Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
"WILLIAMS Largest Stock in Wales. 22ct Gold Wedding Kings. ( 18ct Gold Keepers. ENGLISH PATENT LEVER WATCHES. Brazilian Crystal Spectacles 29, CASTLE STREET, SWANSEA.
Advertising
Advertising
Cite
Share
WILLIAMS Watchmaker & Jeweller. 29, CASTLE STREFrr SWANSEA. Gymry hoff! dewch at y Cymro. Os am heirdd fodrwyau aur; Oriaduron ac awrleisiau, Gemau, a chadwynau claer. Yspectol gelfydd, hin-fynegydd Gwres-fesurydd, cwmpawd môr, Geir gan WII.LIAMS, Heol-y Castell, Trowch i mewn i weld eistSr
Y BLODEU IEUANO GWYWEDIG.
News
Cite
Share
Y BLODEU IEUANO GWYWEDIG. MTNTOH destyn c&n mewn dagran Geir ar daith drwy ddyrys fyd, Am lawenyddLdringo 'r llethran, Cael ei blodau 'n wyw i gyd. Chwilio am b6r a thlws rosynaa, Ar y ddol, y bryn, a'r ardd Gael pob awel ddeifiol angeu Wed,i gwywo 'u gwyneb hardd. Cain enethod, teg ysgafndroed, Oedd a'r rhoeyn ar on grudd, Beobgyn Hon yn nyddiau maboed Ddwg i'w gauaf wely pridd. Hoffaf Itodau 'r teuln mwynall Wywa—dryllio 'r teimladbyw • Aur-gylymau serch ddatoda,— O radd ao oedran, dibris yw. Oad er olwyfo'r dyner fynwes, Er llesghau y galon Ion, Boddi 'r llygaid siriol, cynhes, Gyda heilltion ddyfroedd hon. Dywed llais o'r gwyntoedd deiflol, Nid.,wy.'ngwywo 'rblodau ddim, Ond rhoi bywyd adnewyddol, Iddynt drwy y gauaf llym. Marw, i fyw mae dail yr Hydref, Gorphwys dro<» y ganaf do Felly blodau gerddi gwiwnef, Marw y'nt i'n golwg ni. Ond yn ngwanwyn Gwynfa daw el, Tyfant eto Jn hardd eu gwedd: Bywydi aaint yw 'r deiflol awel, Cymwynftswr yw y bedd. Dysgwylfa, Amanford. T. BRTNWTN MOBOAN.
CYNRYCHIOLI SIR ABERTEIFI.
News
Cite
Share
CYNRYCHIOLI SIR ABERTEIFI. GANPROFf. T. RHYS, B.A. NA feier arnaf am feiddioysgrifenugairneu ddau dan y peDawd hwn. Yno y mae fy hen gartref yno mae fy nghyfeillion cyntaf, ac feallai cynhesaf o'r herwydd yno y dechreuais fyw, a threuiiais yno un-flynedd-a'r-bymtheg o len cyntaf fy mywyd. Yn mhridd yr hen sir mae gweddillion yr hon osododd stamp dyfnaf a goreu ar fy nghymeriad, a dichon y ca yr" hyn sydd farwol o honof finau ryw ddydd ei osod yn y lie y dymunaf iddo fod hyd ganiad yr udgorn—sef, yn un o fynwent- ydd bach diaddurn fy hen sir enedigol. Nid yw yn bosibl, ynte, nad wyf yn teimlo dydd- ordeb yn nahob symudiad pwysig wneir yn Sir Aberteifi, ac nid oes dim pwysicach i'r holl sir na'r gwaith sydd ar droed yno, sef dewis dyn i sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad neeaf i'w chynrychioli yn y Senedd. Gwelaf yn Y CBLT diweddaf fod tri wedi dewis, ac y golygir cymeryd peth amser i ystyried y mater, cyn dewis yn derfynol yr ymgeisydd. Y tri wyr hyn ydynt Mri. Llewelyn Williams, Wynford Phillips, a Vaughan Davies. Yn ol ymadroddion y. Brython Cymreig gyhoeddir yn Llanbedr-Pont- Stephan, dan olygiaeth H. Tobit Evans, Ysw., U.H., Neuadd Llanartb, hen Radical penboeth wedi troi ei got gyda'r diweddar Mr. Davies, Llandinam, gellir deall yn rhwydd mai'r dyn hoffai'r Undebwyr papyr weled yn cael ei ddewis yw Mr. Vaughan Davies. Tipyn o turn-coat diweddar yw Mr. Davies hefyd, onide ? Felly, dyma un turn-coat yn ymladd dros turn-coat arall. Y mae rhyw ddrwg yn y cawl, mi ofnaf. Nid y Cmrdies yw'r dynion i gymeryd eu hudo gan us pwdr drewllyd fel hyn, mi wn. Nid wyf yn dygwydd gwybod fawr ddim am Mr. Wynford Phillips, a dyna'r rheswm ystyriaf yn ddigonol i'w gondemnio. Nid yw yn un o honom ni, y Cymru Fydd. Dichon ei fod yn Radical mawr yn addaw pob peth ofynir iddo, ac yn medru siarad Cymraeg -nis gwn ddim am y pethau hyn, ond y mae yn ddigon amlwg nad yw yn un sydd wedi bod yn llosgi gan yr ysbryd Cymreig gydd erbyn hyn wedi cydio braidd yn yr holl genedl. Mr. Williams yw'r dyn sydd yn eich taro chwi yn Sir Aberteifi. Rhoddaf fy rheaiyman yn fyr. Yr wyf yn barnu y gwnaiff lawercymhwysach cynrychiolydd i chwi na'ch cynrychiolydd presenol. Cyfreithiwr yw eich cynrychiolydd presenol—ar y gyfraith mae yn byw, a'r hen grefft y mae genyf leiaf o barch iddi o bob peth yw crefft cyfreithiwr. Hefyd, mae gormod o gyfreithwyr yn y Senedd o'r y ene baner. Ymladd am eu poced yw eferigyl cyfreithwyr, a dull rhyfedd iawn sydd gan rai o honynt i ymladj. Y mae dynion fel hyn o dan anfantais neillduol i gynrychioli sir, gan y byddant yn ami yn cael eu galw i ymladd dros bob math o ddynion, ao yn erbyn eu cefnogwyr mwyaf aiddgar yn eu sir yn ami. Ni fydd hyn ar ffordd Mr. Williams, os dewisir ef. Cynrychiolydd sydd yn eisieu onide ? sef dyn i ddatgan barn mwyafrif y bobl. Yr hyn sydd angenrheidiol ac anheb- gorol i ddechreu mewn dyn i fod yn gymwys i hyn, ydyw ei fod yn gwybod barn, meddwl, a sefyllfa'r bobl geisia eu cynrychioli. Heb hyn, ni all eu cynrychioli. Fe fydd fel Mr. Rathbone, cynrychiolydd Sir Arfon. Ni wyr hwnw ddim yn y byd beth yw dyheadau Cymro, a aut y gall gynrychioli'r Arfonwyr yny Senedd. Nidywondyniydrwyddison y gall gynrychioli Cymru. T mae Mr. Williams wedi pron yn amlwg ei fod yn un sydd yn deall yr ysbryd Cymreig yn drwyadl. Nis gwn am neb mor obeithiol ag efe, fel Cymro, sydd yn debyg—yn fuan, fuan—o ddringo i fyny yn ngolwg ei gydgenedl. Nai ydyw i'r diweddar Mr. Williams, Castell- newydd, yr areithiwr penaf gododd Cymru erioed, meddai'r diweddar Thomas Jones, Treforis. Y mae'r nai yn debyg iawn mewn amryw ystyron i'r ewythr hyawdl. Clywais Mr. Morgan Evans yn dweyd mai efe oedd y tebygaf welodd erioed i'r diweddar Williams, Castellnewydd. Yr wyf yn meddwl yr un peth, ac yn credn y gellir dysgwyl dyfodol dysgleiriach eto ir nai gan ei fod yn ysgolor ywych—wedi cael y manteision goreu, ac wedi graddio yn anrhydeddus iawn yn Mhrif- ysgol Rhydychain. Efe yw'r dyn yn siwrJi chwi yn Sir Aberteifi. I fyny ag ef, ynte, Gardies dewr ? Peidiwohaboddloniynawr ar ddim ond y goreu. Anfoddloni ar bobpeth ond y goreu ydych wedi arfer wneud. Yr ydychwedi codi yn rhy uchel yn ngolwgy wlad i allu fforddio gwneud dim ond dewis Mr. Williams yn sicr ddigon. Wrth ddanfon Mr. Williams i fyny, fe ellwch ddweyd eich bod yn danfon un o honoch chwi eich hunain i'r Senedd. Fe fedr siarad Cymraeg yn well nag y medr siarad Saesneg, ac fe wyr pawb pa mor rhagorol y medr yr iaith fain. Y mae wedi ei ddwyn i fyny ar fferm fach yh Sir Gaerfyrddin. Rhaid, felly, ei fod yn gwbl hysbys o'ch amgylchiadau chwi'r Sermwyr. Y mae wedi arfer dadleu dros y gwan hyd1 fei fywyd, ac am ei iawnderau i'r Cymro. Grid ofer yw i mi, fe ddichon, ymhelaethu gan eidh bod y5 rhan fwyaf o honoch yn gwbl hysbys o'i ragoriaethau ac mi obeithiaf, wedi gwneud eich meddwl i fyny yn hollol undl, mai Mr. Williams yw eich dyn chwi. Qs hyn, fe adewch i minau gyduno a chwi i chwerthin am ben yr. ynfydyn a feiddia dddd allan yn ei erbyn ddydd yr etholiad. Y mae'r wlad a'i llygad arnoch, gan fod eich gorphenol mor danbaid ddysglaer. Cofiwch am eich gwrhydri, a gwrhydri eich tadau a'ch teidiau yn etholiad bythgofiadwy 1868. Nid pabwyr o ddynion ymladdasant yn y frwydr hono, ac a osodasant eu gelynion oil yn gydwastad r llawr y cerddent arno. Y mae swn y dyoddefwyr glwyfwyd yn y frwydr hono i'w glywed eto. Y styriw ch, ynte, pa fath ddynion ydych chwi In cael y fraint o sangu yn ol ea traed. Chwi fyddwch deilwng o'ch rhag- flaenoriaid, a maddeuwch i mi am siarad teimlad sydd braidd yn llosgi ychydig dros Gymru, Cymro, a Chymraeg.