Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
CYFFRO MAWR MEWN CHWAEEU-I…
News
Cite
Share
CYFFRO MAWR MEWN CHWAEEU- DY YN GLASGOW. b GW AEDD FFUGIOL, "TAN.14 WEDI EU LLADD, AO AMRYW EU HANAFU. Yr oedd y Star Theatre yn Glasgow, nos Sadwrn diweddaf, yn olygfan trychineb arswydus, na welwyd ei gyfielyb o ran ei erchylldra er y trychineb arswydus yn Sunderland. Mae y chwareudy hwn yn un sydd yn cael ei fynyehu yn benaf gan y dosbarth gweithiol, yn neillduol felly ar nos Sadyrnau. Yr oedd felly nos Sadwrn diweddaf. Mae lie yn y neuadd i 2,500 o bobl, a sicrheir fod llawn dwy fil yno nos Sadwrn. Elai pobpeth yn mlaen yn bur dawel a digynhwrf hyd chwarter wedi 9, pryd yn sydyn a. dirybudd y clyw- yd gwaedd o'r oriel, Tan!" nes yr oedd yr effaith yn drydanol, ac mown moment, yr oedd dynion a merched yn rhuthro ar eu traed gan gyfeiric am ddiangfa, tua'r drysau. Yr oedd yr adeilad yn diasped- ain gan ysgrechiadau y menywod oeddynt yn cael eu gwasgu a'u gwthio yn mlaen gan y bobl ddychrynedig, a chleddid yn eu swn holl floeddiadaii swyddogion y chwareudy i hysbysu y trueiniaid oeddynt yn ymladd eu ffordd allan fod pobpeth yn ddiberygl, ac nad oedd t&n. Yn ffodus, caed trefn ar un rhan o'r gynulleidfa, ond parhaiy rhai oedd yn yr oriel a'r pit i ruthro allan yn y modd mwyaf gorphwyllog. Ac yn anffodus y mae ychydig droad yn y ffordd allan o'r lleoedd hyny fel y gor- lenwyd y fan yn ddiatreg, ac yno yr oedd yr olygfa yn dorcalonus. Er gwaethaf yr ymdrechion i sicrhau i'r bobl nad oedd perygl, yr oedd y eyffro mor ofnadwy fel na roddai y mwyafrif yr yatyriaeth leiaf iddynt, ond yn hytrach gwthient draws eu gilydd blith draphlith am ddiangfa o'r ad- eilad a gredid ganddynt oedd yn nghanol fflama.u tan. Ac yn y rhuthr ofnadwy yma, lladdwyd 14 o bersonau, ac anafwyd 14 yn ddifrifol iawn. Ymledodd y waedd fel tin gwyllt drwy y ddiuas, nes casglu tyrfa aruthrol o lygad dystion o'r trychineb. Daeth swyddogion y peirianau tin i'r lie mewn adeg rhy- feddol o fyr wedi rhoddiad allan y waedd, ac er nad oedd gwaith i'r peirianau, gwnaethant wasanaeth mawr er perswadio y bobl i fod yn llonydd, ac er cynorth- wyo i gael allan y trueiniaid oeddynt wedi syrthio yn ebyrth i'r rhuthr. Darfu i'r heddgeidwaid, gyda'r Prifgwnstabl, roddi pob help oedd yn bosibl, ond yn ofer gan fod y bobl wedi eu brawychu o gwr bwy gilydd, ac aueffeithiol am hir amser oedd pob cais i'w llonyddu. Y mae un wedi ei gymeryd i fyny, o'r enw James Turner, yr hwn hyd yn ddi- weddar oedd yn ngwasanaeth y chwareudy, ond gydag eraill, a wnaed i ffwrdd a'i was- anaeth. Dywedir ei fod dan ddylanwad died ar y pryd y rhoddodd y waedd or- phwyllog. Y mae efe yn awr yn y ddalfa, a chredir fod digon o dystion i'w cael i brofi mai efe wnaeth byn. Da yw deall nad dim diffygion yn nhrefniadau perch- enogion yr adeilad oedd yrachoso'r trych- ineb, gan fod pob ymchwiliad sydd wedi ei wneud hyd yn hyn ar y lie yn myned yn bur ffafriol iddynt hwy.
ERCHYLLWAITH TEULUAIDD YN…
News
Cite
Share
ERCHYLLWAITH TEULUAIDD YN NEWCASTLE. Cyflawnwyd gweithred erchyll yn New- castle ddydd Gwener diweddaf, gan wraig yn llofruddio ei dau blentyn drwy dori eu gyddfau, ac yna cyflawni hunanladdiad. Ei henw yw Rebecca Eidley. Aethai ei, gwr at ei waith y boreu am 8, gan ei gadael hi a'r ddau blentyn yn en gwelyau. Dych- welodd ganol dydd i ymofyn ei gimaw, pryd er ei frawychdod y canfu ei blentyn 3 mis oed yn gorwedd yn farw, a'i fachgen 3 blwydd oed yn ei ymyl, a hithau yn gorwedd yn farw tu ol i ddrws yr ystafell wely. Yr oedd gyddfau y 3 wedi eu tori, a'r llawr yn orchuddiedig gan eu gwaed. Daeth meddyg i'r lie, ond yr oedd bywyd pob un wedi ymadaw. Mae'r dygwyddiad wedi achosi cyffro dirfawr yn y cylchoedd, gan fod y teulu yn bur adnabyddus ac yn cael eu parchu yn fawr. Yr oedd y wraig er ei hesgoriad diweddaf wedi bod yn wael, ac yn achlysurol yn dyoddef oddiwrth hysteria.
DAMWAIN ARSWYDUS YN .NGHAERDYDD.
News
Cite
Share
DAMWAIN ARSWYDUS YN NGHAERDYDD. Boreu Iau diweddaf dygwyddodd dam- wain o nodwedd drychinebus iawn yn y Taff Vale Railway Station, Croekherb- town, Caerdydd. Ymddengys fod William Bowden, goods foreman, yn symud labeli oedd ar druciau oedd wedi cyrhaedd i'r orsaf yn ystod y nos. Ychydig cyn 9, yr oedd yn yrapidyddan & meistr yr orsaf, ac ychydig wedi hyny daeth y gerbydres o Penarth i fyny, yr hon wedi gorphen yn y prif blatfform a ddaeth i lawr i shuntio. Erbyn hyn, bernir fod y trancedig wedi cychwyn am ei swyddfa, ac wrth groesi y llinellau iddo gael ei daraw i lawr rhwng y rheiliau gan y tren. Clywodd y guard waedd, ac ataliodd y tren mewn moment, l pryd er ei ddychryn y canfu Bowden o dan y van a cherbyd arall wedi myned drosto, gan ei ysgaru yn ddwy ran yn ei forddwyd. Bu y trancedig yn ngwasan- aeth y cwmni am 20 oilynedd, ac am 15 fel goods foreman, a pherchid ef yn gyffred- inol. Gadawodd wraig a 6 o blant, y rhai sydd yn hollol ddigynorthwy Yn y trengholiad a gynaliwyd yi un dydd, dychwelwyd rheitbfarn o Farwolaeth DdamweinioL"
TRYCHINEB AR Y RHEILFFORDD…
News
Cite
Share
TRYCHINEB AR Y RHEILFFORDD YN CASNEWYDD. GWRTHDAltA. WIAD DWY GERBYDRES. Tua chwarter wedi 12 ddydd Gwener, aeth dau dren nwyddau i wrthdarawiad yn y Maendy Junction, tua milldir o orsaf Casnewydd, ar linell y Great Western. Cysylltir y brif linell yn y lie hwn a'r Western Valleys gan ddolen. Pasiodd cerbydres wag o Gloucester y ddolen, ac yr oedd ar fyned i adran y Western Val- Jeys er cyrhaedd Pontypool Eoad pryd y daeth tren llawn o'r Alexandria. Docks i gyfeiriad Casnewydd i ochr arall y ddolen gan ruthro iddo a'i daflu gryn bellder. Yr oedd yn y tren olaf lwythi o haiarn at wasanaeth y glofeydd, &c. Tarawodd y gerbydres wag bron yn ei chanol, a sym- udwyd 13 neu 14 o druciau yn mhell oddiar y rheiliau. Taflwyd un i waelcd yljl clawdd. Daeth llu o swyddogion o Cas- i3 newydd, wedi derbyn yr hysbysrwydd. i'r 11 lie yn fuan, a gwnaed pobpeth yn briodol. II Y syndod yw na laddwyd neb, a rhyfedd f hefyd yw fod y gerbydres o'r Alexandria Docks wedi dal ar y rheiliau drwy yr holl adeg.'
TAN MEWN AGERFAD YN CYD-WELI.
News
Cite
Share
TAN MEWN AGERFAD YN CYD- WELI. Cynaliwyd trengholiad prydnawn Gwen- er yn y lie uchod i chwilio i mewn i aebos marwolaeth Mr. George Brown, meistr i smack o'r enw Matilda. Ymddengys i'r glo oedd yn y llestri danio, a chan nad oedd y trancedig wedi sylweddoli y perygl, gan nad ymddangosai ond ychydig fwg yn codi o'r glo, ymneillduodd i'w wely fel ar- ferol yn yr hwyr, a hyny er gwaethaf | rhybuddion ei gyfeillion. Boreu Gwener diweddaf caed ef yn farw. Dychwelodd |;| y rheithvyr reithfarn i'rperwyl i'r tranc- || edig farw drwy fygiad. Parhaodd y t&n 11 am rai dyddiau, a'r diwedd fu yr oedd II wedi myned mor ddrwg fel y gorfodwyd 11 hwy i'w suddo. ||
ANRHEG GYMREIG I LE'RPWL.…
News
Cite
Share
ANRHEG GYMREIG I LE'RPWL. II Yr wythnos ddiweddaf, darfu i bwyll- HI gor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Le'r- II pwl gyflwyno anrheg i'r Cynghor Trefol 11 er cof am y cynulliad hwnw, sef cadair dderw hardd. Gwnaed hyn diwy y Maer, Mr. T. Holder. Yn y cyfarfod ddydd j Mercher derbyniwyd yr anrheg yn galon- j og ar gynygiad yr Henadur A. B. Forwood, a chefnogiad Syr James Picton, a bydd y gadair hon o hyn allan yn un y bydd y Maer yn eistedd arni, acherfir arni i K ddangos i'r oes a ddel gan bwy y rhoed hi. Mae yn bur debyg i'r hon enillodd y cad- eirfardd Dyfed.
YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN…
News
Cite
Share
YMGAIS AT HUNANLADDIAD YN ABERTAWE. Ddydd Mercher, yn Llys YnadolJA'oer- tawe, eyhuddwyd un Thomas March o geisio cyflawni hunanladdiad yn ei bres- wylfod. Ehoed tystiolaeth yn dangos i'r carcharor foreu yr lleg cynfisol aros yn h*y na phawb arall yn ei ystafell. Clyw- yd ysgrech yn tuan, a phan aed i chwilio caed ef yn gorwedd ar lawr yn gwaedu, gydag ellyn gerllaw. Yr oedd hollt yn ei wddf wedi ei achosi ganddo. Gan i'w rieni addaw cymeryd gofal o hono, rhydd- hawyd ef.
Advertising
Advertising
Cite
Share
THBOATIRRITATION & COUGH.—Soreness & dry ness, tickl:ug & irritatiO!i,ind icing cough and affect- ing voice. For these symptoms use Epps's Glycerin. j Jujubes In contact with the glands at the moment they are excited by the act of sucking, the Glycerin. in these agreeable confections becomes actively beal- ing. Sold only in boxes, Hd., tills Is. ljd., labelled "JAMES Erpa & Co., Homoeopathic Chemists, Loudon." A letter received: "Gentlemen,—It may, perhaps, interest you to know that after an extend- ed trial, I have found your Glycerine Jujubes of considerable benefit (with or without medical treatment) in almost all forms of throat disease. They soften and clear the voice.- Yours faithfully GORDON HOLMES M.D., Senior Physician to the, Muntcipal Throat and Ear Infirmary." ]