Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

---LLOFRUDDIAETH OFNADWY.1

News
Cite
Share

LLOFRUDDIAETH OFNADWY. 1 Cymerodd y llofruddiaeth ydym yn cyfeirio ati le yn Gateshead, ger Newcrstle-on-Tyne. Ymddengys fod yno hen wr o'r enw John Lodge yn byw, yr hwn oedd yn ddibriod, ty yr hwn a gedwid gan ei chwaer; yr hon oedd yn henach nag ef. I bob ymddangosiad, yr oedd- ynt mewn amgylchiadau tra chysurus, ac yn byw yu hynod ddedwydd. Yroedd eu hanedd- dy yn nghanol brick yard, yn yr hon y gweithiai y rhagddywededig John Lodge. Yn foreu iawn dydd Sadwrn diweddaf, aeth heddgeidwad ac un o'r gwylwyr drwy y lie, heb feddwl fod un. rhyw beth allan o le wedi digwydd; ond yn ddi- symwth, daethant o hyd i ddynes yn ei heistedd. Cawsant allan fod archoll dwfn yn ei gwddf, o'r hwn y llifai gwaed; yr oedd y tir oddiamgylch iddi hefyd wedi ei liwio a gwaed; yr oedd yn fyw, ond yn rhy wan i siarad gair. Nid oedd dim am dani ond ei chrys nos, yn nghyda phais. Cariwyd hi i'r ty mor fuan ag yr oedd ddichon- adwy, pryd y cawsant olygfa waeth fyth. Yno, ar ei gefn y gorweddai John Lodge, brawd y ddynes anffortunus, yn ei waed yn hollol farw. Yr oedd wedi tori ei wddf o glust i glust, a'r lie yn fwy tebyg i gigydd-dy na dim arall. Amneid- iodd y ddynes yn wanaidd a'i Haw, mai ei brawd marw oedd wedi bod yn ei harcholli. Galwyd meddyg yno ar fyrder; ond dywedai efe nad oedd un gobaith am fywyd y ddynes, am fod y "corn gwynt" (ivindpipe) wedi ei dori. Oedran y llofrudd ydoedd 64 mlwydd, a'i chwaer yn ddwy fiwydd hynach. Ymae y dirgelwch mwyaf yn amgylchynu yramgylchiad poenus hwn. I bob tebygolrw ydd, yr oedd y ddynes wedi myned i'w gwely, pan yr amcanodd ei brawd ei lladd, ac yn ei dychryn y rhedodd allan o'r tf, yntau, gan feddwl ei bod wedi marw, a roddodd derfyn ar ei fywyd ei hun.

MESUR Y CLADDFEYDD.

YMGOM DAN BONT PENTRE LLAN-MAWDDACH.

DOLGELLAU.,:.'¡

DYNLADDIAD YN AGOS I GAEEDYDD.

TWRCI A'I CHREFYDD- I, i.