Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

- PARCH. HERBER EVANS AR "HWYL…

News
Cite
Share

PARCH. HERBER EVANS AR "HWYL GYMREIG." Dydd Mawrth cyn y diweddaf, siarad- odd y Parch. B erber Evans, ar ol ei shuntio, fel y dywedai, am rai blynyddoedd, am y tro cyntaf yn Suesneg yn Le'rpwl. Ychydig flynydcloedd yn ol, nid oedd llais yn cael ei groesawu yn fwy yn nghynulliadau poblog yr Annibynwyr nag eiddo Mr. Evans. Ond y mae hir waeledd wedi dangos nas gall hyd yn nod yntau orlethu ei nerth yn ddigosb. Ond o'r diwedd, fodd bynag, daeth allau o'i ymguddtan, a chododd ei lais yr wythnos o'r blaen yn Le'rpwl dros Eglwysi Seisnig gweiniaid Gogledd Cymru. Yr oedd Mr. Evans yn yr hwyl." 0 bosibl nad oes ond ychydig o Saesoa yn gwybod beth y mae hyny yn olygu. Dy- wedai ef wrthynt nas gellid cyfieithu y gair i'r Saesneg, llawer Uai gyfieithu y peth a olyga. Ceisiodd ef wneud y ddau. Gol- yga hwyl" long mewn llawn hwyliau; ond, a siarad yn faiiwl, mae y gair yn ang- hyfieithiedig. Y mae mor Gymreigaidd ag yw y gair bagpipes o Y sgotaidd, ac yn cael ei garu gan y Cymro gyda chariad dyfn- ach nag y mae yr Ysgotiad yn caru ei gan- euon cenedla ithol. I fwynhau yr "hwyl," rhaid i chwi wybod Cymraeg. Am hyn y mae y Cymro yn mwynhau ei bregethau yn nhafodiaith ei famwlad; ac o herwydd y diffyg o hono y mae y bregeth Saesneg mor ddwl ac annyddorol i'r Cymry. Eto, er gwaethaf ei hysbysiad ei hun, rhoddodd Mr Evans anerchiad Seisnig oedd yn llawti hwyl "-ymddangosai fel llong yn llawn hwyliau, a phan eisteddodd i lawr, yr oedd pawb yn gofidio i'r daith fod mor fer. Amcan ei anerchiad oedd pwyso ar Annibynwyr Le'ipwl yr angenrheidrwydd o gynorthwyo Undeb Cynulleidfaol Gog- ledd Cymru i gyfarfod ag anghenion Saes- on ac eraill oedd yn ymsefydlu yn ngbanol mynyddoedd Cymru nad oeddynt yn deall yr hwyl." Mae y Sais diorphwys, medd- ai Mr. Evans, yn crwydro rhwng ein myn- yddau, yn cymeryd meddiant o'n mwnau a'n chwareli, yn dwyn gydag ef ddefodau newyddion, ac yr ydym yn rhwym o ym- ostwng i'w ysbryd anturiaethus; ond "Bo- hemiad anghrefyddol yw efe," yn arwain y crefyddwr Cymreig ar gyfeiliorn. Gof- ynid i'r cyfarfod, gan hyny, gynorthwyo yn y gwaith efengylaidd hwn, yr hwn waith oedd wedi dyoddef yn drwm drwy farwolaeth Mr. Hudson, Caer. Rhoddodd Mr. Evans amryw resymau yn ei anerchiad hyawdl. Cymerodd yn gyntaf y canoedd sydd yn gadael Cymru, wedi eu haddysgu yn foesol, i fyw yn Lloegr, a siaradodd am eu dylauwad da- ionus, a dywedai fod Le'rpwl yn ddyledus iawn am y miloedd pobl weddigar yr oedd Cymru wedi eu hanfon yno am flynydd- oedd. Ddeng mlynedd ar hugain yn ol, aeth ef, yn llencyn digyfaill, i Le'rpwl. Yr oedd crefydd deuluaidd y cyfeillion Cymreig yr arosasai gyda hwynt iddo ef J fel cyfaill o'r hen gartref." Felly hefyd yr oedd y croesaw cynhes a gafodd gan Dr. Thomas ac aelodau yr Hen Dabernacl pan dderbyniwyd ef yn aelod. O'r dydd hwnw yr oedd ef wedi bendithio Duw afti eglwysi Cymreig mewn dinasoedd Seis- onig, ac felly y credai y diolchai rhieni Seisnig i Dduw am eglwysi Seisnig i Ider- byn eu plant mewn trefydd Cymreig. Gweinidogion Cymreig gartref, a chen- adon Cymreig oddicartref ydoedd ddadl arall gauddo Yr oedd Cymru wedi rhoddi, ac yn rhoddi eto, ei meibion goreu i'r pulpud, a chan fod dynion yn fwy gwerthfawr nag aur, dylent lawenhau i roddi rhywbeth yn ol. Yr oedd Caleb Morris a Thomas Jones wedi argyhoeddi y Saeson fod y Cymro wedi ei eni yn breg- ethwr. Yn mhlith y cenadon gwrol, yr oedd William Jones, India, yr hwn aeth adref dan "ganu hen emynau Cymreig ei blentyndod," a Griffith John, China, y mwyaf llwyddianus a hyawdl o'n cenad- on, yn cael eu henwi yn mhlith lluaws "meibion Gwalia" oeddynt wedi gadael pob peth o gariad at yr Hwn fu farw ar Galfaria. Dadl arall a gai Mr. Evans oedd yn y ffaith fod Cymru ar y blaen gyda symud- iadau crefyddol, cymdeithasol, a gwleid- yddol. Mae ganddi yr hyn na fedd y Sais, Sabbath sobr. Gwyr pa fodd i gy- meryd mwyniant, oblegid yn ddiweddaryn Le'rpwl ymgynullodd degau o filoedd r Eisteddfod, ac. ni ddygwyd cymaint agull o flaen yr ynadon am feddwdod. Dilynid y wers hon yn fuan gan un arall, pa fodd y gall cenedl gyfan fod yn unfrydol i ofyn am Ddadsefydliad. I Felly aeth y Cymro hyawdl (Mr. Evans) yn mlaen, gan gyffwrdd calonau, cyd- wybodau, a gallaf feddwl, bocedi ei wran- dawyr. A oedd angen iddo ychwanegu fod geiriau yn ffaelu er iddo ddangos pa fodd yr oedd Cymru yn hoffi pregethu efengyl yr iachawdwriaeth? Dangosai .ei anerchiad ef heb ychwaneg o eiriau, oblegid fel y dyiynai y siaradwr wrth ddi- weddu eiriau ei gyfaill, y diweddar Thomas Jones: Yr wyf yn caru y plupud, yr wyf yn hyfrydu mewn pregethu efengyl dragwyddol Duw; ac oddiyma yr wyf yn edrych i lawr gyda dirmyg annherfynol ar holl orseddau y byd," ymddangosai i'r I ysgrifenydd y gellid yn briodol iawn eu cymhwyso at y siaradydd ei hunan. Bydded iddo gael byw yn hir i lefaru "geiriau fyddo yn llosgi," fel y rhai a wrandewais i yr wythnos o'r blaen, a bydded i'r symudiad defnyddiol a phwysig y dadleuai efe drosto dderbyn yr help y mae ei eisieu ac yn deilyngu mor fawr.- Allan o'r Christian World.

|=====( Y SEN BDD NOS FA WRTH,

CLWB RHYDDFEtYDOL uENEDL-AETHOL.…

Y PAB A'R IWERD DON.

,;'■ii:";'d 1. .'- '■ ■ ii…

"-v TAN DINYSTRIOL YN MYNWY.

HUNANLADDIAD YN DOWLAIS.

LLADD AMAETBWR GAN DARW.