Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYNADLEDDAU YR EGLWYS GRISTIONOGOL.

News
Cite
Share

CYNADLEDDAU YR EGLWYS GRISTIONOGOL. MR GoL,—Bydda.f ddiolchgar os caiff y cyfieithiad dilynol o Mosheim Church History, ymddangos yn eich newyddyr clod- wiw.—Yr eiddoch, M. D. JONES. Undeb neu Gymdeithasfa yr eglwysi talaethol a dechreuad cynghorau. Yn ystod rhan fawr o'r ganrif hon yr oedd yr eglwysi Cristionogol yn annibynol mewn perthynas i'w gilydd, ac nid oeddynt yn unedig gan nag undeb, cynghrair, nac un- rhyw rwymau eraill ond yr eiddo cariad. Yr oedd pob cynulliad Cristionogol yn dalaeth fechan llywodraethedig gan ei chyfreithiau ei hun, y rhai oedd naill ai wedi eu gosod neu o leiaf wedi en cymeradwyo gan y gym- deithas. Ond yn nghwrs amser ffurfiwyd holl eglwysi Cristionogol perthynol i dalaeth. i un corph eglwysig mawr, pa rai fel gwlad- wriaethau cynghreiriol, a ymgynullent ar amserau penodedig mewn trefn i ymdrafod o barthed i fuddianau cyffredinol yr oil. Cafodd y sefydliad yma ei tharddle yn mysg y Groegiaid, gyda pha rai nid oedd dim yn fwy cyffredinol na'r cynghrair yma o wlad- wriaeth annibynol, a'r cynulliadau rheol- aidd a ymgyfarfyddent mewn canlyniad i hyn ar amserau penodol, pa rai a gyfan- soddid o ddirprwywyr pob gwladwriaeth. Oni ni chyfyngwyd y cymdeithasfaoedd hyn i'r Groegiaid yn hir* Nid cynt y canfydd- wyd eu defnyddioldeb mawr, sag y daeth- ant yn gyffredinol, a ffurfiwyd hwy yn mhob man lie yr oedd yr efengyl wedi ei phlanu, Fr cynulliadau yma lie yr ymgynghorai dir- prwywvr neu genhadon amryw eglwysi a'u gilydd, rhoddwyd yr enw Gymanfaoedd Eglwysig gan y Groegiaid, a chynghoiau gan y Lladinwyr: a gelwid y cyfreithiau a roddid yn y cyfarfodydd cyffredinol hyn yn I Canonatt, h.y., reolau. III.-Awdurdod yr Esgobion yn cael ei ychwanegu gan y Cynghorau hyn. Newidiodd y cynghorau hyn, o ba rai ni chanfyddwn yr olion lleiaf cyn canol y gan- rif, holl wyneb yr eglwysi, a rhoddod d idd ffurf newydd, oherwydd lleihawyd ganddynti lawer iawn o ragorfreintian cynteiig y bobl, ac ychwanegwyd gallu ac awdurdod yr esgob- ion yn fawr! Rhwystrai gostyngeiddrwydd a challineb yr esgobion duwiol hyn hwynt i gymeryd ar unwaith y gallu a pha un y cynysgaeddwyd hwy yn olllaw. Ar eu hymddangosiad cyntaf yn y cyng- horau cyffredinol hyn, cydnabyddent nad oeddynt amgen na dirprwywyr eu gwa- hanol eglwysi, a'u bod yn gweithredu yn enw y bobl ac yn rhinwedd eu hapwynt- iad ganddyat. Ond buan y newidiasant Y don ostyngedig hon, ac estynasant yn ddirgelaidd derfvnau eu hawdurdodau, troisant eu dylanwad i aiglwyddiasth a'u cynghorion i gyfreithiau ac honasant yn agored o'r diwedd fod Crist wedi eu haw- durdodi hwy i ysgrifenu i'w bobl reolau awdurdodol ifydd ac arferion. Effaith arall a ddilynai y cynghorau hyn oedd diddymiad graddol y cydraddoldeb perffaith hwnw affynai yn mysg holl esgobion yr amseroedd cyntefig. W. CARADOG JONES.

TAITH I GAERGYBI.

BWLCHGWYN.

[No title]

NODI AD A TJ GrOL YGrYDDOL.