Hide Articles List

5 articles on this Page

KeiosKSton ®gffte&tnol.

j GWERTHU LLYFRAU YN Y CAPFLI.

News
Cite
Share

GWERTHU LLYFRAU YN Y CAPFLI. Mae y mater hwn yn un a haeddai gael sylw. Yr oedd llythyr "Diacon" yn y Tyst, mor ya- gubol, fel nad oeddwn yn dysgwyl iddo gael pasio yn ddisylw. Nid yw ond ofer gwadu, y mae llawer o eglwysi yn cael eu blino a'u beichio gan y rhai a ddeuant heibio i gynyg eu cynyrch- ion, ac y mae pob peth yn eu dull yn tueddu i greu rhagfar i yn eu herbyn. Ond y mae pob peth sydd yn erbyu goddef i'r cyfryw ddynion gynyg eu llyfrau yn erbyn hefyd dderbyn eu cy- hoeddiadau i bregethu; ac y mae yr awdurdod yn gwbl yn llaw yr eglwysi eu hunain i bender- fynu pwy a dderbyniant, a phwy a wrthodant. Ond y mae y cwestiwn pa fodd i ddwyn llyfrau buddiol i gyrhaedd ein pobl yn un y dylai yr eglwysi ei gymeryd i fyny o ddifrif. Ni waeth i ni heb wenieithio i ni ein hunain, y mae llawer o'n pobl yn hynod o anwybodus, ac nid ydynt yn darllen dim a rydd iddynt wybodaeth fudd- iol. Mae gwasgaru llyfran yn nglyn a'r capeli wedi bod yn Nghymru o'r dechreuad. Felly y lledaenwyd y llyfrau goreu yn ein hiaith. Ofer hollol ydyw dyweyd na raid i unrhyw awdwr teilwng ond cyhoeddi llyfr, a hysbysu pa le y mae i'w gael, na cheir digon o dderbyniad iddo. Mae yn sicr genyf na chyhoeddodd "Diacon" lyfr erioed, onide ni ddywedasai y fath beth. Nid oes yr un awdwr yn Nghymru gydag un- rhyw eiwad a dderbyniai ddigon o archebion felly i dalu am argraffu y llyfr. Byddai raid iddo yn rhywfodd fyned at y bobl. Mae miloedd a dderbyniai lyfr ond cael cynyg arno yn eu tai neu yn y capel, na feddylient anfon i'r swyddfa am dano. Rhaid dwyn llyfrau da i gyrhaedd y bobl, a'u cymhell i'w derbyn a'u darllen. Mae y gweinidog ieuengaf gyda'r Wesleyaid mewn llawer o gylchdelthiau yn Book Agent. Mae gofalu am lyfrau yr enwad yn rhan o'i waith. Penodir goruchwyliwr i'r Drysorfa a Thrysorfa y Plant gan Gyfarfodydd Misol y Methodistiaid. Nis gallwn ni wneud y gwaith, fel y gwna cyrff crefyddol ef, ond dylem ninau ei wneud yn y ffordd a farnom oreu er cael gan ein pobl dderbyn llyfrau da. Mae gwerthu eu llyfrau yn rhan mor bwysig-yn enwedig gwerthu y Beibl- au-yn llafur ein cenadon tramor ag ydyw pregethu; ac yn ami llwyddant i werthu eu llyfrau wedi methu cael neb i'w gwrando. Nid wyf yn selog dros barhau yr arferiad i bregeth- wyr gynyg llyfrau ar cldiwedd oedfaon, er nad wyf yn edrych ar hyny unrhyw halogiad ar dy Dduw: ond yr wyf yn selog dros gael rhyw ffordd i gael llyfrau da i gyrhaedd ein cynnll- l eidfaoedd, a chymhell ein pobl i'w prynu a'u darllen. Nid oes genyf ddim cydymdeimlad a'r bobl or-grefyddol sydd yn tybied fod y capel yn rhy gysegredig i bob peth bron. Yr wyf yn credu mai goreu po fw yaf o ddefnydd a wneir o honynt yn mhlaid gwybodaeth, a moesoldeb, yn gystal a chrefydd. Buaswn yn awgrymu fod llyfr-oruchwyliwr (Book Agent) yn nglyn a phob eglwys, a hwnw yn ddyn parchus a chyf- rifol, ac i'r eglwys roddi pob cefnogaeth iddo, ac edrych arno fel ei s Nyddog mwyaf angenrheidiol, Nid rhoddi y swydd i ddyn tlawd, mewn ffordd o elusen, a hyny yn ami yn arwain i brofedig- aeth, ond ei rhoddi i ddyn uwchlaw angen, a chysylltu parch ac anrhydedd a'r gwaith. Dichon y byddai yn anhawdd ar unwaith cael personau cymhwys yn mhob lie, ond llwyddid yn raddol i'w cael, ond i'r eglwys roddi pob cefnogaeth i'r cyfryw, a chysylltu anrhydedd a/r gwaith, ac i'r gweinidog, ar adegau neillduol o'r flwyddyn, alw sylw at lenyddiaeth grefyddol yr Enwad. Dylai enwau y goruchwylwyr hyn ym- ddangos yn ein Dyddiaduron, fel y gwybyddo y rhai sydd yn dwyn llyfrau allan a phwy i ohebu. Pa fodd bynag, na ddiddymer yr hen drefn sydd wedi gweithio yn dda yn ei thymor i ddwyn llyfrau buddiol i gyrhaedd ein cynulleidfaoedd, heb fod, rhyw gynllun arall yn cael ei drefnu a gario y gwaith yn mlaen, o leiaf, yn Ilawn mor 6fleithiol. Gadawaf ar hyn heno; ond dichon y dychwelaf at y mater eto, wedi gweled a oes gan rywun arall rywbeth i'w ddyweyd arno. LLADMERYDD.

TASG I'R BEIRDD.

BIRMINGHAM.

Advertising