Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

- RHYDYMAIN, GER DOLGELLAU.!

[No title]

tiatbbontaetb.

DEIGRYN HIRAETH

News
Cite
Share

DEIGRYN HIRAETH Am yr eneth ieuanc rinweddol, a'm hoffus gyfeilles, Miss Mary Ann Roberts, Penucha'rdre', Dolgellau, yr hon a hunodd ynyr Iesu, Hydref 27ain, 1883, yn 27 mlwydd oed. Cwympwyd, cwympwyd, er mawr alaeth, Gan hen arwr du marwolaeth, Yr anwylaf o'r ddynoliaeth, A'm cyfeilles gu; Mary Ann, raid dim ond enwi, Yr hawddgaraf, lanaf lili, I wneud gwaed fy mron gyneau, A fy nagrau'n lli'. Tynu darlun o'i chymeriad Hoffwn wneud mewn hyn o ganiad, Darlun byw o bob ysgogiad, O'r addfwynaf un; Darlun ilawn o'i dwyfol dlysni, Darlun difwlch o'i hymdrechu Am gael rhodio gyda'r lesu, Trwy ei bywyd blin. 0 foreuddydd glan ei mhebyd, Dyfal rodiodd hyd y gweryd, Lwybrau santaidd, difrycheulyd, Cariad pur a bedd; Hoffai rodio tua Seion Yn nghwmpeini'r pererinion, 'Roedd eu dwyfol ymadroddion Iddilji nefol wledd. 'Roedd ei chalon oH yn gyfan Yn y gwaith daionus, dyddan, G wasanaethu ei Duw purlan, A'i Cbreawdwr cu; Mel i'w henaid oedd ymddyddan Am y groes ac am y gruddfan, Am y gwaed a ffrydiodd allam Gynt ar Galfari. Byr fu tymhor yr anwylyd Yn anialwch du y blinfyd, 01 'roed i teulu glan y gw ynfyd Am ei chwmni fry; Ac 'roedd hynawsedd byd y gofid Yn rhy erch ac yn rhy oerllyd 1'r angylaidd lili lanbryd Byth i cta'od yn gry'. Gweled swynion glan ei gwyneb, Cofloli geiriau'n ilawn callineb, Mewn dychymyg o anwyldeb Fyn fy nghalou i; Rhodio byd y meusydd gwyrddion, Gwel'd eu tegwcb, casglu'r meillion, Ac edmygu eu prydferthion Yn ei chwmui hi. Heddyw credaf fod ei chartref Draw yn ngwlad y bythol dangnef, Ac fod deiliaid pur y wiwnef 'N caru Mary Ann; Ac yo rholio meusydd tecach Na'r goleuni, yn dorf holiiach, Gan anadlu awyr burach, Byth heb deimlo'n ffan. Gorphwys mae ei chorff yr awrhon Yn nghaeth rwymau angeu creulon, Yn y fynwent, cartre'r meirwon, Hyd y boreu mawr, Pan ddaw angel cryf yr eilfyd Gyda'i floe 3d i grynu'r hollfyd, Nes llwyr ddefiro meirwon cysglyd Sydd yn llweh y llawr, Pennal. GWILYM DYFI.

EE COF

FY MWTHYN GER Y GORNANT;

ENGLYN I FFYNON SANT CADVANS.

( UNIGEDD Y MYNYDD.

Advertising