Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYNNADLEDD Y CRYDDION.

News
Cite
Share

CYNNADLEDD Y CRYDDION. CYNNADIffiDD XIII. Dafydd Hugh.-Dyma Pwnck ges i fentig gen Mishtir Niclas, Plasyfron: ma mishtir Niclas yn gweyd wrthw I ma' llun rhyw hen 'ffeirad dwl o'r gogle yw y bachgen pert hyn (gan gyfeirio at ryw lun rhyfedd yn Pwnch). Ma' mishtir yn gweyd ma' rhyw hen Babist yw e', a'i fod yn gweyd fod plant y 'Senters 'ma yn myn'd i uffern bob un (sen- sation dwys). Fe ballodd roi cymmundeb i ryw 'ffeirad da iawn hefyd, glwes I nw yn weyd, o her- wydd fod hwnw yn gro's i'r esgob. Ma'n debyg i fod e' fel spaniel yn lluo tra'd yr hen Sais, er mwyn cal asgwrn i bilo. Dafydd Evans.- Yr ych chi, Dati, yn leico bod a'ch pwnch ar y 'ffeiradon o hyd. 'Chreda I ddim fod e' wedi gweyd fed plant y 'Senters yn myn'd i uffern; ond am beidio rhoi cymmundeb i'r hen For. gan hwnw, fe 'nath o'r gore' a hwnw, o herwydd gelyn yr Eglws yw e'. Hugh Roberts.— Yr wyt ti, Dafydd, yn deyd pethe nad wyt yn ddallt rwan, neu yn misho o dy fodd. Hen Busy i'r pen draw ywy dyn, a gwyn- fyd na fai o, a phob un tebyg iddo fo, wedi cal 'u gyru i'r lleuad er stalwm. Fe ballodd fyn'd i wledd de a roddid gan foneddwr parchus yn y North acw i wahanol ysgolion Sul yr ardal, a'i reswm o dros wrthod o'dd fod plant yr Ymneillduwyr yno, a'i fod o yn credu nad o'dd y rhai hyny within the pale of salvationac ma' Pwnch yn deyd yn y papyr yna sy'n Haw Dafydd Hugh, fod eisio dodi ben o mewn "pail of cold water." Fe ddwedodd Mr. W. wrtho fo, If the children of dissenters are not within the pale of salvation, let us be as kind as we can to them in this world, as the poor little things have no hope for any enjoyment in another." Dynfirst rate yw Morgans, Tfegynon. Mae o yn ysgolhaig da, yn areithiwr hyawdl, yn ysgrifenwr rhagorol, yn bregethwr gwych, ac yn Gristion clen arw. Yr yda chi, Dafydd Hugh, yn barnu yn iawn, mai dyben Sant (?) Rhosymedre (nid Ed- wards; dyn noble ydy hwnw), wrth nacau cym- mundeb, oedd piesho'r esgob, er mwyn number one. Mae ugeiuie, os nid canno'dd, o bapre'r deyrnas wedi cym'ryd y peth mewn llaw ac mi 'ddyliwn i rwan fod croen yr olynydd apostolaidd hwn wedi cal i banu nes mae o fel croen buffalo rwan. Gweni.—Beth yw y rheswm fod yr esgob yn ddig wrth y Mr. Morgan hyny ? Daniel.-Wel, mam, chwi wyddoch mai esgobion Seisnig mae aelodau Eglwys Harri yr Wythfed yn yru i gneifio'r praidd yn Nghymru; ac y mae pawb, Ymneillduwyr ac ereill, yn rhwym o edrycli ar y fath ymddygiad o eiddo'r Saeson gyda dirmyg goruchel. Yr wyf fi yn Ymneillduwr trwyadl; ond nis gallaf lai na theimlo fel Cymro, o herwydd fod yr hen Omeriaid yn cael eu diystyrufel hyn gan yr Hengistiaid, ar ol iddynt ein hyspeilio o'n gwlad a'n hannibyniaeth. Mae y Parch. Mr. Morgans, Tregynon, wedi areithio ac ysgrifenu llawer yn er- .y byn y fath gamwri, fel ag y mae -wedi peru i'r es- gobion edrych efo llygad buwch arno. Gwyddai curedyn Rhosymedre hyny yn eithaf da ac er mwyn cael rhagor o'r pethau bychain sy'n prynu moch, btiddiodd geisio dirmygu yr hwn agv byddai sychu ei esgidiau yn ormod o anrhydedd iddo. Rhyfedd mor grebachlyd a balch y mae rhai cryt- iaid difarf yn myned, ar ol cael macin gwyn, hugan ddu, ac yn neillduol, degwm a Ckommon Prayer. Put a beggar on horseback, and he will ride it to the d—1." Evan y Gweydd.—Beth yw yr ots i ni am dani nw ? gadel i'r Eglwyswyrs i wmla a'u gily' sy orei ni; fyddwn ni ddim gwell ta shwt bo hi; 'dos arno ni ddim ishe esgobion Cwmrag na Sysneg. Edward.-Nid fel yna yr wyf fi yn edrych ar bethau, Evan; ystyriwyf fod genym ddyledswyddau gwladol a chenedlaethol i'w cyflawnu yn gystal a rhai crefyddol. Pan mae Episcopaliaid yn cael cam fel Cymry, mae yn ddyledswydd arnom ni fel Gomeriaid i'w helpio hyd eithaf ein gallu. Yr wyf fi mor wrthwynebol achwithaui'rcyssylltiadrhwng Eglwys a gwladwriaeth, ond nid dyna y pwnc sydd 'nawr o dan ein hystyriaetb ond a ydyw yn iawn i'r Saeson yspeilio y Cymry o'u meddiannau a'u hawliau diamheuol, fel ag y maent yn gwneyd trwy ordeinio Preladiaid Seisnig i wneyd gwaith ag nas gallant ei gyflawnu, tra y mae Cymry galluog, duwiol, a dysgedig, fel Glan Geirionydd, ac ereill, 'yn cael byw a marw o dan y gawnen o'u rhan hwy. Pe ceisiai yr Eglwyswyr genyf I arwydtlo deiseb i'r Senedd yn erbyn y gorthrwm hwn, 'ie, gorthrym- der ag nad oes un wlad heblaw Cymru yn ddyoddef, -byddwn yn barod i gydsynio a'u cais yn hollol ddiseremoni. Yr wyf fi yn synu nad yw y Saeson yn cywilyddio wrth ddarllen llythyr grymtis a tha- lentog y Parch. Mr. Morgan at Arglwydd Pal- merston ar ypwne hwn; ac nid wyf yn gallu dir- nad sut mae esgobion Cymru yn gallu mwynhau eu bywioliaethau breision wedi ei ddarllen, Gwynfyd na wnelai y gwron o Dregynon, ac offeiriaid galluog ereill yn Nghymru, droi allan o'r Eglwys-na wnelent ddadgyssylltu eu hunain oddiwrth y wlad- wriaeth, gan daflu eu hunain ar yr egwyddor wir- foddol, a ffurfio math o gyfundeb annibynol ar y deyrnas, tebyg i'r "Free Church of Scotland." Diau genyf y byddai y fath ysgogiad yn ergyd ar- swydus i grefydd sefydledig Lloegr, yn anrhydedd tragyfyth i'r rhai a wnelent hyny, ac yn ennill mawr i achos y gwirionedd. Gwir a ddywed Mr. Miall yn ei sylwadau ar lythyr Mr. Morgan, sef na ddeillia un lies Seneddol o bwys i'r Cymry, hyd nes y gyront well dynion i'w cynnrychioli yn Nby y Cyffredin. Yr ydych yn gwybod sut y mae pethau yn Nghanada, ac nid dyeithr i chwi yw y modd yr amcenir ymlwybro yn Awstralia ar ol y flwyddyn 1860; a byddai cael un ymosodiad o'r fath a nod- wyf yn Nghymru, yn help mawr i dori y cyssylltiad niweidiol a IFurfiwyd yn amser Cystenyn, mor bell

.Y CADBEN HENRY WILSON,