Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

TRUENI PATAGONIA.

News
Cite
Share

TRUENI PATAGONIA. MB. GOL. Ceir mewn newyddiadur y dernyn canlynol am y fangre uchod. Y Parch. E. Walter Jonea, Pensylvania, America, a rydd ddarluniad ayml a dirodres am sefyllfa druenus y Wladfa Gymreitf (?) ac amgylchiadau y Cymry sydd yn byw ynddi. Dengys fod y ddau brif amcan ar ^ychwyniad y Wladfa wedi eu colli, sef cael Llywodraeth Annibynol Gymreig, a chadw yr iaith Gymraeg yn fyw. Ysbaenwyr ydynt y swyddogion o dan y Llywodraeth Argentaidd, a'r Siaenaeg a ddyagir yn yr yagolion dyddiol i'r plant. Yr oedd y syniad o gael gwladfa, cyfreithiau a brenin Cymreig yn taro yn ddy munol ar feddwl ambell Gymro ugain mlynedd yn ol, dotiai amiun wrth feddwl am dano; ond, Och! erbyn hyn mae wedi profi yn un o'r syn. iadau gwylltaf, a mwyaf rhamantue, ac wedi troi sllan yn bobpeth end yr hyn a ddysgwylid. Yn wir, y mae Canaan:ddaearol Michael Jones wedi troi yn hynod annymunol, a dweyd y lleiaf. Syn yw genym na buasai wedi symud yno ei hunan er's blynyddau i fwynhau grawnsypiau ei Ganaan ddychymygol. Os yw y Wladfa yn or- lawn o bob cysuron, a £ adnoddau, acyn llifeirio o laeth a mel," fel y dywedai rhai o'i chefnog. wyr ei bod, paham yn enw pob rheswm na buasent wadi bwrw eu coelbren ynddi, yn hytrach nachwilio am etifeddiaeth decachmewn gwledydd eraill? Yn sicr mae y penboethni mwyaf eithafol wedi ei arddangos gan rai personau gyda'r Wladfa Gymreig. Mae'n amlwg i'r sefydlwyr cyntaf ddyoddef caledi mawr, '\c yn ol pob hanes mae sefyllfa y rhai sydd yno yn bresenol yn dorcalonus i'r eithaf. Da genym ddeall fod symudiad er estyn gwaredigaeth iddynt." Ni roddir i ni fanylion beth yw y symudiad, os i gael y gwladfawyr tlodion a thruenus yn ol i'w gwlad, tebyg y bydd cadw gwyl y gitniad" yn 01 tua Ffestiniog, yn debycach i ymddygiad pobl yn eu hiawn bwyll, nag i loerigion ehud. Nis gellirgwadu am eiliad nad yw trueni y bobl an- ffoduayn fawr iawn, canysrhaid iddynt fwyta eu geiriau eu hunain. Dywedai ein hen syfaill cared- ig,Gutyn Ebrill, na welodd y fath rags o gwmpas traed a chyrff pobi yn ei fywyd—yn byw ar "fara sych" (gan nad oes fawr o ddwfr i'w gael), a bod pawb allect fyned ymaith, yn ei ffaglu hi ar fry a. Un arall a nodai, dyma y wlad dlotaf a welais erioed," ac un arall, ei fod wedi bod "yn y lIe poenus hwnw am 10 mis ar fara a dwfr yn y carchar agosaf i mewn; efe a ddywed fod moesau y bobl yn druenus, gan eu bod yn cysgu allan lawer o honynt, a'r tai mwd yn ym- ollwng pan ddaeth gwlaw ar ol 3 blynedd o sychder, abod'y bobl yn melldithio y parchedig- ion." "Parchedigion" yn wir!! Syniad rhai yw y dylid gaaael y trueiniaid i'w tynged, gan iddynt fod mor ffol a chymeryd eu hudo i'r fath grasdir llwm; na, maent yn asgwrn o'n hasgwrn ni, ac yn greaduriaid rheaymol. Trefner llwybr Lroddi iddynt ymwared buan. Yr eiddoch, DYNGARWR.

RHYWBETff A DIM YN Y BYD.

LLEW MEIRION.

CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN.…