Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

WYDDGRUG.

News
Cite
Share

WYDDGRUG. Angen mawr am Ysgol Bamadegol neu Com- mercial and Classical School yma.—Bu yma ysgol euwog flynyddoedd yn ol a gedwid gan y Parch. Isaac Harries yn nghapel yr Annibya- wyr. Trwy gadw ysgol lwyddianus ac uwch- raddol y cynaliai'r gweinidog dysgedig a llafurus hwnw ei hun ac y casglodcl ganoedd o bunau, oblegid ni bu ei gytiog erioed uwch- law jpedwar-swllt-ar-ddeg yr wythnos. Bu yma rai yn ceisio cychwyn a chadw ysgolion ar ol Mr Harries, ond ni fu yma un cyflelyb i'r eiddo ef. Nid oes o fewn y dref ysgol ramad- egol o un math. Y mae yma ysgoldy cyfleus iawn, ond yn wag, ac y mae angen mawr am sefydliad dysgeidiol yma. Os digwydd 1 ddyn ieuanc a garai gychwyn ysgol felly—rhai o'n myfyrwyr sydd wedi gorplien eu cwrs atliro- faol ac heb daraw ar le-neu rywrai ereill medrus fel ysgolheigion, wcled y llitli hon, ymohebant a gweinidogion y dref, y rhai yn ddiau gyda pliarodrwydd a roddant bob cyfar- wyddyd a chynorthwy. Pan ystyrier nad oes yma ysgol, fod yma ysgoldy gwag cyfieus, a bod angen mawr am y cyfryw un a enwyd, wele adwy agored gampus i ddyn ieuanc medrus ac anturiaethus. Yr efengylwr Richard Owen.—Y mae bellach wedi bod yma ddwywaith, a llwyddodd i gael tyrfaoedd mawrion i'w wrando bob tro. Ych- wanegwyd ugeiniau o aelodau at yr eglwys Fethodistaidd, ond ni fu un o'r enwadau ereill nemawr, os dim gwell. Isel iawn ydyw cyfiwr crefydd yma oddigerth yn mhlith y Methodist- iaid drwy ofEerynoliaeth y Parch. R. Owen, ac yn yr Eglwys Sefydledig. Dyn llafurus iawn ydyw y Parch. Rowland Ellis, M.A., y ficer, a phregethwr galluog yn Nghymraeg a Saesneg. Trwy ei lafur dianwadal adeiladwyd yma eglwys Gymraeg, i'r hon y cynulla llawer iawn o bobl. Y mae hefyd wedi cychwyn achos eg- lwysig yn Gwernymynydd. Yr unig achosion newyddion a gychwynwyd gan yr Annibynwyr yn yr ugain mlynedd diweddaf yn y cwmpas- oedd hyn ydyw yr eglwysi yn Llaneurgain a Choedllai-y naill gan y Parch. D. B. Hooke a'r llall gan y Parch. J. Myrddin Thomas. Marweidd-dra Masnach.—Yr un yw y gwyn a glywir gan bawb wrth son am gyflwr masnach yma. Ni fu pethau erioed yn waeth yma nag yn awr. Nid oes ond dau waith glo yn cerdded yma yn awr, lie yr oedd chwech flynyddoedd- yn ol. Y mae gwaith Nerquis wedi newydd sefyll, er colled i ugeiniau. Er digalondid i fasnachwyr y dref, y rhai sydd yn lleng yn difa eu gilydd gan amldra eu mfer, nid oes yma neb yn rhyfygu darogan amserau gwell yn Achos Birwest.—Bu yr achos daionus hwn yn llwyddianus iawn yma ond nicl oes un math o gymdeithas ddirwestol o fewn y dref yn bresenol, ac yn wir nid ydwyf yn siwr a roddid benthyg rhai capeli yma i gynal cyfarfodydd dirwest oblegid fod Hawer o benaethiaid yr eglwysi heb gredu mewn llwyrymattaliaeth na ehymedroldeb ychwaith rai o honynt. Ni fedrant gywilyddio Y Neuadd G'yhoeddus.- Y mae hon newydd gael ei gorphen, yn cynwys ystafell eang at gyfarfodydd cyhoeddus a darllenfa gyfleus, hefyd y mae cloc mawr yn crogi allan ar ei thalcen a roddwyd yn anrLeg i'r dref gan Dr. Williams, Woodlands. Dywedir mai traul yr adnewyddiad .ydoedd 1200p. a bod y Local Board rate yn drymlwyth y gwingir dano gan lawer, ond y cysur yw nad yw yr ychwanegiad at y dreth ond am un haner blwyddyn, ac y bydd y Beading Boom o les dir^awr i bobl ieuainc y dref. Y mae y neuadcl yn hardd- wch ac yn llesiant, a bydd yn gaffaeliad mawr yn lie yr adeilad ysguboraidd oedd yma. BrynyBeili.—Hwn ydyw gogoniant penaf y dref, ac oddiwrth hwn y cafodd yr enw Gwyddgrug, Mont Ault y gelwid ef gan y Sa.eson-llygriad o Mons Altus, a llygriad o hyny ydyw Mold. Yr oedd ar y gwyddgrug gastell Prydeing cyn dyfod y Rluifeiniaid i lirydain. Wedi iddo syrthio i feddiant y Saeson bu Owen Gwynedd yn codi rhyfel a phlant Alis, ac adenillwyd ef ganddo. Cae Owen Gwynedd y gelwid y maes gyferbyn iddo, ar du gorllewinol y bryn am mai yno y trefnodd y cadfridog hwnw ei fyddin ymosod- ol. Y mae y Beiii wedi ei wneuthur yn bL s- erfa hardd; a thynir yma gan ymwelwyr 3' dref er mwynhau yr awyr iach a'r golygfeyc" d. Terfynaf fy llith hon heb ychwanegu dim, am ei bod wedi myned yn faith eisoes, ond dwend liwyrach yr ymdrafodaf a hynaiiaethau yr Wyddgrug yn fy nesaf. TALARIANT.

CYMANFA SIR GAERFYRDDIN".

LLOFFION 0 DDYFFRYN TAWE.