Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y Diweddar Barch. T. Rees,…

News
Cite
Share

Y Diweddar Barch. T. Rees, D.D., a'r Bedyddwyr. At Olygydd y CELT. SYR,—Orefaf ychydig o'ch gofod er nodi ffaith neu ddwy ag yr wyf wedi dyfod ar eu traws wrth chwilota hanes fy rhagflaenor enwog, Griffith Hughes, allant, efallai, daflu ychydig oleuni ar y mater dan sylw. Yn 1, Yr oedd Dr Jenkins, Hengoed, yn cadw drws ei eglwys yn eithriadol agored. Ac Yn 2, Nid oedd Mr Thomas Rees, Craigybargoed, yn y cyfnod y cyfeiria y Parch. T. Lewis, Casnewydd, ato, yn bregethwr dienw a li diglod o gwbi. Profir y gosodiad cyntaf, i'm tyb i, ganddygwyddidd a gymerodd le yn y tiroes Wen ar foreu ISabbathOymundeb, pan oedd yr anfarwol G. Hughes yn tori aelod annheilwug allan yn gyhoeddus o'r pwlpud, gan ei gyflwyno i Satan, i ddinystr y cnawd. Yn mysg pethau ereill, dywedodd :—" O'r byd y cawsom Hi ef, a dyma ni heddyw yn ei gyflwyno i'r byd yn ol." "Na. syr," ebai un gwiandawr oddiar yr oriel, ni chym- erwn ni mo hono Wel, Ow! Ow ydoedd ateb y gweinidog, dyma i chwi fod anfarwol na fyn y byd na'r eglwys "Wneud dim ag ef Beth wnawn ni iddo ef, hawyr ?" Ar hyn, atebwyd ef fel Hueheden gan hen wrandawr adnabyddus o'r enw Daniel Eosser,—" Gyrwch ef at Shon Shincyn o Hengoed: y mae e'n derbyn pawb." Yr oedd argraff ar y "lad fod Dr Jenkins yn od o'r parod i 9TOosawi pwy bynag a ddeuai ar eu gofyn, Yn nesaf profaf fy ail osodiad, sef nad oedd y Parch. Thomas Rees tra yn ^ghraigybargoed yn bregethwr dienw a diglod. Y mae genyf lythyr, wedi ei ysgrifenu gan y Dr. ei hun, yn cyfeirio gyda thynerwch mabaidd at yr addysg a, dderbyniasid ganddo oddiar law yr Hy- barch Griffith Hughes. Efe fu yn ei hyfforddi gyda'r Saesneg a'r Groeg. Ar y pryd, yr oedd Mr Hughes yn wan a tnethedig, yn gwbl analluog i bregethu Oddigerth ar ei eistedd, ac yn annhebyg o fyw yn hir. Yroedd ganddo esgobaeth 1' bugeilio nad oedd ei hamgenach :tn.ewn rhif a chyfoeth yn y Dywysogaeth gydag unrhyw enwad; a gallaf brofi, drwy dystiolaethau lluosog a diamwys y ^eirw a'r byw, fod y Parch. G. Hughes ^vedi galw sylw ei eglwys at weinidog ieuanc gobeithiol Craigybargoed fel y dyn cymhwysaf i'w ddilyn yn y cylch Awn. Dywedwyd hyn wrthyf fi ac ereiil gan rai o'r tadau oeddynt aelodau yma ar y ^yd, a rhai o'u nifer wedi cael nerth gan duw, mewn mwy nag un ystyr, yn aros j hyd heddyw. A diameu fod y ffaith dar- awiadol mai i ran o esgobaeth y seraff- aidd G. Hughes y cafodd y Parchedig Thomas Rees alwad yn 1840, yn mhen ychydig fisoedd ar ol marwolaeth Mr Hughes, yn profi yn anuniongyrchol fod tystiolaeth y tadau ar y cwesfciwn a nod- wyd yn gywir. Nid oes genyf un fwyell i'w hogi, na gronyn o deimlad personol yn erbyn person na sect; ond y mae parch i'r gwirionedd, ar y naill law, a pharch i goffadwriaeth gwr sydd wedi myned yn rhy bell i amddiffyn ei gam, ar y llaw arall, yn ddigon o reswm, mi dybiaf, dros fy ngwaith yn anturio i'r llys. A gallaf sicrhau y Parch. T. Lewis, D. W. Hopkins, a D. S. D., fod genyf ddau neu dri o dystion byw bed- yddiedig yn aros hyd heddyw, "fel lloffion grawnwin haf," cwbi barod ac ewyllysgar i brofi fod yr hyn a ysgrifen- wyd yn uniawn.—Ydwyf, &c., Groes Wen. C. TAWELFKYN THOMAS.

.—-—» Braslun o Hanes Eglwys…

'-4 Lloffion.