Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.Y CADBEN HENRY WILSON,

News
Cite
Share

.Y CADBEN HENRY WILSON, A DARGANJrYDDIAD YNYSOEDD FELEW.* LLYTHYB I. MAE nodweddiad y gWr bynod hwn yn cael ei osod allan yn fwyaf neillduol yn y damweiniau a'r dyg- wyddiadau y cyfarfu efe a hwynt yn ei alwedigaeth forwriaethol, ac yn enwedigol y fordaith beryglus yn y llong ANTELOPE, ar ddrylliad yr hon y cafodd efe a'r dwylaw oedd gydag ef waredigaeth raglun- iaethol, a phan y bu yr unrhyw ddamwain yn ach- lysur i ddarganfod, neu o leiaf i gael hysbysrwydd manylach o amrywiol ynysoedd anadnabyddus yn y Mor Tawelog Gogleddol, y tu draw i China, sef Ynysoedd y Pelew, rhwng hydred 134° a 1360 dwy- reiniol, a rhwng lledred 6° ac 8° gogleddol. Felly, gan nad oesgenyf ddim pethau amgylchiadol i'w hadrodd am y Cadben Wilson, yn amgen na'r hyn sydd yn dwyn perthynas a'r fordaith grybwylledig, deuaf yn uniongyrchol i draethu am helyntion yr unrhyw, gan adael i'r darllenydd gasglu nodwedd- iad gwrthddrych y bywgraffyddiaeth oddiwrth ei ddull a'i ddyspwyll yn arlywio amgylchiadau y dyg- wyddiad hwnw. Yr Antelope ydoedd lestr helaeth, o yn agos i 300 o dunelli, yn cael ei defnyddio yn ngwasanaeth Cymdeithas Anrhydeddus Cydfasnachwyr yr India Ddwyreiniol, dan lywyddiaeth y Cadben Henry Wilson. Yn mis Mehefin, 1783, yr oedd y Hong uchod yn gorwedd yn mhorthladd Macao, ar duedd- au China; a'r Cadben a dderbyniodd orchymyn oddiwrth y Gymdeithag i barotoi ei huu a'i lestr i fordaith gyda phob brys galluadwy felly, erbyn yr 20fed o Orphenaf, yr oedd pob peth yn barod a thua thri o'r gloch prydnawn y diwrnod hwnw, aeth y dwylaw oil ar y bwrdd, sef y Cadben, tua 30 o forwyr Ewropaidd, a 16 o Chineaid ac yn ddi- oedi hwylient allan o'r porthladd; eithr gan fod y tywydd yn ymddangos yn ansefydlog a niwlog, angorasant tua naw o'r gloch yn yr hwyr mewn 7 gwrhyd o ddwfr. Am 5 boreu dranoeth, codasant yr angor drachefn, a hwyliasant gydag awel deg o'r dwyrain-ogledd.ddwyrain. Eu mordaith y dyddian canlynol ydoedd flin ac anhyfryd y gwyntoedd yn gythryblus, a'r gwlaw- ogydd yn drymion, yr hyn a niweidiai eu llestr i gryn raddau a'r rhan fwyaf o'r da byw oedd gan- ddynt ar y bwrdd a fuont feirw. Fel hyn parhaodd eu helynt hyd y 9fed o Awst, pan y gwellhaodd y tywydd, ac y cliriodd yr awyr yn fwy siriol, fel y cawsant hamdden i adferu pethau i drefn; ac felly gobeithient y caent weithian fyned rhagddynt yn fwy cysurus a diberygl. Ond tua chanol nos eyfodai y gwynt drachefn, gwyneb y ffurfafen a dduai, a thymbestl ddychrynllyd o fellt a tharanati a'u ham- gylchynai, a'r gwlaw a ymdywalltai yn ddiarbed. Y pryd hwn yr oedd gwyliadwriaeth y Hong wedi ei ymddiried i Mr. Benger, y prif is-lywydd, yr hwn, oblegid y dymhestl, a ostyngai yr hwyliau; eithr gan ddysgwyl yr adferid tawelwch yn fuan,nithyb. iai yn angenrheidiol galw y dwylaw i fyny, na de- ffroi y cadben. Ond tra yr oeddid yn crynhoi yr hwyliau, un o'r dynion oedd ar wyliadwriaeth a waeddai allan yn ddisymmwth, Beis-donau beis- donau 1" (breakers). A chyn i'r waedd ond prin gyrhaedd clustiau yr is-lywydd, y Hong a darawai ar graig gyda thordrwst dyebrynllyd Y twrf hwn a ddyg y Cadben a'r holl ddwylaw ar y bwrdd mewn mynydyn, a phawb yn bryderus i wybod pa beth oedd wedi dygwydd. Erbyn hyn, yr oedd yr olygfa Ymddangosodd cynnwysiad y llythyrau hyn yn y "Gwladgarwr" am y flwyddyn J 833; ond gan nad yw yn debyg fod llawer o dderbynwyr SBREN CYMRU wedi gweled y Cyhoeddiad hwnw, yr wyf, ar gais amryw o'm cydwladwyr, yn eu cyflwyno etto i sylw y cyhoedd.—I. W.

INDIA, NEU HINDWSTAN.