Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Yn wen fel eira ar ei chadair-fraich Eisteddai'r eneth anwyl, dlos, Corinne! T l\Iae'r llygaid hardd fu'n swyno llawer un Yn awr yn pylu yn yr angeu oer; Y gwyneb welid yn farddoniaeth fyw Sy'n gwywo'n araf, parod yw i'r bedd! Y rudd fu gynt yn sedd i'r rhosyn coch, Sydd wen fel alabaster, O! Corinne, Mae filam dy oes ar ddiffodd, gariad%u! Mae'th ysbryd fel yn trwsio'i aden aur Er hedfan tua'r nefoedd at ei Dduw! Erbyn hyn mae hi yn nghyngerdd yr angel- ioo, byth yn iachl By J y cy fnewidiadau a'r hiraeth yw ein byd oi; er ein dadwrdd byddwn yn gwybod beth yw byw mewn goror anfarwol yn o fuan! Fel y canai y bardd John Malcolm-, geill pob bod daearol furmur,- "And now I give the parting kiss, And wave the parting hand, My passing spirit on the wing To seek the distant land, Ye loved ones of my heart, with whom I may no longer dwell, And thou green earth, with all thy streatHS Woods, songs, and flowers, Farewell!" Tymfaestlog iawn yw bi yn para tuag anedd St. Sfcephati 0 hydj yn wlr, yr oedd awydd ar fy iighalon i dara^fr clust Benjamin Dafydd Israel a'r fifon goile'ii g'ref ctedd yn fy llaw un noson ar ol agorlsid y Senedd; ac oni buasai mai ei chael fel Christmas box; a wnaethum, nid can' milldir o Ddolgellau ddlvreddf 1877, ac ofn arnaf iddi hi dorr, fe'i cawriai hi nes buasai ei gern Iuddewaidd ef yn twymo! Dyna lie yr oedd y London mobs yn bloeddio Hwr bwre! Yn ol etiquette y Torïaid wrth ganfod Ben Dizz yn camu i balas Westmin ster, Gladstone yn d'od ar ei ol, ond dyna lie yr oedd y naclroecJd yn hisian ar ei fIlEr gwaethaf y Tories yggemllyd, Gladstone yw dyn y bobl. Pe buasai efe yn gatptGn at fwrdd yr agerlong seneddol, ni fuasai un diferyn o waed wedi ei golli ar diroedd Twrci! Efallai cyn hir y caiff y cowardiaid haner-pan hyny tua siroedd Caerfyrddin a Chaernarfon, a hwythau yn Anghydffurfwyr yn rhoddi eu votes, er fod y ballot ganddynt wrth law, i'r Toriaid; cant deimlo efallai, ac wylo dagrau calon cyn pen blwyddyn ar fflamau rhyfel yn Nghymru! Mae Disraeli, drwy anfon y British fleet i'r Dardanelles, Q edi tori y 'Treaty of Paris, 1856/ ac fel am dynu Rwssia allan i ryfel drwy ei dirmygu, neu am wneud iddi ddychrynu, ond y mae eithaf gwaed yn. rhedeg drwy galon y Czar, a gall cabinet Torïai id Lloegr gael eto ddigon o amser i edifarhau am eu annhrefnusrwydd a'u cyndynrwydd! Beth ddywedai Toriaid Cymru pe gwelent rengoedd Rwssia a Thwrci yn ymladd wrth ei hochr, yn marchio at eu palasdai, gan, eu gwneud yn wenfflam, a gwaed yo fentyll cochion am ysgwyddau moelydd Cymru, a'r Tywi yn dryfrith o laddedigion, y Thames fel gwaed, a Llundain ar dan! Mae yn dra thebyg yr arweinir y wlad hon gan Disraeli a'i gabinet i ganol trobwll cyn pen haner blwyddyn i ddyfod. Tywyll yw y dyfodol. Dyna effaith rhoddi pleidleisiau i'r Tories yo lie i'r Liberals yn yr etholiad diweddaf, pan oedd cydwybod wedi ei serio, a chrefydd yn ngwaelod poced ami i hen amaethwr Oymreig! Dydd Sul a dydd LIun, Chwef. 10 a'r 11 eg, 1878, agorwyd capelnewydd Siloh, Glandwr, ger Abertawe. Cymerwyd rhan yn y cyfar- fodydd gan y Parchn. W. Rees, D.D., (Hiraethog), T. Rees, D. D., Abertawe; J. Thomas, D.D., Liverpool; R. Thomas, Han- over, Mynwy; D. Saunders, (M.C.), ae. Abel J. Parry, (B.) Dechreuwyd yr achos yn Si'oh yn 1822. Gosodwyd careg sylfaen y capel hwn i lawr yn mis Gorph. 1876, gan VI. Thomas, Ysw., Lin; y mae yn awr wedi ei orphen, a'r gost yn £5,500, o hyn y mae dros X2000 wedi eu casglu ya barod, Nos Fawrth, bu Eterber, Caernarfon, yn darlithio yn nghapel y Parch. R. T. Howell ar 'Livingstone.' Y dydd canlynol, pregethodd yn Saesonaeg yn Glandwr i gynulleidfaoedd mawrion. Nos lau, cafwyd cyfarfod ar- dderchog o dan lywyddiaeth yr Anrhydeddus H. H. Vivian, Ysw., A.S. Cafwyd araeth gampus ganddo. Ceir fod yr achos yn flodeuog iawn yn Glandwr, o dan weinidog- aeth y Parch. R. Thomas (diweddar o Bethania, Ffestiniog), aed rhag ei flaen. Bydd Arthur yn o fuan yn ymweled a, Chernyw, Dyfneint, Bath, Taunton, &c. Cofion fyrdd at bawb o ddarllenwyr y DYDD drwy Gymru, Lloegr, a Thrawsfynydd, yr bwn le sydd erbyn hyn allan o'r byd hefo Llanrwsti Yr eiddocb, &c ARTHUR Y FORD GRON.

y 213309.

AMAETHYDDIAETH.