Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

- Netogfcinott < £ Tgmmg;.

LLANFACHRETH.

News
Cite
Share

LLANFACHRETH. Darlith.—Traddodwyd darlith yn Siloh nos Wener diweddaf, ar "Martin Luther a'i amser- au," gan y Parch. W. Rees, D.D., Caer. Cadeirydd, y Parch. R. Thomas, Brithdir. Cawsom un o'r darlithiau goreu a glywsom er- ioed. Oadwodd y darlithydd y gynulleidfa i wrando yn astud am ddwy awr a chwarter. Yr oedd yr elw yn myned at ddiddyledu y capel newydd. Gwyl flynyddol y Gymdeithas Gyfeillgar.—Cy- naliodd y gymdeithas uchod ei gwyl flynyddol dydd Llun diweddaf. Gorymdeithiasant drwy y pentref, yn cael eu blaenori gan y Llanfach- reth Brass Band. Ac ar ol bod yn yr eglwys aethant i'r Blue Lion i giniawa. Yn yr hwyr, aethant i Nannau, a rhoddodd J. Vaughan, Ysw., de iddynt hwy a'r Band. Deallwn mai myned yn mlaen a ddarfu'r gymdeithas yn ys- tod y flwyddyn ddiweddaf. Cyfarfod llenyddol y Temlwyr Da.—Cynaliwyd y cyfarfod uchod nos Lun. Llywydd, Mr. D. Jones, goruchwyliwr chwarel W. Griffith, Ysw., Glyn. Enillwyd am adrodd ac ateb gan Mr. W. Thomas, Tyisaf. Enillwyd am y "Casgliad cyflawnaf o ymadroddion ysgrythyrol yn erbyn y ddiod feddwol," gan D. Evans, ieu., Llan. Am y traethawd goreu ar "Y pwysigrwydd i famau ddwyn eu plant i fyny yn Nazareaid," gan Miss J. Price, Corsygarnedd. Am y traeth- awd goreu ar "Y pwysigrwydd o iawn ddefnydd- io, a'r perygl o gamddefnyddio arian," gan Mr. R. Price, Friog, ail, Mr. W. Williams, Bryn- coch. Dadganwwyd yn ystod y cyfarfod gan y Band, Mr. L. Evans, ac eraill.—CYMRO.

ARTHOG.

LLANDEGLA-YN-IAL.

BWLCHGWYN, GER WREXHAM.

FFESTINIOG.

ILLWYNGWRIL.