Hide Articles List

4 articles on this Page

Krtogirtrton Cgmreig. j

News
Cite
Share

Krtogirtrton Cgmreig. j U!- Y GOGLEDD. Dirwywyd John Lloyd,) Mwrog St. Llan- fwrog, gan ynadon Ruthyn, ddydd Llun, i ddwy bunt, am "binsio yn ddu" freichiau Mrs. Catherine Owen, Lle\r Coch, Ruthin. Yn ystod y pedwar diwrnod ar ddeg yn diweddu Badwrn cyn y diweddaf, yr oedd cyfanawm y marwolaethau yn Nghaernarfon, allan o boblogaeth o yn agos i ddeng mil, yn chwech, o'r rhai yr oedd dan yn anamserol. Yr oedd y genedigaethau yn bymtheg. Cynaliadd Dr. Pierce, Dinbych, drenghol iad ar y 6ed cyfiaol yn ngorsaf Llandulas, ar gorff Charles Green, yr hwn a laddwyd y dydd arall drwy gael ergyd gan buffer un o'r truciau. Dychwelwyd rheithfarn, "Lladd- wyd yn ddamweinioL" Y Sadwin cyn y diweddaf rhoddodd Meiutri M. a J. Roberts, Steam Mills, Porth- madoc, a hyriy heb unrhyw apeliad oddiwrth eu gweitlfwyr, haner diwrnod o holiday iddjwtâÂ¥~mae y cyfnewidiad hwn i barhau bob S-idwrn o hyn allan; ac y inae yr ym- ddygiad yn sicr o fod yn tilyngu efelychiad hoi feiatrj y wlad. Pawb a'i fys lie bo'i ddolur.âYmddangos- odd yr hysbysiad a ganlyn yn y Cambrian New., am y 13eg eyfisol:Genedigaeth. Dydd Iau diweddaf, Mrs. Barmouth, Meir- ionydd, ar ryw fath o newyddiadur." Lladdwyd dau Idwr yn nglofa Bronwylfa, gerllaw Wyddgrug, dydd Gwener cyn y di- weddaf, drwy i swm mawr o lo syrthio arnynt pan wrth eu gorchwyl. Eu henwau ydoedd Robert Price a Robert Humphreys. Bu farw y blaenaf cyu gallu ei ryddhau, a'r olaf yn mhen pedair awr ar ol cyrhaedd adref. Cyhuddwyd Ann Fox, ar y 9fed cyfisol, gerbron ynadon y Bala, gan yr Heddgeidwad Evans, am ledaenu arian drwg. Caniatawyd moichiati-ei hun am £ 40, ac arall am £.0. Yr oedd ar ysgrifenydd yr ynadon eisieu amser i ohebu a chyfreithiwr y M int. Cynaliwyd trengholiad yr wythnoa ddi- weddatyn Llanrwst, ar gorff William Roberts, 67oed, hen feddwyn. Dychwelwyd rheith. farn i'r perwyl fod y "trengedig, oblegid ei fod o gyfansoddiad pydredig, wedi prysuro ei farwolaeth trwy yted i ormodedd." Pa hyd y goddef ein deddf wneuthurwyr i ddeiliaid ei Mawrhydi gyflawni hunanladdiad yn y dull hWllt Bu dan lettywr, yn galw eu hunain yn beirianwyr, yn cytiawni ychydig ladradaeth ar eu eyfrifoldeb eu bunain yn Dolyddelen yr wythnoa ddiweddaf. Yr oeddynt yn aros yn ngwesty Castell Elen. Gwnaethant eu tfordd, ar now Sabbath, i'r ddwy ystafel) uchafyn y ty, toiasaut bar o gloau, a rhedas- antymaith gyda'r arian. Hysbyswyd yr hedd- geidwad o'r amgylchiad, a dilynwyd y dynion i Ffestiniog, He y daliwyd hwy pan ar y weithred o fyned i mewn i gerbyd y rheil- ffordd. Dychwelwyd hwy I Bettwysycoed, > gan eu cloi i tyuy am y noson yn ngorsaf yr heddgeidwaid. Cybuddid dau frawd o Yard Nantlle, gerbron ynadon Caernarfon, o sarhau person arall; a chan fod hwn yn ail gyhuddiad yn eu herbyn am yr un trosedd, edrychai yr yn- adon ar yr achos dipyn yn ddifrifol. Rhodd- wyd ar ddewisiad eu tad, naill ai iddo ef fflangellu y bechgyn yn mhresenoldeb yr heddgeidwad, neu ynte ganiatau iddynt fyned i'r carchar i gael eu fflangellu yno gan un o'r warders. Dewiswyd y blaenaf. Deallwn fod ein brodyr j Bedyddwyr wedi goaod eu llygaid ar Lanfairfechan fel mangre r. amddifad o ddigonedd o freintiau crefyddol, ac y bwriadant osod i lawr yno yn fuan gapel haiarn perthynol i'r enwad. Gwerthodd Dr. John R. Hughes, o Ddinbych, dros ei fam, dir amaethyddol ar ffordd Dyserth, gerllaw Rhyl, yn ol 500p. yr erw. Prynodd Mr. Joseph EvanlC, Haydock Grange, swydd Lancaster, werth 8,000p.

Y DEHEUDIR.

HARLECH.

COLEG CAERFYRDDIN.