Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
NODION Y DYFFRYN.
NODION Y DYFFRYN. [GAN SIMON LLWYD.] Yr oedd y cyngherdd a gynhaliwyd yn yr Assembly Room. wythnos i neithwyr yn un o'r rhai goreu a gynhaliwyd yn y dref er's llawer dydd. Safai y cantorion yn y rhengoedd blaenaf yn mhlith cantorion Cymru, a gwnethant eu gwaith yn ardderchog, heb neillduo neb. --+- Y brodyr yr Annibynwyr oedd wedi trefnu y cyngherdd, a rhoddwyd yr elw yn nhrysorfa y capel newydd y maent yn bwriadu ei adeiladu yn y dref. -+- Y mae y frawdoliaeth feehan yn Glan'rafon, gyda ei ehwaer eglwys yn Nhrefor, wedi rboddi cam arall pwysig iawn, sef rhoddi galwad i'r Parch. T. J. Rees, Crughywel, i ddyfod yma i'w bugeilio, yn lie yr Archdderwydd Hwfa Mon, yr hwn a ymddiswyddodd dro yn ol. I Gobeithio y llwyddant yn yr ymdrech hoa eto. ac yna bydd holl eglwysi y dref o dan ofal bugeiliol. Cynhaliodd aelodau Cymdeithas Lenyddol Castle- street gyfarfod amrywiol nos Wener. Cynnwysai y rhaglen unawdau, adroddiadau, pedwarawd, &c. Yr oedd y cyfarfod dyddorol o dan lywyddiaeth Mr. E. M. Parry. Traddodir eyfrea o bregethau yr wythnos hon yn ngwahanol addoldai rhyddion Cymreig y dref, i ddilyn y cyfarfodydd gweddi a gafwyd yr wythnos ddiweddaf. Da yw gallu dweyd fod y pregethau yn gafael yn y chynulliadau lluosog. Y pregethwyr oeddynt fel y canlynNos Lun, yn nghapel Glan'rafon, y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug nos Fawrth, yn Seion, y Parch. R. Mon Hughes nos Fercher. yn nghapel Castle- street, y Parch. A. J. Parry. D.D., Rhyl; nos law, yn Rehoboth, y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle heno (nos Wener), yn Mhenllyn, y Parch. R. E. Morris, M.A., Gwrecsam. srvXiM13*! y Bwrdd Ysgol yn rhai haul iawn diwedd Yn n £ hyfarf°d ughyflocr'aa anfJL yn, rh°ddasant ychwanegiad yn «mryw 0 u gWe>sion. 6i cyfarfod v appel oddiwrth swvd^ Wythnos ddiweddaf cawsant yn ei e-vfW T?V, ">presennolion am estyniad ehanmoliaeth am 1 fr,46 idd° yntau' gyda cyfarfod srofvnr, waith, ac ar ddiwedd y iddo yntau eL ^hw0?irM"ydd °°id °edd m0dd Gadawyd yr appel hwn hyd ycwrdd llesaf. Byddai yn dda pe byddai i'r aelodau goflo-am bob ych- wanegiad y maent yn eu wneyd yn y cyflogau, &c., fod y trethdalwyr yn gorfod myned yn ddyfnach, ddyfnach i'w pocedau. Bu elwb pel droed y Llan yn tynu yn y dorch gyda y Wrexham Victoria ddydd Sadwrn, am y Denbigh and Flint Charity Cup, ond methasant yn goid r ^aD ^'r ^rex^am b°ys eu euro o ddwy « —
GWREICHION GWREICHIONLLYD.
GWREICHION GWREICHIONLLYD. 0 'r anwyl, y mae dyddiau y gwroniaid wedi mynd heibio," mwmiai y wraig yn gwynfanus. Be ydi y mater 'rwan ?" gofynai y gwr. Wel yr oedd Syr Walter Raleigh yn taenu ei glog'i'r Frenhines Elizabeth gerdded drosti, ond fe aethoch ehi o'ch'co'n yfflon am ddim ond i fy anwyl fam eistpdd ar eich het," ychwanegai ei briod. Yn awr, gan fod ein engagement wedi darfod fe ddylem^ mae'n debyg, ddychwelyd y Uythyrau i n gilydd," ebe gwr ieuanc prydweddol, yr hwa yr oedd ei galon yn rhy lawn idd ei dafod lefaru bron, pryd y sylwoid ei gariadferch yn brnddglwyfus. "IDylem, mae'n debyg; a thra yr ydym o'u deutu, John, fyddai ddim yn well i ni ddychwelyd y cusanau ?" 0, diaist i, alia i ddim dal hyna," ebe John, a gafaelodd ynddi, ac adnewyddodd yr hen gyfamod yn y fan. Y duedd fydd mewn rhai pobl i wrando yr efengyl dros bobl ereil). Trodd gwrandawr o bentref arall i wrando pregeth y dydd o'r blaen ac yr oedd y pregethwr yn ei dweyd hi mor effeithiol nes oedd y gynnulleidfa yn wylo o dan y weinidog- aeth, ond safai y gwr dyeithr fel colofn o farmor heb ddylanwad yn y byd arno. pryd yr aeth rbywun ato, gan ofyn, Sut na fyddech cbwitban vn wylo?" "Wel," ebe yntau, tydw i ddim yn perthyn i'r pentref yma." Yr oedd Mary (y forwyn) wedi dyddio ei lIythyr wythnos yn mlaen wrth ysgrifenu at ei mham o'r America, ac wedi ei orphen fe'i rhoddodd i'w meis- tress i'w ddarllen. Mary," ebe hono yn synedi°- pam yr ydych yn dyddio eich llythyr wythnos yn mlaen ?" li Wei. mam," ebe Mary, mi gymiff wsnos i gyraedd y mam, ac fase hi ddim yn hidio am ddarllen hen newyddion, hyd yn nod oddiwrtha i." "Beth pe bawn i yn un o'r gwyr hyny. fy an- wylyd, sydd yn codi y bore mewn rhyw dymher groes gas, gan luchio pethau o gwmpan, a chan gymhenu pawb a phobpeth. a hyny oblegyd fod y coffi heb fod yn dwymn ? "William," ebe y wraig yn ol, mi'i gwnawn yn dwymn i chwi." Y mae William byth er hyny mewn penbleth difrifol. ac yn methu yn lan a gwneyd allan pa un ai efe ai y coffi oedd hi yn ei feddwl. I bwy mae'r cap yn ffitio ? Dau lane ifanc yn myn'd Hefo'r afon ar i fyny Swn cacynen yn y rhedyn Trodd hwy adre n fawr eu dychryn." Yr oedd pregethwr yn ddiweddar wedi digio ei bobl yn aruthr am ymosod ohono ar rywbeth neu gilydd. Yn y seiat, penderfynodd y diaconiaid anfon rhyw deiliwr i roddi carydd iddo. Aeth hwnw, a chafodd dderbyniad rhyfedd. Wedi i'r teiliwr ddyweyd ei neges, gyfynodd y gweinidog iddo "Fyddi di yn darllen y Beibl ?" Byddaf." _Yr Hen Destament?" "ie." "Y Testament Newydd?" "Ie." "Wyt ti'n gwybod am lyfr y Datguddiad ?" Odw," Wyt ti'n cofio am rhyw glamp o angel mawr yno'n gosod ei droed chwith ar y tir a'r liall a'r y mor?" "Odw." Wei, pasel llath o gordiwroi aethe i neyd trowsus iddo fo ?" "Dwn i ddim," meddai'r teiliwr, wedi ffromi yn bwt. "Wei," ebe'r gweinidog, "tan fyddi di'n gwybod dy fusnes dy bun. paid byth a medlo â'm busnes i." A'r teiliwr a aeth yn fud. Y DYN HYSBYS.
CEFN MAWR A'R CYLCH.
CEFN MAWR A'R CYLCH. Y KHYFEL YN Y GARTH. Gwae i'n Llywodraeth bellach; oafodd "hws" ofuadwy gan rai o lengarwyr y Garth wythnos i nos Fawrth diweddaf. Dyna ydoedd testyn dadl frwd yn Nghymdeithas Lenyddol "Noddfa" (B.)- "A ydyw y rhyfel presennol thwng Prydain a'r Transvaal yn gyfiawn ai nad yw ?" Yr "Atlas" fw.'n ceisio dal i fyny ysgwyddan y Llywodraeth fawr bresennol ydoedd Mr. Stephen Jones. Mewn araeth rymus, llawn tan a brwmstan, dygodd resymau cedyrn o blaid y rhyfel. A bu Mr. R. Rogers drachefn yn chwalu ac yn darnio rhesym- iadau y blaenaf, gan gyhoeddi ei huuan yn "dead" yn erbyn y rhyfel, ac mai anghyfiawnder cywil- yddus yw pons maip ein Llywodraeth yn Ne Affrica. Yr oedd yno hwyl anghyffredin, a chryn waith i'r llywydd (Parch. Thos. Morris) i gadw pethau yn drefnus, ond gyda'i ddeheurwydd arferol, Uywiodd petbau yn mlaen yn hwylua, a theimlai pawb fod eu cyfarfod pythefnosol cyntaf wedi troi allan fel y dymunasid. PLANT Y VRON. Nos Fercher, bu plant Ysgol y Bwrdd, y Vron, dan arweiniad fu bysgolfeistr diwydbwyll, Mr. Cook, yn difyru cynnulleidfa fawr yn Nghapel Annibynwyr Seisnig y Cefn. Edrychent yn 'smala odiaeth wedi duo eu hwynebau fel nigars, ac yn cracio jokes yo rhesi. Canent ac adroddent wrth fodd y gwrandawyr. A pba ryfedd, onid oedd yno introlocltjawrers, center men,tales, ac elocutioners heb eu bath. Y mae y piano disturber ieuanc oedd gyda hwynt (Mr. Oscar Cook) yn dechreu do'd yn noted am y modd medrus y gwna ei toodle on the dominoesy Gobeithir eu clywed eto yn fuan, a hwyrach mai dyna fydd eu bymddangosiad di- weddaf yn Lloegr yn fla,enorol i'w Contintental tour yn Llangollen a Krugerland. (Transvaal papers please copy). Bu DAU O'R CYLCH yma yn gwefreiddio pobl dda Llangollen y noeon o'r blaen yn nghyngerdd Glan'rafon. Mr. William Edwards, Acrefair, oedd un, adroddwr penigamp ond mae rhai o'i b-thau a thipyn o ogla llwydni arnynt bellach. Ond waeth prun, gwnaeth ei waith yn rhagorol. Y llall ydoedd Miss Naomi Jane Edwards, geneth fach ddeuddeg oed o gapel Annibynwyr Rhosymedre. Yr oedd ei hadroddiad o Beautiful snow" yn fendigedig, ac yn enwedig "Who is tbis:" Da iawn, Naomi, daliwch ati. MEWN TRALLOD. Chwith ydoedd gweled claddu Mrs. Maria Morris, yn 51 oed. priod Mr. Richard Morris, Llangollen- road, Acrfair. Blaenor ffyddlawn gyda'r Wesley- aid yn Acrfair yw Mr. Morris, ac y man cyd- ymdeimlad dyfnaf yr ardal a'r eglwys gydas- ef yn ei brofedigaeth lem—wedi ei adael yn weddw. a'r rhai bychain yn amddifad o fam. Gwraig dda, ffyddlawn a nhrefyddol, ydoedd Mrs. Morris, a theiin 1 ir colled fawr ar ei ho] mnvn llawer cylch hebla^v v teuluaidd. Ddydd Sadwrn diweddaf y rhopd y rhan fnrwol ohoni i orphwvs yn mynwent Methodistiaid Calfiaaidd y Garth, pryd v gweinydd- wyd g»n y Parchn. Edward Jones a Huw Parri. Yr oedd yno dyrfa fawr. er fed y tywydd yn oer ao yn w!yb. LWC DDA. i Mr. Henry .T^nes, Waterloo View, y Vron, ar ei uniad mewn gl- n briodas a Miss Maria Edwards, Croesoswallt. Ddydd Linn diweddaf. yn Nghapel Glan'rafon, Liang.-Hen. y cymmerodd y seremoni ddyddorolle. PREGETH ANGLADDOL. Nos Sul diweddaf tn^'dodwyd pregeth angladdol i'r diweddar Mr. Maurioe .Teffre.VA, yn Nghapel Pontcyssylltau, gnn y Pan-h. E. Isfryn Williams, Ponciau, y cyn-weinido^. Yr oedd yno gynulliad mawr, a grym yn y genadwl i. NOSON GYMDE1 TH SOL. Nos Lun, cynnaliodd Methe 'istiaid Calfinaidd, Brynhyfryd, Garth, wledd yn Y sroldy y Bwrdd. Am hanner awr wedi pump mwynhnwyd te,a bara ao ymenyn, a chig, ac hefyd bara brith, &c.. gan luaws mawr iawn. Gwasayjaethw d wth y byrddau gan y llangciau. Mri. Richd. Williams MarkEvans, John Williams, John S. James, Alun Williams, John Hamilton. A. W. Jrmps. a Llewelyn Wi lipms, yn cael eu eynorthwy.. !11 y merched, Miss -■ Lizzie Evans. Rhoda Edwards. S. E. Roberts. Maggie Williams Elizabeth Williams, Maggie A. Hughes. Ac ar ol hyny cynnaliwyd cyfarfod dyddorol dan lywyddiaeth Mr. Davies, arolygydd Glofa y Green. Ruabon. Boneddwi o'r Deheudir ydyw Mr. Davies. Wele y drefnlen yn canIyn :-Tôn gan y plant.; ben alawon Cymreig, gan Mr. R. E. Edwards. Penybryn unawd. Bachgen ffarweliodd a'i wlad," gan Miss Jones, Rhostyllen darlleniad gan Mr. Cooper; adroddiad, "The Fireman's Wedding." gan Mr. T. F. Lewis; unawd, Flower's Message," Miss Jones, Rhostyllen "Y Wyddor." gan y plant, dan arweiniad Mr. John Roberts. <:>
CYMRU, CYMRO, a CHYMRAEG,
CYMRU, CYMRO, a CHYMRAEG, ER COF AM Lizzie C. Williams, Johnstown, Rhiwabon (gynt o BrYII- ffynnon, Pontfadog, Chirk), yr hon a hunodd yn yr Iesa, yn lleg mlwydd oed, Mehetin, 1898. Ein Lizzie fwyn, anwylaf ffrynd, P'am 'rr edd yn rhaid i ti gael mynd A'n gadael ni mewn galar dwys Ar el dy golli, eneth Iwys ? Nid cwyao'r 'ym dy fod yn byw Yng nghwmni Iesu Grist a Duw, Ond hiraeth ani dy gwmni sydd Yn ein clwyfo nes a dydd. Mae meddwl am dy wenau lion A'th swynollais yn llanw'm bron Ag awydd am dd'od atat ti I ganu anthem Calfari. Yng nghwmni 'th frawd a'th fam 'rwyt ti Yn canu 'n lion, O ddedwydd dri; Daw 'th frawd a'th dad yn fuan iawn Ac 0 'r mwynhad—y teulu 'n llawn. Ffarwel, ffarwel, ein Lizzie gu,- Ein gadael wnest mewn galar du Ond Gobaith dd'wed, er maint ein poen, Cawn eto 'th gwrdd i foli'r Oen. LIZZIE. +
1-Sisial Godreu'r Ferwyn.
1- Sisial Godreu'r Ferwyn. Yn ol yr hen drefn, mis yr eira oedd Ionawr, ond wn i ddim ar y ddaear laR y fatb drefn fase arno ni dase fo wedi sticio 'lu1i at 'i elfen. Does yr un diwrnod yn mund heibio sod yden ai yn ca'l glaw, a dase hwnw wedi dwad i lawr yn cira, dun a'n helpo ni. wi fasen wedill, eladdu o dan latheiai o hono. A deud y gwir i chi, y mae y tywudd fel dase fo wedi micsie i fynu. Yn gymysg a shar go lew o oerni a dylni geuafol, ar brydie mi'r yden ni yn ca'l gwyntoedd Mawrth ae baulwen a chawod- udd Ebrill. » o Mae'n dda gien i all u deud wrthoch chi fod Ned wedi cwlio i lawr oddeutu deg digri a'r hugen erbun hyn a bod y chwudd milwrol bron a diflanu oltwgeddar. Felly chi welwch mod i wedi llwuddo yn o lew i'w berswadio i beidio rhuthro i Affrica. Rbaid i mine hefud beidio bod yn consited a chymrud yr oil onar i mi fy hun. Mi'r oeddene alluodd erill ar waith hefud yn dampio ei wroldeb o, megis dim newudd cynhyrfus o'r ffrynt, y ffeliars ac hefud y drobacs o blith y Yolyntiars cartrefol ar ol gneud demonstresion." Does gien i ddim ond diolch i un ac oil yn barchus am eu dylanwade effeithiol. Bendith ar ben yr Ymneullduwrs-yr Eglwysi Rhyddion, yn ol y bedudd esgob diwedda, yn te— am gynal cwarfodudd gweddio ar hud yr wsnos dwutha. Dwn i ddim wur yr Eglwuswrs rwheth am gwarfod gweddi. Os na wuddan nhw, wel, wuddan nhw ddim bud am un o'r pethe gore sy yn y bud crwn y tu yma i'r nefodd wen. Mae nhw yn deud i mi mai gwlithog odd y cwarfodudd yn mhob mas. Yr odd ene rwbeth annisgrifiadwu yn cudfund a'r gweddie, y peth hwnw sy'n gneud i chi anghofio'r rhyfel. a Capten Best, a'r dwr, y trethi, ac hud yn nod chi'cb hun a phobpeth daearol, neno'r rargen fawr. >5 0 Dilynir y cwarfodudd gweddi yr wsnos yma gan gyfres o bregethe adfuwiadol, gan gethwrs y gwahanol sectie, a'r oil gynnulleidfaoedd yn uno. Gan fod y pregethe yn dechre mor hwur, a Ned yn deud y base rheswm pen giar yn deud na ddylwn i ddim bod allan ar ol wuth o'r gloch y nos yr amser yma o'r flwuddun. mi ros i i fynu yr ysbrud a chymres hosan i'w gweu wth gornel y tan, gan drio bod mor goatent ag oedd yn bosibl o dan yr amgulchiade. Etto fedrwn i yn fy muw beidio pendroni wth ben y ffaith alarus fod yr oes yma yn prysur, prysur ddiruwio. Rhowch chithe'ch pen ar waith a meddyliwch pa bobol ond rhai ar y down gred fase yn meiddio cynig fod yr odfauon i ddechre am chwarter wedi saith yn y nos ganol y geua Be dase rhw Jon Jons Talysarn yn digwydd dwad ar daith ar draws y wlad eto, mi gymra i fy llw na wele'r un copa wallto o'r gwrandawrs eu cartrefi nes y base hi'n nes i haner nos nag i naw o'r gloch. Ac y mae isio parotoi wyddoch ar gyfer digwudd- iade fellu, yn toes ? Pan ddoth Edwad yn ei ol. fedrwn i ddim peidio gofun iddo fo beth odd y rheswm ei bod hi wedi mund mor afler hefo amser y moddion 'rwan ? Wedi considro tipin a'i bnelin ar y bwrdd a'i law yn syportio ei ben gwbodus, bere fo—'Rydw i yn ofni, Jini, ei bod nhw'n ymddiried gormod i'r tipin siopwrs ene, a deud y gwir i chi. Y nhw, a'r Frenhines, a Syrgiant Waltho, a'r plismuns sy'n ein llywodraethu ni 'rwaa yn gyfangwbwl. Dai ni isio trup i lan y mor ydech Ghi'n meddwl y cawn ni un ? Dim perig yn y bud, ond ar y dudd a'r awr a fudd yn gyfleus iddun nhw. Holid« 'run fath, mae'n rhaid i bawb fund yn ol ei mympwu nhw. A da chi yn meddwl am gonsart, ne ddarlith, ne rwbeth arall yn y lein ene yn te, ddaru chi ddim sylwi, Jini. fod yn rhaid eu cyaal nhw ar ddudd Iau, pan y mae y siopwrs yn ca'l haf-holide." "0, y pethe selffish," ebre fine yn y man ond 'rwyn methu yn glir a gwel'd sut yn y bud mae nhw yn ca'l i lowio i chwthio'u hunanoldeb i mewn i'r achos da." Hwuracb, Jimi," odd yr aped, bod y swuddogion yn meddwl fod yob siort chi a mine yn ol reit, ac nad oes isio i ni ond dpud. Dreif on fpl y deudodd Crismas Ifans er's talwm. na chawn ni fynedfa orfoleddus i'r bud anweledig." Ebre fine. "Hwurach, hwuracb, Edwad bach, ond faswn i yn meddwl bod ene beth wmbreth o waith aehub ar y siopwrs ene. Piti garw na fase ne rwun tebyo- i Mistar Cwper ne Doctor Pritchard i'w cadw nhw mewn bownds." Amgylchiad ddifrifol iawn oedd hwnw a ddig- wuddadd yn Heol-y-Frenhines diwedd yr wsnos cin y ddiweddaf-Defi Wiliams yn ceisio llofruddio ei gyfell ac yna yn lladd ei hun hefo drull. Dnn cydmarol ieuangc. tawel. plastrwr wrth ei grefft ffond o bysgota a ffond o ddiod, oedd Defi. Cymer- odd rwbeth yn i ben amser yn ol fod i gyfeillion wedi troi yn ei erbyn, ac yn ei gyhuddo o ladd rwun. Cwunai mewn tafarndu fod ei ffrundie gore wedi troi yn ei erbun, ac fod yn arw o beth fod yn rhaid iddo fo adel ei gartre o achos tri ne bed war o honun nhw. Ac ar y bore Gwener hwnw, ei fwriad oedd, nid lladd Gwdwin a'i hun yn unio- ond hyrddio tri ne bedwar erill o'i ffrundie i dragwuddoldeb hefo nhw Bwriad dychrynllud, yn te ? Da iawn na lwuddodd o ddim yn ei amcan dieflig, ne mi fase'r Llan yma yn briesiwn i'r bud Ond cofiwch mi'r oedd o tan >r argyhoeddiad llwyraf ei fod wedi lladd Gwdwin, achos bere fo wrth 'i wraig o cun rhoi y riwolfar yn ei geg 'i hun, Mi 'roedd hi 'n amser i'r d- ene fund." Druan o Defi, y creadur gwirion. Rbaid bod rhwbeth ofnadwy. tuhwnt i'n dirnad ni. wedi'i feddianu. Mor wahanol i'w frawd Wili. Mi'r ydech chi'n cofio ei frawd Wili. yn tydech, hwnw oedd a'i holl frud ar achub bvwude ? G-wii aeth Wili ambell i wrhydri yn yr ben afon yma ag fase ya hawlio iddo dlws yr Hi win en Soseieti, ond mor fodest, a distaw fydde'r creadur, fel na chai neb wybod am amser maith wedi'r campwaith ga'l ei neud. Gresnn garw fod Defi wedi cymud cwrs mor wahanol, ac fod y fath beth erioed wedi digwudd ar y godre yma. » D'.o-wuddif<d hynod sydun i mi hefud oedd mar- wolptli fy hen gyfell Tsharles Wiliams y glo. 'Doeddwn i ddim wedi ei weld o ers talwm, ond oddeutu diwedd y flwuddun dyma fi lythur oddi- wrtho,at yr hwn y cyfeiries ar y prud yn y Sisial." Dywedai ei fod yn ca'l pleser mawr wrth ddarllen eich ysgrifau dyddorol yn yr Advertiser y naill dro ar ol y llall," Isio infformesion oedd gyno fo ynghulch grosars y Llan ddeng mlynedd a thrigien yn ol, ac yn musg pethe erill adroddai fod un Ritshard Jons yn cadw y Post Offis wth y Groes, a'i fod yntai wrth fund adre o'r ysgol yn gorfod galw yn y siop hono (siop oedd v post yr amser hwnw ac am amser chwedun hefud) am bwus o siwgwr saith (7c.) i. cbwarter o de deunaw (Is. 6d.) y chwarter i fund adre i'w fam. Mor wahanol y mae pethe 'rwan, yn te, a rhaid i ni ddim aros yn hir iawn. os eiff pethe yn mlaen mor gyfium ag y msent wedi gneud, na chawn ni do a siwgwr am ddim. Ond son yr oeddwn i am yr hynaws a'r diddan Tsbarles Wiliams, daswn i yn gallu cadw at fy mhwngc yn symol. Nid dun cyffredia odd Tsharles, yn siwr i chi, achos mi'r odd 0'11 ddarllenwr mawr ac yn grwbod sut i iwsio 'i feddwl, a lot o'r bardd yno fo. Llawer gwaith y ces i bleser wth ddarllen ei englynion yn yr Advarteisar, Mi'r oedd ya un o'r Eglwuewrs mwya selog-cofiwch selog ac nid penboeth, achos y mae ne wahanieth dirfawr rhwng y ddau-allesid daro arno, (a gwun fud na fedrwn i ddeud yr un fath am bob Eglwyswr). A mi roedd o'n Iwnionist i'r earn mewn gair, mi sticiodd i'w gylars fel dur. (Fydde fo ddim niwed yn y bud i chi, y Folyntiara, gymrud sulw manwl o hunyne.) Yn ei farwoleth dene un arall o'r linges oedd yn cydio yr oea hon wrth yr 08S o'r blaen wedi ei thori. Yn wir, y mae y gaea yma wedi gneud galanastar mawr yn ein rhengoedd ni. Hir ffarwel, Sierlyn, welwn ni mo'n giludd eto'r ochr yma. JINI JÔNS. Dydd Mercher.
Advertising
The miners at the Wynnstay Collieries, Ruabon whose notices to terminate excisting contracts ended on Saturday, resumed work on Monday pending a settlement of the wages dispute between the miners' representatives and the coalowners. A strike affecting nearly a thousand workmen has thus for the present been averted. Saturday morning it was'' discovered that a sad domestic tragedy had taken place in Wandsworth. The youngest child of Albert Chalfont, a young clerk residing in Bassingham Road, was found suffocated in bed, and the father and mother were afterwards discovered in another room, both having been shot dead. A revolver was lying at Chalfont's feet. Letters left behind showed that the couple had reso- lved to commit suicide; and the mother's letter stated that she had decided to take her baby with her. Poverty is supposed to have been the motive for the act. FRIENDS-OLD AND NEW. Brown & Poison's Patent" Corn Flour, an old' friend of forty years' standing, is unequalled for light and delicate puddings, blanc-manges, custards, jellies, sponges, and a host of other tempting and delicious dishes. But if the best results are to be obtained, every precaution must be taken to ensure that only B. & P.'s is delivered-or something vastly inferior may be sent iustead. Brown & Poison's Paisley Flour is a new friend of equal promise. By its aid dainty & tempting tea cakes and scones are easily made, and the delights of the tea- table thus greatly increased. Not only are all kinds of home-baking assisted and simplified, but everything is made light and digestible. "Even a tyro need never fail in baking if Paisley Flour be used." Sole Maker—Brown & Poison. (7255). SMOKE NICHOLLS' | "JOHN | | PEEIi'1 S A fine dark Shagg, of grand S flavour and quality. S Manufactured by— J THOS. NICHOLLS & Co 0 Tobacco Manufacturers, CHESTER. £ STUDY YOUR HEALTH! IT WON'T STUDY YOU! r::s= If you wish to preserve Health, you MUST have PURE BLOOD. i t. is absolutely essential. If your Blood is not good, tl.e whole system is Or* out of order. Diseases are "set up" which lead to serious consequences. It is, therefore, incumbent on IS" you if yon witih to retain STRONG, VIGOROUS, tS" HEALTH to see that your Blood is peritctiy free from all impurities. Remember, your Health should IS" have your first consideration, for without it life loses half its pleasures, and you cannot fight the everyday battles with impaired Health. g! PRICELESS iC'jV medicine FOR THE people, 8,°otfmr fiiii r*^ S. 0 & [they cleans* ■ J THE body OF ALL IMPURlTIESt TONE & BRACE UP THi; OLE SYSTEM. OTT I v K INDIGESTION, HEADACHE, BILIOUS- NESS, WIND, SLUGGISH LIVER, CONSTIPATION, SCURVY, BOILS, SCROFULA, ECZEMA, ERYSIPELAS, NERVOUSNESS, FITS, RHEUMAT- ISM, PILES, BACKACHE, SKIN RASH. Setting up a, Healthy Action throughout the system, and gradually enriching the BLOOD FOUNT that gives NEW LIFE, HKALTH, &STRENGTH. DON'T SUFFER, BUT TRY HUGHES'S BLOOD PILLS. RHEUMATISM, PAIXS IN THE BACK, &c, A MODEIiX MfRACLi:. SIR,-I feel it my duty In yr. r "miraculous cure I have received from rhenmarisin. ,*•<> tu- taking your "Hushes's Blood Pills." I agony for About three years. I w;is w. rn u, unable to from bed for vvcck- <• •• j.,iut in my b'd\ was swollen and very a i: fu' I I ■! niuny doctors f, r relief, also Turkish baths, in. tk w*n-r aths, electric bnivs, &c., none of them did me any good. About the third year of my sufferings from rheumatism, I had a i-ore lip, very much like cancer. I was advised to try your "Hughes's Blood Pills" for it, which I did. When taking the third box I found the rheumatic pains leaving me to my great astonishment, so I kept on taking them, never dreaming that they would cure me of rheumatism, but in six months' time I was able to take a journey of four miles on foot, when before I was quite a cripple, doubled up and compelled to leave the police force, being unfit for active service. Now I am as well as ever, strong, active, and agile, every limb pliable and free from any trace of pain. I must praise and highly recommend them to all who suffer from rheumatism and blood distemper. Never was such a cure known. THOS. HUGHES. Ex-Inspector of Police, Dolwen, Llanfallteg, Carmarthenshire. HEADACHE AND CONSTIPATION. SIB,—Kindly accept my sincere thanks for the good your "HUGHES'S BLOOD PILLS" have done me. Of late years I have suffered considerable from severe bilious attacks, disordered liver, and constipation, with sick headaches. It would be impossible for me to enumerate the many patent medicines I have tried to no avail. Before I had taken half a box of yonr Pills I experienced improve- ment, I perserved with them, and am happy to say that I am now quite well. D. J. BARKER. Greenfield Buildings, Bath. HUGHES'S I SEND for a Box without delay from your Chemist or Dealer in Parent Medicines. They are sold at lilt, 2/9, and 4/6. DON'T be persuaded to take any susbtitute, but see that you get the genuine sort, with this TRADE MARK, shape of a Heart, on the Label on each box Or send direct, enclosing value in Stamps or P.O. to the maker and discoverer-JACOB HUGHES, Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff, who will mail them by return. COMER'S BALM, THE SURPRISING HEALER Of Wounds, Sores, Ulcers on Feet, Legs, Neck, Head, Erysipelas, Cuts. Burns, Excoriations, Abrasion of the So in, Sore Nipples and Breasts, Skin Eruptions B d Sores, Boils. Gathering's on Fingers, Eczema, &c A POSITIVE CURE. For Skin Diseases, Scab or Breakings out in Children's H ad, Neck, Face, Ears, &c., Tender Feet, Galling in Children, Piles, Sun Burns, Freckles, Pimples, Blotches, Rough Skin on Face, Hands, &c., Chapped Hands. Chilblains, Soro Kyes and Eyelids, Scurvy, Itch, Rheumatism, Stiff Joints, Swellings, Swollen Glands, Sprains, Bruises, Scorbutic Sores, Diseased Bone, Ringworm, Inflamed Bunions and Corns, Gout, Bad Legs, &c. This BALM is most singular and prompt in its action. Every external disease that the Human Body is subject to at orco gives way f-, its (.Treat- curative virtues. It is NOTED in relieving all pain and soreness when applied to Wounds. Sores, Ulcers, Erysipelas, Gout, or any inflammatory parts of the body. Cooling and Allaying all Irritation, Softening and Reducing hard Swellings, Relieving Rheumatic Painf, and makintx pliable Stiff Joints, Ac. Very essential to Mothers, Mill Hands, Engineers, Plumbers, Ironworkers. Tinw; rkers, Colliers, Sailors, Mechanics, Farmers. There is nothing like fi-omer's Balm to allay, heal, and cure every affection or injury to the Skin and Flesh. Sold by all Chemists or Patent Medicine Vendors at 1/1|, or send value in stamps to nropri&tor and discoverer, JACOB HUGHES. MPENARTHF CAEDIFF. ESTABLISHED 1860. THE LLANGOLLEN ADVERTISER AND NORTH WALES JOURNAL. (Enlarged to Eight Pages. Every Friday. Price One Penny. Delivered to Subscribers in Llangollen every Thursday evening at 4s. 1d. per annum prepaid. Posted the same evening to any part of the Kingdom for 6s. 6d. per annum.) The "ADVERTISER" has now been estab- lished thirty-six years, and, being the only paper printed and published in the district, it has enjoyed the confidence of the general public and the liberal patronage of adver- tisers. It assiduously maintains the privilege of independent criticism in all local matters (which are fully and impartially reported), and as it is neutral in politics, it finds its way into families of all classes. The Valley of the Dee, being far famed for its beauty and ancient remains, is much frequented by visitors, a list of whom appears in the "ADVERTISER" during the season. CHARGES FOR ADVERTISEMENTS. Parliamentary. Government, and Chancery ) Notices, Election Addresses, Prospectuses | 9(J, of Public Companies, per line ) of Public Companies, per line ) Legal Notices, Sales of Real Property, ) «j Statements of Accounts, per line ) OCU Scholastic, Books, Business Addresses, Enter-") tainments, and Public Meetings, Sales of I Farming Stock and Furniture, per line. j Situations Wanted, Situations Vacant, Apartments to Let, Apartments Wanted. Houses to Let, Houses Wanted, Money Wanted, Lost or Found, and Miscellaneous Wants are inserted. prepaid, at the following low tariff, otherwise the usual rates will be charged :— One nsertion. (25 words) Os. 9d. Two insertions Is. 3d. Three insertions Is. 6d. One insertion. (50 words). Is. 3d. Two insertions 2s. Od. Three insertions 2s. 6d. Announcements of Births, Marriages, and Deaths accompanied with any additional remarks, are charged at the rate of 3d. per line. IN MEMORIAM NOTICES are charged 2s. 6d. Advertisements continued for 13 weeks are charged at the rate of Ss. per inch long; 26 weeks, 14s. per inch 52 weeks, 22s. per inch. Double Column, double the above charges. All Advertisements not ordered for a definite period will be inserted until countermanded, and Advertisers are requested to forward Advertisements as early as possible in the week to ensure insertion and correctness. Being weekly inundated with requests tor preliminary paragraphs of entertainments, &c., the Publisher wishes to state that the space at his disposal is so limited that, as a rule, he can only insert such notices when accompanied by Advertisements, or for which the Printing is done at his Office. GENERAL PRINTING ESTABLISHMENT, CASTLE STREET, LLANGOLLEN. COMMERCIAL, GENERAL and FANCY PRINTING On reasonable terms and on the shortest possible notice. CIRCULARS, BILL HEADS, MEMORANDUMS, TIME TICKETS, Check Books, Balance Sheets, CATALOGUES, CLUB RULES, &c., &c., HUGH JONES, PRINTER & PUBLISHER, ADVERTISER" OFFICE. ESTABLISHED 1838.