Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DYBEN CERDDORIAETH.

News
Cite
Share

DYBEN CERDDORIAETH. MR. GOL.Rhowch ganiatad i mi ysgwyd llaw hyd braich ac ysgwydd gyda'm cydlafuriwr El- mus," tra y byddwyf yn ymgomio ychydig â'm symbylydd "GogIeddwr." Gesyd arnaf y gwaith o eglurhau dyben cerddoriaeth, a hyny o flaen y byd 0, am ddawn Demosthenes 0, am lais Stentor Etto, gan na wneir dim heb ymestyn at hyny, a chan na &yr neb ei allu heb ymdrechu, wele yr ychydig sylwadau canlynol, gan obeithio y gwnant les. Cymmeraf yn ganiataol mai cerddor- iaeth grefyddol a feddylir gan fy nghyfaill, neu y rhan hyny o'r gwasanaeth dwyfol a gyflawnir ar gan. Cymmerwn y Salmau yn safon. 1. Addoli Duw. Mawl a'th erys di yn Seion, 0 Dduw." Yma dylai y gerddoriaeth fod o'r fath natur fel ag i dderchafu y meddwl mewn sobrwvdd at Dduw-dim ysgafnder. 2. Ymbil ar Dduw. Clyw, 0 Dduw, fy llefain." Cerddoriaeth ddiaddurn, syml, yn gweddu ymbiliwr, a ofynir i hyn. 3. Mynegu gogoniant Duw. Mawr yw yr Arglwydd." Dyma ni yn awr yn troi at ereill i fynegu gogoniant ein Hior; ac, fel gweision ffyddlawn, dylem wneu- thur hyny yn nerthol ac yn fywiog. 4. Annog ein gilydd. Deuwch, canwn i'r Arglwydd." Dyma gyfleusdra i fod ar ein goreu. Gadewch i'r gan fod yn ysplenydd ac yn wresog, nes cynhyrfu ein teimladau i hwyl. 5. Annog ereill. Molwch yr Arglwydd, yr holl genedloedd." Pwy a feddyliai ganu, 0, tyred gyda ni," ar French t" Na rhowch fywyd yn eich can. Mynwch gan fywiog- yn darawiadol i dynu y sylw, ac yn felus i ennill y glust. Canwh fel pe baem yn credu fod y gwaith yn dda, a'n bod am i ereill ddyfod ato. Dyna ych- ydig o'r rhanau a ystyriwyf sydd yn gwneuthur i fyny ddyben cerddoriaeth grefyddol. Yr anffawd yw, fod ein blaenoriaid yn fynych yn cymmysgu y rhai hyn, ac yn canu geiriau dwys ac ymbiliadol ar don addas i osod allan foliant. CANHOFFYDD.

Y WASG.

CYNNADLEDD Y CRYDDION.