Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.0-GIFAEFODYDD.I

News
Cite
Share

.0- GIFAEFODYDD. COLEG ABERHONDDU. Galwad.—Cafodd Mr E. J. Evans, Nebo, j alwad unfrydol yn ddiweddar oddiwrth eglwys Bryn Seion, Dowlais, Mae y fiaitk fod Mr Evans wedi cael galwad, ac yntau ddim ond ar i drydedd flwyddyn. yn siarad yn uchel iuwn am dano fel pregethwr. Mae yn barchus iawn yn mysg ei gyd-fyfyriwr, yn gyfaill cywir, yn fyfyriwr ymdrechgar, ac yn bregethwr enwog. Nid yw Mr Evans yn gallu rhoddi atebiad cadarnhaol i'r alwad, oherwydd nid yw'r ffordd yn glir iddo fyn'd allan yn Mehefin. Rhag ei flaen yr elo Qwul Dewi Sant.-N os Wener diweddaf, cafwyd swper yn y coleg, a chyfarfod y adloniadol, er cof am Dewi Sant. Er cystal oedd y wledd i'r corph, yr oedd y wledd i'r meddwl yn well. Cawsom noson ardderchog yn mhob ystyr. Fel rheol yr ydym yn edrych yn mlaen yn awyddus am gyfarfodydd tebyg i'r un gawsom nos Wener diweddaf. Mae cyfarfod a'n gilydd yn y cymeriad o ieithgarwyr a gwladgarwyr yn ein lloni, ac yn ein calonogi gogyfer a'n gwaith colegawl. Cynygiwyd ac atebwyd y llwnc destynau fel y canlyn :—Dewi Sant, Mr. J. M. Jones, B.A. (Hon.) Cymru Fydd, Mri. J. J. Williams a Joseph Williams. Colegau a Phrifysgolion Cymru, Mri Ignatius Jones ac Edward Nicholas, A.T.S. Y Rhyw deg, Mri E. J. Evans a Phillip Williams. Hen Fyfyrwyr, Mri John Eliasa T. G. Powell,A.T.S. a cadeir- ydd y cyfarfod. Athrawon, Mri R. D. Davies a W. B. Richards. Morgan Jones, Mri W. Evans a W. Hughes. Wedi cynyg y llwnc-destynau, awd at y canu a'r adrodd. Anerchiadau gan y Beirdd, sef Mri. J. J. Williams (Gwyno), J. M. Jones (Garnant fab) a T. M. Bees can Gwyl Dewi,' Mr. J. Elias; can Gwlad yr hen Geninen werdd,' Mr R. D. Davies; can,' Hen gadair freichiau fy mam,' gan Mr E. J. Evans can, Hen Wlad y Menyg Gwynion,' Mr Morgan Jenkins; can Costiau Gwraig,' Mr J. J. Williams; denawd, Gwys i'r Gad,' Mri Davies a Jenkins; can, Mr W. Evans; adroddiad, Mr Phillip Williams. Cafwyd caneuon gan Mri 0. Griffiths, Whittington, a J. J. Williams. Diweddwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhad-au: Neillduodd pawb ar ol hyn i noswylio yn llanerch llawenydd. Diau genym yr erys yr adeg hapus yn wyrdd yn ein cof byth.-T.M. GORSEIKION.—Cynhaliwyd cyfarfodydd agor. iadol Bethel, Capel yr Annibynwyr Seisnig, dyddiau Sul a Llun, Mawrth y 3ydd a'r 4ydd, 1895, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion J. W. Morris, Glyn-nedd, Elvet Lewis, B. Evans, T. Johns, Llanelli, D. Evans, Burry Port, H. T. Andrews. B-A a T. Sinclair Evans, Abertawe. Cafwyd cynulliadau lluosog iawn ar hyd y dyfarfodydd, ac arwyddion amlwg o bresenoldeb y Meistr gydaVjgweision Gwnaeth j • gweinidog.* gyfeiriadau at y caredigrwydd neillduol sydd wedi ei ddangos gan wahanol bersonau, ac un engraifft neillduol o garedigrwydd y cyfeiriodd ati oedd gwaith Meistri Cornish a'i Gwmni, Organ Builder*) o Washington, New Jersey, U.S.A., yn danfon Chapel Organ ardderchog at waaanaeth yr eglwys am y peth nesaf i ddim dros draul y cludiad o'r America. Mae Meistri Oornish a'i Gwmni yn wneuthurwyr rhai o'r offerynau mwyaf cyfrifol America, ac y maent yn deilwng o'r ganmoliaeth uwchaf am y weithred garedig hon o'u heiddo. MAESTEG.—Saron. — Cynhaliwyd Cyfarfod Cystadleuol yn y lie uchod Chwefror 18fed, pryd yr aethpwyd trwy y rhaglen ganlynol:— 1 Solo Alto, goreu Owen Walter, Bridgend road; 2 Solo Tenor, goreu Rees Morris, Maesteg; 3 Solo Soprano, goreu Mrs Davies. Princess Street; 4 Solo Bass, goreu W. R. Stratton, Grove street; 5 Deuawd, goreu Daniel E. Lewis a'i gyfaill; 6 Tenor Solo, goreu William Williams (Gwilym Fyllon); 7 Adroddiad i blant, rhanwyd y wobr rhwng Aneurin Roderick a Jenkin Morris, Caerau; 8 Adroddiad i rai mewn oed, rhanwyd y wobr rhwng Tbos. Preece a Richard John Davies; 9 Dadl Ddifyfyr, goreu Thos. Preece a'i gyfaill; lOYBrif Dôn, goreu Cor yr Anniby&wyr Seisnig. Beirniadwyd' y cystadleuwyr gan Mr Waldin, Siloh, a Mr Davies, Bethania; cyfeil- iwyd gan Mrs Francis; cadeiriwyd gan Dr. Evan Davies; a llywyddwyd gan y Parch T. James, gweinidog. Cafwyd cyfarfod odiaeth o dda. Y Cynghor Sirol.—Dydd Llun, y 4ydd cyflsol, ydoedd y dydd i ethol Cynghorwr i'n oynrychioli ydoedd y dydd i ethol Cynghorwr i'u oynrychioli ar y Cynghor Sirel. Yr oedd dau ymgeisydd ar y maes, sef Mr Jenkin Jones, Ymneilldawr a Rhyddfrydwr, a Mr James Barrow. Eglwyswr a Cheidwadwr. Proffesa yr olaf ei hun yn Rhyddfrydwr, ac felly y mae os mai ystyr Rhyddfrydiaeth ydyw gweithredu yn wrth- wynebol i, ac yn annibynol ar, deimladau y mwyafrif o'r etholwyr; ond os mai ystyr Rhyddfrydiaeth ydyw gweithredu yn unol a theimladau ac argyhoeddiadau y lluaws ac nid yr ychydig, y mae Mr Barrow yn mhell o fod felly. Am ychwe mlynedd diweddaf, tymhor ei gynrychiolaeth o Maesteg ar y Cynghor Sirol, nid ydyw Mr Barrow wedi oynrychioli neb ond ei hunan. Pan etholwyd ef chwe mlynedd yn ol yn Gynghorwr, addawai bleidio a chefnogi pob mesur Rhyddfrydig; ond wedi ei ddychwelyd i'r Cynghor Sirol, wele y Rhyddfrydwr proffesedig yn pleidio yn erbyn y Dadgysylltiad a'r Dadwaddoliad. ac yn erbyn mesurau Rhydd- frydig ereill- Yn awr, wele yr un gwr yn dyfod ger bron etholwyr Maesteg fel ymgeisydd Rhyddfrydol a chefnogwr Dadgysylltiad a Dadwaddoliad! A ydyw yn anmhriodol galw y fath un yn Chameleon gwleidyddol? Ond fe-<yna darllen wyr y CELT ddarilen mai dyna'r gwr ddaeth allan yn llwyddianus gyda phymtheg a deugain o fwyafrif I Mae ym Maesteg wyth o gapeli gyda'r Bedyddwyr, naw gyda'r Annibynwyr, pedwar gyda'r Methodist-, iaid Calfinaidd, un gyda'r Wesleyaid, ac un gyda'r Pabyddion; tra nad oes gan yr Eglwys Wladol ond tair o Eglwysi yn unig; eto yr Eglwyswr ydyw yr ymgeisydd llwyddianus. Er fod Mr Jenkin Jones yn Fedyddiwi ac yo Rhyddfrydwr, ymladdai tyrfa o Fedyddwyr yn ei erbyn f el own cynddeiriog; Iluaws o'r Annibynwyr a grochlefent ymaith ag ef; ac ymguddiai Shon Gorff yn llaohwraiddyn eu preawylfeydd, tra yr ymladdai ereill y frwydr bwysig hon rhwng Ceidwadiaeth a Rhyddfryd- iaeth. Pwnc o fara a chaws yn unig gyfrifa am lwyddiant Mr Barrow, ond rhaid i ni fel Ymneillduwyr ddiolch i Dduw am freintio ein gwlad ni yn y gorphenol a dynion fel y Parch S. Jones, Brynllwarch, ac ereill—dynjon a lynent wrth eu hegwyddorion er Colli bywiol- iseth&A; e- iaethau^ biCap, ^onide ni buaasi ein rbyddid gwladol a chrefyddol heddyw yn hyn ydyw. Erys y weithred hoh yn benod dda yn hanes yr Yjoaoeillduwjrr bradwrus a gj^sdwraidd breswyl- iaat yn iyv Bjsa.ZttWsf. ~Mae' ^y llu Eliasaidd na phlj gasant i'r Baal hwn gydwybodau tawel iddynt wneuthur eu goreu er cael eu rhegu gan Simiaid bradwrus— Etger Wyn.

Advertising