Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

TY YB ARGLWYDDI, dydd Mawrth.

TY Y oyffredin, dydd Mercher.

TY YR ARGLWYDDI, dydd Iau.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y ARGLWYDDI, dydd Gwener.

TY Y CYFFHEDIN.

.TY Yr ARGLWYDDI, dydd Llun.

TY Y CYFFREDHF.

Y CRONICL A'R OGOFAU.

News
Cite
Share

iaw o gael yr enw priodol, ond rhoddi mantais i'r gwrthwynebydd i ddal ar fan gwan dyn, ei dynu oddiwrth y pwnc, son am hil ac ach. Gwyddys yn awr am Bismark; gan hyny, allan a hi, os oes rhywbeth. Dichon fod. Y mae pobl eraill yn cadw count dyn yn well nag ef ei hun; ac yn well yn ami, nag y maent yn cadw eu eyfrifon eu hunain. Tuag at i bwnc gael chwareu teg, yr y'm yn dadleu mai ffugenw sydd oreu, a hyny am y dylni, rhagfarn a phleidiaeth sydd yn y byd. Dyna Sion Owen, pe b'ai doctor y bendro yn gwaeddi careg a thwll, dywedai Sion Amen. Pe gwaeddai sant doeth, Haleluia i'r Oen, os na fyddai i fyny a shiboleth Sion, byddai yn ei olwg fel efydd yn seinio. Ffugenw sydd oreu. Y gair nesaf nas gallwn ei basio yn ddisylw yw "teulqt bach yr ogofByddai yn biti malu hwn, y mae mor Groecniyddol, ac mor dlws; iechyd i'r oil o'r "teula bach." Rhyfeddir yn fawr fod "Golygwyr" yn eyhoeddi pethau fel yr ysgrifau dan sylw. Na foed i'r cyhoedd gymer- yd eu dallu gan y Gronicl nes profi ei haeriad- au. Paham y beiir yn fwy am ollwng ysgrifau miniog trwy swyddfaau y DYDD a'r Herald, mwy na swyddfa'r Ddraig GocM Nid yw y Gronicl wedi profi fod yr ysgrifau y eyfeiria atynt wedi tori dim yn ormod-ddim ond taflu hints a haeriadau. Dymunir eto am brofion teg os gwelwch yn dda; nid hints. Diweddir llith y Gronicl trwy y geiriau gor- uchel hyn, "0 wasg, wasg, wasg, clyw air yr Arglwydd, y mae dy ffugiaeth yn mron wedi dy wneud yn brif felldith ein gwlad." Y pwnc yn awr yw, pa Arglwydd? Os Arglwydd Dduw Israel sydd yn dweyd yn erbyn ffugenwau, ac yn erbyn ysgrifau miniog i sathru ar fodiau neb, dylid gwrandaw yn ddyfal. Os arglwydd y fawnog aydd yn dweyd, dywedwn fod genym gystal hawl i farnu ag yntau. Ond credu yr ydym mai'r cyntaf, oblegid bu'r Croniel yn ddyfal trwy y blynyddau yn dynoethi twyll, gormes, ac anghyfiawnder; yr olaf yn siarad yn gryf am ryddid y wasg i ddweyd yn groew yn erbyn caethiwed, tra-arglwyddiaeth, a ffafrau dynol. Yn awr, os y cyntaf a feddylir, pa Ie yn ngair yr Arglwydd y siaredir am beidio arfer ffugenw, os byddid yn barnu hyny yn fwy manteisiol er i bwnc neu achos gael chwareu teg? Neu ynte, pa frawddeg yn y llythyrau ar y Pwyllgor Mawr sydd yn gondemniedig yn ngwyneb Beibl? Dechreua y Gronicl ei lith fel hyn:- Ystyriaf fod gan un sydd wedi sylwi, ac heb fod mewn pwyllgor coleg erioed, beth eymhwysder i ysgrifenu ar y pwnc, yn enwedig gan ei fod yn foddlon i wneud hyny, nid o'r ogof, ond o ben yWyddfa." Yr y'm yn barod iawn i ddweyd fod peth, a llawer o gymhwysder yn ngolygydd y Gronicl i ysgrifenu o ben y Wyddfa, ie, o ben yr Himalaya hefyd; ond gwyr pawb y buasai ynddo fwy o gymhwysder pe buasai wedi bod yn y Pwyllgorau yn gweled doethineb a ffolineb eu mynychwyr. Nis gellir dweyd pa flas sydd ar y oawl wrth edrych arno, yn gystal ag wrth ei brofi. Cig gwydd mewn reality i Sion Wmffre, nid mewn son am dano. Pe gwelsech chwi eich hun, a phe teimlasech a/ch dwylaw eich hun, buasai eich tystiolaeth yn gryfach. Sonia'r Cronicl lawer o draw am gy- nadleddau cymanfaoedd, &c.; gallai na fu mewn llawer o'r rhai hyny. Tystiolaeth trwy glywed, ailraddol ydyw. Sonir Ilawer am y naill yn codi'r llall, ac yn cau drysau yn erbyn arall. Buom ni mewn rhai cynadleddau, ni welsom mo hyoy. Sonir fod J. R. yn y back ground. Nid Wyf yn meddwl i ddim dau erioed gyngreirio i'w gadw felly; os do, dylasid eu spedu. Clyw- som dipyn o gynhwrf ar ol cyfarfod Treffynon -y Croniel yn ffrochi o achos rhyw gamwri. Yr oeddym yn gofyn i gyfaill pa le yr" oedd J- H. yno? Ateb, "Wrth y%wal." That is too bad! J. R. wrth y wal, ac yn eadw ei hun felly, ac yn grwgnach, dyna dro chwithig. J. R. yn cael ei gau allan; ni oddefir hyny, ni welsom hyny a neb. Dylai pawb adnabod ei le mewn pethau fel hyn, fel yr asyn breseb ei berch- enog. Felly y gwelais hit. Y rhai sydd yn ^yiied yn mlaen yw y rhai hyny sydd ar y Waen; a da yw fod rhai yn myned, nad yw Pawb wrth y gwaliau. floffem weled J. R. yn Mhwyllgor Medi yn dyn wrth gyrn yr allor. Yr y'm yn ei wahodd yn y modd cynhesaf. I Ei gyfaill gwirioneddol, KENEALLY. 1ST iseneTjU — Ty YR ARGLWYDDf, dydd Mawrth. Rhoddwyd y cydsyniad brenhinol, drwy ddirprwyaeth, i amryw fan-fesurau; a darllen- wyd mesur Creuloadeb at Anifeiliaid y drydedd waith.