Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…

News
Cite
Share

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. HOPE EVANS, CAPEL WIG. CYNHALIWYD cyfarfod ymadawol y brawd anwyl uchod yn y Wig, nos Fawrth, Chwefror 26ain. Cymerwyd y gadair gan Morgan Evans, Ysw., Y.H., Oakford, yr hwn a alwodd ar y Parch. Mr. Jones (B), Llwyndafydd, i ddechreu y cyfarfod drwy weddi. Yn ystod ei anerchiado'r gadair, cyfeiriodd Mr. Evans yn briodol iawn at y ffaith fod y gynulleidfa anferth oedd yn bresenol yn profi uwchlaw pob amheaaeth fod yna berson a fawr edmygid gan gylch eang o'r wlad yn ymadael o'n plith. Yn ogymaint, ebai, ag mai y gymdeithasgrefyddol yw y gymdeithas bwysicaf ar wyneb y ddaear, ac mai undeb yr eglwys a'r gweinidog yw yr undeb gweledig bwysicaf yn y gymdeithas hono, y mae yn canlyn felly mai dadgysylltiad yr undeb yma yw y dadgysylltiad bwysicaf ar y ddaear. Nid rhyfedd, felly, fod pob gwyneb yn gwisgo gwedd ddifrifol a sobr yn y cyfarfod y noson hono. Hoffai efe Mr. Evans yn fawr fel dyn oedd nid yn unig ynarweinydd crefyddol da, ond hefyd yn arweioydd gwleidyddol gonest a di-dderbyn wyneb. Yr oedd efe (y cadeirydd) yn credu mewn i weinidog fod yn arweinydd i'w gynulleidfa ac i'w wlad mewn pob peth daionus. Yr oedd yn wastad wedi arfer ffieiddio y dosbarth cul, rhagfarnllyd, hynyoeddynceisio gosod y gag ar geg y gweinidog mewn pethau gwleidyddol, a hyny am mai gweinidog ydyw. Dylai y gweinidog gael yr un rhyddid mewn cymdeithas a rhyw ddinesydd da arall. Dymunai Dduw yn amlwg iawn i Mr. Evans, yn ogystal ag i'r eglwysi fu dan ei ofal yn ystod yr un-mlynedd-a'r-ddeg diweddaf. Yna darllenodd y Cadeirydd lythyrau oddi wrth y personau canlynol, yn datgan eu gofid nas gallent fod yn bresenol yn y cyfarfod y noson hono, sef :Parchn. T. P. Phillips, Llandyssul; E. Evans, Llanbedr E. Jones, Llwyncelyn; Gwilym Evans, Aberayron; J. J. Jones, B.A., Rhydybont; Charles Hughes, B.A., Ceinewydd John Williams (B.), Y H., Aberteifi; a Dr. Enoch Davies, Y.H., Bryn- teifi. Baich yr epistolau hyn oedd fod Mr. Evans yn ddyn orthodox i'r earn mewn duwinyddiaeth, cymdeithasiaeth, gwleidydd- iaeth, a phob 'aeth' arall syddynnghredo ganOnaidd yr enwad annibynol ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ac yn mhell- ach, ei fod wedi ac yn parhau i wneud ei oreu i perRwadio eraill i gredu a gweithredu fel efe ei hun. Yna galwodd y Cadeirydd ar y Parch. Daniel Evans, Fronfach, i anerch y cyfarfod, yr hwn a gyfeiriodd at yr ymdrech a wnaeth- pwyd gan Mr. Evans i adeiladu y vestry room a'r ty capel hardd yn Nghapel y Wig, a'r capel newydd prydferth yn Llangranog, pa rai fydd yn aros yn gof-golofnau iddo am lawer o flynyddau i ddod. Yr oedd llwyddiant Mr. Evans yn brawf amlwg o'r gallu anrhaethol sydd gan yr efengyl i symbylu pobl i ddaioni Yr ydoedd yn anhawdd i ni esbonio ei ymadawiad. Dyn ar draethell amser, fel y pysgodyn ar draethan'r cefnfor mawr, nis gall roddi cyfrif na rheswru oir cyfhewidiadau sydd yn cymeryd lie o'i gwmpas. I Y peth yr wyf yn ei wneuthur ni wyddost ti yr awrhon, eithr ti a get wybod ol .nyn." Eisieu ffydd gref yn y Duw digyfnewid sydd, ac yna bydd yn ddigpu hawdd digympd a'r mynych gyfnewid .1_ ,.f Parch. D. Cadfwlch Davies, Cilcenin, a siaradodd yn nesaf. Datganodd yntau ei ofid fod brawd mor hynaws a Mr. Evans yn ymadael o'r cyfundeb, ond nid oedd yr ymadawiad yn ddrwg digymysg. Y mae ymadawiad bob amser yn angherddoli y serch: —' Absence makes the heart grow fonder.' Teimlai efe lawer mwy o ddylanwad gweinid- ogaethol ei ddiweddar addfwyn weinidog ar ol iddo farw nag a wnaethai erioed pan oedd y gwr da hwnw byw. Byddai plant a phobl ieuaine Capel Wig yn anwylo mwy o'r syniadau a'r cynghorion gawsant gan Mr. Evans ar ol iddo ymadael, nag a wnaethent pe yn aros o hyd yn eu plith; felly, nid ydyw ymadael yn amgylchiad heb ddim daioni yn nglyn ag ef. Mr. J. E. Jones, Draper, Llanarth, a ddywedodd ei fod ef, er nad yn bregethwr ei hun eto, yn gredwr mawr mewn pregethwyr, a'i broflad ef oedd nad oedd y rhai hyny nag sydd yn credu yn y pregethwyr yn credu chwaith yn Nuw y pregethwyr. Yr oedd ei syniad ef yn uwch lawer am Mr. Evans 'nawr na saith mlynedd yn ol. Dim ond y cyfarwydd a Mr. Evans allasai weled ei brif ragoriaethau. Yr oedd yn weithiwr mawr yn mhob cylch. Dylid rhoddi rhan helaeth o'r clod am ei waith i Mrs. Evans, yr hon oedd wedi profi ei hun yn gydmares gymwys iddo. Drwg iawn ganddo ei bod hithau yn ymadael; ond tebyg na fuasai hi yn symud oni bai fod Mr. Evans yn gomedd myned hebddi. Parch. O. R. Owen, Ceinewydd, a ddywedai mai cwrdd i adolygu gwaith ydyw cwrdd ymadawol; a chanfod Mr. Evans wedi gwneud llawer o waitb, yr oedd ganddynt lawer i'w ddywedyd am dano. Yr oedd yn feddianol ar gymeriad glan gIoew. Diameu fod rhywbeth gan Rhagluniaeth i wneud a'i symudiad. Yr oedd mwy o waith i'w wneud yn y Maerdyna'rWig, er mai i ddosbarth cyffelyb o bobl y byddai Mr Evans yn pregethu eto. Cardies gartref yn y Wig, a Chardies oddi cartref yn y Maerdy. Hwyrach y byddai yn offeryn i achub plentyn drwg i ryw un oedd yn yr oedfa y noson hono, yr hwn fyddai wedi llithro ar y goriwaered ar lithr-raddfa pechod Sir Forganwg. Parch. William Griffiths, Maenygroes, a ddywedai mai yn yr un winllan y byddai Mr. Evans yn llafurio. eto. Defaid eraill hefyd sydd genyf, y rhai nid ynt o'r gorlan hon a gofalu am y defaid eraill' y byddai Mr Evans o hyn allan, ond yn ngwasanaeth yr un perchenog eto. Mae wedi bod yn ymdrechol iawn yn y Wig, a gobeithio y bydd yn gyffelyb eto yn y Maerdy. Bydd ei fywyd pur yn siarad ar ol,iddo ymadael. Nid yw yr annuwiolion yn hoffi purdeb ac unplygrwydd. Mae yn fwy o bechod yn ol eu syniad hwy i ddangos drwg na gwneud drwg. Nathan, felly, yn waeth pechadur na Dafydd r Medrai a meiddiai Mr. Evans ddangos drwg, a dyna yr unig lwybr i ddyrchafu cymdeithas. Parch. J. Lewis (M.C.), Penmorfa, a ddywedai ei bod yn bleser ganddo gwrdd a Mr. Evans bob amser. Yr oedd yn meddu ar gymeriad diargyhoedd. Ni feddyliodd neb erioed am osod detective i wylio symudiadau Mr. Evans, ac felly y dylai bucbedd pob gweinidog i Iesu Grist fod. Gobeithip y, byddai Mr. Evans yn faer y Parch. Carolan Davies-, Ty'nygwndwn, a ddywedai ei fod yn dda iawn ganddo glywed y I, fath ganmolia<eth i Mr Evans; y gwynebau • hiraethus oad^ yno ya ddigon i brofi y III yu .llowv UY tS helaeth y mae Mr. Evans yn feddiann yn nghalonau pobl ei ofal. Yr oedd llawer o linynau euraidd yn cael eu chwilfriwio yn y cyfarfod hwnw. Gobeithiai y byddai y cyfan er daioni. Ar ol i'r Parch. D. D. Davies ddywedyd gair, galwyd ar y personau oedd yn cyflwyno y tystebau i ddod yn mlaen, pryd y cyflwyn- wyd pedaircoda-id o aur ac arian i Mr. Evans. Y cyntaf gan Mr John Lewis, Uelliau, dros eglwys y Crugiau, yr hwn a ddywedodd mai arddangosiad o barch oedd ei rodd ef, ac nid tal i Mr. Evans am ymadael. Mr. Evans yn dod yn fwy parchus yn y Crugiau y nail flwyddyn ar ol y llall. Mab Tangnefedd 1 ydoedd. » Siaradodd Mr D. James, Penarfach, blaenor arall o'r Crugiau. Ei deimlad ef oedd :•— Yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf.' Yna cyflwynwyd codaid arall o aur gan Mr David Davies, Llety, dros eglwysi y Wig a'r Cranog. Dy.wedai fod y rhodd oedd ganddo ef wedi ei golygu i fod yn arwydd o barch yr eglwysi at Mr Evans. Byddai yn dda iawn ganddo pe bai Mr Evans yn aros yn y lie o hyd, oblegid yr oedd ei anwyldeb tuag ato yn ychwanegu yn barhaas. Ambell i air croes yn dygwydd yn y teulu goreu, ond nid yw yr haul byth yn machlud ar eu digofaint. Cafwyd pregeth ardderchog^ gan Mr Evans y nos Sabbath diweddaf ar y geiriau, 4 Nac ymrysonwch ar y ffordd.' Bendith Dnw fyddo arnoef a'i deulu anwyl. Mr Rowlands, Cwmhawenfawr, a obeithiai gan fod Mr Evans yn ymadael o gwbl, yr ymadawai ar ei well. Mr Evans, Auctioneer, Cefncwrt, a ddywed- odd na fu erioed o'r blaen mewn cyfarfod ymadawol. Yr oedd Mr, Evans wedi bod am flwyddyn yn lletya o dan eigronbIwyd ef, ac fe allai ddwyn tystiolaeth ddiamwys iddo fel dyn o ymddiried a ffyddlon yn mhob cylch daionus. Bu yn weinidog da i Gapel Cranog, a byddai dymuniadan goreu Cranog yn sicr o'i ganlyn i'r Maerdy. Mr Jones, Bwlchclawdd, a gyflwynodd anrheg arall i Mr Evans dros Ryddfrydwyr y dosbarth. Dywedai, er mai Rhyddfrydwyr oeddynt, nad oeddynt yn ddigon rhydd i ollwng Mr Evans ymaith heb wneud rhyw gydnabyddiaeth iddo. Yr oedd wedi gwas- anaethu y cylch yn rnagorol mewn ystyr wleidyddol, ac wedi rhoddi boddlonrwydd eyffrodinol yn ystod y tymor y bu yn cynrychioli y gymydogaeth ar y Cynghor Sirol. Yna cododd y Parch. Hope Evans i ddiolch. Gwelai fys Duw yn hollol amlwg yn ei symudiad. Llawer o bethau yn ymddangos yn ddamweiniau i ni, ond nid ydynt felly i Dduw. Gweithio caled welodd ef yn y Wig, ond nid yw gwaith wedi ei ladd. Gallai ddweyd ei fod wedi bod yn ffyddlon i'w gydwybod i'r gwirionedd ac i'r eglwysi. Bu mor heddychol ag oedd bosibl a bod yn onest. Nid oedd wedi colli yr un cyfaill yn ystod ei arosiad yn eu plith, ond yr oedd wedi enill llawer. Cerddodd ganoedd o filldiroedd i gasglu at Gapel Cranog, ac y mae y ddyled oil wedi ei thalu. Heddwch a thangnefedd ffyiiia rhyngddo hwynt bob a mser.' Hiraeth mawr arno ar ol y Crugiau. Ni Wnaeith y Crugiau ddim tu cefn i'w gweinidog erioed. Dymunai fendith Duw ar y tair: a'r holl wlad yp gyffrfedinil. u iofu V iiilii Ui»K,S V. •». •, •»