Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DINAS LE'RPWL.

COLEG- GOGLEDD CYMRU. * pL

News
Cite
Share

COLEG- GOGLEDD CYMRU. p CYFARFOD PWYSIG YN NGHAER. Ddydd Sadwrn diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o'r Llywodraethwyr ydynt eisoes wedi eu pen- odi i Goleg Gogledd Cymru, yn Nghaerlleon. Amcan y cyfarfod ydoedd dewis 11 o aelodau ar y Cyngor. Cynaliwyd cyfarfod o'r Ymneilldu- wyr yn Union Hall yn flaenorol i'r cyfarfod cytf, redinol, er mwyn iddynt gael dyfod i gyd-ddeall- twriaeth pa fodd i weithredu, ac er iddynt fod yn unol. Llywyddwyd gan Mr Thomas Gee, Dinbych, ac yr oedd lluaws mawr yn bresenol. Syniady cyfarfod ydoedd mai afreolaidd fyddai iddynt fyned yn mlaen gydag ethol y Cynghor am y rheswm fod rhestr y Llywodraethwyr yn anghyflawn hyd yn hyn, ac fod amryw heb* gael un o gwbl. Deuwyd i'r penderfyniad, os bydd- id yn myned yn mlaen i ethol, ac nad etholid ond 11, fod i'r Ymneillduwyr enwi 8 o'r cyfryw o leiaf. Cynaliwyd y cyfarfod cyffredinol yn y Town Hall, dan lywyddiaeth Iarll Powys. Yr oedd yn bresenoi luaws o aelodau seneddol a bonedd- igion urddasol eraill. Wedi anerchiad galluog gan y Cadeirydd, ac i drafodaeth fer ddilyn ar gynllun y Coleg, aed yn mlaen i ddewis swydd- ogion y Cynghor. Ar gynygiad y Due o West- minster, dewiswyd larll Powys yn llywydd y Cynghor gydag unfrydedd. Y mae i fod yn ei swydd am 10 mlynedd. Ar gynygiad is-lywyddion, cymerodd dadl boeth le ar y priodoldeb o ychwanegu rhif ael- odau y Cynghor, ond gohiriwyd penderfyniad ar hyny hyd ddewisiad swyddogion. Ar gynygiad Syr Robert Cunliffe, A.S., a chefnogiad Mr. S. Merchant Williams, dewiswyd yr Anrhydeddus G. Osborne Morgan, A.S., a Mr Richard Davies, A.S., yn is-lywyddion—y blaenaf i fod am 5 mlynedd, a'r olaf am 3 blynedd. Ar gynygiad Mr. John Hughes, Liverpool, a chefnogiad Mr. Osborne Morgan, dewiswyd Mr. John Roberts, A.S., yn drysorydd, gydag un- frydedd. Ar gynygiad Mr. W. Evans, Caer, a chefaog- iad Mr. J. Hughes, Liverpool, pasiwyd eu bod i ohirio penodiad aelodau y Cynghor a'r graddolwr Cymreig. Cyn ymwneud a'r modd i ethol, cynygiodd Mr. Gee, Dinbych, fod nifer yr aelodau i fod yn 31 yn lie 25, ac felly y cawsai y llywodraethwyr ddewis 17 yn lie 11. Cefnogtyyd ef gan y Parch. Spinther James, Llandudno. Dilynwyd gan eraill, y rhai a bleidient dros gael ychwanegiad yn y rhif. Pasiwyd hyny, ond i beidio nodi y nifer. Bu dadl boeth hefyd ar y modd i ethol aelod- au. Cynygiodd Deoa Bangor fod dewisiad yr aelodau i fod drwy anfoniad papyrau pleidleisiol i fewn. Cefnogwyd ef. Cynygiodd Mr. Gee, fel gwelliant, fod if* dewisiad fod drwy bapyrau. pleidleisiol yn nghyfarfod nesaf y Llywodraeth- wyr. Cefnogwyd ef gan y Parch. Herber Evans, Caernarfon, a chariwyd ef drwy 50 yn erbyn 46. Ar gynygiad Mr. Rathbone, a chefnogiad Deon Bangor, dewiswyd Mr. Cadwaladr Davies, yn unfrydol i fod yn Ysgrifenydd Coleg Gogledd Cymru. Pasiwyd diolchgarwch i'r Cadeirydd, a gohir- iwyd y cyfarfod hyd Sadwrn cyfleus yn Chwefror 1884, i'w gynal yn Mangor.

LLOFRUDDIAETH YN NGHAER. DYDD.

Family Notices