Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
WILLIAMS Largest Stock in Wales. 22ct Gold Wedding Kings. 18ct Gold Keepers. ENGLISH PATENT LEVER WATCHES. Brazilian Crystal Spectacles 29, CASTLE STREET, SWANSEA.
Advertising
Advertising
Cite
Share
WILLIAMS Watchmaker & Jeweller. 29, CASTLE STREFrr SWANSEA. Gymry hofF dewch at y Cymro. Os am heirdd fodrwyau aur; Oriaduron ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd Gwres-fesurydd, cwmpawd m6r, Geir gan WII.LIAMS, H eol-y Castell, Trowch i mewn i weld ei
MR. GLADSTONE.
News
Cite
Share
MR. GLADSTONE. Ar byd ei fywyd, ei farn-a gynhes Ddadgauat'. ddiragfarn Anmherffaith seilwaith wnai 'n sarn, Ergydiai yn bur gadarn. Ystryw neu. anonestrwydd-egwyddor A ddadgaddiai 'n ebrwydd Ni fedrai ef anfadrwydd Dreng sarff er dringo i swydd. Dwys amlygiad o'i syml ogwydd-i waith Ei oes barai dramgwydd; Ei rodiad diwaradwydd, A'i sel oedd deilwng o'i swydd. Am guddio grym egwyddor,—nid ydoedd Y nodedig flaenor; Ei ddawn atdynaa i'w ddor Enwog werin y gorot. 0 flodeuog safle dawel—ei drem A dry yn ddiochel; Trwy 'i oes, ystrywiau isel A garw daith o'i gryd a wel. Gweriniaeth a goronir-A. deiliog Dalaeth, ac fe seinir Yn ein gwlad ei enw 'n glir-tra bo iaith, A'i galed fawrwaith a glodforir. J MTBDDIN THOMAS*
NODIADAU WYTHNOSOL
News
Cite
Share
NODIADAU WYTHNOSOL -0- YN y rhyfel |rhwng China a Japan, colli'r dydd yw banes China o hyd. Gwnaed cynyg am heddweh rhyngddynt ychydig amser yn ol, ond nid oedd cynrychiolwyr China yn meddu awdurdod, y pryd hwnw, i wneud cytundeb terfynol, ac ymwasgarwyd heb wneud dim. Erbyn hyn, mae cynrychiolwyr y ddwy wlad wedi eu hawdurdodi yn briodol i gytuno ar amodau. heddwch; a disgwyliwn, bellach, y terfynir y rhyfel yn fuan. Tua phymtheg mlynedd yn ol pasiwyd y Ddeddf Claddu, yn ol yr hon y gall Ymneill- -duwyr, ac ereill, hawlio claddu eu perthynasau mewn,tir cysegredig heb wasanaeth Offeiriad Eglwys Lloegr. Gwnaed llawer o ymdrechion ^anmoladwy yn ystod y ddeng mlynedd ttlaenorol i gael hyny o gyfiawnder, ond rhyfedd mor hwyrfrydig yw llawer o Ymneillduwyr proffesedig i fanteisio ar y ddeddf newydd. Un rheswm am hyny yw, inai deddf hanerog iawn ydyw. Rhaid rhoddi wyth awr a deugain o rybudd i'r OSeiriad; ae er gwnend hyny, gall efe daflu llaWer o rwystrau ar y ffordd. Gall atal y perthynasau gael eu claddu yn ymyl eu gilydd' Gall rwystro yr angladd os na chymer le o fewn yr oriau penodedig gan y gyfraith ac y mae claddu o fewn yr oriau hyny bron yn anmhosibl. yn y gweithfeydd. Er anrhydedd iddynt mae 11u o Offeiriaid yn well na'r ddeddf, ond y mae ambell un na wna ddim ond yn ol llythyren fanwl y gyfraith, a hyny yn ddigon prin. I gyfarfod a'r pethau hyn, dygodd Mr Carvell Williams fesur yn mlaen i ddiwygio y Ddeddf Claddu, a darllenwyd ef yr ail waith nos Fercher y 6ed cyfisol. Rhanwyd y Ty, a chaed fod dau o blaid y mesur am bob un oedd yn ei erbyn Bore dydd Iau, cymerodd trychineb ofn- adwy le yn y Brifddinas. Yn un o heolydd y ddinas, preswyliai gweithiwr, o'r enw Taylor, a'i wraig, a saith o blant. Credir fod Taylor wedi gwallgofi, oblegid llofruddiodd ei briod a chwech o blant yn ystod y nos. Ceisiodd lofruddio y saithfed hefyd, ond diangodd bwnw yn archolledig, a galwodd am gynorthwy. Pan aed i'r ty, yr oedd gwaed y trueiniaid yn gorchuddio y lie, ac yr oedd Taylor wedi tori ei wddf ei hun erbyn hyny, a bu farw ar y ffordd i'r Clafdy. Dywed y cymydogion fod y teulu yn arfer bod yn hoff i o'u gilydd, a bod y gwr yn ddyn sobr a pharchus, ac fod pawb a'i hadwaenai wedi eu taro a syndod Yr oedd allan o waith oddiar Nadolig, a chan nad oedd yr henaf o'r plant ond 14 oed, ofnir fod ei amgylchiadau gwasgedig wedi dyrysu ei feddwl, a'i fod, dan ddylanwad gorphwylIedd, wedipenderfynu lladd ei deulu hoff yn hytrach na'u gweled yn dyoddef angen. Wrth feddwl am drneni y tlodion, da genym gofnodi fod y diweddar Ganghellydd Briscoe, o Gaergybi, wedi gadael y swm anrhydeddus o ddeng mil o bunau ( £ 10,000) yn ei ewyllys i dlodion y dref hono. Gwein- yddir y gymunrodd hon gan y Ficer, y ddau warden EglwySig, a gweinidog hynaf yr Annibynwyr, y Methodistiaid, a'r Wesleyaid. Dyna esiampl deilwng o gael ei hefelychu gan luaws o gyfoetbogion; ac eto, byddai pasio deddfan i rwyddhau y ffordd i dlodion ein gwlad i enill bywiolaeth gysurus, yn llawer mwy gwerthfawr. Mae cynorthwy mewn tlodi ym dda, ond y mae gwaredu rhag myned i diodi yu Ilswor gwell. Mae peth amrywiaeth barn am y diweddar Broff. John Stuart Blackie; yr hwn fu farw dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, yn 86 oed. Addefir yn gyff redin ei fod yn un o ysgolheigion Groegaidd blaenaf y deyrnas, ond cyhoedda y Goleuad' mai ysgolhaig canolig ydoedd' Ganwyd ef yn 1809. Addysgwyd ef yn Ysgotland ac ar y cyfandir. Bu un adeg a'i wyned ar y weinidogaeth, ond nis gallasai yn gydwybodol arwyddo ei gydsyniad a'r Gyffes Ffydd, ac felly, cymerodd gyfeiriad arall, er ei fod hefyd yn pregethu ychydig yn achlysur- ol yn ei ffordd ei hun. Bu am ddeng mlynedd ar hugain yn Ilenwi Cadair Groeg; yn Mhrif- ysgol Edinburgh, gydag anrhydedd iddo ei hun ac i'r Brifysgol. Yr oedd llawer o neillduol- rwydd yn perthyn iddo, nid anhebyg mewn rhyw ystyr i'r Hybarch M. D. Jones, a'r diweddar Barch. Kilsby Jones. Cyho.eddir fod Llefarydd Ty y Cyffredin, Mr Peel, yn bwriadu ymneillduo o'r Gadair cynted ag y byddys yn barod i ethol ei olynydd. Mae sefyllfa ei iechyd yn anfoddhaol, a dywedir fod amgylchiadau teuluaidd hefyd i fesur yn cyfrif am ei ymddiawyddiad. Gyda gofid y clywir fod tri choedwr wedi cyfarfod a damwain angeuol lyn Mhwll y Gelli, Cwm Rhondda, fore Sadwrn diweddaf, drwy i gwymp syrthio arnynt pan yn adgyweirio'r ffidrdd dan-ddaearol. William Davies, 27ain oed, o Bontrhyd fendigedig, ydoedd un; Rees Morgan, 54ain oed, o Gwmystwyth, ydoedd un arall; William Stegr, 39ain oed, o Bryste, ydoedd y trydedd. Yr oedd y tri yn ddynion priod a theuluoedd ganddynt. Mae brwydr y degwm yn parhau yn bur boeth yn Sir Abertein. Dydd Llun diweddaf, anfonwyd mintai o heddgeidwaid o Sir Forganwg dan gvfarwyddyd yr Is-brifgwnstabl Evan Jones, Pontypridd, i Llanbedr, i gynorthwyo y Prifgwnstabl Howell Evans i gadw'r heddwch tra to Robert Lewis, y beili, yh casglu arian y weinidogaeth i Offeiriaid Sir Aberteifi. Gwnaed ychydig gamsyniadau yno yn ddiweddar—-dyna y rheswm fod hedd- geidwaid Morgan wg yn cael en hanfon yno— ond hyderwn y bydd y Cardies oil yn ddigon doeth i ufuddhau i'r Prifgwnstabl yn mhob peth, gan ei fod yn orawyddus am wnead tegwch i bawb.