Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
AT OLYGYDD "Y DYDD."
News
Cite
Share
AT OLYGYDD "Y DYDD." MB. GOL.,— Pan yn ysgrifenu atoch ar dipyn o frys yr wyth- nos ddiweddaf, nid oedlwn yn hollol sier pa un ai ffrwyth pen gwan ynte calon ddrwg oedd yr hys- bysiad insulting a diawdurdod a ymddangosodd yn y DYDD mewn perthynas a mi ac eglwys y Wydd- grug. Dywedai un gweinidog wrthyf mai ffwi neu gnaf oedd wedi ei ysgrifenu. Wfft iddo, meddai un arall, dyna. y peth drodd fwyaf ar fy stumog y flwyddyn yma. Ond, rhyw ffwl gwnaeth o,—ond chred pawb mo hyny. Dywedai un arall, os oedd yn ysgrifenu oddiar amcan da. ei fod yn wrthddrych tosturi; ac hwyrach mai gwialen dda i'w gefn oedd y peth mwyaf gweddus iddo; ond, os oedd yn cael ei gyfrif yn meddu ar synwyr cyffredin, rhaid fod ei amcan yn fradwrus ac iselwael i'r eithaf, a dylai y cyhoedd gael ei enw priodol er barnu drostynt eu hunain am ei amcan. Bellach, bydded hysbys mai gweinidog efertgyl, ac a gyfrifir yn ddyn call, dysgedig, yn byw heb fod dros ddeg milldir o'r Wyddgrug, fu mor garedig (?) ag anfon yr hysbys- iad anwireddus i'r Dydd! Os yw yn bleser i'r gwr parchedig gael poeri am ben eglwys amddifad Bethel, Wyddgrug, pa bleser iddo yw ceisio iselu brawd yn y weinidogaeth na wnaeth ddrwg erioed iddo, ac na chafodd y pleser o'i adnabod? Nid i'r gohebydd hwn yr wyf i ddiolch os na bydd i'm cysylltiadau a phobl fy ngofal, sydd hyd yn hyn wedi bod mor ddymunol, gael eu haflonyddu. Gresyn fod scriblwyr segur, dan gochl ffugenw, yn cael colynu gweinidogion sydd wedi arfer byw mewn heddwch, ar ddalenau newyddiaduron, yr hyn sydd er niwed mawr i gref- ydd. Gobeithio y gofala eich gohebydd yn well am gywirdeb y tro uesaf, a hefyd am deimladau ei frodyr. Yr eiddoch, &c., Llanddeusant. T, ROBERTS.
FFESTINIOG.
News
Cite
Share
FFESTINIOG. CYFLWYNIAD TYSTEB YN YSGOLDY LLWYN YGELL. N03 Wener, 19eg, cynaliodd eyfeillion ac edmyg- wyr Mr. Daniel Williams, yr hwn sydd er's 1{)! mlynedd wedi mawr foddhau ei frodyr a'i gydna- bod fel Scripture Reader yn ein mysg; ac hefyd fel dyn ewyllysgar a medrus gydag achosioa da eraill yn y gymydogaeth, gyfarfod i'w anrhydeddu. Llyw- yddwyd gan y Parch. J. Davies, St. Davids, yr hwn, wedi rhoddi araeth agoriadol gryno a phwrpas- ol, a alwodd ar Gor y Plant i ganu o dan Rrweiniad Rees Williams, Geufron. Chwareuid yr Harmonium gan Benjamin Williams, unig blentyn Mr. Williams, yr hwn sydd nodedig am ei fedrusrwydd, er nad yw ond 10 oed; credwn fod dyfodol dysglaer yn ei arps, os bydd iddo ymroddi fel y mae wedi gwneud hyd yn hyn. Yn nesaf Can gan D. R. Owen, Glanllvn. Yna galwyd ar Mr. Owen Jones, Talsarnau, i anerch y eyfarfod fel cynrychiolydd y Slate Quarries Lodge, yr horia gyflwynodd y swm o Y,2 fel arwydd o'i pharch a'i hymlyniad wrth Mr. Williams am ei wasanaeth diflino a pharod gyda phobpeth yn ngl^n a Ilwyddiant y gyfrinfa uchod. Ton gptn Gor y Plant, wedi hyny galwydar ei frodyr crefyddol, sef Meistri Rowland Williams, Tany- grisiau; John Rowlands, Caeclyd; a Robert Williams, Tanygrisiau; a'r Parch. P.Jenkins, Curad St. Davids. Siaradai y cyfeillion hyn yn nodedig o uchel am Mr. Williams fel crefyddwr, gwladwr, a chymydog; ac yn wir, er mai ychydig a feddylia eich gohebydd o'r Tystebau yma, gallaf ddweyd fod hon wedi disgyn ar berson a'i haeddai os haeddai neb. Yn nesaf, Can gan Eos Teigig, yr hwn a dder- byniodd gymeradwyaeth pawb fel arfer. Wedi hyn aed at y gorchwyl o gyflwyno'r Dysteb, y swm oedd £31 Is. Oc. Yr oedd X23 yn aur, mewn pwrs destlus a chywrain, o waith Mrs. Richards, Llwynygell, yr hwn a gyfltfynwyd gan Mrs. Daries, St. Davids, gan ddweyd y buasai yn falch pe buasai y SWill yn fwy, a'i bod yn dymuno hir oes iddo i'w fwynhau. Hefyd eyflwynodd Mr. R: Owens, Glanllyn, oriawr a chad- wen gwerth XS, ac yn argraffedig arni,— "Presented to Mr. D. Williams, with a purse of gold by his.friends, as a;token of their apprecaitiono his usefulness for ten years at Blaenau Ffestiniog, June, 1874." At Daniel y brawd union—y rhoddir Heddyw serch a chalon ? Ie, bydd y dysteb hon 0 gariad i'n teg wron. Defnyddiol, buddiol lie bo—yw Daniel, Dyn a wna, rhaid coelio, Wrandaw cur, a thosturio, I A'i wir fryd yw gwella'r fro. V Arwydd doeth a rhodd i'w dy—yw'r oriawr Eirian iddo felly; Rhodd y wlad a'i syniad sy, • A iaith enaid wrth hyny. Ogwbntdd. Wedi'r cyflwyniad, galwyd ar y Beirdd canlynol: -Meistri John Rowlands, Trawsfynydd; Thos., Evans, (T. ap Ieuan) o'r un lie; a David Rowlands, (Dewi Ddu o Fawddwy); a Morris Jones, (Meurig Ellen). Llongyfarchodd y brodyr hyn/Mr. Williams trwy arllwys ffrwyth eu hawen yn gawodydd ogan- iiioliaeth a dymuniadau da iddo. Yna cododd Mr. Williams, o dan deimlad dwys, i ddatgan ei ddiolch- garweh i'r cyfeillion oedd wedi bod wrth y gwaith yn gwneud y fath arddangosiad o'u teimladau da tuagato ef oedd mor annheilwng. Dywedai ei fod yn rhoddi y pris uwchaf ar eu caredigrwydd, ac y cai y rhoddion eu cadw yn y lie goreu yn ei dy, jn eriwedig enwau y tanysgrifwyr. Dywedai fod enwau boneddigion a boneddigesau yn mysg y cyfranwyr, ond yn ei fyw nis gallai lai na dweyd ei fod yn rhoddi mwy o bris ar roddion ei gymydogion a'i gydnabod yr oedd yn troi yn eu mysg bob dydd; ac yn enwedig y par hosanau, rhodd yr hen wraig. Yna galwyd ar y Parch. D. Morgan, Penthyn, yr hwn yn ei arabedd arferola sylwodd fod y cyfeillion. oedd wedi siaradyn flaenorol wedi dweyd yr hya oedd ef wedi feddwl ei ddweyd, a barnai ef eu bod yn priodoli gormod i Mr. Williams yn eu hangof o Mrs. Williams,. yr haner arall, a'r un ddylasai gael cyfran helaeth o'r clod a briodolid i Mr. Williams am ei bod wedi gwneud ei rhan yn ogystal ag yntau tuag at iddo gythaedd y safle uchel y mae ynddi yn ngolwg ei frodyr a'i gydnabod yn y gym- ydogaeth. Clywsom lawer yn dweyd y dylasai hyrwyddwyr y dysteb roddi mwy o gyhoeddus- rwydd iddi, am y buasai yn dda ganddynt gael eyfle i daflu eu rhoddion tuag at ei gwneud yn fwy teil- wng o'r derbynydd. Diweddwyd y eyfarfod trwy i'r gynulleidfa gydganu emyn ar yr hen ganfed, ac ymwahanodd y gynulleidfa wedi eu boddhau yn fawr yn y dull syml a cbymedrol y cariwyd y cyfarfod yn miaen o'r dechreu i'r diwedd.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
iPridlrasati. Gor. yr 2il, yn Nghapel yr Annibynwyr Cymreig Pavilion Road, Sloane St. Llundain, gan y Parch. John Davies, Taihirion, trwy drwydded, Mr. David Jeremy, Chemist, Hackney Road, a Miss Mary Jones Owen, Lancaster Gate. Hon dedd y briodas gyntafa gymerodd le vn y capel uchod. Anrhegwyd y par ieuanc & Beibl Teuluaidd hardd, .pryd y gwnaeth Mr. Isaac Williams, Kensington, ychydig sylwadau pwrpasol wrth gyflwyno yr an- rheg dros y frawdoliaeth.
-. Harcjnauoeliti'Br
News
Cite
Share
Harcjnauoeliti'Br YR oedd y tywydd yn ffafriol i'r planhigyn gwenith yn ystod yr wythnos diweddaf. Gwnaeth y cawodydd cynhes a gafwyd, yn cael eu can- lyn gan lewyrchiad dysglaer yr haul, les mawr. Ar y cyfan, y mae rhagolygon y enwd gwenith yn ffafriol. Diffygiol ydyw y cnwd gwair. Y mae sefyllfa pethau ar y Cyfandir yn parhau yn foddhaol. Ni chymerodd un cyfnewidiad o bwys le yn y fasnach mewn gwenith. Ychydig iawn a. werthwyd; ac ni ddangosai neb un duedd i brynu mwy na digon i ddiwallu eu hanghenion presenol. Cyfanswm y gwenith sydd yn awr ar ei daith i'r Deyrnas Gyfunol ydyw 1,008,450 o chwarteri, yr hyn sydd yn llai o 185,000 o chwarteri na'r wythnos ddiweddaf. Rhwng yn awr a diwedd Awst, pan y dysgwylir i'r gwenith newydd gael ei ddwyn i'r farchnad, credir y bydd arnom angen am ddadforiad pellach o ddwy filiwn a chwarter, heblaw y swm sydd yn awr ar ei daith.
IMARCHNAD LLUNDAIN.
News
Cite
Share
MARCHNAD LLUNDAIN. DYDD Llun Diweddaf.—Yr oedd gwenith tramor yn is o unswilty chwarter. Arafy gwerth- ai haidd am o ddeutu y prisiau diweddar. Marw- aidd oedd brag am bsisiau yr wythnos flaenorol. Gostyngodd ceirch 6c. y chwarter. Tueddai Indrawn i ostwng. Ni chymerodd un eyfnewidiad le yn mhrisiau ffa. Cadwodd pys eu prisiau i fyny. Araf y gwerthai blawd am oddeutu y prisiau diweddar.
,Marchnad Le'rpwl.
News
Cite
Share
Marchnad Le'rpwl. DYDD MAWRTH.—Yr oedd tua'r nifer arferol wedi dyfod i'r farchnad. Araf oedd y fasnach mewn gwenith am ostyngiad o Ie. y canpwys ar bob math ar brisiau dydd Gwener diweddaf. Blawd yn dawel, ac yn rhatach. O'r braidd y cedwid at brisiau diweddar am ffa. Pys yn sefydlog. Gostyngodd grawn India 9c. y chwar- ter; eto, nid oedd dim mwy o alw am dano. Yr oedd y tywydd yn bur ddymunol.
(Enfn&oriaett).
News
Cite
Share
gynelir yn nghapel y Pab, a chyfrifir eu bdd yn rhifo cydrhwng Suliau, gwyliau, a dyddiau defod- ol, tua 80 mewn blwy ddyn. Ni bydd cyndreithiad (rehearsal) ond ar y tri i^isereres erbyn yr wythnos santaidd. Ni dderbynir neb i'r cor a fyddo uwch- law 30 oed, a rhaid ei fod yn meddu ar gymeriad eithriadol o dda fel Pabydd a cherddor. Cyfansodd- wyf;yn yr hen oesoedd oedd fwyaf derbyniol o ael- odau o'r cor; ond erbyn hyn, cantorion a lleiswyr da a ofynir, ac y mae yn rhaid iddynt wrth lawer iawn o ymarferion, nid yn unig i feistroli y beroriaeth, ond i orchfygu yr anhawsder cynghaneddol, pa un sydd yn ysgrifenedigmewn rhifnodau. Pan ystyr- ir fod y capel yn cyn wys cronfa o ddim llai na 500 o ddarnau lleisiol, a'r rhai .hyny i'w canu ond un. waith neu ddwy yn ystod y flwyddyn, a hyny, heb barotoad, fe welir fodyr aelodau yn rhagori ar bob cor arall trwy Ewrop o ran ei fedrusrwydd. Y mae yr holl g6r yn gorfod caDu o un Ilyfr, y rhai byraf yn agosaf ato, a'r rhai talaf yn bellaf oddi- wrtho, ac yr oedd llygaid-ddrychau yn wahardded- ig yn. y lle santaidd hwn hyd yn ddiweddar, oddi- eithr i oedran neillduol. Y mae y cerddorwyr, un wrth bob ochr i'r llyfr, swydd pa rai ydyw troi y dalenau, ac y mae hwn yn waith anhawdd, gan eu bodyn fawrion a thrwchus. Ceir fod yno bedwar oatowyr erarlunio cyfansoddiadau newyddion, ac adnewyddu yr hen rai. Y mae llyfr y cor tua llathen o hyd, a'r lied yn gyfartal, ae y mae y uodau yn cael eu lliwio naifl ai yn ddu, coch, neu las, i'w gwahaniaethu oddiwrth y geiriau. Er fod, yr holl weithiau cyn amser Palestirna, wedi myned ar got!, ceir yma y gronfa Babyddol o gerddoriaeth gyfoethocaf yn y byd, sef holl gyfinsoddiadau awdurol. aelodau y capel Pabaidd, a chasgliadol weithiau y prif feistriaid o'r "Neapolitan and Venetian School." Fe geir yma gynyrchion prinion a gwerthfawr o gerddoriaeth ddiweddar, yn nghyda rhagnodiadau yn dwya perthynas a llenyddiaeth gerddorol. Y mae, ymagofiantau, a bywgraffladau, a thybir fod cyfrol ya cael ei rhoddi o'r neilldu bob blwyddyn, er y fl. 1527, yn dwyn perthynas a cherddoriaeth mewn rhyw ystyr neu gilydd. Ond dyna beth sydd yn boenus ilr ymchwilgar, nachaniateir ineb fyned i mewn at y coflyfrau hyn, ond yr arolygwr a'i deulu. Gan fod yr un mor bosibl trosglwyddo Pabydd- iaeth mewn cerddoriaeth, neu seiniau ag ydyw geiriau, dylai Protestaniaid ofalu pa beth a ganant, yn ogystal a pha beth a ddarllenant. Ac y mae yn ofid meddwl fod Pabyddiaeth yn gweithio ei ffordd yn Nghymru mewn diwyg gerddorol. Sill-nodiant.-Y mae J. S. Curwen yn rhoddi hanes am gyfundrefn ganu yn Paris gan un o'r enw M. Bernard. Y mae ganddo dair colofn o fflgyrau, a'r rhai hyny yn cyfansoddi y raddfa dry- donol; ond feelwir yffigyrau wrth yr enwau Sol fa, gyda'r eithriad o ut-eut yn lie do. Y golofn gauol ydyw, 1, 3, 5. Y golofn ddeheuol ydyw, 2, 5, 7, a'r golofn ary llawchwith ydyw, 4, 6,1, sef yr wyth- awd, bad hwyrach mai eglurach fyddent yn Sol-fa -fel hyn, do, mi, so; re, so, ti; a ffa, la, do. Yr oedd gan Mr. Bernard bedwar o wahanol dablau yn y cywair mwyaf, a nifer gyfatebol yn y cywair lleiaf. Yr ydym ninau o'r un farn a'r cyfaill hwnw o Dreiorci, mai cynllun effeithiol ydyw anfon y testynau drwy y post at y llenorion a'r cerddorion; ac yr ydym yn tybied ei fod yn ilawn rhatach na'r dull arferedig. Daeth aairyw gyfansoddiadau i law, a rhai go- hebiaethau hefyd; cant ein sylw y tro nesaf. Yr ydym yn hoffl amrywiaeth barn a golygiadau. Ar y 10fed cynfisol synaliwyd^gwyl gerddorol yn y Crystal Palace, gan 77 o Ysgolion Sabbathol Llundain. Rhifai y plant 5,000, a dygasant gynuH- eidfa o ddim llfti na 20,000, cydrhwng tadau, mamau, ewytbrod, a modrabedd, yn nghyda pherthynasau eraill, i'w gwrando. Yr arweinydd ydoedd Mr. Luthgs Hinton, o dan gyfarwyddyd pa un y canas- ant luaws o donau Americanaidd, ac fe ail alwyd arnynt i ganu "Hark, 'tis the bells." Y mae naw 0 gynulleidfaoedd Henaduriaethol y Werddon wedi derbyn Harmoniums i'w gwasan- aeth crefyddol, er llymed oedd y gwaharddiad yn y fl. 1873. Y mae Dr. Paul Marguard, myfyriwr Ellmynig, pa un oedd yn darparn cerddoriaeth Roegaidd i'r wasg, wedi tnarw; ac ni wyddys bellach pa bryd y dygir allan ei gasgliad llafurfawr at wasanaeth y cyhoedd. Dywed Mr. Gounod fod darllen cerddoriaeth yn beth mor gyffredin yn Germany, fel ag y gall plant ddarllen cerddoriaeth mor rhwydd a'u llyfrau ysgol -nid. yn unig fel cantorion, ond fel cerddorion. Gwnaeth brawf arnynt trwy gyfansoddi Requiem, yn cynwys 16 o symudiadau, pa un, ar ol ei ddarllen unwaith, a ddatganwyd yn gyhoeddus yn Vienna, yn y fath ddull nad oedd modd rhagori arnynt. Yr ydym yn dealt fod Mr. Hullah wedi rhoddi 102 o dystysgrifau yn ei arholiad, mewn cysylltiad a'r "Society or Arts' Examination," a bod 62 o'r llwyddianwyr yn sillnodwyr. Un o'r Sol-ffawyr aeth a'r brif wobr, ac un o'r hen nodwyr aeth a'r ail. E. Y. WILLIAMS.