Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLITH EPHRAIM LLWYD.

YR ANERCHIAD

GWARIO.

News
Cite
Share

erch llafurwr caled yn gwjsgo ei hun fel pe am ddarbwyllo dynion i gredu mai bonedd- iges ydyw; ond y mae pawb yn canfod y gwahaniaeth rhwng penbwl a physgodyn. Rhoddwch i mi fenyw mewn gwisg lan a' chryno, ac am harddwcb, cura y dyhirenod bostgar hyn yn ddrylliau. Os oes ychydiv sylltau yn ngwedddill gan ryw ferch, pryned ddernyn da o wlanen erbyn y gauaf, yn hytrach na chymeryd ei hudo i brynu def- nyddiau dysglaer a diddefnydd. Prynwch yr hyn sydd yn gweddu i chwi ei wisgo, ac os bydd rhai personau cbwyddedig yn hoffi edrych arnynt, gadewch iddynt gau eu llygaid. mae pob menyw yn dda i ryw beth neu ddim, a geliwch yn hawdd eu barnu wrth eu gwisgoedd. Meddyliwyf ein bod ni oIl yn gweled ein harian yn ymadael yn ddigon rhwydd, ac y mae yn ddrwg eu gweled megys morwynion yn cilio ymaith oddiwrthym, ond y mae yn waeth eu gweled yn myned yn feistr arnom. Dylem chwilio am y rheol euraidd i'w iawn ddefnyddio, ac nid bod yn afradlonwyr, nac yn gybyddion. Yr hwn sydd yn meddu y wraig oreu, yw yr hwn sydd yn cael ei arian wadi eu gwario yn y modd goreu. Gall y gwr eriill, ond y wraig sydd i gynilo. "Menyw ddoeth a adeilada ei thy, ond y ffol a'i tyn ef i lawr a'i dwylaw." Y mae y tywydd mor doddedig, fel nas gallaf siarad ychwaneg yn bresenol, felly terfynaf gyda'r penill henffasiwnol:— "Heven bless the wives, they fill our hives With little bees and honey; They soothe life's shocks, they mend our socks, But don't they spend the money."