Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ADLAIS O'R GOGLEDD.j

News
Cite
Share

ADLAIS O'R GOGLEDD. GAN ADLEF. Mynegir, fod J. Herbert Lewis, Ysw., A.S., wedi ymneillduo i Bournemouth am adferiad iecbyd. Gweithiodd yn rby gaJed. adeg y gwyliau i egluro mesur y Cynghorau Plwyfol i'w etholwyr. Dyma fe yu awr yn dioddef y penyd. Rhaid i'n aelodau Seneddol, yn ogystal a'u hetholwyr, gofio mai I uti corph sydd/ a hwnw yu gorph gwan iawn gan lawer un. Dywedir fod yr aelod anrhydeddus yn gaetbwas hollol i'wsyniad o ddyledswydd. Yr yspryd yn barod ond y cnawd yn wan. Hysbysir, befyd, fod Esgob Baugor wedi degymu gormod ar ei nerth wrth geisio goleuo y Llundeinwyr, ac ereill, yn hanes a rhagolygon (pe caelonydd) Eglwys Loegr yn Nghymru. Tarawyd ef i lawr gan yr Influenza. Ouid yw Tyuged yn gated wrth yr Eglwys yn yr argyfwng cynhyrfus hwu ? Mae hi yu hynod ddibartiol hefyd wrth osod gwroniaid ac arweinwyr y ddwy fyddin ar y sick list ar yr un adeg. ¡II # CyflwynoddyParch S. Newth, D.D., Cyn-brifathraw New College. LIundain, 36 o gyfrolau gwertufawr ar Dduwinyddiaeth ac Athroniaeth i lyfrgell coleg Bala-Bangor. Un peth ag sydd wedi bod ar ol yn druenus yn nglyn a choleg Bala-Bangor yn ystod y blynyddoedd a basiodd yw llyfrau da-- Standard Works—ar by ciau o ddyddordeb i'r efrydwyr. Ond er pan y mae y Prifathraw Herber Evans wedi ymaflyd yn nvledswyddau ei swydd, ymddengys ei fod wedi ymdyngedu na chaifE Uyfrgell y Coleg, beth bynag, ddim bod ar 01 ei hoes. Ac oddiwrth nifer y llyfrau safonol sydd wedi eu hychwanegu yn ddiweddar at y llyfrgell, ymddengys ei fod ar y ffordd i gael gweled ei ddymuniad wedi ei lawn sylweddoli. Da chwi, garedigion y Coleg, rhowch help iddo yn y cyfeiriad hwn. Gwnaiff hyny help anmhrisiadwy i'n gweinidogion dyfodol, a thrwyddynt hwy i'r enwad. # Torodd tan allan mewn J stabl yn Rhyl. Llosgwyd ceffyl gwerthfawr a chi farvvol aeth. Diuystriwyd yr adeilad. Cydymdeimlir yn fawr a'r perchenog yn ei golled. Appwyntiwyd Mr. D. R. Harris, B.A., brodor o Merthyr Tydvil, yn ddarlithydd cynorthwvol i adran yr ysgolfeistri Goleg y Brifysgol Bangor. O'r Wyddgrug, ceir newydd dyrnunol. iawn i ddarileowyr ffug-ehwedlau. fug-chwedl newydd gan y Parch. Daniel Owenyn. y Wasg. Cymeradwyodd Cynghor Ireful Conwy y cynygiad i estyn llinell y gledrffordd newydd, iwriedir agorrhwngLlandudno a Colwyn Bay, hyd Gonwy. Gwna Pabyddion Treffynon ddarpariaethau helaeth y dyddiau hyn gogyfer a'r pererinion fwriadant ymweled a ffyuon wyrthiol St. Winifred yr Haf nesaf. Penderfynodd trigolion Llanuwehllyn a'r ardal, drwy 134 o hlei<]leisiau yn erbyn 19, i fabwysiadu d'arpariaethan-mesur Llyfrgell- oedd Oyhoeddus 1892. Deallwn mai 0. M. Edwards yw y prifsymudydd yn y mudiad. Bu farw Mr Morris Jones, Dolgellau gyut, Ystus Heddwch dros Arfon. a Meirion, yn ei aneddle, Alorfa, < ouwy, dydd Sadwrn diweddaf. Gwr da, Rbyddfrydwr pybyr Methodist eangfrydi^, a*Christion gloew.' Meddylid unwaith ofyn iddo sefyll fel ymgeisydd seneddol dros Ogledd Arfon. Otid efe a fu farw. Nos Wener cynt, bu farwMr J. W. Williams, Dolforga'n Hall, Kerry, Maldwyn. Efe ydoedd ymgeisydd dewisedig Hhyddfryd- wyr Maldwyn i wrthwynebu Hyr. Pryce Jones yn y fwrdeisdref yr etholiad nesaf. Cadd anwyd yn Nghaerdydd yn nghyfarfod dtweddar y Federation yno Dyma y ddwy t wrdqisdref sydd yn caeleu cynrychioli yn y Setiedd bresenol gan Doriaid. heb ymgèîswyr Khyddfrydo1 ar eu cyfer. Diubych a Maldwyn ) nnwylaw y gelyn.

HYN A'R LLALL.

MARWOLAETH ISMAIL PASHA.

'MAN I ON.