Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cymdeithas v Cymreigyddion

News
Cite
Share

Cymdeithas v Cymreigyddion Ei Hanes yn Nolgellau o'i sefydliad cyntaj, dros driugain mlynedd yn oZ., LLYTHYR IV. Y gwesty yr ymgyfarfyddai y Gymdeithas Gymreigyddol oedd y ty a elwir hyd y dydd hwn "Y Star, yr hwn sydd yn wynebu at foreswylfa perclienog y DYDD. Fe'i hadeiladwyd ar ddechreu y ganrif hon, fel y gwelir ar y llech- en las uwchben y drws. Mr. Ellis Rees oedd y gwestywr, ac efe'n dad i'r enwog Robert Oliver Reea, llenor, yn ei arddull ei hun, na fagwyd ei gyffelyb yn Nolgellau, neu yn wir yn holl sir Feirionydd, ae y mae'r golled ar ei ol yn fawr yn holl gylch lien a barddas. Yr oedd ei dad yn aelod o'r gymdeithas gyfriniol, ac urddwyd ei ferch henaf, Jane Rees y pryd hwnw, ac ar ol hyny Mrs. Williams, Tyeiddwf (Ivy House)- urddwyd hi yn ofyddes, fel, os dygwyddai hi fyued i mewn i'r ystafell, na fyddai angen ei rhybuddio rhag adrodd cyfrinach y brodyr. ) Mrs. Morgan, gweddw y diweddar Baich. Henry Morgan (B.), sydd yn chwaer iddi, a thystia hi fod y Cymreigyddion cyntefig yn wyr nodedig o foneddigaidd. Nid wyf wedi canfod yn yr holl benderfyniadau o'n heiddo, onid dau yn unig a wrthodwyd i fod yn aelodau, ac y mae'n ddilys fod rhesymau digonol yn eu herbyn. Yr oedd L. Humphaeys, Yaw., yn frodor o Dde- heudir Cymru; dewiswyd ef i fod yn llywydd ar y de^hreu. Cadwai weithwyr yn ymyl Bryn- hyfryd, "Plas y person" ar y cyntaf. Efe a J. Pugh, Yaw. (Ieuan Awst), a briodasant ddwy gyfnither. Mae'n amlwg wrth yr englynion lluosog a geir o waith Ieuan Awst, a rhai o waith Mr Humphreys, eu bod, fel Jonathan a Dafydd, yn gyfeillion—"eujdau enaid a unent." Ar gyfeiriad llythyrau at Mr Humphreys, dodai Mr Pugh, "distylliwr surlyn" yn Gymraeg; rhyw fath o risgl coed, a ddiatyllid ganddo, mewn pyllau tebyg i'r rhai a welir yn y cyffeith- dy (tanhouse). Lewis Pugh, Yaw., y Cofiadur, oedd yn fon- Bddwr by wiog, ac yn Arianydd Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru; gwelir fod ei lawysgrif yn benigamp mewn tlysni. Yr oedd deuddeg o wahanolswyddogion yn perthyn i'r Gymdeithas, sef Llywydd, Rhaglywydd, Bardd, Trysorydd, Cofiadur, Ofydd, Henadur, Lladmerydd, Derw- ydd, Perorydd, Heddychwr. Mae'n anhawdd cysoni un o'u Rheolau, a'u gwaith yn ethol Un- dodiaid, gan fod hono'n pwyntio na etholid neb oni byddai yn proffesu y Grefydd Gristionogol. Ond deuai y cyfryw i mewn dan adran olaf y Rheol, y byddai raid fod yr aelod cynygiedig yn un moesol ac o gymeriad dilychwin. Yr oedd tri o Undodiaid proffesedig yn aelodau blaen- llaw, sef Gruffydd Edward, y menygwr, dyn o synwyr cryf, ac fel mae'r. hynod wedi bod yn aelod droa gryn amser gyda'r M. Calfinaidd; a David Evans, boneddwr yn byw ar ei fFortiwn ei hun. Hen lane oedd ef,ac yn gryn athronydd; J. Pugh (Ieuan Awat); gwnaeth nifer fawr o Englyniou ar "Un hanfod y Goruchaf," ceir eu gweled yn fuan, a barned pawb drosto ei hun am eu teilyngdod o ran syniadau. Pa fodd bynag, inaent yn Englynion cryfion, a bydd yn wledd ddanteithiol eu darllen, yn arbenig i'r beirdd. Cafodd y flaenoriaeth am gyfansoddi y gan i'w chanu gan y "Perorydd" ar dderbyniad aelod; enillodd raigwobrwyon am ddsrnau eraill. Dyn treiddgar oedd I. Awst, pan y cerddai o'r tu allan i'r dref yr oedd golwg fyfyrgar arno. Yr oedd yn Undodiad cydwybodol, a cheid dadleu- on brwd ar adegau rhyngddo a gwyr a elwid yn unlongred, sef y rhai a gredent yn nwyfol- iaeth Crist; a dichon y rhedai Gruffydd Edward, y menygwr (a'r hwn oedd yn Henadur y Cym- reigyddion) a chroen yn ei law o'r gweith-dy i'r frwydr ddadlyddol. Parhai y frwydr ddiwrnod- au, er na bu un mor faith a'r hon a fu rhwng Nicander a Robin Meirion-parhaodd y ddadl hono yn y Ganllwyd bythefnos ar yr "Eglwys a'rWladwriaeth," ond heb ei therfynu mwy nag yn ein dyddiau Di. Ar farwolaeth Ieuan Awat, yn y flwyddyn 1839, ceir y cofnodyn a ganlyn: '—" Bu cofiant dystaw am dri munyd ar ol un Yr oedd llun seren ar yr arwyddfwrdd. o'r ser goleuaf yn ffurfafen Dysgeidiaeth Gym- reig, Mr. John Pugh (Ieuan Awst), a fu farw dhwefror 16, 1839, yn 55ain mlwydd oed, gan adael saith o blant i alaru eu prif golled ar ei ol. Bu yn aelod flyddlawn am hirfaith flynyddau yn y Gymdeithas Gymreigyddol." Arferai'r Cymreigyddion fyned i bantle unig yn y Clogwynau ar ddydd eu gwledd i urddo beirdd ac ofyddion, y llanerch Dderwyddol hono yw Pantygaregwen. Diweinid y cledd, ac eid trwy y ddefod orseddol mor fanwl a defosiynol a phe buasent mewn Gorsedd Gyfallwy" Eisteddfod 4 diwrnod. Y prif weinydd ydoedd Cawrdaf; gosodid yr urddedig i sefyll ar gareg ddyrchafedig, ac yno, yn yDystawrwydd mwyaf y rhoddid| urdd "braint a defawd" i'w brawd neu eu brodyr cofier; nid oedd trwydded i neb dynsawd fod ar ei bedion yu y cylch cyfrin hwnw. Mynega un a welodd y frawdoliaeth yn gor- ymdeithio i'r dref o'r orsedd fod rhywbeth yn fawreddog yn yr olygfa. Cerddai Cawrdaf ar y blaen, a golwg foneddigaidd arno, yn ddwy lath o hyd, wedi ymwisgo fel Derwydd, a llodrau pali (velvet) du, a chleddyf noeth yn ei law! Gelwid lle'r urddo yn y cofnodion yn achlysurol "Gorsedd Idris," a gwelir enw tri neu bedwar yn cael eu tyE.u trwy y pair arholiadol—yn cael yr urdd, ac nid oes gof am gymaint ag un a fethodd gael yr urdd, fel y bu ambell i ymhonwr hanercof gael ei hwtio o'r cylch mewn rhai o Eisteddfodau uchelfri. Ar ymadawiad Cawrdaf o'r dref i Gaerfyrddin, yn 1825, yr oedd teimlad dwfn yn mynwes ei frodyr Cymreigyddol ar ei ol; gwelir y teimladau hiraethus a'r golled am dano yn ymferwi allan yn yr englynion campus dyfynedig o waith Ieuan Awst. Cur-dwys anaWilym Cawrdaf-a doimlir Yn y deml anwylaf; Gyda'm brodyr gwewyr gaf- Collwyd yr aelod callaf. Colled i Ddo!-y-celli—anaelo Dil niwlen sydd ami, 0 achos ei Heos hi Tristwch ymdaeno id trosti. Gweddw yw ei Chymreigyddion—am eu Bardd, Em benaf eu coron, Amddifad o'u Llygad lion! Ofnadwy gyinewidion! Tori'r cymundeb tirion (0 gresyn!) Mae ami groes helyntion,— Gwall uu dydd oedd golli'n Don, Wythwaeth yw'n colled weithion! Gwir fawrdda sydd i Gaarfyrddin-weithian Ac i'w liiaitti gyoefin; I Ddolgellau blwyddau blin, 0 eisiau ei Bardd iesin. Mae'n gobaith eilwaith i'w weled—i'n plith Yn plethu'n ail Aled; 0 Ddeheudir cyn hir 'bed Er gwell, adfera'r golled. Gweddi y Cymreigyddion—yw i chwi Ddychwel amser meillion; A'u Uais yw, os 'wyllys Ion, Mwy i 'maros ym Meirioo. Prysured d'ued y dydd—i enyn Ynom ail lawenydd; A'n dymuniad yn fad fydd "Iach Wilym yn ddychwelydJ." Ond ni ddychwelodd yr Athraw Cadeiriog "i ymaros yn Meirion." Mi gredaf y byddai yn fuddiol er mwyn y to ieuangaf oddarllenwyr roddi ychydig grybwyllion am Cawrdaf, dyn a edmygid mor drylwyr, ac a gerid mor angerddol ganydosbarth goleuedig, a wyddai f wy am dano nag a wyddom ni ond trwy adgofion. Yr oedd yn enedigol o Arfon; daeth yn Argraffydd i'r dref hon at y diweddar R. Jones, Rhes Eldon; yr oedd yn gefnder i'r gwr enwog hwnw. Mor j fedrus oedd yn y t ddwy iaith, fel y gallai gyf- ieit.iu darn a roddid o'i flaen, a'i gysodi yr un pr.yd, meddid. Yroedd ynbregethwreymeradwy [ gyda Chyfundeb Newydd y Wesleyaid. Yr oedd athrylith megys wedi cerfio ei hardeb ar ei wynebpryd; ond mewn cwmni yr oedd yn un *J. A. Williams.(Don Glan Tywi), Argraffydd. t Yr oedd hefyd yu dir-arlunydd (kmdscapc painter). o'r rhai mwyaf siriol. Dywedodd Caledfryn all, dano ef a'i waith,- Deil ei waith tra bo'r iaith rydd A Gwalia wrth eu eilydd. Ah! mae awdwr y Meudwy Wedi myn'd—ni cha'i wel'd mwy. I swyddfa Seven Gomer yr aeth o'r dref hon, i Gaerfyrddin. Bu yn aros dro yn Pontfaon wedi hyny,"a dywedai mewn llythyr at gyfaill, "Nid yw yn debyg y byddaf yn hir yn y He paradwys- aidd hwn." Merch E. Lewis, Tanyfynwent, Dolgellau, oedd ei briod, ac anrhegwyd ef a rhodd hardd ar ddydd eibriodasgan ei frodyr Cymreigyddol. Bu iddynt bedwar o blant; bu J. Ellis Jones, sef Cawrdaf, farw yn 53 oed. Pan oeid ei briod wrth ei glaf wely, ac yn canfod arwyddion cyfnewidiad arno, hi a dorodd i wylo yn dorcalonus; yntau a ymaflodd yn ei llaw, a dywedodd, "Nac wylwch, fy mhriod anwyl, oni wyddoch chwi fod Duw yn Dad i'r amddifaid, a Barnwr y gweddwon1? Ymddiried- wch ynddo, yr wyf n'n myned i wlad well." Ys dywedai Caledfryn fod rhan olaf A well y Bardd- Gristion mawr yna yn ormod i natur i w ddal, pa faint mwy y geiriau toddedig ar ganu yn iaeli i'r "byd drwg preaenon" Mae'n amlwg oddiwrth ei waith ei fod yn mawrhau natur, yn ei deall, ac yn meddu Haw gelfydd i'w darlunio. Ymddengya mai Rowland Rowlands (Ionovon) a benodwyd yn Fardd i'r gymdeithas ar ol Cawrdaf. Yr oedd wedi gwaaanaethn y swyad o Berorydd cyn hyny. Perthynai Mr Jones (Idrisyn), C. Jones, Rowland Hughes (gweinidog a fu yn enwog a phoblogaidd fel pregethwr Wesleyaidd) i'r gymdeithas, ac eraill a ddeuant eto dan sylw yn y llythyr nesaf, neu yr un dilynol. (l'w bar hew.) Awdl, Hiraoth y Cymro am ei wlad.

SEFYLL ALLAN YN CHWAREL TALSARN.

OYNRYCHIOLAETH MEIRIONYDD,

Advertising