Hide Articles List

6 articles on this Page

TWNEL DAN Y MOR.

News
Cite
Share

TWNEL DAN Y MOR. Y mae cwmni o Ffrancod a SaesoM wedi penderfynu ynagymeryd a'r anturiaeth o gloddio twnel dan y culfor, rhwng y ddwy wlad, mewn trefn i agor tramwyfao Brydain i Gyfandir Ewrop, heb beryglon morwriaeth; ac yn awr gallwn hysbysu fod y gwaith mawr wedi ei ddechreu. Dywed hen ddiareb mai "Nawparth gwaith yw ei ddecereu;" ond pa fodd bynag am hyny, bydd yn Ilawenydd i'r boll fyd ddeall fod yr anturiaeth fitwr wedi ei dechreu mewn gwirionedd. Mae lied y Sianel Brydemig, rbwng Dover a Lanqnette yn 21 o filltiroedd; ac yn ystod y rhan helaethaf o'r flwyddyn, bydd yno for tymest- log a pheryglus. Collwyd llawer 0 fywydall ar wahanot adegaa wrth groesi o Y nys Brydain i'r Cyfandir; ac mae y m6r yn anbwylusdod mawr i fasnach Ewrop. Dengys daiareg fod Prydain mewn cyfnod boreu, yn rban yr Cyfandir, ac i'r sianel gael ei hagor drwy aruthrol gynhvrfiadau natur, pryd y cysylltwyd Mor y Gogledd gyda'r Mor]Werydd. Bu daearegwyr a naturiaethwyr yn ar- chwifio gwaelod y m6r yn hynod o fanwl rhwng y ddwy wlad, dros bellder mawr bob ochr i'r twnel; ac mor bell ag y gellir cael allan, bernir fod calch faen, raarm, neu siocs yn rhedeg dan y radr o Loegr i Ffrainc. Mae y graig farm mewn cyflawnder tnawr ar y ddwy ocnr, a bernir ei bod yn un corff cyfan yr holl ffordd. Wrth blymio i waelod y m6r bob (leg Hath, o'r naill lan i'r llall, metbwyd a chanfod bolltau ua thyllau dyfn- ion; ac os ydyw y graig yn gyfan, dihoilt a didvllau, sicrheir llwyddiant yr anturiaeth. Rhoddir prawf yn awr ar natur y graig ar ochr Ffrainc, drwy gloddio siafft i'r dyfnder o bedwar canto droedfeddi; ae os yrnddengys pob peth yo ffafriol, eir yn mlaen gyda'r anturiaeth yn ddioed. Mae yn dra araheus a brofa y graig siocs yn ddidyllau, yr holl ffordd; ac y mae yn debygol hefyd fod creig- iau catedion o ithfaen, os nad callestr mewn manau, a thywod gwyllt hefyd. Byddant yn alluog i dori yn dra chyflym drwy y graig siocs, gydag offerynau tyllu yn cael eu gyru ag ager; ond os deuir i dywod, bydd yn ofynol gweithio bwa ceryg uwchben. Credir nad oes perygl y daw dwfr y m6r i lawr drwy agenau, gan y bydd y twnet dros ddau gant o droedfeddi islaw gwaelod y sianel. Os profa yr anturiaeth ar ochr Ffrainc yn addawol, dechreuir y twnel yn ddioed ger Dover, Lloegr, a gweithir felly o'r ddau ben. Bydd yn ofynol gosod y rhifyddegwyr i weithio, er cael allan y cyfeiriad i gloddio y twnel o'r ddwy oeb;, yn y fath fodd fel ag y cyfarfyddant yn union tua chanol y slanel. Nid gwaith di- bwys fydd hwn; ond y m&e perffeitbrwydd mesuroniaeth y fath fel nad oes perygl y gwneir camgymeriad. Pedygwyddai dau ben y twnel gydgyfarfod yn union, anmhosibl fyddai eosod cledrau rbeilffyrdd, heb gostau aruthrol i unioni y fynedfa. Os cwblbeir y twnel hwn, bydd yn fwy dair gwaith na thwnel Mount Ceuis, yr hwyaf ar y ddaear, a ffarfia brif ryfeddod y byd mewn celfyddyd a pheirianwaith. Dengys fawr allu y meddwl dynol, wedi ei ddiwyllio, ei eangu, a'i rymuso, drwy ddylanwad y celfau a'r gwyddorau. Mae gwybodaeth ymarferol a gwyddonol yn myned yn mlaen i oresgyn rhwystrau naturiol, ac i ddwyn deddfau natur yn is-wasanaethgar i ddynoliaeth, er daioni cyffredinol pawb. Edrycher ar yr agerbeiriant, y rheilffyrdd, y gwefrebyr, peirianau argraffu, offerynau amaethyddof, a llaw-weithfaol o amrywiol fathau ydynt oil ya gynyrchion diweddar; a chymbarer hwy a ffrwyth meddyliau yr hil ddynol am filoedd o flynyddoedd yn flaenorol i hyny, tra mai euprifucheigaisoedd Iladd eu gilydd, gor- esgyn y naill y lIall, erlid ac ysbeilio. Mae byn oil i'w briodoli i ddadblygiad athrylith y meddwl dynol, dan ddylanwad addysg elfenol, gelfyddydol a gwyddonol; ac mae y fath addysg yn sylfaeriedig ar ryddid barn, rhyddid ymadrodd, a rhyddid y wasg. Erlidiwyd a chaicharwyd prif ddiwygwyr celfyddydol a gwyddonol yr oesau, megys Gralileo, Copernicus, Bacon ac eraill, gan grach-dduwinyddion un-llygeidiog, rhagfarn- lIyd ac ofergoelus. Rhaid diolch i oleuni yr oes a chynydd gwybodaeth, am ryddid i wneid twnel o Ffrainc i Loegr, pe amgen buasai y Priestcrafft yn atal yr anturiaeth, drwy y twyll-hdniad fod rlyn yn rhyfygu wrth gaisio gwueud gwelliai.t ar waith y Gorachaf. Mae yr hen ysbryd yn fyw eto; ond ni feiddia hyd yw nod y Pab amcana ei I' roddi mewn gweithrediad.

CYLOHWYLGERDDOROL HARLECH.

LLANRWST.

MOSTYN.

MARWOLAETH MRS. REES, ABERTAWE.

SWN RHYFEL.