Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

---0:0---0 Yr Hyn a Allodd…

News
Cite
Share

-0 0- 0 Yr Hyn a Allodd Hon, Hi a'i Gwnaeth." Y D'lWEDDAR MRS. D. S. PRICE, RHOS. ClONICL ARDDERCHOG 0 iWASANAETH. Ohwith iawn yn siwr fydd gan gydnabod lluosog ;Mrs D. S. Price weled v gair di- weddar' yn gysyllitiedig wrth ei henw, gan mor werthfawx ydoeidd mewn a:mryw gyfeir- j iadau, yn enwedig gyda'r achos dirwestol. Ond rhaid cysylltu'r gair, oblegid prydnawn dydd Gwener, iRhagfyr 4ydd, tua dau o'r gloch, (gwelodd Duw yu dda i ddyfod i'w nhol i'w gartref fry o'i phoen a'i gwendid mawr. Mae defnyddiaubywgraffiad rhagorol yn ei -bywyd, pe ceid un .a'i hadwaen.ai'n well na mi, ac un mwy medrus at waith o'r fat;h, i'w gosod fwrth eu gilydd. I aros hyny, wele fraslun. Merch ydoedd i Mr Edward Davies, gor- uchwyi-iwr ar ystad Syr Edmund Buckley, Dinas Mawddwy. Ei thad hi ydoedd yr un agorodd chwareli Llin-llyn a Hendre Ddu. Yroodd yn un .0 hump o blant— dau fab a thair merch. Mae'r ddau fab Mri Edward Davies, Aberangell, a John Weston Davies, Gloucester, yn aros i alaru ar ei hoi. Yr unig ferch sydd yn fyw yn awr yw gweddw'r divveddar Barch 'Griffith Hughes. iBu hi ym Mrynia Khassia gyda'i gwr am ddeng mlyn- tdd. GDaeth i Rhos i weini ar ei chwaer yn ei horiau olaf. Gwelvvch bellach mai hanu o gyff .Calfinaidd ddarfu Mrs Price. Ac o dan nawdd Methodistiaid Calfinaidd yn-Aber- angell y cafodd ei haddysg grefyddol. Tra'n eneth yno yr oedd yn un o ddisgybli-on mam y ft'arch R. Jones, .Capel Mawr y Rhos, ac fel y dywedodd efe yn ei hangladd'yn- Bwl-ch- gwyn, ei bod yn meddwl yn uchel o'i hath- rawes, ac wedi ymdebygu iddi mewn am- ryw bwyutiau. Dywedir hefyd mai hi elwid i agor yr ymddiddan yn y seiat yn ami, ob- lcgid ei medr arbenig i gofio ac adrodd pre- gethau y Sab both cynt. Fel, beth bynag a '¡:edasom fel enwad trwy ei gvvneuthuriad hi yn Wesleyad, dyledwyr ydym i eglwys Feth- odistaidd Aberangell. Yn Hydref y flwyddvm 1876, pan yn 22ain oed, ymbriododd a Mr D. L. Price, brawd y Parch Philip Price, a thrwy hyny daetli yn Wesleyad selog. Gwasanaethodd yr eglwysi y bu'n aelod o honynt yn mhob modd. Cy- merai ran gyhoeddus yn y cwrdd gweddi, a'r seiat a'r ysgol Sul, ac yn enwedig mewn Jiands of Hope. Dipyn yn symudol fuont am y deudderjg mlynedd cyntaf o'u -bywyd priodasol. Yn mysg lleoedd ereill, huon-t yn preswylio yn Clwtybont, Caernarfon. Tra yno caws.ant y fraint o letya yr anwyi 'J.P.' Ac wrth fyned heibio goddefer i ni hysbysu mai un o nodweddion y cartref hwn ydyw fod ei ddrws wastad yn agored i groesawu gweipidogion yr efengyl. Ugain mlynedd i'r Hydref diweddaf ym, sefydlasant yn ,Rhos. Nis gallwn ond nodi prif ddigwyddiadau ei bywyd yma. Yr oedd yn arnlwg gyda phob symudLa:d i buro a sobri'r gymydogaeth. Hi fu'r offeryn i sefydlu cangen o Gym de-it has Ddirwestol y 'Merched yn Rhos. Ymwelodd a nifer luos- og o leoedd, yn bell ac agos—Caernarfon a Llanidloes yn eu mysg—i godi ei Uef 0 hlaid dirwest a iphurdeh cymdeithasol. Dywed y "Rhos Herald": Un adeg bu ganddi Obeifhlu mewn perthynas a chapel y Wes- ley aid, Rhos, yn rhifo 200 o aelodau. Yn ddiweddarach s-sfydlodd Obeithlu mewn cy- sylltiad a Chymdeithas y Temlwyr Da, a llwyddodd i enill haner y gymdeithas a.m y Gobeithlu lluosocaf perthynol i'r Temlwyr Da trwy yr holl fyd," Yr oedd yn garedig iawn wrth y Itbwd. Taflodd ei hun yn gorff ac enaid o blaid y Diwygiad yn Rhos. Wele rai o ddifynion o'i gweddiau yn ei ystod ysgrifenodd y Parch R Jones wrth ei gwr an do Diolch* yn fawr i Ti am beidio blino ar ein gweddiau gwael ni." "Diolch am Dy Air. Dyro i ni gymeryd Dy Air yn xheol i'n bywyd." "IPâr i ni ymwneyd a Thi yn y dirgel. O mor felus yw dy gym- dcithas-Tydi a minau yn y dirgel! Helpa ni i holi ein ilnmain-holi yn fanwl, fel na byddo gymaint ag un pechod yn llechu ynom." "/Mae yma lawer wedi eu clwyfo —eu dallu, neu eu taftu ar ryw ynys." Syl- wer y Aigyrau Ysgrythyrol. "Nid ydym ni yn ymddiried yn y naill a'r llall. Parod I i edJiw i'n gilydd ydym ni. Ond yr wyt I Ti yn medru anghofio heiau." Gadawaf i'r difynion lefaru drostynt eu hunain. Gall y darllenydd bellach farnu fod yr hyn ddywedodd y Parch T Jones Humph- reys am dani yn Mwlchgwyn yn wir, sef ei bod yn feddianol ar argyhoeddLadau cryfion a theamladau dyfnion. Nid oedd prin ddim amser cydrhwng gweled a gweithredu ynddi hi. Ac fel prawf o'r lie uchel ddeil yn meddwl trigolion y Rhos, pasiwyd yn Nghyngor Eglwysi Rhyddion y Rhos, yn ychwanego] at bleidlais o gydymdeimlad a'r teulu, fod cofnodiad helaeth am Mrs Price yn cael ei ysgrifenu yn llyfr cofnodion y Cyngor. Peth arall ddyg dystiolaeth i'r un (peth ydyw fod cyfarfod .coffadwriaethol lleol iddi i'w gynal nos 1.a11 nesaf, Rhagfyr 17eg. Cymerodd yr angladd le dydd Llun cyn y diweddaf, sef y 7fed. Daeth tori yn nghyd ar yr awr apwyntiedig. Cynhalliwyd gwasan- aeth hyr yn nghapel Hill Street, Rhos. Cyme-rodd y gweinidogion canlynol ran yn yr angladd :-Y Parchn A W Davies, J Roger Jones, E Isfryn Williams (M), Evan Williams (B), W R Roberts, Charles Jones, W Price, R Jones (W), T Jones Humphreys, a T N Roberts. Yr oedd y rhai -ca-,ilynol yn bresenol hef- yd :-Y (Parchn E Davies, Spellow Lane, Lerpwl; 'E Whittington Jones, Philip Price, R Roberts (A), R .Williams (M), E Mitchell .{<B), J W Humphreys (B), R J Thomas (B), T A Thomas (A), 0 J Owen (A), Mri J R Roberts, .M.A., .Ruabon County School J ,B Francis, J E Jones, Wrexham. Yr oedd y rhai canlynol yn bresenol yn Mwlchgwyn -f-Y Parchn W 'Morris Jones, B.A., ac H P Roberts. Mae cydymdeimlad pawb yn fawr a Mr D L 'Price ,ac a'r plant. Gwneled Duw y gol'led i fyny i'r teulu, i'r eglwys, ac i'r gymydogaeth. W. PRICE.

-:0:-Ebion o Abardir.

-:0:-Cenhadaeth Merthvr Tydfil.

--.---Ychydig o Hanes Wesleyaeth…