Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
A DEIMLYVCH YN FLINEDIG NEU WEDI TREUUO ALLAN Neu ddyoddef oddiwrth ANNHYMEREDD 0 UNRHYW FA.TH r Gadewch i mi ofyn i chwi ddarllen y papyr hwn a cbymeryd eich hargyhoaddi y gwna t FM MORELJS SOVRAN <H)!A A m .N m A la EIOH GWELLA. Gwerthir yn mhobman, 2/9 a 4/6 y botel.
Y Ton a'r Pentre.
Y Ton a'r Pentre. Clywais fod rhan o Fire Brigade y Pentre wedi cyraeryd gwibdaith i Aberystwyth i ehwyddo y gosgorddlu i groesawu Tywysog Cymru ar ei ymweliad a'r lie, a bod y rhan arall o'r brigade wedi myned tua'r brif ddinas i ddangos eu hunain, a pha beth y maent yn alluog i'w wneud pan bydd y gwas da a'r meistr dtwg "—y tan-wedi gwneud ymosodiad ffyrnig ar ambell i adeilad, a dywedodd rhywun yn fy nghlust eu bod wedi esgyn yn lied uchel mewn medrusrwydd yn yr International Tournament." Bravo Pentre boys.
DIRWEST.
DIRWEST. Da iawn genyf allu d weyd nad yw yr achos dirwestol ddim wedi marw, nac mewn di- nodedd chwaith, er y gallech feddwl mewn rhai eglwysi yma fod yr achos da uchod wedi rhoddi yr anadliad diweddaf, oblegyd ni j cblywch air byth fel cefnogaeth i egwyddor- ion gwerthfawr a rhagorol 11 wyrym wrthodiad mewn rhai o honynt. Mae pawb fel pe byddent ofn agor eu genau ac yngan gair ar y mater. Ond mae yma rai i'w cael ag sydd yn teimlo i waelodion eu heneidiau dros y rhai a hndir ac a lusgir i grafangau y gelyn meddwdod, ac wedi llwyddo i gael gwasan- aeth yr areithiwr hyawdl a byd-enwog, Mr Tennyson Smith (sydd megis ail Gough) i gynal tua wythnos o gyfarfodydd yma yn y Drill Hall, a hyderaf na bydd ei genadaeth yn ofer. Dechreuai nos Sadwrn, Mehefin 27ain, a chafodd orymdaith ragorol i'r hall o wahanol adranau o'r Temlwyr Da yn eu hurddwisgoedd, a dau seindorf pres ac un fife band yn eu blaenori. Os oes rhywle mewn angen am areithiwr medrus i agor llygaid y bobl, a deffroi eu hystyriaethau i sylweddoli yn iawn y niwed a dderbyniant wrth ymarfer a'r pethau meddwol, yn nghyd a'r dinystr aruthrol sydd yn dilyn hyny, nes bod yn foddion i'w dwyn i weled gwerth a rhagoriaeth llwyr-ymataliaeth fel y tir dyogelaf a'r hapusaf o lawer i fyw, ie, a'r dedwyddaf i farw, bid sicr-diau fod y Cwm hwn felly. Tafled pob dyngarwr ei ddylan- wad yn ysbryd yr efengyl er ceisio sicrhau < bendithion ardderchog llwyrymwrthodiad yn feddiant i'w cyd-ddynion.
Y MESUR ADDYSG.
Y MESUR ADDYSG. Clywais fod trengholiad i fod arno yn Pontypridd cyn y daw y llinellau hyn i wyneb haul a llygad goleuni y CELT, a'r trengholydd yw yr enwog Dr Clifford, ac mai un o'r tyation pwysicaf a holir yw Alfred Thomas, Ysw., A.S. Eisieu cael sicrwydd y maent ei fod wedi trengu, fel yr arferant wneud gyda/rdosbarth hwnw sydd wedi dyoddef llymder eitbaf y gyfraith am eu bysgelerder. Gwelais hanes am un yn ei losgi yn lludw, gyda'r dybiaeth, mae'n debyg, y buasai yn fwy ansier o godi, ond rhybuddia Mr Asquith ni, fel Rhyddfrydwyr, i beidio gorphwys ar y rhwyfbou, ond i fod yn effro ac ar ein gwyliadwriaeth, rhag iddo adgyfodi tua dechreu y gwanwyn mewn ffurf arall. Gobeithio y bydd i benaethiaid y rhengoedd Rhyddfrydig danio a detfroi y wlad i fod yn fyw i'wsefyllfa ac i fyny a'r amseroedd.
B UNAN-LA DDIAD PENDEBFTNOL.
B UNAN-LA DDIAD PENDEBFTNOL. Boreu Sabbath, Mehefin 28ain, ychydig zyn i'r tram naw fyned i lawr tua Ystrad, taflodd ryw druan ei hun ar y rheilffordd. oedd wedi cael digon ar ei hoedl, ac aeth y gerbydres drosto, ac a'i darniodd yn an- nghyffredin. Dywedir mai Wm. James oedd ei enw, a'i fod yn arfer gweithio yn y Ton, ao ynlletyayno, wedi gadael ei deulu yn rhywle, feddyliwn. Ffordd y troseddwyr sydd galed." Ap OWAIN.
+ . Nodiadau.
+ Nodiadau. Y sgrif gwerth ei darllen yw yr un ar "Y Bedydd CristionogoI," gan yParch. E. Richards, Tonypandy, yn y Diwygiwr am y mis hwn. Dywed Proffeswr Herkomer, wrth siarad am yr Orsedd," na wyr de am yr un Sais y byddai gwisg yr Archdderwydd yn gorwedd mor es- mwyth arno ag ar Hwfa Mon. Y mae Hwfa, yn ei wisg swyddogol, yn dywysog bob modfedd o hono, meddai'r Proffeswr. Y mae cwyno mawr yn nghylchoedd bardd- onol Llanelli am fod Gwili wedi cael cadair yr Odyddion tra yr oedd ei bryddest, yn ol y rheolau, yn naw llinell dros ben yr hyd priodol. Ond cwynir yn mhellach fod cyfansoddiad o ansawdd mor wael wedi ei farnu yn deilwng o gadair o gwbl. Wrth gwrs, 'dym ni'n dweyd dim. Fel un arall o deula'r dychymyg sydd wedi bod yn tori cut angbyffredin yn Llandudno yr wytbnos ddiweddaf, dywedwn, "Nid rhyw lawer o fardd w i critic w i." Mae ail gyfrol o GKniadau Elfed i ym- ddangos yn mben ychydig wythnosau. Cafodd y Ilyfr cyntaf dderbyniad croesawgar, ac mae yr ail argraffiad bron wedi ei weithu. Dr Owen Davies, Caernarfon, sydd yn myned i ysgrifenu cofiarit y diweddar Barch. Robert Jones, Llanllyfni, a chynorthwyir ef gaa y Parch. J. J. Williams, Penygroes. Hysbysir fod Hwfa Mon yn parotoi cyfrol o'i bregethau i'r wasg, a gobeithia y "Tyst" na byddant gyhyd a'r traddodiad o honynt, onide y bydd y llyfr yn gyfrol o gryn faintioli. Paro- toir, hefyd, gyfrol ar y Deuddeg Apostol," gan y Parch. 0. L. Roberts, Pwllheli. Os cauir y llygaid a'u gwasgu a'r bysedd, gwelir lliwiau nodedig o brydferth yn ymrithio fel mewn brithiadyr, gan ffurfio golygfeydd addurnol. Achosir hyn meddir gan y bysedd yn gwasgu y llygaid meddal allan o'i ffarf natariol, a galluogir y llygaid i weled gan y goleuni fydd yn aros ar y rhwydleni ar ol cau allan y goleuni allanol. Er hyny, po gryfaf fyddo goleuni yr haul, prydferthaf fydd y lliwiadau welir yn y tywyllwch, fel pe byddai y gronynau yn gwthio eu hunain i mewn trwy yr emrynt. Mwy na thebyg fod llygaid y deall yn ddarostyngedig i gyffelyb ddeddf. Pwy ddywed nad yw'r Gymraeg yn gwahan- iaethu yn ddirfawr mewn gwahanol gyrau o'r wlad? "Gloen byw" y geilw pobl Siroedd Caernarfon a Mon y creadur bychan prydferth hwn w ehed o gwmpas yn yr haf; giar fach yr haf" yw yr enw mewn siroedd gorllewinol ereill, ond yn Gwent yr enw yw pila pala." Yr oedd Handel yn fwytawr mawr. Un tro, dywedir iddo roddi archeb mewn gwesty am giniaw i dri o berscnau, ac yr oedd yno i'r fynyd. A wnewch cbwi ddechreu ar eich cinio, ynte aros am y cwmni, Syr ?" meddai y waiter. "Cwmni?" atebai Handel yn wyllt, myfi ydyw y cwmni, Syr; dewch a hi'n mlaen, prestissimo!"
♦ GENEDIGAETH.
♦ GENEDIGAETH. Mehefin 28ain, yn Rock Hall, Trelech, priod Mr H. Alfred Evans, ar ferch.
MAE'R BOREU WEDI MYN'D.
MAE'R BOREU WEDI MYN'D. Mae'r boreu wedi myn'd,—mor gyflym 'hedodd! Cyn dechreu ar fy ngwaith, y boreu giliodd I rywle draw,-tu hwnt i allu dynol Ddesgrifio pa le mae ei fan arosol; Ond 'roswch fynyd; tybsd, a fydd cyfrif Arnaf pa fodd y treuliais hwn o ddifrif ? Nid hwn yn unig-na, mae llawer bore Y gallaf goflo wedi myn'd i rywle: Pob boreu'n d'od o'r newydd-dyma'rhanes: A minau yn eu treulio hwy yn ddiles Mae pobpeth bellach i mi'n eglur ddangos, Heblaw gwirionedd Duw, fod boreu'naros Y boreu hwnw y bydd ef yn barnu, 0 dyma foreu, pwy all ei ddych'mygu ? 0 hyn allan yn y boreu Codaf gyda'r wawr, Ac mi geisiaf wneud fy ngoreu Yma ar y llawr; Mi ddefro'f o gwsg naturiol, Ac af ymaith yn egniol Yn y boreu'n benderfynol,- Mi ddiwygiaf 'nawr. Ddyn ieuanc, cofia, dyma'r tymor goreu, A phaid ag esgeuluso mwy y boreu Os colli di y boreu, dyma golled Na fedr un bod dynol ei amgyffred Mae boreu'n dyfod na fydd terfyn iddo, Mewn gwae neu wynfyd y bydd thaid ei dreulio. Mae boreu braf i wawrio I rai sy'n caru Duw, Mae'r Iesu'n cymhell ato Genedloedd o bob rhyw j Os aeth y boreu heibio, Gwrandewch ei gynyg teg,- Mae'n barod i'ch cofleidio Yr unfed awr ar ddeg. A phan darawa ddeuddeg Fe gauir drws y nef, Ac ni cheir cyile'n 'chwaneg I ddyfod ato Ef Y boreu wedi darfod, Manteision wedi ffoi, 0 brysiwch oil i ddyfod Cyn caiff y drws ei gloi! Ieuenctyd, cym'rwch gynghor, Mae'n foreu arnoch chwi, Gwnewch fawr olch dydd alch tymor, Gwas'naethwch Iesu cu; A chofiwch, pan ddaw angeu, Mai dyma'r unig ffrynd A'ch dwg chwi yn ei freichiau Lie nad oes boreu'n myn'd. Waunarlwydd. W. DAVIES (Gwilym Ebrill).
Tysteb y Parch. T. Davies,…
Tysteb y Parch. T. Davies, DD., Llanelli. Derbynied pawb sydd wedi ein cynorthwyo i ddwyn y mudiad uchod yn y blasn hyd ynhyn, ein diolch mwyaf cynes. Eto gwyddom fod nifer luosog o gyfeillion ac edmygwyr y Doctor sydd yn bwriadu cynorthwyo, heb wneud hyd yn hyn; a chan y bwriadwn gau y drysorfa yn mhen tua mis, diolchwn am glywed oddiwrth- ynt o fewn yr amser hwn. Ein hunig amcan ydyw gwneud pryderon bywyd ein brawd mor ddibryder a byddo modd, yn wyneb y llesgedd sydd wedi ei oddiwedJyd flynyddoedd yn gynt nag oedd neb o honom wedi ddysgwyl. An- foner pobtanysgrifiad i un o'r personau can- lynol:— Parch T. JOHNS, Greenfield Ter., cadeirydd. Mr D. PHILLIPS, New Dock Rd, Is-gadeirydd. Mr Jos. WILLIAMS, 66, Lakefield Rd, trys. MrDL. EVANS, 10, Lakefield Place, Ysgn, Parch B. EVANS, 3, John Street, J Myg. Cydnabyddwyd eisoes ..233 2 0 Mr W Rees, Goring Terrace, Llanelly 1 1 o Thomas Jones, merchant, 0 10 6 Parch D G Evans, Saron, 0 10 0 W C Jenkins, Cydweli ..026 W P Hough, Merthyr 0 2 6 R Williams, Maenclochog 0 3 0 Mr Hopkins, Lakefield Schools, Ll'y 0 2 6
Ebenezer, Brynamman.
Ebenezer, Brynamman. Pob Gohebiaeth mewn cysylltiad a'r Eglwya uchod i'w danfon at MIt. JOHN HARRIES, Penybont House, Brynamman, R.S.O.
LLAWLYFR BEDYDD.
LLAWLYFR BEDYDD. ymweliadau mor ymarferol i mi dan y gofalon presenol. A gaf R erfyn ar fy mrodyr i'm cynorthwyo drwy gasglu enwau ato a'u hanfon i mi ? Chwi a welwch, frodyr, y gwnelech gymmwynas bersonol a mi dan yr amgylch- iadau. Hefyd y mae rhywfaint tros 80p. yu ddyledus i mi eisoes oddiwrth ddosbarthwyr a derbynwyr. Pe cawn y rhai hyn i'm llaw yn fuan, gallwn ddodi yr Esboniad ar Pedydd yn Y wasg yn rhagblaen. Yr wyf wedi penderfynu mai anfuddiol fyddai cyhoeddi ychwaneg o Ranau, ac mai gwell fydd dwyn yr ESBONIAD allan yn un gyfrol rwymedig, yn hytrach nag i'r Rhanan gael eu dyfetha neu eu baeddu tra yn aros eu gilydd. Ac er mwyn i dylodion al'tt cyrraedd 1 gyfrol, trefnir iddynt gael talu am dani mewn nifer o daliadau misol.
GAlE AT DDERBYNWYR Y RHANAU.
GAlE AT DDERBYNWYR Y RHANAU. Yr wyf wedi cytuno a Rhwymwyr Llyfrau yn Caerfyrddin i rwymo y tair Rhan (1., II., III.) yn nghyd am 6c. y gyfrol (eu pris wrth y cant), ac wedi gwneud hyny eisoes i gannoedd o dder- bynwyr. Gofaled pob un ddodi ei enw a'i gyf- eireb ar amlen pob Rhan, fel y gallom ddychwelyd yr eiddo Cesar i Cesar. Goraf oil po mwyaf a ddelo o'r un ardal, yn un sypyn, gyda'r passenger train: ni fydd y clndiad felly, yn clacyn mlaen, ond ceiniog neu ddwy ar bob cyfrol. Ond wrth anfon defnydd un gyfrol ar y tro, anfoner 60. am y rhwymiad, a 3c. am y cludiad yn ol gyda'r parcel post. Ac os bydd Rhan neu ddwy yn.. eisieu, anfoner Is. y Rhan am danynt a ni a'u. rhwymwn yn nghyd. Yr wyf yn berffaith ewyll- ysgar i ymgymeryd a'r drafferth hon yn unig er mwyn dyogelu y llyfr i'r derbynwyr. pob archebion yn daladwy i D. S. DAVIES, Mehefin 21, 1896. Caerfyrddin^
Coleg y Gogledd, Bangor.
Coleg y Gogledd, Bangor. (Uh o'r Colegau yn y Brifysgol Gymreig). PRIFATHRAW: H. R. REICHEL, M.A., Gydag un-ar-ddeg o Broffeswyr, tri o Ddar- lithwyr, a phymtheg o Athrawon eraill. Dechreua y tymor nesaf Medi 29, 1896. Parotoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol CymrtL ac eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol yn Mhrifysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill. Rhoir addysg arbenig mewn Amaethyddiaeth ao Electrical Engineering. Mae yn y Coleg Adran Normalaidd. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio- mewn gwerth o « £ 40 i J810 y flwyddyn i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y tymor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gymry. Dechreua yr arholiad am danynt Medi 15. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Chofrestrydd.
Cymanfa Mvnwy.
Cymanfa Mvnwy. Cynelir yr uchod yn Libanus, Ebbw Vale, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Gorphenaf 14eg a'r 15fed. Pregethwyr:—Y Prifatbraw E. Herber Evans, D.D., y Parcbn. H. Elwyn Thomas, Cas- newydd, D. Stanley Jones, Caprna-rfon, a gweini- dogion y Sir. Trefn y cyfarfodyddDydd Mawrth am 10.30, Cynadledd y Cytundeb am 2.30, Anerehiad y Cadeirydd, y Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni, a Chyfeillach. Nos Fawrth am 7 o'r gloch, pregethir yn y Market Hall gan y Prifathraw E. Herber Evans, a'r Parch. D. Stanley Jones. Dydd Mercher am 7, 10.30, 2.30, a 6.30, pregethir yn y Market Hall -adeilad eang a chyfteus-gan y gweinidogion uchod ac ereill. Bydd Llety yn cael ei barotoi i weinidogion So chynrychiolwyr yr Eglwysi. Anfoned pawb a ddymunant gael llety atom o hyn i Goipheuaf 7fed. Byddwn yn ddiolchgar iawn i'r Eglwysi am eu casgliad arferol at dreuliau y Gymanfa. Deuwch yn llnoedd, frodyr. "Gelwoh gymaDfa. cesglwch yr henuriaid a holl drigolion y wlad.' Ebbw Vale. T. RICHARDS.
Eglwys Seisnig Pontycymmer.
Eglwys Seisnig Pontycymmer. Cynelir Cyfarfodydd Ordeinio Mr. J. T. RHYS yn weinidog ar Eglwys Annibynol Seisnig Ponty- cymmer JJydd Llun, Gorph. 20fed, 1896. Manylion pellach yr wythnos nesaf. J. W. HuaHEs, Draper.
Advertising
MEAT WELSH LUNG CURE, COLTSFOOT ELIXIR. MARVELLOUS SUCCESS. Cures Coughs, Colds, Asthma, Bronchits, Influenza COLTSFOOT ELIXIR. The Great Pulmonary remedy is prepared ftota extracts of Balsamic Plants. Spoken by all who tried it to be a Great Remedy, and the most CUBE OF COUGHS AND COLDS. Old Lung affections readily yield to its treatment, also the Best Medico for Children. Testimonials from all parts of the- Kingdom. „ Sold by all Chemists and Patent Medicine Vendors in bottles at Is. lid., 2s. 9d., and 4s. 9d. each, or can t obtained, Post Free, direct from Laboratory of Inve tor and Introducer, MORGAN W. JAMES, Manufacturing Chemist, Llanelly, South "Wø.le