Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y CYNWYSIAD. ...-

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

■rl iin^ ————'—————————————————— niii i!' 7 « Bore Gwener diweddaf, ceislodd clerigwr o'r enw Dodwell am fywyd Meistr y Rhol. iau, fel yr oedd efe yn myned i'r Llys yn Chancery-lane, drwy danio llawddryll ato. Cymerwyd y troseddwr i fyay yn ddiatreg, ac yn hwyrach ar y dydd dygwyd ef gerbron Llya yr Heddgeidwaid yn Bow-st, dan y cyhuddiad o danio llawddryll at Feistr y Rholiau, gyda'r amcan o'i amddifadu o'i fyw- yd, neu ynte ei niweidio yn gorfforol. Ar- chwiliwyd muriau ac amgylchoedd Llys y Rholiau, gyda'r amean o gael allan i sicrwydd pa un a ydoedd y llawddryll wedi ei lwytho. Ar waith Syr George Jessel yn cymeryd ei eisteddle, llongyfarchwyd ef gan Mr. Rox- burgh, Q.C., ar ran y Bar, oblegid ei ddiang- fa. Mewn atebiad, dywedai ei arglwyddiaeth fod ganddo bob rhexwm dros gredu fod y dyn a wnaeth y fath ymgais am ei fywyd yn wall- gof. Yr oedd efe wedi dwyn petition of right gerbron yr Is-ganghellydd Malins dro yn ol, yr hwn a wrthodwyd. Gwnaed apeliad eil- waith, a thaflwyd ef heibio pan yr oedd Syr George ar y fainc. Byth er hyny, yr oedd y dyn yn bresenol yn y Llys Apeliadol bob di wrnod cynygiol, ac ar y dydd diweddaf, byg ythiodd ei Arglwyddiaeth ei symud onid eis- teddai i lawr; ac nid oedd amheuaeth ar ei feddwl nad dyna a barodd iddo wneud y fath ymgais am ei fywyd.

[No title]