Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
- RHYDYMAIN, GER DOLGELLAU.!
News
Cite
Share
RHYDYMAIN, GER DOLGELLAU. Nos Wener diweddaf, cynaliwyd Cyfarfod llenyddol yn y lie uchod, dan lywyddiaeth y Parch. H. Roberta, Siloh, ac arweiniad Cadvan, yr hwn aeth a'r gwaith yn mlaen yn ddeheuig iawn. Beirniaid y Tiaethodau oeddynt y Parchn. J. Walters, Brithdir, a B. Roberts, Siloh; y Farddoniaeth, Cadvan; y Gerddoriaeth, Mr T. O. Davies, Dinas Mawddwy; y cyfieithiad, Mr Williams, B.A., Llundain; a'r Llawysgrifau, Mr Hughes, Felin Newydd; y cyfeilydd, MrJohn Roberts, Dolgellau. Wedi cael ton gyffredinol ac anerchiad gan y llywydd, aed yn mlaen i wobrwyo yr ymgeiswyr buddugol ar y gwah&nol destynau, y rhai a safent fel ycanlyn:—Traeth- awd, "Bywyd a chymeriad yr apostol Pedr. Goreu, Mr J. Evans, gorsaf-feistr, Bontnewydd, a rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r traethawd. Traethawd i ferched, "Merched duwiol y Testa- ment Newydd." Goreu, Miss C. Jones, Cefny- braich. Eto, "Rhagoriaeth y Beibl ar bob llyfr arall," (i rai dan ugain oed). Goreu, Mri F. Owen, Brithdir, a J. Griffith, Rhydymain, yn gyfartal. Ymgeisiodd wyth ar y chwe phenill er cof am Hugh Pugh, a dyfarnwyd yr eiddo R. Erfyl, Liverpool, yn oreu. "Hir a thoddaid er cof am John Griffith," yr oedd 13 yn y gystadl- euaeth. Goreu, R. Erfyl. Can, "Achub yr adeg." Goreu, Mr J. Evans, Galltygwineu. Englyn "Y Sarph," goreu Mr E. Evans, Llan- Uwchllyn. Ni ddaeth oDd un parti yn mlaen i ddatganu "Dyfroedd y bywyd," sef parti o Ryd- ymain, a dyfarnwyd ef yn deilwng o'r wobr. Am ganuydeuawd, "Mae'r Ian gerllaw, gwobi- wywyd MrG. Evans a Miss A. Evans, Brithdir. Unawd, (i rai dan 15 oed) "Fy machgen pa Ie y mae," goreu, Miss Jane Jones, Ysgubor Newydd, ail, Mr. G. Evans. Unawd, "0 rhwyfwch ataf fi." Pedwar yn y gystadleuaeth, goreu, Mr E. Jon s, Ysgubor Newydd. Am yr alaw oreu ar y geiriau "Dim mwy, (Clynog). Goreu, Mr J. Griffiths, Coedrhoalwyd. Un côr: ddaeth yn mlaen j ddadganu Y seren unig, (Isalaw) sef cor Rhydymain, dan arweiniad Mr G. Edwards, a dyfarnwyd ef yn deilwng o'r wobr. Am y cyfieithiad o'r Saesonaeg i'r Gymraeg, goreu, Mr Evan Griffith, Llanfachreth, a Maggie Owen, Bryncoedifor, yn gyfartal. Am yr araeth oreu ar"Falchder,"gwobrwywyd Mr J. Owen, Gwern- ga wr. Am y llawysgrif oreu gwobrwywyd Jane Jones, Mary Jones, W. Jones, a C. Jones. Ar- holiad deuddeg oweatiwn ar hanes Lot. Goreu, J. Griffith, ail 0. Williams. Adroddiad o weddi Jonah. Goreu, Jane Jones a G. Evans yn gyf- artal, ail, Mary Jones, Tynewydd. Aeth pedw ar yn llwyddianus drwy arholiad mewn cerddor- iaeth, sef Mri J. Griffith, E. J. Roberts, ac E. Jones, am yr elementary, a Miss M. Jones, am y junior. Canodd Miss Madge Roberts, Dolgellau, Llewelyn o'r Brithdir, a Mr Williams, Dolgellau, yn dra awynol yn ystod y cyfarfod. Canodd y cor hefyd amryw ddarnau yn ganmoladwy iawn dan arweiniad Mr G. Edwards, yr hwn sydd wedi bod yn llafurio yn egniol o dan lawer o an- fanteision i wasanaethu yn y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod da drwyddo,—yr oedd Cadvan yn ei hwyliau goreu, a phawb fel pe buasent yn mwyn- hau, ond yr ymgeiswyr aflwyddianus, a pheidied y eyfryw rai a digaloni, ond bydded bod eu haf- lwyddiant y tro hwn yn eu symbylu i fod yn fwy ymdrechgar i gyrhaedd llwyddiant pan y cawn gyfarfod o'r un natur eto yn ardal lengarol Rhydymain. W. J.
[No title]
News
Cite
Share
Gwyddel yn myned i brynu ceffyl. Wedi cy- tuno ar y pris, gwnaeth amod a'r gwerthwr ei fod i gael talu yr haner am dauo y pryd hwnw, ac i fod yn nyled y gwerthwr am yr haner arall. Felly fu; ond yn mhen ychydig amser wedi hyny daeth y gwerthwr i chwilio am yr hyn oedd ddy- ledus iddo. "Na," meddai'r Gwyddel, "fy nghytundeb a chwi oedd i mi dalu yr haner, ac i fod yn eich dyled o'r haner arall, ac nis gall hyay fod os talal i chwi y cwbl." Jack," meddai'r Cadben, wrth un o'r dwy- law, cwyna y foneddiges hon oblegid i chwi ddweyd wrthi 'am fyned i nid yw hyn yn ymddygiad gweddus, gan hyny yr wyf yn eich gorchymyn i wneud apology ar unwaith. "Wel," meddai Jack wrth y foneddiges, "gall- wch beidio myned i Jericho, ma'am." Beth ydyw hen ftjrch 1 Un na chafodd erioed 1 gyile i wneud dyn yn hapus. <
tiatbbontaetb.
News
Cite
Share
tiatbbontaetb. AT EIN GOHEBWYK BARDDOL. Cymerariwy-R. L. Lewis, Ogwenydd, Gwilym Dyfl, Qwilym Gwenffrwd, Bardd y Glyn.
DEIGRYN HIRAETH
News
Cite
Share
DEIGRYN HIRAETH Am yr eneth ieuanc rinweddol, a'm hoffus gyfeilles, Miss Mary Ann Roberts, Penucha'rdre', Dolgellau, yr hon a hunodd ynyr Iesu, Hydref 27ain, 1883, yn 27 mlwydd oed. Cwympwyd, cwympwyd, er mawr alaeth, Gan hen arwr du marwolaeth, Yr anwylaf o'r ddynoliaeth, A'm cyfeilles gu; Mary Ann, raid dim ond enwi, Yr hawddgaraf, lanaf lili, I wneud gwaed fy mron gyneau, A fy nagrau'n lli'. Tynu darlun o'i chymeriad Hoffwn wneud mewn hyn o ganiad, Darlun byw o bob ysgogiad, O'r addfwynaf un; Darlun ilawn o'i dwyfol dlysni, Darlun difwlch o'i hymdrechu Am gael rhodio gyda'r lesu, Trwy ei bywyd blin. 0 foreuddydd glan ei mhebyd, Dyfal rodiodd hyd y gweryd, Lwybrau santaidd, difrycheulyd, Cariad pur a bedd; Hoffai rodio tua Seion Yn nghwmpeini'r pererinion, 'Roedd eu dwyfol ymadroddion Iddilji nefol wledd. 'Roedd ei chalon oH yn gyfan Yn y gwaith daionus, dyddan, G wasanaethu ei Duw purlan, A'i Cbreawdwr cu; Mel i'w henaid oedd ymddyddan Am y groes ac am y gruddfan, Am y gwaed a ffrydiodd allam Gynt ar Galfari. Byr fu tymhor yr anwylyd Yn anialwch du y blinfyd, 01 'roed i teulu glan y gw ynfyd Am ei chwmni fry; Ac 'roedd hynawsedd byd y gofid Yn rhy erch ac yn rhy oerllyd 1'r angylaidd lili lanbryd Byth i cta'od yn gry'. Gweled swynion glan ei gwyneb, Cofloli geiriau'n ilawn callineb, Mewn dychymyg o anwyldeb Fyn fy nghalou i; Rhodio byd y meusydd gwyrddion, Gwel'd eu tegwcb, casglu'r meillion, Ac edmygu eu prydferthion Yn ei chwmui hi. Heddyw credaf fod ei chartref Draw yn ngwlad y bythol dangnef, Ac fod deiliaid pur y wiwnef 'N caru Mary Ann; Ac yo rholio meusydd tecach Na'r goleuni, yn dorf holiiach, Gan anadlu awyr burach, Byth heb deimlo'n ffan. Gorphwys mae ei chorff yr awrhon Yn nghaeth rwymau angeu creulon, Yn y fynwent, cartre'r meirwon, Hyd y boreu mawr, Pan ddaw angel cryf yr eilfyd Gyda'i floe 3d i grynu'r hollfyd, Nes llwyr ddefiro meirwon cysglyd Sydd yn llweh y llawr, Pennal. GWILYM DYFI.
EE COF
News
Cite
Share
EE COF Am David Jones, Mason, Trawsfynydd, yr hwn a fu farw Chwefror 6ed, 1882, yn 29 mltvydd oed. Dyma loes yn nghanol loesau Eto'n rhagor wedi d'od, Angeu aeth a phen y teula, A'u holl gysur is y rhod; Trwm yw edrych ar ei briod A'i hanwyliaid yn ei chol, Gyda'r deigron ar eu gru idiau Yn och'neidio ar ei ol. Y mae eglwys Ebenezer, Hithau yn ei dagrau sydd, Cyfaill calon iddi gollwyd, Byddai'i law yn gymhorth rhydd; Ond rhaid ini ymfoddloni, Sycbu dagrau ar ein gwedd, Ni chawn yma mwy ei welad, David Joues sydd ya ei fedd. Gwel'd y llwybrau byddai'n tramwy At ei orchwyl foreu a nawn, Sydd yn dwyn o'm mewn fwy hiraeth Am y cyfaill cywir.iawn; Tra mae'r adeiladau gododd, Geir yn orwych yn mhob gwedd, Mae rhai hyny fel yn d'wedyd, David Jones sydd yn ei fedd. Wele, rhaid in' ymgysuro, Briod hoff, a thad a mam, Y mae gofal Duw am daao, Ni chaiff dderbyn unrhyw gam; Braint yw myned yno i huno, Fe fu Iesu yn y bedd, CaifE gyfodi mewn gogoniant, Anfarwoldeb ar ei wedd. MORFRYN GLAS.
FY MWTHYN GER Y GORNANT;
News
Cite
Share
FY MWTHYN GER Y GORNANT; Fy mwth ger y gornant a boffaf o hyd, Er nad oes o'i amgylch fawrwychder y byd, Neu feini o fynor i'w nodi yn hardd, Pur hedd a boddlonrwydd iach ynddo a chwardd. Y goroant ymlithra i arall sydd fwy, Hyd wely clegyrog i'w taith brysiant hwy, Rhftg gwrando ar ynfyd gas, oerllyd wag sen, Ymheulaf heb gynwr' ar gwr careg wen. 0 faldotdd hurt feddwon, eu llwon a'u rheg, Caf gynghordd yr adar, tra'r wybrea yn deg; Uwch myglyd dawch afiach amdoa y dref, Mi goda'm golygoa i uwchder y nef. Fy nghynal yn llawen wna'm hawen o hyd, I dario o dwrw a berw y byd; Heb bwysau rhagofal i lethu fy mron, Na phryder, na phenyd, nac ofni un d6n. Rhu'r ceunant sy'n boddi twrf masnaeh y byd, A minau'n ddigyffro'n fy mwthyn bach clyd, Neu rodio gwyrdd lenyrch meillionog a gaf, A derbyn mwynderau pelydrau yt haf. Dwfr bywiol "y ffynon wen" dirion a dardd, 0 boni rbed iechyd yn fywyd i fardd; Y coed) dd bythwyrddion, talgryfion rhag gwres, A mynych drom gawcd hwy'n gysgod a ges. Pan ddelo gwg gauaf a'i frochus erch gad I guro magwyrydd fy mwth yn y wlad, Er rhuthr y taranau, corwyntoedd, a gwlaw, Eisteddaf yn wron a'm bron heb ddim braw. Ar ddiwedd hen Dachwedd dll. lEuAN IONAWK,
ENGLYN I FFYNON SANT CADVANS.
News
Cite
Share
ENGLYN I FFYNON SANT CADVANS. A gyfansoddwyd pan ar ymweliad a Tow yn, Meirion- ydd, yr haf diweddaf. Bywyd a geir i'r bod gwan-o iawn swydd Hen Ffynon Sant Cadvan; Deil o hyd i fyd yn fan I aileni gwael aniaD. DBTTI EDEN,
( UNIGEDD Y MYNYDD.
News
Cite
Share
UNIGEDD Y MYNYDD. Heb un och, caf o'i ben uchel—-wrando Cywreindeg nef awel, Yn mwyn wau emynau m«[ Daionus i'r Duw anwel. Pennal. GWILYM DYFI. l-
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y MAE miloedd o bobl yn mhob parth o'r byd yn defnyddioKAYE's WORSDELL'S PILLS, ac wedi gwneud hyny am genedlaethau, ac a wnant felly bob amser. Pa'm'l Am eu bod yn "Feddygin- iaeth Deuluaidd" wirioneddol a diogel, ac y dylent ynwastad gael eu cadw yn y ty. Y maenfc o ddefnydd llysieuol pur, ac yn gymysgedig â'r cyffyriau goreu a ail arian eu prynu. Purant y gwaed, glanhant y cyfansoddiad, ac adferant yr iechyd Gwellhant Ddiffyg treuliad, Cur yn y pen, Dyspepsia, Anhwyldeb yr ysgyfaint Gwen- did, Geri, &c. I'w cael gan yr holl Fferyllwyr ls. la c., 2ss. 9c., a 43. 6c, y blwch.