Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y Wladfa Gymreig.
Y Wladfa Gymreig. Da iawn genym ddeall fod y Gwladfa- ^yr wedi methu byw yn liir heb newydd- iadur wythnosol-y methiant mwyaf yn eu hanes. Y mae eu cnydau gwenith a Phobcynyrch arall yn oarhau ar gynydd cyson, a gobeithiwn y bydd cynydd mawr P, buan yn ysbryd cyhoeddus y preswyl- Wyr. Y cynydd hwn fydd y prawf cadarnafo ffyniaut y Wladfa. Gobeith- iwn hefyd y byddant yn fwy egniol i ^ahodd ymfadwyr o Gymru atynt. Ni "ydd calou mewn dynion i gychwyn tuag Ylao nes'bjddo'r Gwladfawyr eu bunain Yn eu gwabodd yn seichog. Ac oni pliant hyny cyn hir, y maent wedi gweled ddigon o brawf y dylifa yr Ital- ¡aid i mown i'r wlad. Byddai yn resynus gweled yr hen Gymry anturiaetihus yn Cael gwneud dim ond tori'r garw o flaen cenedloedd ereill. Ac ar y Gwladfawyr eu hunain y byddai'r bai am hyny. Der- "yniasom y llythyr canlynol, mewn Haw- Ysgrif dlos anghyffredin, oddiwrth Olyg. Ydd y Dravod:— Swyddfa T Drafod, Chubut Via Buenos Aires. A, GOLYGYTJD. Anwyl Syr,—Yr ydys wedi yn ein plith Gymdeithas Argraffu, gan y r °h yr ail gych wyuir y Br a fod; atheimlay Bwrdd :tn ddiolchgar iawn os byddwch cystal a newid eich Newyddur gwerthfawr. Nid ydym yn 0111 cyfartaledd, ond yn gofyn eich hynawsedd izneithrin ein llenyddiaeth yn ei mabandod.— r eiddoch yn wir, A. MATTHEWS, Gol. nYddyndda genym anfon y CELT iddynt ol y cais gwylaidd uchod a gallwn eu y bydd yr un mor dda genym jierbyn y.Drafod oddiwrthynt hwythau. E'R CELT er ei gychwyniad cyntaf wedi °d yn gyfaill cywir i'r Wladfa, A da nyi?L oil yr arwyddion bywyd a welir 11 eu plith. Anfoner y Drafod yn union- gyreh'I i 01. y CELT, Carmarthen, South ales, Gran Brettania.
— Cadair Llandudno.
— Cadair Llandudno. Y FEIRNIADAETH. ^an fod rhai newyddiaduron yn uchel ^°e^dio mai cyfansoddiadau gwael dder- ^yniwy^ ar destyn y gadair yn Llandud- bryddest fuddugol yn hynod y » rhoddwn yma y feirniadaeth ar Pedair pryddest oreu fel y cyhoeddwyd yn yr Herald Cymraeg :— W ^,Sanlyn oedd grynhodeb o feirniad- ^y^d, Elfet, Alafon, Berw, a'r Soda er Morris Jones ar y cyfan- a anfonwyd i mewn ar destyn isteddfod Llandudno, sef Tu s°ddi V ^en •—Berbyniwyd 16 o gyfan- 11 ar y testyn hwn. Goddefer i d longyfarch y pwyllgor ^wdd6WlS testyn mor gyfoethog. An- ^ybod°ael test^n g"well i fardd sydd yn 01 y gwabaniaetb rhwng creu ac I efelychu. Bu newydd.deb y testyn yn ddychryn i rai, a brawychwyd gwendid ac eiddilwch meddyliolwrth ei goudemnio. Ond testyn gwir ardderchog ydyw, er nas gall neb ond gwir fardd gael agoriad i gyflawnder ei drysorau. Yn ngwyneb hyny, y mae nifer y cystadleuwyr yn llawer lluosocach nad oeddem yn ddys- gwyl. De Profundi#.—Pryddesfc lan, dyner, a swynol iawn ydy w hon, wedi ei rhanu yn ddau lyfr fel hyn 1, y byd hwn-bywyd, cariad, adfyd; 2, y byd tragwyddol- dros yr Iorddonen, tragwyddol wae, gwynfyd. Y mae y llyfr cyntaf yn cael ei wnead i fyny gan mwyaf o delynegion, ac yn dwyn holl nodweddion rhiangerdd. Maent mor dyner ac mor brydferth a briallu'r gwanwyn. Anhawdd darllen rhaio honynt heb golli deigryn. Eto i gyd, methwn weled fod un math o berthynas'rhwng y llyfr cyntaf a'r pwnc. Yn nechrea yr ail lyfr, teimlir fod y materol a'r ysbrydol dipyn yn gymysglyd, ac y mae y bardd yn colli llawer o natur- ioldeb a'i swyn. Ceir yma lawer o ym- drech a rhodres geiriol, mewn arddull sydd i raddau yn chwyddedig. Er hyny, mae ynddi rai llinellau ar groesi yr afon yn gryfion iawn, ac yn peri i iasau o ddychryn ein meddianu wrlh eu darllen. Mae y desgrifiad o annwn yn erchvll, ac yn dra barddonol. Llyfr rhagorol yw yr aiJ, a theimlir ei fod yn oghalon y pwnc. Bernard,—Pryddest wir dda-rhanau o honi yn neillduol felly-yn gwella ae yn cryfhau i'r diwedd. Mae y bardd yn ymresymwrcryf,a'i bvyddest yn gyfoethog o feddwl, a hwnw yn feddwl y testyn. Ceir ynddi rai darnau dipyn yn rhydd- iaethol, ac yn oer. Er hyny, y mae yma lawer o feddwl, ac yn cael ei osod allan yn glir er budd a mantais i gymdeithas. Addolwr.—Fiyddest ddiodl, goeth, di- wastraff, a phur farddonol. Mae y cynllun yn eang, manwl, a chryno, ac wedi ei weithio allan yn gymeradwy iawn. Wedi penod arweiniol fer ar ddirgelwch natur, Rhagluniaetb, a dyn, cawn chwech o benodau trefnus, yn nghyda Iluaws mawr o fan adranau, yr hyn sydd yn dangos yn amlwg fod y bardd ar ei oreu am i ni ddeall yr hyn sydd ganddo mewn Haw. Nid yw yn amcanu darngaddio dim, ac y mae yn hollol lydd o'r cyfrwys- dra hwnw fyn i ni greda fod niwl a chaddug yn amlygiad o fawredd meddwl. Pryddest ragorol ydyw. Teimlir, er hyny, fod y bardd yn brin ar ei ffigyrau, gan ei fod yn defnyddio yr un rhai yn ami. Mae yr arddull, hefyd, weithiau, i raddau, yn bregethwrol. Pryderus (2).—Yr hwn sydd yn dech- reu gyda'r llinell, "■ Yn y galon anwel- edig." Un brydferth ryfeddol ydyw hon, ac wedi ei rhanu yn naw caniad—y gyf_ rinach, y lien, gNasanaeth. y cuddiedig, y dystawrwydd, y cyfifyrddiadau, y gyfrin- ach a'i llywodraeth, yr angau, byd ys- brydol, y daith. Dirgelweh bywyd yn ei wahanol gysylltiadau, a dylanwad yr anweledig a'r ysbrydol ar y dirgelwch hwnw, sydd gan y bardd. Ni fuasem byth yn dysgwyl iddo fyned i'r fath dra- i fferth i odli ei gerdd yn ddyblyg, eto y j mae yn gwneod yn hollol naturiol, a di- ¡ ymdrech, gyda'r eithriad o ambell fagl. Mae yn y bryddest amryw ddiffygion, ond diffygion ydynt ar gyfansoddiad gwir farddonol. Mae yma lawer o swyn, o o nerth, ac o gyfoeth, ac er fod yr awdwr yn myned i rai cyfeiriadau nad oeddem yn dysgwyl, y mae awenyddiaeth mor fyw yn ei esgusodi. Yn awr, rhaid i ni brysuro at y dyfarn- lad. Tatlwyd ygystadleuaeth y flwyddyn hon yn agored, a chaniatawyd i'r beirdd ganu ar unrhyw fesur neu fesurau. Am- can ypwyllgor yn ddiamheuoedd—ac yr oedd yn amcan ardderchog--sicrbau cyfansoddiad o deilyngdod eithriadol. Ond wedi darllen y cyfansoddiadau yn fanwl, yr ydym ein pump yn barnu mai camgymeriad, wedi'r cwbl, oedd caniatau i feirdd dilywodraeth y rhyddid gogon- eddus hwn. Hyn yw ein profiad unol, wedi ymdrabaeddu nos a dydd uwchben y cynyrchion hyn. Y mae yma doraeth o farddoniaeth, a mwy na hyny o wallg'of- rwydd. Yr ydym wedi barnu yn hollol annibynol ar ein gilydd, ac wedi dewis yr un rhai fel y goreuon. Ni fu bwrdd o feirniaid erioed yn fwy annibynol. Yr ydym yn gofidio na buasai yr un a farnwn yn oreu yn fwy perffaitb. Mae yn y cyfansoddiad lawer o ddiffygion, a hefyd 0 farddoniaeth fyw, ac wedi edrych ar befchau ol ac yn mlaen, a phwyso a mesur y diffygion a'r rhagoriaethau yn y modd mwyaf manwl, credwn mai' Pryderus' (2) r_ 0 yw y goreu, a bod ganddo hawl i eistedd yn nghadair farddol Eisteddfod Genedl- aethol y flwyddyn hon, Darllenwyd y feirniadaeth gan Dyfed, a derbyniwyd ei sylwadau llymion gyda chymeradwyaeth fyddarol.
.4 : Marwolaeth Sydyn Dr.…
4 Marwolaeth Sydyn Dr. James, Y.H., Pentre Rhondda. Bore Iau, y 2fed cyfisol, tarawyd y meddyg poblogaidd a charedig Dr. James yn glaf, fel y bn farw yn mhen tua awr mewn canlyniad i fit o apoplexy. Mae'r ardal, a hyd y nod y Cwm yn gyffredinol, megys wedi eu par- lysu gan yr amgylchiad pruddaidd. Yr oedd ei garedigrwydd a'i barodrwydd yn ddiar- ebol at unrhyw achos oedd yn deilwog,- personau unigol, a chymdeithasau ac achos- ion cyflfredinol. Meddai y ddau gymhwys- der angenrheidiol-gallu ac ewyllya. Cym- erwyd ef ymaith megys a dyrnod. Er yn ymddangos yn gryf ac iachus, gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, byrhawyd ei ddyddiau." Teimlir colled drom ar ei ol, ac fe wel llawer un ei eisieu. Nid am ei fod wedi ei symud o'n plith am byth yr ydym yn dweyd hyn, ond yr oedd yn wir deilyngu hyn o deyrnged, a haedda deyrnged lawer uwch fel dyngarwr nodedig. Efe oedd meddyg y Plwyf, Bwrdd Iechyd, Capten y Fire Brigade, a meddyg gweithfeydd glo yr Ocean, &c. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi, ac yr oedd ei dad, Parch. Enoch James, yn weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Nid oedd Dr, James ond tua 52 mlwydd oed. Gadaw- odd weddw, tri mab ac un ferch, i deimlo eu colled ar ei ol.—Ap Owain.
Trelech.
Trelech. MARWOLAETH. — Prydnawn dydd Gwener, Gorphenhaf y 3ydd, taflwyd pentref bychan Trelech i brudd-der a thristweh trv/y ledaeniad y newydd am farwolaeth ddisyfyi Mrs Evans, Rockhall. Y boreu Sul blaenorol, rhoddodd enedigaeth i ferch fechan, ac yr oedd y rhai oedd yn gweini arni yn hollol gredu y cawsai wella i'w magu. Ond y dydd Gwener a nodasom gwaethygodd, ac er cael pob mantais allasai dynion roddi iddi, ehedodd ei henaid at Dduw yr hwn a'i rhoes ef. Prydnawn dydd Mawrth canlynol daeth torf luosog yn nghyd i gladdu ei gweddillion marwol yn mynwent Capel y Graig. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch B. Davies, ei gweijidog. Pre- getbodd yn darawiadol a thoddedigiawn oddiar y geiriau yn 1 Thes. 4-14. Claddwvd hi yn nghanol dagrau, ac yr oedd pawb yn cydym- deimlo a'i thad, Mr Evans, Gilvach, un o ddiaconiaid hynaf Siloam, Pontarguthi, ac hefyd a'i phriod, Mr H. A. Evans, un o ddiac- oniaid Capel y Graig. Mae y ferch fechan yn dod yn miaen yn rhagorol; gobeithio mai felly y bydd yn y dyfodol. Bedyddiwyd hi dydd yr angladd gan Mr Davies. Am gymer- iad yr ymadawedig, anhawdd yw rhoddi tystiolaeth rhy uchel. Yi oedd yn un hyddysg iawn yn yr Ysgrythyr. Yr oedd yu hollol gartrefol yn yr Hen a'r Newydd Destamentau. Tueddiad ieuenctyd yr oes hon yw cyfyngu eu hunain yn ormadol i'r Tettament, Newydd ond am dani hi. yr oedd yn hynod am ei gwybodaeth yn yr holl Ysgrythyr. Y geiriau olaf ddyferodd dros ei gwefusau oedd yr adnod darawiadol, "Bwriadau lawer sydd ynnghalon dyn, ond cynghor yr Argtwydd, hwnw a saif." Yr oedd hi wedi bwriadu cael bywyd ac iechyd i fagu ei baban gyda ei hanwyl briod, ond nid felly y bu, Cynghor yr Arglwydd, hwuw a saif." Yr oedd yn hvuod am ei ffyddlondeb asgwrn cefn pob sefydliad yw dynion ffydd- lawn. Yr oedd yr ymadawedig yn un o ffydd- loniaid eglwys Trelech,—yr oedd bob amser y gallai yn bresenol yu y capel; ac ar ol dod yr oedd yn gwrando yn deilwng o'r Efengyl. Rhoddai nerth mawr i'r pregcthwr trwy ei gwrandawiad astud a'i gwen serchog. Hefyd dygai fawr sel dros yr Ysgol Sul a'r cyfarfod gweddi. Mae yn chwithig meddwl y bydd ei sedd yn wag o hyn allan Ei lie nid edwyn ddim o honi mwy." Hefyd dygai fawr sel dros y ddyledswydd deuluaidd. Pan gartref yn ferch ieuanc, os byddai ei thad yn gorfod gadael cyn yr amser yr arferid cynal y ddyled- swydd, clywais y byddai hi yn darllen a gweddio ei hunau. Dywedir fod y ddyled- swydd deuluaidd yn darfod yn eiu gwlad. Pe b'ai mwy o gyffelyb Mrs Evans yn bod, ni byddai perygl y darfyddai yr hen sefydliad bendigedig yn ein tir. Yr oedd yn hynod am ei pharch i weision y Duw byw yr oedd ganddi barch mawr i bawb oedd yn traethu y gair, ond yr oedd yn neillduol felly tuag at ei gweinidog yr oedd ganddi syniadau uehel am dano, ac yr oedd drws ei thy bob amser yn agored iddo. Yr oedd yn un unplyg. Mae llawer o ddynion i'w cael yn y byd ddywedant lawer am wendidau dyn yn ei gefn, ond ni ddywedant ddim yn ei wyneb. Ond am Mrs Evans, yr hyn oedd ganddi i'w ddweyd-yr oedd ganddi ddigon o wroldeb moesol i'w ddweyd yn ngwyneb pob dyn. A chymeriadau o'r natur yma sydd o werth i'r byd. Dyna rai o nodweddion cymeriad yr ymadawedig; gallaswn roddi ereill pe bai gofod yn caniatau. Nid wyf am enyd am ddweyd nad oedd yn perthyn iddi wendidau, ond yr oedd yn gymer- iad rhagorol. Colled fawr i eglwys Trelech a'r gymydogaeth yw colli Mrs Evpns. Gofyniad naturiol i'w ofyn yw y gofyniad-" Paham y darfu Duw ei symud mor gynar (nid oedd ond 37 mlwydd oed) a hithau mor ddefnyddiol ? Ond clywaf lais yn dweyd, Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ftyrdd chwi yw fy ffyrad i." Daw ddyddam'r galar- wyr oil, ac a fendithio'r ferch fechan.-J. R. Salmon, Trelech.