Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
=- YN AWR YN BAROD, t. DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR AM 1885. DAN OLYOIAKTH Y Parchn. B. WILLIAMS, Canaan; ac R. W. GRIFFITH, Bethel. Pris la. 6c. gyda rhwymiad hardd a Hogellau ga 6c. mewn lliau. BYDD megys arfer yn cynwys yr holl gyfnew. idiadau enwadol, ac ni arbedir traul na thrafferth i'w wneud yn gywir a chyflawn- Cofier ein rbeolau aylfaenol. 1. Ni roddir enw. hu aweinidogion nac eglwysi newydd i fewn heb gymeradwyaeth yagrifenydd y cyfuudeb y perth- yna y cyfryw iddo. 2. Ni roddir enwau preg- ethwyr cyDorthwyol newydd i fewn heb gymer- adwyaeth gweinidog yr eglwys y mae yn aelod o honi, ac oa na fydd gweinidog yno, bydd yn ofynol caelcymeradwyaefch diaconiaid yr eglwys. Wrth y rheolau hyn yr ydym wedi gweithredu o r dechreuad, ac wedi dwys ystyriaeth yr ydym yn penderfynu glynu wrthynt. Anfoner pob gwybodaeth i Rev. B. Williams, Kilvey Terrace, Swansea, erbyn Medi 27ain, 1884; a'r holl archebion i Mr. W illiam Hughes, Pinter, Dolgelley. p THEVDOLGELLE Y DISTRICT/HIGH WAY I BOARD. 7 Appointment of Survey/r and Clerk. I I "VT 0T1CE ia hereby givan that the above Board will at tmur nexy meeting, to be held at the County HalX Dolgelley, on Saturday, the 8th day of Noved^bafr next, proceed to elect competent persona fflff the above officea. It will be necessarysfor all persons applying for the appointment oK Surveyor, as well as those applying ioj the appointment of Clerk, to send their applications, \nder seal, stating salary requlired with testimonials, to Edward Griffith, Esq., Springfield (chairman of the above Board) not later than 12 p.m. onShe above date By order, I T LEWIS WILLIAMS, I Clerk pro. vqm. Cotiau Cotiau Mawr! SS|gg9 Mawr! E. P, WILLIAMS, BEE HIVE, A ddymuna amlygu i drigolion Dolgellau a'r amgylchoedd ei fod wedi PRYNU STOC HELAETH 0 GOTIAU MAWR i Blant y Dynion, y rhai a werthir ganddo a am PRISIAU MWYAF RHESYMOL. DYSGEDYDD Y PLANT CYHOEDDIAD MISOL, PRIS CEINIGG Cynwysa bob peth er (hfyr t a Ilesoli y iouenctyd. 32 Tudalen. AT AM AETHWX^-— YltfAB-JQafad w&eHrrlylodi ardal Dolgellau. Y nodY^^fti^ddiar y dde, sciw oddiar y chwith^Pwy bynagiyda—w«dLei cholli, an- fon-ed'tawyddfa y T)ydd.. AT FFERMWYR A MASNAOEFWYR. "OLAWD Ceirch a Blawd v Doll (i wartheg at besgi) ar werth yn y Felin Ucha, Dolgell- au. Ymofyner am y prisiau yn y Felin. ^OASTLH BOOT & SHOE "ESTAB- LISHMENT, DOLGELLAU. AT GRYDDION.—Dymnna H. & G. Owen wneud yn hysbysu fod arnynt eisiau dau weithiwr DA, yn ddynion sobr; cyflog da a gwaith constant. H. & G. OWEN. AT EIN GOHEBWYR. Yn ein nesaf.—-t>. E.. &c
RHAGOLYGON YR ETHOLFRAINT.
News
Cite
Share
RHAGOLYGON YR ETHOLFRAINT. RHAID yydnabod mai tywyll iawn ydyw rbagolygon y mesur uchod yn y Senedd, nid tywyll yn yr ystyr o fod ei gefnogwyr mewn perygl o droi eu cefn arno, ond o gael ei drafod a'i obirio yn ddiddiwedd. Yr oeddys yn dysgwyl yu bur gryf y cawsai Mr. Gladstone gyfle i gynyg yr ailddarlleniad ddydd lau diweddaf, ond fel yr oedd y diwrnod yn nesu nid oedd siawns iddo. Enwid he no (nos Fawrth) eilwaith fel noson y caffai gyfleusdra i gyflawni y gorchwyl, ond y mae hyny yn anobeithiol, a chymylau yn codi o wahan- ol gyfeiriadau eto sydd yn debygol iawn o'i obirio hyd ddiwedd yr wythnos hon os nad hyd yr wythnos nesaf. Mae hyn yn annyoddefol. Ymddengys rhyw ddosbarth fel wedi ymdynghedu i gael amryw chwareuon eto gyda'r Ddadl ar yr Araeth Frenhinol, ac y mae hyny yn eyflyni add- fedu y syniad a goleddir gan lawer y dylid diddymu y ddadl hon yn gyfangwbl; ac vn sicr hyny fyddai ddoethaf o lawer, oblegidnis gall un daioni ddeilliaw o honi pe llwyddesid i gario y gwelliantau tlod- ion a dienaid a gynygir ami. Gwastraff hollol yw yr amser a dreulir gyda hi, ac y mae yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn llawn gwaeth na hyny, pan y mae gwlad yn bryderus am ail ddyfarniad y Senedd ar Fesur yr Etholfraint. A-mcan ymgy- nulliad y Senedd oedd pasio y mesur hwn, ac eto wele bron ddyddiau goreu y tymhor wedi eu hafradu gan ynfydion mewn cyndyn-ddadleu ar faterion dibwys. Faint bynag o gyfiawnder all fod yn yr I achwynion diddiwedd a ddygir yn erbyn y Lly wodraeth, nid dyma yr adeg i'w dwyn gerbron. Mae gan y Senedd waith neill- duol i'w drafod, ac at hwnw heb oediad y dylai fyned. Dyma yr Arglwyddi heb waith yn y byd i'w wneud,a phan ddaw y gorchwyl mawr o basio y Mesur Diwyg- iadol i'w rhan, digon tebyg y byddant yn ddigon musgrell yn ei gylch, ac yn teimlo mai chwerw iddynt fydd ei dderbyn a'i wrfihod. A chan hyny, mae ganddynt i ystyried pa un o'r ddau ddrwg fydd y goreu iddynt. Mae y Llywodraeth yn awyddus iawn am gael gorphen gyda'r Mesur cyn y Nadolig, ond yn sicr rhaid arfer mwy o gyflymdra gyda'r amser, ac arfer y clo a'r ffrwyn ar enau clebrwyr di- synwyr fel Arglwydd Randolph a'r Gwyddelod. Fe gostia yn ddrud, mae'n ddiamheu, i amynedd y Wemyddiaeth i basio y mesur, ond mae llais y wlad gyda hwy, a phan y dechreuant gydag ef (ac y mae'n hen bryd hefyd) bydd iddynt ysgubo pobpeth o'u blaen. Eu gwaith cyntaf yw ei gario trwy y Ty Isaf, ac yna dywed y wlad beth ddy lent wneud os camymddyga. yr Arglwyddi at y mesur etc.
HELYNT Y CLADDFEYDD.
News
Cite
Share
HELYNT Y CLADDFEYDD. Ymddengys fod cwestiwn y claddfeydd wedi codi i gryn fri mewn amryw barthan yr wyth- nosau diweddaf. Nid ydym yn bresenol am gyfeiriodim at waseidd-dra Ymneillduwyr mewn perthynas i'r ddeddf; gwnawn hyny eto. Ond bwriadu cyfeirio yr ydym at yr ymdrech awneir gan y clerigwyr i ddal gafael mewn rhyw hawl- iau a hbnir sydd ganddynt. Eiddo plwyfol yn y cyffredin yw claddfeydd Cymru, ac o herwydd hyny, yn meddiant y clerigwyr y mae yr awdur- dod uwchaf, ond anghoiir yn fynych mai gwaa- anaethu i'r plwyfolion yw eu dyledawydd. Dan luawa o amgylchiadau, mae olynwyr yr Hpostol- ion yn myned tuhwnt i'vr terfynau mewn awd- urdod. Oyfeiriwn aylw y darllenydd at yr hyn a geir mewn colofn arall dan y penawd Llanell- tyd, ger Dolgellau. Amheuir yu fawr nad oedd parchus beriglor Llanelltyd yn tra-awdurdodi wrth nacsiu claddedigaeth yn ddiweddar, yu y fynwent newydd sydd yn y He hwnw, dan y Ddeddf Newydd. Oni bai fod rhyw angbyf- iawnder wedi ei gyflawni ganddo, prin y teim- lasai y trigolion mor eiddigus tuag ato fel ag i benderfynii g-wnetld m'wy o ddefnydd rhagllaw o'r Ddeddf Newydd. Yn Ffestiniog drachefn, ceir fod Mr. Killin-gwr ag y syniai pawb am dano fel un rhyddfrydig iawn—yn sori yn ddi- arhebol wrth bob un anturia i fod mor hyf a chladdu dan y ddeddf newydd, nes achoai golyg- fa waradwyddus mewn mwy nag un claddedig- aeth. Dyma fel yr adrodda y tad ei hun, aef Hugh Williams, Tyddyugwyn, yr amgylchiad gymerodd le ddiwrnod claddedigaeth ei blentyn: —"Cyrhaeddasom borth y fynwent 11.15., yn ol Mr. Killin 20 munyd ar ol yr amser, aef o fewn yr awr 11. Yr oedd clo ar y porth, a Mr. Killin yn sefyll yr oohr arall, a'r agoriadau yn t'i law. Bu tipyn o eiriau rhyngwyf a Mr. Killin cyn iddo agor y porth. Wedi hyny aethum at y bedd, ac aeth pobpeth yn rnlaen yn weddaidd ac mewn trefn. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon. Gofyuwyd i Mr. Killin nodi lie i dderbyn yr offrwm, pryd yr atebodd mai ar fwrdd y cymundeb yr oedd pob oflFrymau i gael eu rhoddi; ond hyabyawyd ni gan y clochydd fod clo ar yr eglwya, ac naa gailem fyned i mewn. 0 ganlyniad, gan iddo wrthod nodi He y gellid offrymu, gwnaethom hyny argaregfedd, yr\yn a wnaeth gyfanswm o 2s. 5c. Cymerwyd gan un o'r brodyr, a chynygiwyd hwy iddo, ond gwrthodwyd hwy drachefn. Y mae yr arian gan y brawd eto. Pan vn dyfod o'r fynwent, cyfarfyddwyd fi gan Mr. Killin, pryd yr hysbys- wyd fi ganddo uad oedd y u fy sicrhau na byddai iddo agor y bedd eto a chladdu rhywun arall ynddo." Cywilyddied o herwydd ei ymddygiad annynol! Mewn lIeoedd eraill hefyd mae tuedd yn yr awdurdodau i wasgu eu holl hawliau, a dangos atgasedd at y rhai sydd yn anturio defnyddio y ddeddf. Ond aicr genym mai hwy deimla fwyaf oddiwrth hyn yn y diwedd. Fe ddeffry hyn yr Ymneillduwyr, a deuant i arfer mwy o'u hawliau. Er fod yn aicr amryw fylch- au yn y ddeddf, nid oes ynddi ddigon i gyfiawn- hau neb i'w diystyru a gwrthod ei defnyddio. Mae yr archollion a roddodd rhai parsoniaid yn ddiweddar i deimladau tyneraf a mwyaf anwyl y natur ddynol yn gyfryw ag y dylai pob dyn- garwr godi ei lef i'w herbyn. Boed i'r Ym- neillduwyr ddal yn ddewr a ffyddlon i'w heg- wyddorion, a pheidio dychryn dim at fygythion y clerigwyr i gadw at lythyren y ddeddf. Mae dyddiau erledigaoth yn Nghymru wedi darfod.