Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CONGL YR ATHRONYDD A'R HANESYDD.¡

News
Cite
Share

ganiatau yn mysg moethau teuluol y g\'Vr a'r plant. Bydded i'r chwaeroliaeth fod yn gall ar y pwne yma, trwy gefnogi ysbryd darllen yn eu teuluoedd, gan gofio fod rhai, trwy beidio gwneyd hyny, ó herwydd ei fod yn costio- cwpwl o docins" y mis, wedi bod yn euog o roddi help llaw i feithrin ofer- edd a gwastraff ag sydd yn ddinystr i bob cysur teuluol, ac yn felldith i gorff ac enaid. Ein hesgusawd dros y sylwadau blaenorol yw, ei bod yn oddefol, mewn anerchiad rhagarweiniol fel hyn, i droi ychydig o gwmpas, ac i ymgomio tipyn yn wibiog a gwasgarog. Nid oedd genym fwriad yn y llythyr presenol i gymmeryd gafael mewn un pwnc penodol, yn rhagor na galw sylw ein darllen. wyr at yr hyn a fwriadwn ddwyn ger eu bron, yn awr a phryd arall, yn y&tod y flwyddyn ddyfodol. Bydd "CongI yr Atbronydd," &c., yn cynnwys ysgrifau byrion, ac mor eglur a rhwydd agy gallwn (ac hefyd y caniata yr iaith Gymraeg) ar wahanol bynciau athronyddol; megys, y gwyddorau natur- jol [natural sciences), neu anianyddiaeth yn eigwa- hanol gangenau; ac hefyd, efallai, ambell i ddarn o hanesyddiaeth ag a fyddo o duedd i egluro ac i daflu goleuni ar ddamcaniaethau (theories) yr ath. ronydd. Nis gellir bod yn athronydd heb fod hefyd yn hanesydd. Cofied y darllenydd nad ydym mor ffol a meddwl y bydd i ni trwy hyn lwyddo i wneyd athronydd o hono; bydd ein hamcan wedi ei gyrhaedd os bydd i ni Iwyddo i roddi i'n darllenwyr ychydig o ddir- nadiaeth am rai o gangenau philosophi, fel ag i'w galluogi i ffurfio syniadau mwy perffaith am bethau, i godi ynddynt awydd i ddarllen a chwilio yn mhell- ach, i ddysgu meddwl yn fwy cywir, ac i werthfawr- ogi gwir wybodaeth. Byddai hyn yn foddion i ddwyn llaweryn rhydd o lyffetheiriau rhagfarn yn- fyd, ac ofergoelion ffol; ac hefyd i'w diogelu rhag cael eu cario ymaith gyda phob truth a lol a glywir yn fynycb, hyd y nod gan rai a feddant gryn lawer o boblogrwydd. Mae yn ddiammeu yr addefa pawb sydd yn alluog i farnu, fod y bobl yn gyffredin yn Nghymru yn mhell yn ol mewn gwybodaeth wyddouol ac ath- ronyddol mewn cymhariaeth i ranau ereill o'r Deyrnas Gyfunol; ac hefyd mewn cymhariaeth i'n henwogrwydd addefedig ni ein hunain o ran gwy- bodaeth ysgrythyrol a. chrefyddol. Nid ydym yn awr yn myned i benderfynu, pe byddem yn alluog, i ba beth y mae hyn i'w briodoli; ond hyn a ddy- wedwn, nad ydym yn credu ei fod i'w briodoli i un diffyg cynhenid yn y meddwl Cymreig. Yr ydym cyn hyn wedi bod yn eistedd uwchben tan o fawn, mewn parthau mynyddig, yn gwrandaw gyda syn- dod a hyfrydwch ar Gymry uniaith, gwledig, ac an- nysgedig, yn ymgomio mor athronyddol, ac yn ar- ddangos y fath sylw craffus, a meddwl trychwaliadol (analitical), ag na fuasai yn un dianrhydedd i Harri Brougham ei hunan. Pe buasai y eyfryw rai, a'u cyffelyb, wedi cael manteision addysg a diwylliant priodol yn moreu eu hoes, buasent, yn ddiau, yn addurn i'w gwlad a'u cenedl. Fel ag y bydd i fan- teision addysg a meithriniaeth meddyliol gynnyddu ac i gael eu gwerthfawrogi yn ein mysg, mae ein gobeithion yn uchel am ein gwlad a'n cenedl. Mae y meddwl cenedlaethol yn iach ac yn gryf; nid ydyw wedi ei wanhau gan ormod o lafur ac astud- rwydd, na'i arleshau gan rysedd a gwyd ond y mae yn dyner, yn ystwyth, ac yn heinyf, a dim yn eisieu ond diwylliant ae ymröad i beru iddo ddyfod i'r golwg mewn llawer amy 6 nerth a gogoniant. Llwyddiant i SEREN CYMRU wneyd ei rhan, mewn cyssylltiad a chyfryngau a moddion ereill, er cyn- northwyo i ddwyn hyn oddiamgyich. Os nad yw ein llythyr yn barod, Mr. Golygydd, yn ddigon maith i'r gofod sydd genych ar ei gyfer, beth. pe byddai i ni wneyd cynnyg i siarad yn ath- ronyddol a'n darllenwyr ? Un rhan arbenig o ath- roniaeth yw, olrhain effaith at ei wir achos. Er enghraifft, mae achosion penodol i holl arddangos- ion a chyfnewidiadau y byd cymdeithasol a gwleid- iadol; felly, yr un modd y byd anianyddol. Mae y naill a'r Hall dan lywodraeth deddfau syml a dir. geledig yn eu treigliadau parhaus. Gwaith yr ath- ronydd yw egluro y deddfau, neu ddangos mor bell ag y mae yn gallu canfod, paham y mae y cyfnew- idiad yma neu yr effaith arall yn eymmeryd lie, dan ryw amgylchiadau penodol. Yr athronydd hanes- yddol a gwleidiadol a fyfyria ac a broffesa egluro yr achosion o godiad a chwymp teyrnasoedd llwydd- iant ac aflwyddiant gwladol; yn nghyd a'r amryfal gylch.gyfnewidiadauag y mae cymdeithas yn ddar- ostyngedig iddynt. Yr un modd, yr athronydd na- turiol a broffesa egluro i ni natur, cyfansoddiad, elfenau, a gweithrediadau gwahanol ranau y gread- igaeth naturiol, yn nghyd ag achosion y gwahanol gyfnewidiadau ag y mae y eyfryw bethau yn ddar- ostyngedig iddynt. Yn nesaf at adnabyddiaeth o Dduw, a ffydd ddiysgog ynddo, fel Achos gwreidd- iol, a Phenllywydd goruchel, pob peth, mae gwy- bodaeth athronyddol ac hanesyddol o ddeddfau Natur a Rhagluniaeth o'r pwys mwyaf i bob dyn. Mae y cyfryw yn werthfawr i ddyn, nid yn unig er diwyllio, dedwyddu, ac ardderchogi ei natur ddeallol a moesol, ond hefyd er yehwanegu yn fawr ei ddef- nyddioldeb a'i gysur fel dinesydd o'r byd hwn, ac aelod o gymdeitbas, er rheoleiddio ei ymddygiad, a'i gyfarwyddo yn y ffordd oreu er ei lesad a'i well- iant. Meddyliwn, er enghraifft, am y dosparth gweithiol; byddai eu bod yn deall ychydig o athron- iaeth a lleferydd hanesyddiaeth, llywod-ddysg, a threfnyddiaeth wleidiadol (political economy), yn help mawr iddynt ddeall rhywbeth am achosion yr ups and downs" sydd yn perthyn i'w sefyllfa; ac hefyd i ymbwyllo ac ymresymu, os nad i welefl yr angenrheidrwydd o ymdawelu, yn ngwyneb amsero galedu fel yn awr, yn hytrach nag ymwylltio a ffyr- nigo yn ddialgar er niwed iddynt eu hunain. Bydd- ai hyny hefyd yn foddion i ddangos iddynt yr iawn ffordd i wellhau eu sefyllfa, trwy ddysgu iddynt pa fodd i sicrhau eu hawliau gwladol a chymdeithasol yn Uawer mwy effeithiol nag y gallant byth wneyd tra yn aros mewn anwybodaeth, ac yn eymmeryd eu cynhyrfu a'u llywodraethu yn unig gan eu hang- enion corfforol, a'u nwydau anifeilaidd. Felly hefyd gyda golwg ar y gwyddorau naturiol; byddai ychydig o wybodaeth gywir o honynt o les an- nhraethol mewn llawer o ffyrdd rhy luosog i'w henwi; megys, defnyddioldeb ymarferol, er helpu dynion i ymestyn at fwy o berffeithrwydd mewn gwahanol alwedigaethau er cynnyddu a choethi eu cysuron corfforol a chymdeithasol; meithriniad iech- yd ac, mewn llawer amgylchiad, diogelwch bywyd. Mae y cyfryw wybodaeth hefyd yn ddefnyddiol er rhoddi i ddynion allu i feistroli, defnyddio, ac iawn- gymhwyso adnoddau anian, er eu llesad a'u daioni eu hunain ac hefyd er eu derchafu yn y radd-fesur- fa feddyliol, a rhoddi iddynt ddedwyddwch mil mwy coethedig a phur,,trwy fyfyrio ar ryfeddodau gwaith yr Anfeidrol, na'r dedwyddwch sydd yn ymddibynu ar bleserau corfforol, a chwantau anifeilaidd. Bassaleg. EDWARD ROBERTS. DEG 0 BETHAU PRYDFERTH.—Mae y rhai hyn yn brydferth a hawddgar, ac yn teilyngu parch oddi- wrth bawb a'u gwelont:—Sant icuanc-hen ferthyr- milwr erefyddol-swyddwr gwIadol cydwybodol—dyn dysgedig gostyngedig—plentyn yn deall llygaid ei riaint —cyfaill llawen heb wagedd—cyfaill heb ei gyfnewid gan anrhydedd--dyn claf yn ddedwydd—enaid yn ymadael mewn cysur a sicrwydd.-Esgob Hall. Nid yw cyfoeth yn eiddo yr hwn sydd yn casglu, onti yr hwn sydd yn eu mwynhau.