Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ORICCIETH.

NODION 0 DDINAS MAWDDWY.

News
Cite
Share

NODION 0 DDINAS MAWDDWY. Mae i'r lie hwn, fel pob lie arall, ryw neillduol- ion; ac efallai mai nid anfuddiol fyddai i mi, ar fy ymweliad, sylwi ar rai o honynt. Wrth edrych oddiamgylch i'r dolydd a'r mynyddoedd, gwelaf fod natur ya ei hieuenctyd, ac fel ar ei holl egni yn ceisio dangos mawredda phrydferthwch uwchraddol y greadigaeth. Onid rhyfedd gweled Trebor Mawddwy heb het am ei ben ar lanau dolenog y Ddyfi? Ambell waith, cyfrai ei fysedd, fel pe byddai uu o honynt ar goll; dro arall, safai yn synfyfyriol, a'i olygon i'r llawr, fel pe byddai wedi colli carai ei esgid. Ond wedi holi ei helynt, cefais alkn mai gwneud englyn i'r "Wenol" yr oedd. Gellir dweyd yn ddibetrus mai yn addoldy yr Annibynwyr y ceir y canu cynulleidfaol goreu yn y He hwn—mae yr holl leisiau megys un. Af yn awr i gapel Sion Gorff. Wele'r arweinydd yn yr allor-dyn yn feddianol ar lais mawr ac yswyth; credaf wrth ei arddull feistrolgar ei fod yn gerddor medrus; ond pa 'run, mae'r eneth hon a'r eneth arall yn agor eu safnau wrth eu hamser eu hunain. Y llanc acw hefyd, os wyf yn gweled yn dda trwy y spectol hon, mae dau lyfr yn agore l o'i flaen-tafl olwg frysiog ar y naill a'r llall; ond gan fy mod yn myned yn hen, a'm clyw yn pallu, nis gallaf fod yn siwr pa un ai Alto ai Tenor y mae yn ganu-dywed ysbryd can a chydgordiad nad ydyw Yn cyffiwrdd a'r un o honynt yn briodol. Hefyd, Aed y Solffa o sylw i ffwrdd, A'i goffa heb ei gyffwrdd, Os ydyw o uu rhwystr i rai dori'r geiriau. Pa les rhoddi penill allau os na chaiff sylw? Gellid {tteddwl ar ysgogiadau rhai y gallasent y llyfr hymnau ar dafod leferydd. Moelydre ar goll.-Cynygir gwobr o ddwy wns o 8rtuffi unrhyw berson ryd i amlygrwy-M i'r cyhoedd Yn mha le y gellir canfod y gohebydd talentog hwn. Os ydyw ar oir y rhai byw, deued i Fawddwy cyn gynted ag y gallo; mae pobpeth wedi myned allan o drefn-Syr Edmund Buckley wedi tori yn dipia. Ond y peth gwaethaf o'r cwbl yw, fod y cadeirfardd penigamp o Dy'nybraich yn mya'd i roddi ei holl beirianau barddonol ar auction. Mae'r holl beir— janau mown trefn dda; a chafwyd prawf digonol lawer gwaith o'u cyfaddasrwydd i wueud awdlau, ^wyddau, englynion, u fel byddo'r galwad. ^ae y brif olwyn wedi ei gwarantio gan Cerist jj^rdd i droi yn rhwydd yn y pedwar mesur ar regain. Yr auctioneer fydd Tegwyn, a gallwch fod siwr na fydd dim prynu i fewn o gwbl. SOMEBODY.

iSartitiontaetij.¡

ENGLYNION

BREUDDWYD Y MEDDWYN.

Y LILI.

ILLWYNGWRIL.