Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

I CAFARFODYDD, &0.I

News
Cite
Share

CAFARFODYDD, &0. CWMTWRCH. — Cynhaliwyd Eisteddfod lWtddianus yn Bethel, Glantwrch, prydnawn Sadwrn, yr 2il cyfisol, Y buddugwyr ar gann :—' Onid oes balm yn Gilead,' Miss Gwen Thomas, Ystalyfera; 'Myfi sy'n magu'r baban,' Rachel Evans, Ystalyfera; 'Yr Hen Gerddor,' Mr D. Jeffreys, Ystrad- gynlais; f Chwyfiwn Faner,' Mr James Mathews, Ystradgynlais Llanbeblig,' i rai cTros 50, Mr Joseph Williams, Cwmtwrch • Deuwch, canwh iddo Ef.' Cor Cwmgiedd. Adrodd y Bywydfab,' Mr Fisher Griffiths, Ystalfera. Ateb cwestiynau mewn Mining,' Mr Jas. Powell a Mr H. Thomas, eto mewn < Ambulance,' AIr John Davies, Cwmtwrch, AC ail wobr i Mr W. J. Evans (Gwyddonwy), Prize Bag, Miss Gwen Evans, Ystalyfera, ac 1Ü1 wobr i Mrs Sarah Lewis, Cwmtwrch. ^rall-eirio yn farddonol Chwedl' Y blaidd a'r bachgen,' Mr John Evans, Ammanford. Traethawd ar Hanes Eglwys Bethel, Glantwrch,' Mr J. Dyfrig Owen. Beirniaid: D. W. Lewis, Ysw., Parch Ben. Davies, O. Powell, Ysw., J. Owen, Yaw., M.B., a Mrs. J. D. Thomas, Maesycoed. Llywydd, 0. Powell, Ysw. Arweinydd, Mr J. Dyfrig Owen. Trysorydd, Mr D. Griffiths. Ysgrif- enydd, Mr W. J. Evans. Cafwyd gwledd feddyliol yn ystod y prydnawn, a mwynhaodd y-gynnlleidfa en hunain yn rhagorol. SPRING VIEW, WIGA.N.- Te Parti a Ghyngkerdd.—Cynhaliodd chwiorydd abrodyr ienainc yr eglwys hon eu te parti dydd Mercher diweddaf. Ar ol i bawb gael eu gwala o'r te, cafwyd dracheln wledd i'r meddwl. Cymerwyd y gadair gan y Parch. O. Williams, y g weinidog. Datganwyd gan amryw o'n cantorion ileol. yn nghyil a'r cor dan arweiniad Mr O. Roberts, yr hwa sydd yn llafurus iawn gyda'r canu. Trodd y cyfarfod allan mewn elw sylweddol. Hefyd, dymunaf hysbysu fy mod wedi derbyn at ein capel yr wythnos ddiweddaf o eglwys Jerusalem, Blaenau Ffestiniog, y swm oj £1 Os 8e. Derbynied yr eglwys ein diolch mwyaf. YsTpADGYNLAIS, — Cynghor Plwyfol. — Perthyna y rhan fwyaf o Gwmtwrch i blwyf eang Ystradgynlais. Mae pedwar o gyn-, rychiolwyr o Gwmtwrch ar y Cynghor, sef: Ifri Dd. Griffiths, Thos. Griffiths, J. Dyfrig Owen, a Dewi Glan Twrch. Gwneir y cynghor i fyny o ddeg o weithwyr, dau ffermwr, athrimasnachwr. Mae'r Cadeirydd yn weithiwr, Mr Lewis Jones (Leo Ddu) is-gadeirydd, Mr Thos Lewis; ysgrifenydd, Mr D. S. Griffiths, un o'r cynghorwyr. Engraifft o ysbryd y cynghor ydyw y ddau hen derfyniad, mai Cymraeg yw iaith y cynghor i fod, ac fod rhyddid i unrhyw etholwr fynychu cyfarfodydd arferol y cynghor. Blin genyf nodi fod angeu wedi symud un o'r cynghorwyr i Jffwrdd, sef Mr Richard Aaron, brawd parchus. Talodd y cynghor y parch dyledns iddo, trwy ymuno yn drefnus yn yr orymdaith angladdol. Os cafhamdden, gyda'ch caniatad Mr Gol., ca ddarllenwyr y CELT wybod gweithrediadau Cynghor Plwyfol Ystradgyn- lais yn y dyfodol.

[No title]

[No title]

Advertising