Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.OLWG AB Y DDAIAR A GOLWG…

News
Cite
Share

.OLWG AB Y DDAIAR A GOLWG AR Y NEFOEDD, AR NOSWAITH REWLLYD, GLIR YN Y GAUAF. (DBRNYN). Mi edrychais ar y ddaiar- Oer ac anial oedd ei gwedd Gwywdra drosti yn ymdaenu- Bywyd megis yn ei fedd T difaol oerion wyntoedd Yrodd ymaith adar cerdd Ac ni wisgir dol na choedydd A blodeuyn na deilen werdd. Mudion yw y ffrydiau llafar, Gwelwa gruddiau anian dlos 'R eira megis amdo angeu, A'i gorchuddia ddydd a nos; Ocheneidiau plant cyfyngder Ar aelwydydd oerion, tlawd, Neu yn crwydro heb un cartre' Sura bobpeth is y rhawd. Mi edrychais tua'r nefoedd, 0 mor brydferth yw ei gwedd! Trwy holl gyrion yr emgder Ceir sirioldeb pur a hedd Mae y ser yn fyrdd, myrddiynau, Naill yn edrych dros y llall, Fel ymrysoii am gael golwg Ar ein daear wyw a mall. Ydynt hwy yn earn edrych I'r olygfa bruddaidd lion ? A gant bleser mewn gofidiau Rwygant galon gareg bron ? Ai ymwenu ae amneidio A chythreulig wen o wawd Wnant, at oerder maith gauafol, A thrueni'n daear dlawd ? Na, 'does arliw o greulondeb, Na mwynhad yn mhoenau'r byd, Nac o wawdiaeth balch genfigeu. Trwy y nefoedd wen i gyd Nid ymwisgant mewn gogoniant, Cbwaith er bunan glod a bri j Nac er dangos eu rhagoriaeth Ar ein. daear lwydaidd ni. Ond cyhoeidant fod y cydfyd 'Nun frawdoliaeth deg, ddiball, 0 fewn cylch y cariad dwyfol Mewn cyd-deimlad naill a'r llall, Blentyn Duw, na ddigalona, Tro'th olygon tua'r nen; Pan ddifhdd holl oleunidaear, Daw'r nef i'r golwg uwch dy ben. Gwel ei breicbiau'n estynedig, A'i digwmwl fynwes fawr, Yn ymagor i gofleidio A chroesawu plant y llawr; Fel pan oeraf a chreulonaf, A duaf fyddo ael y byd, Dyaa'r pryd y ceir y nefoedd Yn sirioldeb byw i gyd. Trawsfynydd. W. W. OWEN.

CYMRY CYHOEDDUS.