Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
TY YB ARGLWYDDI, dydd Mawrth.
News
Cite
Share
TY YB ARGLWYDDI, dydd Mawrth. Lloegr a Twrci. Gofynodd Mr. O'Reilly a oedd sail i'r adroddiadau a ymddangosodd mewn newyddiadur Hungaraidd, fod Jlongau Prydeinig wedi olanio yn Klek swm mawr o ddefnyddiau rhyfel ac arian i'r milwyr Tyrcaidd; ac hefyd, adroddiad y Moscow Gazette, fod Lloegr yn cyflenwi y catrodau Tyrcaidd yn Hersegovina ag arfau ac arian. Atebodd Canghellydd y Trysorlys yr ymofyn- iadau yn nacaol; a sicrhaodd fod Llywodr- aeth ei Mawrhydi wedi ymgadw yn berffaith ganolog, a'i bod yn hyderu y mabwysiedid yr un drefn gan alluoedd eraill. Ein perthynas â China. Cynygiodd Mr. H. Richard benderfyniad yn amlygu fod y Ty, tra yn gweled natur anfoddhaol ein perth- ynas a China, a'r dymunoldeb o osodein perth- ynas a'r wlad hono mewn cyflwr sefydlog a boddhaol, o'r farn y dylai y cyiundeb pres- enol rhwng y ddwy wlad gael ei ad-drefnu, fel ag i hyrwyddo buddianau trafnidiaeth gyfreithlon, ac i sierhau hawliau cyfiawn y Llywodraeth Chineaidd a'r bobl. Dilynwyd ef gan Mr Stewart, Syr G. Campbell, Syr G. Balfore, Syr Charles Dilke, a Mr Charley. Dywedai Mr Bourke, mewn atebiad fod y Llywodraeth er's hir amser yn barnu y bydd- ai yn fuddiol diwygio y cytundebau hyn; eu bod er's blynyddau mewn cyflafareddiad it galluoedd eraill, a'u bod yn bresenol mewn ymgynghoriad a Ffrainc, Germany, a'r Unol Daleithiau ar y mater. Eu bod wedi pender- fynu, hyd nes y caent ddau neu dri o'r gallu- oedd eraill i gydweithredu a, hwynt, i beidio cyflafareddu a China ar y cwestiwn. Wedi sylwadau pellach gan Syr J. Kennaway, tynwyd y cynygiad yn ol.
TY Y oyffredin, dydd Mercher.
News
Cite
Share
TY Y oyffredin, dydd Mercher. Eiddo Diewyllys. Cynygiodd Mr. Potter ail ddarlleniad y mesur hwn, amcan pa un yw gwneud y gyfraith berthynol i eiddo ansymudol yr un a'r gyfraith gyda golwg ar eiddo personol mewn achos na byddo ewyllys; ac i symud y flaenoriaeth annoeth ac anghyf- iawn a roddir i'r mab hynaf ar y weddw a'r gweddill o'r teulu. Siaradodd amryw aelodau dros ae yn erbyn y'mesuv; a gwrthwynebwyd ef ar ran y Llywodraeth gan y Cyfreithydd Cyffredinol. Ar raniad y Ty, yr oedd dros y cynygiad 175; yn erbyn 210; mwyafrif 35.
TY YR ARGLWYDDI, dydd Iau.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI, dydd Iau. Mynegai Due Richmond a Gordon y byddai i fesur y llongau masnachol gael ei ohirio am wythnos, am fod ganddo amryw welliant- au i'w cynyg. Mewn atebiad i larll Granville, dywedai larll Derby nad ydoedd wedi clywed fod Servia wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Twrci; ond nad oedd ganddo ond yehydig, os dim gobaith y gellid ei atal.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Ail gychwynwyd y ddadli ar fesur Tir- ddaliad yn Iwerddon gan Mr. Law, yr hwn a ddilynwyd gan amryw aelodau eraill. Car- iwyd y ddadl yn mlaen mewn Ty lied deneu; ond pan, tua haner nos, y cyfododd Ardalydd Hartington, llanwyd y meinciau yn lied dda. G wrthwynebai yr Ardalydd y mesur ar y tir, os byddai iddo basio, y gwnaethai. lawer tuag at ansefydlu llwyddiant presenol Iwerddon, tra na feddai unrhyw ansoddau daionus fel ad-daliad. Taflwyd y mesur allan drwy fwyafrif o 234.
TY Y ARGLWYDDI, dydd Gwener.
News
Cite
Share
TY Y ARGLWYDDI, dydd Gwener. Treuliwyd peth o amser y Ty mewn dadl ar gynygiad Archesgob Canterbury, am n bwyllgor detholedig i wneud ymchwiliad i ffyniant arferiadau anghymedrol. Cytunwyd ar y penderfyniad. Darllenwyd mesur y Gaethfasnach yr ail waith.
TY Y CYFFHEDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFHEDIN. Hysbyswyd Syr Ch. Dilke gan Mr. Bourke, nad oedd un gwirionedd, caniibelled ag yr oedd y Llywodraeth yn alluog i sicrhau y flfeithiau, yn yr adswn fod y Grand Duke Vladimir o Rwssia gyda'r fyddin Serviaidd ar y terfynau. Ar y mynediad i bwyllgor, cynygiodd Mr. Butt am benodiad pwyllgor detholedig i wneud ymchwiliad i natur, helaethrwydd, a sail y dymuniad sydd yn mhlith rhan fawr o'r Gwyddelod, am adferu i'r Iwerddon Senedd Wyddelig, gyda gallu i reoli amgylch- iadau mewnol y wlad bono. Yr oedd Mr. Smyth wedi rhoddi gwelliant ar y papur, yr hwn na chaniatai ff urfiau y Ty iddo ei gynyg, yn amlygu mai Horne Rule, fel y deallid ef gan ran helaeth o'r Gwyddelod, ydoedd adferu ei Senedd i'r Iwerddon, gyda'r gallu deddfwrol a'r uchelfraint a gyhoeddid, drwy weithred o eiddo Senedd Prydain Fawr, ei bod wedi ei "sefydlu a'i sicrhau am byth," gan gytundeb cydgenedlaethol 1782. Ar y gosodiad hwn seiliodd yr aelod anrhydeddus araeth o gryn lawer onerth ahyawdledd, nes yn raddol dynu torf o wrandawyr a deimlent ddyddordeb yn y mater. Rhesymai Mr. Butt y pwnc oddiar y tir o gam neu ormes; pan y dymunai Mr. Smith ei darfod oddiar dir uwch o hawl. Gellid, meddai ef, ddiwyg- io neu unioni cam neu ormes, neu ei symud gydag amgylchiadau blynyddau; ond yr oedd hawl yn egwyddor arosol. Nid ydoedd Home Rule, yn ol Mr. Smyth, ond shibbol- aeth j plaid, ac nid llef ymgynulledig conedl. Cymerodd Mr. Jacob Bright ac amryw eraill ran yn y ddadl; ac ar raniad y Ty, yr oedd 291 yn erbyn 61.
.TY Yr ARGLWYDDI, dydd Llun.
News
Cite
Share
TY Yr ARGLWYDDI, dydd Llun. Mewn atebiad i larll Camperdown, cadarn- haodd larll Derby yr adroddiad fod swydd- ogion Rwssiaidd o safle uchel wedi ymgymeryd a gwasanaeth yn y fyddin Serviaidd; ond nad oedd ganddo ef un rheswm dros dybied eu bod wedi gweithredu drwy wybod i'r Llywodraeth Rwssiai^d, llawer llai drwy ei chydsyniad.
TY Y CYFFREDHF.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDHF. Lloeqr a Thwrci. Sylwai Mr. Jenkins fod y newyddiou a dderbyniwyd yn y wlad hon o fewn yr yehydig oriau diweddaf wedi creu pryder mawr; a chan na welai arweinwyr y blaid wrthwynebol yn briodol iddynt weithredu yn uniongyrchol gyda golwg ar hyn, dyjxunai ef fynegu fod awyddfryd cryf yti y wlad am wybod y cwrs fwriada Llywodr- raeth ei Mawrhydi gymeryd mewn perthynas i Twrci—fod y path yn rhesymol, a bod hyny, yn ol y Times, yn berfEaith hysbys yn Vienna. Teimlai Mr. Brigbt yn llawen pe byddai i Mr. Disraeli ei hun fynegu rhywbeth i'r Ty yn nghylch y rhan a chwareuodd Lloegr yn y cyflafareddiad gyda'r Galluoedd Mawrion a Thwrci. Yr oedd ef (Mr. Disraeli) yn gwybod y eyfan, a gallai mewn chwarter awr fynegu yr oil oedd ar y wlad geis- ieu ei wybod. Wrth gofio yr hyn agymerodd le yn 1854, credai Mr. Bright fod gan y Ty hawl i ddal ac i fynegu barn ar y mater. Yn y cyfamser, yn nghanol bloeddiadau uchel, mynegodd yr Aelod anrhydeddus ei farn ei hun, nad oedd y wlad yn awyddus i wario trysorau a gwaed Prydeinig, mewn ymgais i gynorthwyo Twrci i ddarostwng Servia. Wedi i luaws siarad dros ac yn erbyn ymddygiad y Llywodraeth, cynghorai Ardalydd Hartington i beidio parhau y idadi yn h*y, ac anogai Mr. Dis- raeli i roddi y papyrau gerbron mor fuan ag y byddai yn bosibl. W Mesur y Carcharau. Darllenwyd y mesur hwn yr ail waitb. -• — ■■-4
Y CRONICL A'R OGOFAU.
News
Cite
Share
iaw o gael yr enw priodol, ond rhoddi mantais i'r gwrthwynebydd i ddal ar fan gwan dyn, ei dynu oddiwrth y pwnc, son am hil ac ach. Gwyddys yn awr am Bismark; gan hyny, allan a hi, os oes rhywbeth. Dichon fod. Y mae pobl eraill yn cadw count dyn yn well nag ef ei hun; ac yn well yn ami, nag y maent yn cadw eu eyfrifon eu hunain. Tuag at i bwnc gael chwareu teg, yr y'm yn dadleu mai ffugenw sydd oreu, a hyny am y dylni, rhagfarn a phleidiaeth sydd yn y byd. Dyna Sion Owen, pe b'ai doctor y bendro yn gwaeddi careg a thwll, dywedai Sion Amen. Pe gwaeddai sant doeth, Haleluia i'r Oen, os na fyddai i fyny a shiboleth Sion, byddai yn ei olwg fel efydd yn seinio. Ffugenw sydd oreu. Y gair nesaf nas gallwn ei basio yn ddisylw yw "teulqt bach yr ogofByddai yn biti malu hwn, y mae mor Groecniyddol, ac mor dlws; iechyd i'r oil o'r "teula bach." Rhyfeddir yn fawr fod "Golygwyr" yn eyhoeddi pethau fel yr ysgrifau dan sylw. Na foed i'r cyhoedd gymer- yd eu dallu gan y Gronicl nes profi ei haeriad- au. Paham y beiir yn fwy am ollwng ysgrifau miniog trwy swyddfaau y DYDD a'r Herald, mwy na swyddfa'r Ddraig GocM Nid yw y Gronicl wedi profi fod yr ysgrifau y eyfeiria atynt wedi tori dim yn ormod-ddim ond taflu hints a haeriadau. Dymunir eto am brofion teg os gwelwch yn dda; nid hints. Diweddir llith y Gronicl trwy y geiriau gor- uchel hyn, "0 wasg, wasg, wasg, clyw air yr Arglwydd, y mae dy ffugiaeth yn mron wedi dy wneud yn brif felldith ein gwlad." Y pwnc yn awr yw, pa Arglwydd? Os Arglwydd Dduw Israel sydd yn dweyd yn erbyn ffugenwau, ac yn erbyn ysgrifau miniog i sathru ar fodiau neb, dylid gwrandaw yn ddyfal. Os arglwydd y fawnog aydd yn dweyd, dywedwn fod genym gystal hawl i farnu ag yntau. Ond credu yr ydym mai'r cyntaf, oblegid bu'r Croniel yn ddyfal trwy y blynyddau yn dynoethi twyll, gormes, ac anghyfiawnder; yr olaf yn siarad yn gryf am ryddid y wasg i ddweyd yn groew yn erbyn caethiwed, tra-arglwyddiaeth, a ffafrau dynol. Yn awr, os y cyntaf a feddylir, pa Ie yn ngair yr Arglwydd y siaredir am beidio arfer ffugenw, os byddid yn barnu hyny yn fwy manteisiol er i bwnc neu achos gael chwareu teg? Neu ynte, pa frawddeg yn y llythyrau ar y Pwyllgor Mawr sydd yn gondemniedig yn ngwyneb Beibl? Dechreua y Gronicl ei lith fel hyn:- Ystyriaf fod gan un sydd wedi sylwi, ac heb fod mewn pwyllgor coleg erioed, beth eymhwysder i ysgrifenu ar y pwnc, yn enwedig gan ei fod yn foddlon i wneud hyny, nid o'r ogof, ond o ben yWyddfa." Yr y'm yn barod iawn i ddweyd fod peth, a llawer o gymhwysder yn ngolygydd y Gronicl i ysgrifenu o ben y Wyddfa, ie, o ben yr Himalaya hefyd; ond gwyr pawb y buasai ynddo fwy o gymhwysder pe buasai wedi bod yn y Pwyllgorau yn gweled doethineb a ffolineb eu mynychwyr. Nis gellir dweyd pa flas sydd ar y oawl wrth edrych arno, yn gystal ag wrth ei brofi. Cig gwydd mewn reality i Sion Wmffre, nid mewn son am dano. Pe gwelsech chwi eich hun, a phe teimlasech a/ch dwylaw eich hun, buasai eich tystiolaeth yn gryfach. Sonia'r Cronicl lawer o draw am gy- nadleddau cymanfaoedd, &c.; gallai na fu mewn llawer o'r rhai hyny. Tystiolaeth trwy glywed, ailraddol ydyw. Sonir Ilawer am y naill yn codi'r llall, ac yn cau drysau yn erbyn arall. Buom ni mewn rhai cynadleddau, ni welsom mo hyoy. Sonir fod J. R. yn y back ground. Nid Wyf yn meddwl i ddim dau erioed gyngreirio i'w gadw felly; os do, dylasid eu spedu. Clyw- som dipyn o gynhwrf ar ol cyfarfod Treffynon -y Croniel yn ffrochi o achos rhyw gamwri. Yr oeddym yn gofyn i gyfaill pa le yr" oedd J- H. yno? Ateb, "Wrth y%wal." That is too bad! J. R. wrth y wal, ac yn eadw ei hun felly, ac yn grwgnach, dyna dro chwithig. J. R. yn cael ei gau allan; ni oddefir hyny, ni welsom hyny a neb. Dylai pawb adnabod ei le mewn pethau fel hyn, fel yr asyn breseb ei berch- enog. Felly y gwelais hit. Y rhai sydd yn ^yiied yn mlaen yw y rhai hyny sydd ar y Waen; a da yw fod rhai yn myned, nad yw Pawb wrth y gwaliau. floffem weled J. R. yn Mhwyllgor Medi yn dyn wrth gyrn yr allor. Yr y'm yn ei wahodd yn y modd cynhesaf. I Ei gyfaill gwirioneddol, KENEALLY. 1ST iseneTjU — Ty YR ARGLWYDDf, dydd Mawrth. Rhoddwyd y cydsyniad brenhinol, drwy ddirprwyaeth, i amryw fan-fesurau; a darllen- wyd mesur Creuloadeb at Anifeiliaid y drydedd waith.