Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
LLITH EPHRAIM LLWYD.
News
Cite
Share
LLITH EPHRAIM LLWYD. MR' GOL.,— Y mae'n ddrwg genyf eich hyshysu fod fy hoffus briod Ephraim, wedi bod ynlled gwla yr wythnos ddiweddaf, ac felly yn anabl i ysgrifenu ei lith arferol i'r DYDD. Cafodd dri galwyn o bosail triagl neithiwr, a dwy dorth frwd wrth ei draed, ae yr wyf yn gobeithio yn arw (yn sicr felly, os y byddyn fyw ac yn iach), v bydd ganddo druth J ofnadwy yn y DYDD nesaf am wabanol I gymeriadau yn Nghymru; felly byddwch yn J ymarhous hyd hyny, medda Le'rpwl. LOWRl LLWYD.
YR ANERCHIAD
News
Cite
Share
YR ANERCHIAD A draddodwyd gan y Parch. R. Thomas, ( Bala, yn Ngbymanfa Gyffredinol y Meth. odistiaid Calfinaidd yn Abertawe, yr wythnos ddiweddaf. Dywedodd mai hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn bresenol mewn cynadledd onrhyw enwad crefyddol heblaw yr eiddo ei bun, ac yr ydoedd yn teimlo yn lied gartrefol. Yr oeddynt hwy wedi dyfod yno fel cenadon oddiwrth yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig i gyfarch gwell iddynt, ac i ddatgan eu cariad tuag atynt, eu hewyllys da, a'u dynmniad am eu llwyddiant, ac i ddywedyd, dros yr e y Undeb "Duw yn rhwydd i chwi!" Gellid tybied fod rhywbeth gwreiddiol yn en cenad- wri. Ond hen irenadwri ydoedd. Nid oedd dim llawer o wir wreiddiolder ar y ddaear. Nid oedd neb yn wreiddiol ond y Brenin mawr. Rhyw fenthyca oddiwrtho Ef y mae agos bawb. Pan y mae dyn yn meddwl ei fod ar rhyw lwybr newydd, y mae yn gweled 61 traed rbyw bobt eraill oedd wedi myned y ffordd hono o'i flaen. Felly ninau, meddai, rhyw ddynwared y Methodistiaid yr ydym yn y mater hwn. Nid oes ond pur ychydig o nwreiddioldeb yn perthyn i ni- Yn mis Awst diweddaf, pan oedd yr Undeb Cynull- eidfaol Cymreig yn cyfarfod yn Nbreffynoa, fe ddarfu i Fethodistiaid Sir Ffllint "anfon gwyr etholedig o honynt eu hnnain"-dynion o safle yn y Cyfundeb-nid amgen y Parchn. Roger Edwards a John Pugh, a'r cyhoeddwr, Mr. P. M. Evans, i gyfarch gwell i ni, ac i ddymuno llwyddiant ein Hundeb ieuanc. Y mae un tro da yn teilyngu un arall. Penderfynodd y Gynadledd hdno ein hanfon ni ein tri i gyfarch gwell i chwithau, pan gaffem amser cyfaddas, a dyma'r amser eyfaddas wedi dyfod heddyw. Yr ydym yn tnawrhau ein swydd. Y mae yn ymddangos i mi bob amser y dylai fod mwy o ymgynghoriad, a chydymdeimlad, a chydweithrediad rhwng y Methodistiaid Caifinaidd Cymreig a'r Annibynwyr. Fe fu hen ddadleuon rhyngddynt yn nechreu y ganrif hon, yn agos i ddeugain mlynedd yn ol, ar wahanol bynciau, a dadbuon go bigog weitbiau. Yr oedd hyn wedi peri ychydig ddistance rhwng y naill enwad a'r llall. Os aem ni i ddadteu eto, ac yr oedd yn bur debyg y gwnaem, cynghorai ef i ni dori eia hewinedd yn o dda. Gresyn ydoedd gweled dau ddyn synwyrol yn tynu gwaed o wyth- ienau y naill y llall, yn rhoi heibio ymresymu, ac yn pardduo eu gilydd. Yr oedd yn bur siwr eu bod hwy fel Annibynwyr yn darllen pob peth oedd wedi ei gyhoeddi genym ni, o 'Saith o Bregethau,' gan Daniel Rowlands, Llangeitho, a'r o wydr/ hyd y petbau olaf a ddaethant o'r wasg. Yr oedd ef wedi darllen dadleuon y ddau Roberts a Jones o Ddinbych, yn fanwl iawn, a llawer gwaith drosodd. Yr oedd wedi darllen y Cymro Gwyllt a'i wrthwynebwyr. Yr oedd wedi darllen y 'Pregethwr a'r Gwrandawr' a'i withwynebwyr, a'r ddadl ar 'N atur Eglwys.' Yr oedd y ddau fu yn dadleu ar hyny eto I yn fyw, ac yr oedd yn disgwyl y byddai y ddau fyw yn bllr hir eto. Yr oedd yn meddwl, wedi darllen y cyfan, y dylasai y ddau enwad gydymdeimlo rnwy a chyd- weithredu mwy a'u gilydd. Yr ydym ni yn awr yn darllen ydadleuon yna (meddai) dan wenu. Y mae yn ymddangos i mi ein bod yn lied agos at ein gilydd o ran ein golyg- iadau ar bynciau mawrion Cristionogaeth. Hwyrach, aieddai, fod mwy o amrywiaeth yn ein plith ni. Ond y mae yr amrywiaeth yn fwy yn y dull o osod pethau allan nag yn nghylch y pethau eu hunain. Y mae pobl ienainc yn hoff o ryw olygiad newydd, ond pan gyfarfyddant ag ystormydd, a phan y byddai raid iddynt ateb gwrthddadleuon, yr oeddynt yn oeri yn raddol, ac yn rhoddi i fyny lawer golygiad byrbwyK a fu ganddynt unwaith, ac yn syrthio i mewn a'r orthodox party, fy naill or ol y llall. Pe pwysech arnom ni fel enwad yn gyffredinol, yr wyf yn siwr y caech ein bod, gyda rhai eithriadau, a'r rhai hyny yn eithriadau personol, ein bod yn credu yn Arfaeth Duw, y Cyfamod Tragwyddol, ac Etholedigaeth Gras. Yr ydym yn credu athrawiaeth y Drindod fel chwitha", ac yn Nwyfoldeb ac Ysbrydoliaeth yr holl Ysgrythyrau. Yr ydym yn credu yn nghynrychioliad Adda, a chwymp a hollol lygredigaeth dynolryw, yn Nghyfraith Dllw a rhwymedigaeth pob dyn i ufuddhau iddi, a'i gyfrifoldeb yn ei gwyneb. Yr ydym yn credu yn mherson y Gwaredwr fel Duw wedi ymddangos yn y cnawd. Yr ydym yn credu atbrawiaeth yr lawn a Meichniaeth Crist dros yr Eglwys, ei fod ef wedi ymrwymo i ddwyn rhifedi rhif y 0 gwlitb, a ser y nefoedd, a tbywod y mor adref yn ddifrycheulyd, a hyny hefyd heb fod un brycheuyn ar orsedd Duw. Yr ydym yn credu fel Ghwithau yn ngwaith yr Ysbryd Glan yn nychweliad pechaduriaid a sanct- eiddiad y saint. Yr ydym yn credu yr un fath yn union yn nghylch Adenedigaeth a Chyfiawnbad, yn ngbytcb parbad y saint mewn saoctaiddrwydd, a'a gogoneddiad gyda'r Arglwydd lesu. Yr ydym o'r un farn yn nghylch tragwyddolgosbedigaeth yr annuwiol. Yr ydym yn llwyr ymwrthod a'r syniad plentynaidd o ddifodiad eneidiau, a'r un modd a'r syniad o adfer y colledigion o ddystryw. Yr ydym yn barnu nas gallai y Duwdod achub neb ar y ddaear heb gael iawn dros eu pechodao. Os gwrthodwn ni yr lawn, yna y mae y Beibl yn dweyd nad oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach. Os ydynt i gael eu hachub o ddistryw, y mae yn rhaid iddynt gael eu hachub heb iawn. Nid oes yr un iawn. Os gellir eu hachub hwy, ynte, heb iawn paham nad ellid achub y ddaear heb iawn; Yna yr oedd Undodiaeth yn ei lie, ac nid* oedd angen am lawn o gwbl. Yr oeddym, fel yna, yn cytono mewn llawer iawn o bethau. Yr oeddym yn agos iawn i'n gilydd. Hwyrach na ddywedem lawer o bethau yn yr un geiriau, ac yn yr un dull, ond dyma ydyw y pethau a ddelir yn gyffredinol genym. Yr oedd ein tadau, meddai, yn Annibynwyr tyn iawn, ac yr ydym ninau wedi ein magu wrth eu traed. Adroddodd hanesyn am ddyn yn gweled y teitl "capel Annibynol" ar daicen rhyw gape], ae yn gofyn pwy oeddynt, a'r ateb a gafodd ydoedd, mai rhai heb feindioj^gr mewn unrhyw gapei arall oeddynt. Nid oedd hyny yn wir gyda golwg ar y tadau. Yr oeddynt hwy yn meindio, ac yn trin materion eu gilydd yn go lym weithiau. Yr oeddynt wedi gweied gwerth undeb. Yr oedd ganddynt eu Cyfar- todydd Chwarterol a'u Cymanfaoedd Sirol, ae yr oedd ganddynt Undeb Cymraeg a Saesneg. Yr oedd hyn yn dangos yn bur blaen eu bod yn mawrhau undeb a chyd- weithrediad yu yr oes hon. Oni bai eu bod yn credu fod eu trefniant hwy yn caniatau v cyfryw undeb, buasent yn ystyried hyny yn rheswm cryf yn erbyn ysgrythyroldeb eu trefniant o gwbl. Ond yroedd ocbr arall i'r cwestiwn. Cyfarfod y Methodistiaid Caifin- aidd oedd y cyfarfod hwn. Yr oedd llawer o Gynulleidfaoliaeth yn pertbyn iddynt hwy. Yr oeddynt hwy yn sefyll rbyw haner y ffordd rhwng yr Henaduriaetbwyr a'r Annibynwyr. Yr oedd y ddwy elfen i fasur ganddynt hwy, a dedwydd oeddynt yn hyny. Nid oeddynt hwy (y cenadon), yn rhwym i'r undeb am ddim a ddywedecit, ond gallent ddweyd eu meddyliau yn rhydd. Yr ydych chwi (meddai) yn arfer bron cymaint o Gynulleidfaoliaeth a ninau. Yr ydych yn derbyn aelodau yn y gynulleidfa ac ar y spot. Yr oeddynt yn codi pregethwyr a blaenoriaid ar y spot. Y mae getoych eich Cyfarfodydd Misol a'ch Cymdeithasfaoedd i wneud tipyn arnynt wedi hyny. Yr ydych yn nes atom ni nag at y Presbyteriaid. Nid oedd yn meddwl y galleon ni gario allan Bresbyter- iaeth Sootland ac America yn Nghymru. Y Kirk Session oedd pob peth ganddynt hwy, a'r bobl yn cael gwneuddim. Ond yrydym ni yn agos iawn at ein gilydd. Yr ydym ni yn neeu tua'r canol o un tu, a chwithau i'r tu arall. Yr oedd yn dda ganddo weled yr hyn oedd yn cymeryd He yn awr. Y mae dynion mawr wedi bod yn eich plith chwi, dynion ag oedd yn deall natur rhyddid. Yn agos i haner can' mlynedd yn ol, yr oedd un o'ch dynion enwocafyn traddodi siars i wein- idog Annibynol mewn capel Annibynol ar ddydd ei urddiad, a'r gwr hwnw oedd y diweddar Barch. Henry Rees. Y mae Dr. Wm. Rees, gynt o Liverpool, ond yn awr o Gaer, yn pregethu llawn mor ami chwi a gyda ninau. Yr wyf finau wedi
GWARIO.
News
Cite
Share
erch llafurwr caled yn gwjsgo ei hun fel pe am ddarbwyllo dynion i gredu mai bonedd- iges ydyw; ond y mae pawb yn canfod y gwahaniaeth rhwng penbwl a physgodyn. Rhoddwch i mi fenyw mewn gwisg lan a' chryno, ac am harddwcb, cura y dyhirenod bostgar hyn yn ddrylliau. Os oes ychydiv sylltau yn ngwedddill gan ryw ferch, pryned ddernyn da o wlanen erbyn y gauaf, yn hytrach na chymeryd ei hudo i brynu def- nyddiau dysglaer a diddefnydd. Prynwch yr hyn sydd yn gweddu i chwi ei wisgo, ac os bydd rhai personau cbwyddedig yn hoffi edrych arnynt, gadewch iddynt gau eu llygaid. mae pob menyw yn dda i ryw beth neu ddim, a geliwch yn hawdd eu barnu wrth eu gwisgoedd. Meddyliwyf ein bod ni oIl yn gweled ein harian yn ymadael yn ddigon rhwydd, ac y mae yn ddrwg eu gweled megys morwynion yn cilio ymaith oddiwrthym, ond y mae yn waeth eu gweled yn myned yn feistr arnom. Dylem chwilio am y rheol euraidd i'w iawn ddefnyddio, ac nid bod yn afradlonwyr, nac yn gybyddion. Yr hwn sydd yn meddu y wraig oreu, yw yr hwn sydd yn cael ei arian wadi eu gwario yn y modd goreu. Gall y gwr eriill, ond y wraig sydd i gynilo. "Menyw ddoeth a adeilada ei thy, ond y ffol a'i tyn ef i lawr a'i dwylaw." Y mae y tywydd mor doddedig, fel nas gallaf siarad ychwaneg yn bresenol, felly terfynaf gyda'r penill henffasiwnol:— "Heven bless the wives, they fill our hives With little bees and honey; They soothe life's shocks, they mend our socks, But don't they spend the money."