Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
IY CYNWTSIA D . I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNWTSIA D I Yr "Wythnos 1 Nodion Cyffredinol 2 Y Senedd Ymerodrol It Gladstone ar Ddadgysylltiad 4 Dolgellau 5 Marwolaeth y Parch. J. Thomas, Abertawe 6 O Hen y Twr 7 Brwydr yr Etholfmint 8 Gwaseidd-dra Ymneillduwyr Dolgellau 9 Helynt Yates Street. 10 Barddoniaeth 11 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 12 Hysbysiadau .12,16
MARWOLAETH MK. HENRY FAWCETT,…
News
Cite
Share
MARWOLAETH MK. HENRY FAWCETT, A.S. I DERBYNIR y newydd o farwolaeth y bon- eddwr uchod gyda gofid cyffredinol drwy y wlad, yr hyn gymerodd le tua chweoh o'r gloch nos lau diweddaf, yn ei breswyl- I fod yn Cambridge. Yr oedd y boneddwr I anrhydeddus wedi enill poblogrwydd I mawr, ac mae'r amgylchiad yn fwy gal- arus tyth pan gofit nad oedd ond megys yn nghanol ei ddyddiau, dim ond 51 mlwytid oed. Yr oedd yr afiechyd a ddyoddefodd rhyw flwyddyn yn ol wedi ei wanychu yn ddirfawr, ac ni pharodd ei saldra diweddaf i neb dybio am foment fod ei ddiwedd mor agos. Yr oedd yn ddyn o allu anghyffredin, ac fel y sylwai y Prifweinidog yn y Senedd, buasai am- ddifadrwydd o brif rodd bywyd, sef y golygon, wedi digaloni dyn cyffredin. Ychydig iawn mewn cymhariaeth, a eff- eithiodd yr aiihap a'i cyfarfu pan yn 20 oed, tra yn herwela gyda'i dad, ar ei ym- roddiad i efrydiaeth o wahanol ganghenau addysg. Dyoddefodd yr anfantais fawr hon gyda'r amyneddgarwch mwyaf, a phrin yn ami y gellid credu ei fod yn dyoddef oddiwrth yr anhawsder poenus o ddallineb. Dyn anghyffredin ydoedd ar lawer ystyr. Meddai gyneddfau meddyl- iol cryfion iawn, yn nghyda gwrolder di- lldio i lafurio dan ba anfantais bynag. Cafodd addysg foreuol ragorol, a phrin y cyrhaeddasai uwch safle pe na chyfarfuasaia'r ddamwain a nodwyd. Nid ydym yn sicr na fu ar ei enill drwy yr hyn a ymddangosai yn golled anadferadwy ae. yn ei ymdrech i fyned yn mlaen drwy anhawsderau, cododd i enwogrwydd wch o bosibl nag a gyrhaeddasai pe heb un rhwystr ar ei ffordd. Enillodd safle uchel fel Political Economist, y cyfryw M y dewiswyd ef yn Proffeswryn Cambridge yn 1868. Trwy gymhorth ei wraig allu- og, llwyddodd i ddwyn y pwnc i fwy o sylw, er nad yw eto wedi cael yr hyn a ddylasai. Heblaw hyn yr oedd Mr. Fawcett yn wieidyddwr trwyadl. Radical cryf ydoedd, yn dal ar ganol llwybr, a byth yn gwyro i eithafion. Byddai ei farn bob amser yn glir ac annibynol; ond i'r cyhoedd yn gyffredinol, daeth yn fwy adnabyddus fel Postfeistr Cyffredinol dan Lywodraeth bresenol Mr. Gladstone, yn yr hon swydd y daeth i boblogrwydd mawr, ond a wir deilyngai. Cychwynodd amryw gyfnewidiadau sydd wedi profi o fendith annhraethol j'r byd masnachol, ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Yr oedd ya parhau i ddysgwyl am ddiwygiadau pwys- ig a defnyddiol eraill yn y cyfeiriad hwn, ond rhaid i ni yn awr aros er cael gweled a ddisgyna y fantell ar rywun sydd yn debyg o orphen yr hyn a gychwynodd ef, ac felly wasanaethu i gyfleusdra y cyhoedd Er budd y rhai ydynt yn dyoddef o her- wydd dallineb, dylai bywyd a gwaith y dyn rhyfedd hwn gael ei wneud yn hys- bys. Ar un achlysur mynegodd Mr. Fawcett ei hunan iddo, pan y canfu ei hun yn y sefyllfa adfydus o fod yn ddall, benderfynu myned trwy ei fywyd fel pe na buasai wedi colli dim. Ceisiodd wneud pobpeth iddo ei hun fel ag o'r blaen, ac y mae yn syndod i ba raddau y llwyddodd. Cyfaddefa y Toriaid yn gys- tal a'r Rhyddfrydwyr mai anhawdd fydd cael olynydd iddo fel Postfeistr Cyffredin- ol, a ddealla mordrwyadlangheniony cy- hoedd, ac a'u cyfarfydda mor foddhaol ag y gwnaeth ef. Cymerodd ei gladdedig- aeth le ddydd Llun yn mynwent Trum- pington, ger Cambridge, yu nghanol galar llu o gyfeillion anwyl.
Y SENEDD.
News
Cite
Share
Y SENEDD. Yn ffortunus caed gwared gyda'r ddadl ar yr Araeth erbyn nos lau, a chafodd Mr. Gladstone ei gyfle i ddwyn y Mesur Diwygiadol yn mlaen i'w ailddarllen. Dyna sydd wedi cael prif sylw y Senedd drwy yr wythnos, a mawr yw llawenydd y deyrnas eu bod wedi ymafael ynddo. Nid oedd dim neillduol iawn yn araeth y Prifweinidog, ond yr oedd yn grynodeb llawn o'i areithiau blaenorol, ac yn gadarn ac ansigledig i ddal at y Mesur fel y mae. Cymedrolfiawn, ar y. eyfau, ydoedcl yr holl ddadL Dangosai y Toriaid hyd nos Lun diiedd gr^f am gael cytundeb, ao awydd am i'r Prifweinidog eu tynu allan o'r dyr- yswch y maent ynddo. Ond daliasant mor wydn ag oedd bosibl iddynt i basio gwelliant ar yr ailddarlleniad yn gofyn am uniad y ddau Fesur. Dwy noson yn unig barhaodd y ddadi, ac eglur ydoedd ei bod yn frwydr plaid lied boeth, oblegid ymdyrai yr aelodau yno nos \Vener i ddysgwyl ymraniad. Hyny a gaed pan oedd y ddadl wedi cyrhaedd pwynt lied uchel; rhifai yr aelodau pan y gal wyd am ymraniad 604, y nifer mwyaf mewn ym- raniad er pan y mae y Llywodraeth mewn swydd. Ond cafodd y Llywodraeth 140 o fwyafrif er dychryn y Toriaid, yr hyn oedd yn fwy nag a gawsant yr ailddarllen- iad blaenorol, ac yn ddangoseg ardderchog i'r Wrthblaid pa mor gryf ydyw y Llyw- odraeth. Aeth y Mesur yn ddilynol i bwyllgor, ond ni fu ond dwy awr yno, a daeth allan heb yr anaf lleiaf, a diau genym y darllenir ef y drydedd waith heno (nos Fawrth) yn ddiwrthwynebiad. Fel hyn mae y Ty Isaf mewn ychydig ddyddiau wedi ailddatgan mai Mesur yr Etholfraint fel y mae raid gael. Pa wers gymer yr Arglwyddi oddiwrthynt yn awr, tybed ?
GWLEDD YR ARGLWYDD FAER.
News
Cite
Share
GWLEDD YR ARGLWYDD FAER. Cynaliwyd hon nos Lun diweddaf, a'r hon erbyn hyn sydd yn ddefod yn hanes yr Arglwydd Faer. Lleddfwyd ychydig ar ei dyddordeb eleni gan absenoldeb an- orfod y Prifweinidog, ond llanwyd ei le yn fedrus gan larll Gr&nville, araeth od- idog yr hwn a dyna sylw cyffredinol. Yn ffortunus, nid yw gwleidyddiaeth dramor ar hyn o bryd yn un y pryderir yn ang- hyffredin yn ei chylch. Ac eithrio y teimlad anesmwyth yn nghylch yr Aipht, a wneir ac a chwyddir gan y Toriaid, nid oes nemawr o faterion tuhwnt i'n glànau ein hun yn galw am sylw union- gyrchol. Er gwaethaf y siarad gwyllt am beryglon a dianrhydedd, prin y bu erioed ad eg ag y mae ein perthynas allanol wedi bod yn fwy boddhaol. Mae'r ymgyrch i y 0 achub Gordon yn myned yn miaen yn ddymunol, a phob lie i gredu y cyrhaedda 0 yr amcan yr anfonwyd ef o'i blejid. Mae ad-drefuiad amgylchiadau yr Aipht yn tyuu tua'r terfyn. I'r cyfeiriad yma yr oedd araeth Iarll Granville yn myned, ac ystyrir hi yn un glir a goleuadig iawn. Siaradodd Ardalydd Hartington yn galon- ogol ar sefyllfa y fyddin, a chaed areithiau eraill gan Arglwydd Northbrook, yr Arg- lwydd Ganghellydd. Trold y wledd allan yn un hapus dros ben, a chaiff ar- eithiau y gweinidogion effaith ddymunol ar y wlad mae'n ddiau.
FFRAINC A CHINA.
News
Cite
Share
FFRAINC A CHINA. Mae pob He i gredu fod yr anghydfod rhwng y ddwy wlad uchod yn tuoddbenu at gael ei setlo. Mae y naill a'r Uall yn awyddus am hyny, a mynegir yn swydd- ogol fod cyfryngwriaeth Lloegr wedi ei gynyg, a'i dderbyn hefyd gan Ffrainc ond nid yw China wedi cael digon o amser i'w ateb. Dymuuol fyddai eugweled bellach yn d'od yn gyfeillgar, 0