Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Mr T. A. Lloyd, Adsolwen, Llanon, un o gyfoedion boreu oes Mr Evans, a ddywedai ei bod yn dda ganddo weled y fath barch yn cael ei arddangos ganddynt fel eglwysi i Mr Evans; ond o ran hyny nid oedd yn gymaint o ryfeddod, oblegid fod Mr Evans wedi arfer bod yn barchus erioed. Yr oedd yn eithriad i'r proffwydi i gyd. Yr oedd efe yn barchus yn ei wlad ei hun-yn Nebo. Gobeithiai y cadwai ei barch drachefn yn v Maerdy. Parch, H. Hermonydd Williams, Llechryd, a ddywedai ei bod yn wir dda ganddo glywed y pethau a. glywai, a. gweled y fath a welai. Nid cyfarfod seboni oedd y cyfarfod hwn, oblegid ni ddywedwyd air yn ormod am Mr Evans. Gwir ei fod wedi cael ei ganmol, ond pa ddrwg oedd hyny ? Rhai pobol yn ofni canmol pregethwr, fel pe na fedrai pregethwr ddal i'w ganmol. Gobeithiai y byddai i'r Wig gael gweinidog da eto,-gweinidog p gymeriad, a gweinidog a all siglo llaw a'i holl irodyr yn y weinidogaeth. Parch. T. J. Morris, o Aberteifi, a gwynai yn enbyd fod Morganwg yn lladratta bechgyn goreu Aberteifi. Byddai y symudiad er hyny yn sicr o fod yn gymorth iddo ddadblygu mewn gwybodaeth meddwl a chymeriad. Llawer o ddywedyd wedi bod y noson hono am ei waith, ond ni fynegwyd mor haner, oblegid nis gallent, a hyny am y rheswm mai unknown quantities yw gorchestion y pwlpud. Nid oes dim ond goleuni y farn a all eu dwyn i'r ami wg. Byddai yn dda ganddo weled ei blant yn myned yn bregethwyr i gyd; oblegid o bob fine art, darlunio trefn yr iachawdwr- iaeth-campwaith y Duwdod-yw y mwyaf fine. Gobeithiai y byddai i Mr. Bvans ddadblygu yn yr I alwedigaeth nefol' hon yn ei le newydd. Parch. J. M. Prytherch, Wern, a deimlai yn ddwys yn herwydd symudiad y brawd anwyl o'r Wig. pel y gweinidog hynaf ond 1 9 un yn Sir Aberteiif, teimlai fod colli cyfaill yn golled anadferadwy iddo ef. Ond er hyny, credai fod gan Rhagluniaeth fawr law yn ei symudiad. Credent hwy yn y Wig eu bod wedi bod yn gyfrwng yn Haw Duw i'w arwain i'r ardal un-mlynedd-a'r-ddeg yn ol, a phaham lai has gellir credu fod eglwys y Maerdy yn gyfrwng i'w arwain o'r ardal 'nawr. Yr oedd meddwl mawr ganddo ef o Mr Evans, ac yr oedd yn sicr nad oedd neb yn adwaen Mr Evans, os nad oeddynt wedi ei weled ryw dro mewn caledi. Yr oedd gallu anrhaethol ganddo i gwrdd ag emergency. Gobeithiai y byddai yr undeb a ddangosidynoy noson hono gan y gwahanol eglwysi perthynol i'r weinidogaeth, yn parhau telly hyd nes y byddai iddynt gael gweinidog newydd drachefn, a hwnw mi obeithiaf yn gawr o bregethwr. Anogai yr eglwysi yn daer i fyned gerbron gorsedd gras i ymofyn am arweinfad pan yn dewis gweinidog. Yna terfynwyd y cyfarfod drwy weddi gan y Parcb. J. Lewis, Penmorfa. Canwyd amrywddarnan swynol gan gor y plant yn ystod y cyfarfod, o dan arweiniad medru s (v; iss James, LIangran' g. 111 I Cafwyd cyfarfod ardderchog o'r dechreu i'w ddiwedd. Y mae Mr Evans yn ymadael gyda dymuniadau goreu ei eglwysi, yr eglwysi cymydogol, a'i frodyr yn y weinidogaeth a gobeitbiwn y derbynir ef a breichiau agored gan Y saint yn Morgan wg. Y mae efe a'i briod hawddgar yn haeddu y parch penaf fedr eglwys y Maerdy roddi iddynt ac yr ydym j yn hyderu y bydd ei symudiad yn fendith iddo ef ei hun, ac i bawb a ddaw o dan ei weinidogaeth yn y dyfodol.—~Goh.

ADOLYGIAD Y WASG.

CRUGYBAR, SIR CAERFYRDDIN.

NODIADAU GYPPREDINOL.