Hide Articles List

2 articles on this Page

HANES PLWYF CELYN'N.

News
Cite
Share

HANES PLWYF CELYN'N. X<«U GAN CaLYNIN. PENOD XVII. Y pregetbwyrborenafo ymneillduwyrar waban i'r Quakers, &c., a fuont ynefengylu vn Mhlwyf Celynin, oeddynt y Parchedigion John Ellis o'r Abermaw, William Pugh, LlanShangelypennant, Edward Foulk, Dol- gellau, a Lewis Morris o'r Gefobir. Cawn hefyd fod Mr. Charles o'r Bala yn cyngbori, eadw sfeiat, a holi penodau o'r Beibt, &c, yn Arthog a Llwyngwril, cyn fod gan y Methodistiaid amgen "ty anedd" i gynal eu cyfarfodydd. Yn y Bwlcb, "yr oedd nifer bychan o bobl dylodion yn cydgychwyn g-yda chrefydd, a'r rbai blaenaf yn Llwyn- gwril, a hyny cyn bod moddion cyson yn cael eu cynal yn yr un o'r ddau Ie. I'r Abermaw y byddai yr ycbydig broffeswyr H hyn yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig; yno hefyd, gan amlaf, yr oedd yn rhaid myn'd i wrando pregethu, ac i gymuno, pan ar ddamwain y rhoddid cyfleusdra i hyny trwy ddyfodiad un o'r offeiriaid Methodist- aidd heibio o'r Debeudir. Nid oedd eto ddim pregethwyr yn nes atynt na'r Bala, tua 30 milldir o ffordd! Yr oedd John Ellis, Abermaw, heb ddechreu dros ryw dymor; fellv William Pugh, Edward Foulks, Dolgellau. Yn raddol, cododd y naill arol y Hall o'r pregethwyr a nodwyd, a daeth y pregethu yn amlach* ac, yn fwy cyson," h.y., yn ardaloedd y Bwleh, Llwyngwril, ac Arthog. "Dechreuodd y pregethu yn Llwyngwril tua'r flwyddyn 1787, ac yn Llanegryn yn fuan arol hyny. Fe fu John Ellis o'r Aberuaaw yn y lie cyntaf o'r ddau yn cadw ysgol ddyddiol am dymor, yr hon, gyda'i weiaidogaeth ef, Dafydd Cadwaladr, a Lewis Morris, yn nghydag ambell bregeth- wr mwy dyeithr, a fenditbiwyd i blanu Methodistiaetb yn yr ardaloedd hyn. Fe fu gwedd isel arno am lawer blwyddyn; aeth drosto auaf trwm; ond fe ymddengys fod y gauaf bellach yn cilio, a bod yr amser i ganu ar ddyfod. Mae gwedd siriol a chalonog ar y cynulliadau, a daioni mawr yn cael ei wneud." Yn yr adeg isel a'r grefydd yn Llwyn- gwril, rhoddodd tafarnwr o'r lie fenthyg ei dý i John Ellis o'r Abermaw unwaith i bregethu ynddo! Cyn ei fod wedi dechreu yr oedfa, pwy a ddaeth heibio ond Lewis Morris, erlidgar y pryd hwnw, a'i gwmni. Stormiai yn erbyn yr ysgogiad yn ddychryn- llyd, a dywedai y gwnai ef fwy 0 ddrwg i dy'r tafarnwr gyda golwg a'r wertbu diod ynddo nae agai ef o les wrth ei roddi yn gapel i'r pengryniaid i bregethu ynddo! Trwy fod Lewis Alorris yn yfwr, ac yn perchen dawn i ddenu lluaws i'w ganlyn, ofnodd y tafarnwr golli ei gwsmeriaid, a chan faint y cynhwrf, gorfu ar Mr. Ellis bregethu allan, a rby brin y cafodd lonydd gail Lewis Morr)s a'i s-wmni yno hefyd! Pwy a fuasai yn meddv, i mai yr erlidwr ereulon hwn o Blwyf Ctlyniu a welid yn fuan ar ol hyny yn ymwasgu a r dysgyblion, yn troi yn bregethwr ffyddlon, adnabyddus wrth yr enw, neu deitl uchel "yr hybarch Lewis Morris o'r Gefnhir," ond felly fu! bu helyntionenwadau eraill heblaw y Meth- odistiaid yn dra tbebyg i*#.âeiddynt hwythau ar eu cychwyniad cyntaf yn y plwyf; ond mawr fu ymwared a bendith yr Arglwydd fcly Hwyddodd y rhan Iwyaf o'r ew b), er maint yr erlid a goganu a fu arnynt! Eglwyswyr oedd y rhan fwyaf o drigolion y Friog am hir amser ar ol i Ymneillduaeth ddechreu helaethu lied ei phebyll, ac cstyn cortynau ei phreswylfeydd. Gwir y bu y Parch. Richard Jones, (A.), o'r Tydu, Llwyngwril, yn arfer pregethu mewn tai anedd yn achlysurol yno; ond rhyw nos Sui, wrth weled y gynulleidfa yn myned allan, o un i un i'r traeth i "frocio" trwy .ei bod yn wynt teg, &c., dywedodd wrth y gweddill ei fod ef yn eu rhoddi i fyny i'r cythraul, &c ac ni bu yno byth wed'yn hyd y clywais i! Yn awr, y mae pan y Methodistiaid gapel bardd, ie, yn y Friog, a golwg obeithiol a thra llewyrchus ar yr achos yn eu mysg! Ceir yma hefyd Fedyddwyr, Wesleyaid, ae Annibynwyr, yn perthyn i eglwysi Llwyn- gwril, ac Arthog. Gresyn hefyd na chawsai yr efengylwr o'r Tydu fyw yn ddigon hir i weled y llwvddiant a tu yn yr ardaloedd hyn, ac yn enwedig y Friog, yr hon a draddodasai i Satan, ar ol cymaint o gvn- dynrwydd i gofleidio crefydd a'i dyledswydd- au! Yn Arthog, yr oedd ty o'r enw "Ty Dafydd," i'r hwn, cyn cael capel yn y lie, yr arferaiy Methodistiaid fyned i gadw seiat, pregethu, &c. Yn rhyfedd, nid oedd ond un dyn yn agoa a fedraiddarllen Cymaint a pbenod o'r Beibl mewn dim trefn! Y parson hwn oedd Mr. Robert Richards o'r Fe.rle- fawr. Nid oedd vn perthyn i grefydd ar y pryd, ond gwahoddid ef i ddarllen penod yn nechreu y seiat, yr hyn a wnai yn ewyilysgar, ac elai allan ar ol hyny am Had oedd yn "aelod," chwedl yntau! Modd bynag, wrth barhau i rwbio fel hyn mewn cretydd daeth i'w hoffi, ymunodd a'r brodyr, derbyniwydef yn gyflawn aelod, a gwnaetb un o'r blaenor- iaid goreu a welodd y Methodistiaid yn "Nhy Dafydd," a'r "hen gapel Seion" ar ol hyny! Pwy livyr mewn pa beth daionus y terfyna, hyd yn oed daflleu y Beibi! Priodol hefyd y dywed am grefydd, "Dyrchnfa di hi, a hithau atlh ddyrchafa di, hi a'th ddwg di i anrhydedd os cofleidi hi." Y mae traddod- iad yma mai y Patch. Robert Jones, Rhos lan, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yr efengyl yn Mhlwyf Celynin, ond nid wyf fi eto wedi gweled dim mewn hanes yn cadarnhau hyny, nac yn cael dim i beri i mi amheu fod y Parchedigion John Ellis o'r Abermaw, Edward Foulk, Dolgellau, Lewis Morris, &c., yn mhlith y rbai cyntaf o'r Methodistiaid i efengylu yn Mhlwyf Celynin, fel y sylwais yn barod. Modd bynag, y mae yn Nghelynin saith o leiaf o gapeli i'r gwahanol enwadau o Fedyddwyr, Methodis- tiaid, Wesleyaid, ac Annibynwyr, yn ngbyda thair, ie, bedair os enwir yr "hen Langelynin" o eglwysiyn perthyn i Eglwys Loegr. Ceir yma hefyd dair neu bedair o ysgolion dydd- iolynaiUhaneryn "National,'a'r llall yn School Board. Fel hyn, wrth adolygu, a chymharu Plwyf Celynin wrth a fu, yn wladol a chrefyddol, amlwg yw ei fod wedi cynyddu yn ddirfawr yn y ddwy ystyr. (1'm barhau).

GWARIO.