Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

KeiosKSton ®gffte&tnol.

j GWERTHU LLYFRAU YN Y CAPFLI.

TASG I'R BEIRDD.

BIRMINGHAM.

News
Cite
Share

BIRMINGHAM. Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Ddirwestol.—" Cynaliwyd y cyfarfod uchod LIun, Rhagfyr y. 3ydd, yn addoldy yr Annibynwyr, Wheeler St. Darparwyd te yn yr ysgoldy i'r plant ac eraill a ewyllysiai gyd-gyfranogi a hwynt. Arolygwyd y rhan yma yn fedrus gan Mr. R. Jervis, (Gwyn- onwy), trysorydd y gyrndeithaa. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth y Parch. J. Lewis (A.), ac aed trwy raglen y cyfarfod fel y canlyn;-Ton, gan barti o blant 0 dan arweiniad Mr D. Jones. Anerchiad gan y llywydd. Ton, gan Mr Edward Pritchards, Lozells St. Adroddiad, gan Mr John Hughes, Berner St. Y mae yn ddiau fod y brawd hwn yn un o'r adroddwyr goreu. Ton, gan Mr D. Pritchard, a'i gyfeillion. Cystadleuaeth mewn adrodd "Ceisiwch eto," o'r Dyngarwr. Gwobr- rwywyd yr oil o'r ymgeiswyr. Ton gan barti o blant. Anerchiad gan Mr W. Jones, (B.), o'r Cambrian Hall. Ton gan Mri D. Jones ac E. Pritchard. Adroddiad gan Miss Jones o'r Cam- brian Hall. Terfynwyd y cyfarfod trwy i'r plant ganu. Y mae y gymdeithas uchod yn bodoli er ys dros bump o flynyddoedd bellach, nis gall neb ddirnad y gwaith da sydd yn cael ei wneud ganddi, yn ei gwaith yn rhoddi lie a chefnogaeth i fechgyn ieuainc i ymuno a Dirwest. Y mae'r aelodau yn cael eu gwneud i fyny nid o un enwad crefyddol, ond o wahanol enwadau, ond nid ydyw hi wedi derbyn rhyw lawer o gymhorth uniongyrchol ond oddiwrth rhyw ddau neu dri o enwadau, ond yn hytrach wedi derbyn llawer o rwystrau oddiar law rhai a fuasem yn dysgwyl pethau gwell oddi wrthynt. Y rhwystr olaf a gafodd y gymdeithas oddiar eu dwylaw oedd iddynt wrthod cyhoeddi y cyfarfod blynydd- ol, am y rheswm pengam mai 'hogiau' oedd wedi ceisio ganddynt. Er fod yr hogiau i hyny rhwng chwech a deg ar hugaiu oed, a' cyhoeddi cyfarfodydd er mwyn y personau a geisia hyny oddi ar eu llaw y mae y brodyr byw wys 1 Yr oeddwn i yn arfer credu mai ar amcan y cyfarfod y rhoddid pwys. Nid yw y gymdeith- as hon wedi cael y gefnogaeth a ddylasai oddi- wrth weinidogion Cymreig y dref. Nid ydwyf yn meddwl fod rhai o honynt wedi bod mewn cyfarfod o gwbl. Heblaw pregethwyr cynorth- wyol, diaconiaid ac aelodau cyffredin,yn gystal a gwrandawyr, y mae gan bob un o'r doabarthiad- au uchod lawer o le i wella. Ni wna gollwng rhyw bwff yn awr aceilwaith y tro,ac nid yw fod un yn cofio yr adeg pan y bu yn areithio ar Dairwest yn ei frat, yn ddigon o esgus droa iddo beidiogwueud dim yn bresenol. Ac y mae hi yn hollol anghyson mewn dyn i areithio ar y priodoldeb i'r Cymry ymwasgu mwy at y Saeson a chydweithio a hwynt er llesoli y dref. Ac ar yr un prv I yn methu 'ymwasgu' at ei gydgenedl er cydweithio a hwynt er llwyddiant dirwest, yn gystal a phynciau cenedlaethol eraill. Byddwn yn dysgwyl dysgu mwy o gysondeb oddiwrth ddynion na hyn. Amiywion.—Dywedir fod arwyddion am gyf- arfod llwyddianus iawn yn Wheeler St., y Nad- olig. Proffeswr Gethin Davies, Llangollen, fydd yr arweinydd. Dywedir fod rhai o'r cantorion yn ofni y bydd iddynt golli'r dydd, am fod eraill gwell na hwynt ar y maes. Bernir mai Gwynon- wy fydd y Bardd 'Cadeiriol.' o Mae rhai yn barnu fod Owain Llwyd yn prysur ddysgu yr Ysbaenaeg ar gyfer ymfudo i Patagonia Dywedir fod y gwr addawodd roddi gwersi iddo wedi gorfod ei roddi i fyny yn 'bad job.' Sib- rydion eraill a allesid enwi, ond amser a ballai, a'ch gofod chwithau yn brin. GOHEBYDD.

Advertising