl drefniadau, pa bynag mor wael ydynt ynddynt eu hunain, a pha bynag mor effeithiol ydynt i ddiddymu dy- lanwad yr Eglwys i wneuthur daioni. Ond am India, yn ol ei farn ef, mae yr efengyl yn rhy wan i drechu cyfeiliornadau yno., Dywedodd air wrth ein bodd cyn y frawddeg hon; sef"na ddylai y Lly wodraeth ymyraeth a chrefvdd yr Indiaid." Gair yn ei le yw hwn, a gobeithiwn y dal ei Arglwyddiaeth at y gosodiad, ac yr ennilla ei holl frodyr Pendefigaidd i fod o'r un farn ag ef ar y mater hwn. Os teg yw mab- wysiadu yr egwyddor hon at India, onid un- iawn yw ei harfer yn Lloegr, Iwerddon, a'r Trefedigaethau ? Mae pob egwyddor gywir yn gyfaddas i gymhwysiad eyffredinol. Yr un sydd gyfiawn i India, sydd gyfiawn i'r Iwerddoli, &c. Nis gall un egwyddor fod yn iawn yn India, a'r un wrthwynebol yn iawn yn Lloegr. Dadleued ei Arglwyddiaeth dros ei chymhwysiad cyffred- inol, a nyni a'i derbyniwn yn aelod o'r Gym- deithas Gwrthgrefydd Sefydledig." Er ein bod yn llawenhau yn nghyhoeddiad y fath egwyddor mewn lie o fath Ty yr Arglwyddi, a hyny gan berson mor urddasol, nis gallwn lai na chon- demnio y frawddeg arall, mai "rhyw dasg an- obeithiol yw efengyleiddio India." Ni buasai yn ddyeithr genym glywed yr ymadrodd yn dyferu dros wefusau Deist, gwaith yr hwn yw diystyru a chablu y gyfundrefn Gristionogol; ond ei chlywed gan bendefig Eglwysaidd a gor- ragfarnllyd, sydd sain annysgwyliadwy! Paham na buasai rhyw-un yn codi fyny, er dynoethi gwrthuni y fath dyb ? Pa le yr oedd Iarll Shaftesbury, noddwr yr Efengylwyr? Dim gair o'i enau. Pa le yr oedd yr Esgobion, diogelwyr y ffydd, a gwylwyr Cristionogaeth ? Yr oedd amryw o honynt yno yn clywed Arglwydd Der- by yn siarad fel hyn yn lnfidelaidd. Nid oedd dim gan yr un o'r Preladiaid i'w wrthddywedyd. Pa le yr oedd Esgob mawr Exeter ? Cododd Arglwydd Conop, Esgob dysgedig Ty Ddewi, a llefarodd; ond nid fel duwmydd. Dywedodd ei fod yn ammheus fod pregethu yr efengyl yn Exeter Hall wedi gwneyd yr un daioni! Mae yn beth hynod clywed Esgob yn ainmeu llesol- deb pregethu yr efengyl! Mae Iesu Urist wedi gorchymyn i bregethu yr efengyl i bob creadur. Gwelodd Duw yn dda drwy ffolineb pregethu gadw y rbai sydd yn credu. Paul, apostol mawr y cenedloedd, a gyhoeddai, Gwae fi os na phregethaf yr efengyl." Yr oedd y Groeg- iaid paganaidd yn galw pregethu yr efengyl yn ffolineb yn oes yr apostolion; ond yn awr, mae dilynyddion yr apostolion yn cablu pregethu Nid rhyfedd fod y tylwyth meitrog heb gon- demnio brawddeg Derby! Yr oeddem yn dysg- wyl i rai o honynt godi a phleidio Cristionog- aeth pan oedd yn cael ei bychanu. Paham na chawsid yn eu mysg ryw un i dystiolaethu mai gwirionedd yw'r gyfundrefn Gristionogol? Rhaid i bob gwirionedd lwyddo, ac nis gellir ei attal a'i lwyr ddifetha. Os cwympa'r gwirion- edd ar yr heol, ac os mathrir ef gan y di- egwyddor, efe a gyfyd drachefn. Mawr yw y gwirionedd, ac mae yn rhaid iddo lwyddo. Bu gwirionedd astronomyddol ar lawr cyn hyn. Pan gyhoeddodd Galileo fod y ddaear yn troi o gylch yr haul, cynbyrfodd y dyb newydd y Pab, y Cardinaliaid, a'r offeiriaid, a dygwyd ef o flaen y Chwil-lys uffernol, pan, ar ei liniau, y gorfu arno wneyd ei ddad-ddywediad hynod er mwyn dianc rhag cosp. Y gwiripnedd a ddy- wedodd, ac mae wedi llwyddo er gwaethaf y Pab, a phob gelyn arall i ddiwylliad. Felly mae yn rhaid i'r gau-dduwiau, i'r gau-egwvddorion, i'r gau-gyfundraethau, a'r gau-ymarferion, roi lie i'r gwir Dduw, y gwir Fessiah, ac i wirion- edd yr efengyl. Bydd i'r gareg a dorwyd o'r mynydd nid a llaw ddryllio y delwau, a myned yn fynydd mawr, nes llenwi'r holl ddaear.

UNOL DALEITHIAU AMERICA.

Y SENEDD AMHERODROL.