Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
PENYCAE, MIIWY.
News
Cite
Share
PENYCAE, MIIWY. Da, genym allu dwyn tystiolaeth fod yn y lIe hwn argoelion ffafriol am y dyfodol. Y GrWAITH GLO A HAIARN fel pe wedi dihuno' yr wythnosau diweddaf, fel y mae awaith i bawb unwaith eto, heb y stops y sonir cymaint am danynt yn y rhan hon o'r wlad. Hefyd mae yn llawenydd meddwl fod MOESOLDEB A CHREFYDD mor Rehel eu penau yn y gymydogaeth. Nid oes ond llwyddiant graddol yn ein holl eglwysi l) Carmel, Cendl, i Bethel, Victoria, ond y mae brenin y dychryniadau wedi talu ymweliad ag eglwys Saron, ae wedi dwyn ymaith un o'i phrif golofnau, yn mherson METHUSAXiEM EVANS. Yr oedd ei dad yn gefnder i'r enwog Barch. Christmas Evans, a/i fam yn ferch. i'r Hybarch Methnsalem Jones, Merthyr Tydfil. Symud- ,odd ei rieni o Ferthyr i Gendl cyn dechreuad yr achos yno, ond trwy gynorthwy a chyd- weithrediad tri o garedigion crefydd md liir y buont cyn eyehwyn eglwys Carmel. Llwydd- odd Duw ymdrechion y nifer feclian hono yn ^ymaint fel y daetb yr eglwys eyn liir i rifo ei chanoedd aelodau. Tuag adeg sefydliad yr achos y ganwyd Methusalem Evans. Dygwyd ef i fyny yn swn newyddion da," ac mewn canlyniad tyfodd i fyny yn gedrwydden gref yn eglwys Dduw yn y lie.. Yr oedd yn gyfaill trwyadl i'r Ysgol Sabbothol ar liyd ei oes. Bu yn athraw ynddi am lawer o flynyddoedd, a o-werthfa.wrogideisel,.ei yni, a'i lafur dibaid £ an ei ddosbarth. Y fath oedd ei ymroddiad f wasanaeth crefydd a'i awydd amlwg am wneuthur daioni, fel y dewiswyd ef, tra yn bur iuanc, i'r swydd ddiaconaidd, yr hon a lanwodd yn anrhydeddus hyd ei ymadawiad i Saron, Penycae, lie y parhaodd i flaenori y bobl hyd 0 fewn ycbydig i'w farwolaetb. Yr oedd yn fardd a Ilenor nid anenwog, ernachyhoeddodd ryw lawer o'i gyfansoddiadau. Ymddangosodd darnau tlysion o'i eiddo ar Danchwa Aber- carn," Y Bedd Gwag," &c., a bu darnau o'i eiddo yn fuddugol droion mewn cystadleu- aetbau Eisteddfodol. Yn ei deulu gartref yr oedd yn hynod am ei dynerwch fel tad a'i Jiawddgarwcb fel priod. Nid crefydd y capel a'r cyfarfod cyhoeddus oedd ganddo, ond crefydd yn y teulu hefyd. Gwnaetb ei oreu i ddwyn ei blant i fyny yn mhob rhinwedd a sancteiddrwydd, a chafodd y fraint o weled nad oedd ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd." Mae y mab a'r tair merch yn dilyn camrau eu tad a'u mham, ac yn dwyn mawr sel dros achos Duw, a chredwn y bydd y mab Isaac mor llafurus a llwyddianus yn ngwasanaetb ei Dduw ag y bu yr hen batriarch ffyddlon, ei dad, o'i flaen. Dymunwn adferiad iechyd buan i'r weddw hiraetblon, Mrs Evans; Duw yr ymadawedig fyddo'n Dduw iddi hi a'i pblant drwy eu hoes; a chyfoded yn eglwys Saron lawer un o gyffelyb fedr, ymroad a duwioldeb a Methusalem Evans.-Aelod.
BRYNGWENITH, CEREDIGION.
News
Cite
Share
BRYNGWENITH, CEREDIGION. Cynaliwyd cyfarfod chwarterol y cyfundeb yn y lie uchod ar y Mawrtli a'r Mercher, yr wythnos ddiweddaf. Etholwyd Mr Evans, Aberaeron yn llywydd y gynadledd. Cyfarfod nesaf i fod yn Llanbedr yn mis Awst. Der- byniwyd i'r cyfundeb y Parchn. Davies, Taly- bont, Jones, Ceinewydd, a Williams, Llechryd, taer anogwyd hwy i fagu a meithrin ysbryd cyhoeddus, a gofalu yn arbenig am ein cyfar- fodydd cyhoeddus, os gwnant hyn bydd eu cael i'r sir yn gaffeiliad. Pasiwyd yn unfryd- ol fod llythyr o drosglwyddiad i gyfundeb Brycheiniog i gael ei roddi i'n hanwyl frawd, Mr Beynon, gynt o Abertein, ar ei sefydliad yn Builth. Ni phenderfynwyd gyda golwg ar Ie y gym- manfa orllewmol yn y sir hon y flwyddyn nesaf. Nid wyf yn meddwl y caniata Cered- igion iddi farw o eisieu lie. Ar gais taer y gynadledd, mae y brodyr canlynol wedi ■ addaw casglu at y genhadaeth sirol, Mri Phillips, Horeb; Thomas, Beulah; Thomas, Llanfair, a Jones, Cilcenin-. Trefnwyd fod y gyfran o arian y Jiwbili sydd wedi ei dyfarnu i'r cyfundeb hwn, i gael eu rhanu yn ol cyfar- taledd y casgliadau a wnaed yn Aberystwith, Borth a Siloa. Ar ol gorphen a'r materion cyhoeddus, trowyd y gynadledd yn gyfeillach grefyddol. Sylwyd fod yn bwysig cael syniad clir, a syniad cywir ar amcan y cyfarfodydd. Paham yr ydym ynddynt ? Beth geisiwn p Yn bwysig cofio eu bod yn arogl bywyd neu farwolaeth. Dynion da yn hoff o gwrdd a'u gilydd, rhai yn myned i fyw i'r un wlad yn rhwynio ffurfio cyfeillgarwch, felly y mae .plant Duw. Gallu mewn cymdeithas i brofi crefydd, ac i'w dad- blygu nad oes dim arall a'i gwna, rhaid rhoi a derbyn. Marwolaeth sydd yn teyrnasu lie nad oes dim ond derbyn. Mor Galilea yn derbyn yr Iorddonen, ac yn rhoi ffrwd allan. Yr oedd yn llawn bywyd. Y Mor Marw yn derbyn, ond yn rhoi dim. Mae ei enw yn nodweddu ei gymeriad. Rhaid i ni roi cyn bod yn debyg i'r Brenin Mawr. Teimlai pawb mai da oedd hod yno. Yr oedd y cyfarfod yn gwrdd agoriad y capel newydd. Capel o ymddangosiad pryd- ferth heb dim rhodres, o gynlluniad a gwneu- thuriad rhagorol. Mae y capel newydd wedi ei adeiladu ar ddarn o dir perthynol i Syr Maiteine Lloyd, rhoddodd brydles o 999 am y swmblynyddolo Is. Mae hen deulu y Bronwydd wedi arfer bod yn baelfrydig a charedig iawn i'r gwahanol enwadau anghydffurfiol. Yr oedd yn ddymunol iawn i weled y boneddwr urddasol, Syr Marteine Lloyd a'r ferch fechan, ynghyd a'i ewythr, y Parch. Rice Lloyd, Troedyraur, yn bresenol yn y cyfarfod boreu. bydd Mercher. Nid oes un teulu yn ddyfn- ach yn serch y wlad na theulu y Bronwydd, hir y parhao y teimladau da hyn. Pregethwyd yn y gwahanol oedfoen gan y Mri Morris, Aberteifi; Thomas, Llanfair; Miles, Aberystwith; Jones, Pencader (Saes- neg) Evans, Aberaeron; Davies, Talybont Thomas, Salem; Davies, Clarach; Jones, Cei- newydd. Pregethwyd yn y prydnawn am 6, dydd Mercher, yn yr hen gapel gan Williams j Llechryd; Phillips, Horeb Davies, Talybont; a Miles, Aberystwith. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol. Mae clod mawr yn ddyledus i Mi- Adams a'i anwyl bobl am eu llafur a'u hym- drech. Capel gwedi costio rhyw £700 yn cael ei agor yn rhydd o ddyled, dim syndod fod y cyfeillion yn mwynhau wrth wrando efeno-yl. Gweithwyr yn unig all wneud hyn. Yr Arglwydd a'u bendithio a thwynedei wyneb arnynt. j. M. P.
CRYBWYLLION DIRWESTOL.
News
Cite
Share
CRYBWYLLION DIRWESTOL. GAN CHWILOTWR. Y mae 2,600 o dai i werthu diodydd meddwol yn New Zealand. Ymunodd 2,636 a Byddin y Ruban Glas yn Rotherhithe mewn un noson. Dywedir fod mwy na haner trigolion Wu-bs" worth, swydd Derby, yn llwyr-yxnwrthodwyr. Daiawn. Bernir fod 900,000,000 o ddoleri yn cael en gwario yn America yn flynyddol am ddiodydd meddwol. Yn siarad yn Croydon y dydd o'r blacn dywedai Mr Moody fod 19 o bob 20 o wrth- gilwyr yn llithro drwy y diodydd meddwol. Rhoddodd Mr Caine rybudd yn y Senedd y byddai iddo alw sylw at effeithiau drygionus rhoddi mini i'r milwyr pan yn dyfod o Suakim. Mewn trengholiad a gynhaliwyd ar gorph t, Cadben Bull yn Dublin, dychwelyd rheith- farn ei fod wedi marw mewn eanlynia,d i aleohol. Da genym ddeall fod ymdrechion neillduol yn cael eu gwneud yn mhlith y milwyr yn Parkhurst gyda dirwest. Ymunodd 63 mewn un noson. Yn Birmingham cymerwyd 3,044 o bersona^ i fyny am feddwdod yn ystod y flwyddyn ddiweddaf ond ni ddirwywyd ond un tafam- wr am ganiatau meddwdod. Dywed Dr. A. K. H. Boyd fod yr arferiad a'r ddiodydd meddwol yn ddiwerth ond fel meddyginiaeth; ac mai ymarfer ag yfed whiskey ydyw melldith Ysgotland. Eu meistri Booth a Glover yn cynal cyfres o gyfarfodydd perthynol i'r Rhuban Glas yn Melbourne, ac fel canlyniad i'w llafur, ym- unodd 26,773 a'r achos dirwestol. Dywedir fod Mr Coleridge Kennard, A.S., wedi rhoddi i fyny ei fwriad i ddwyn yn mlaen ei fesur ar drwyddedau grocers i werthu diodydd meddwol y Senedd-dymor presenol. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd mewn cysylltiad a, Byddin y.Ruban Glas yn Halifax yr wythnos o'r blaen, gan Mr Richard Coa.d, o Lundain, ac ymunodd '3,000 a'r gymdeithas hono. Y chydig amser yn ol sefydlwyd Undeb Dirwestol rhwng gwahanol enwadau crefyddol y Saeson yn Mangor. Etholwyd y Pareh. Mr. Griffiths, (A.), yn ysgrifenydd. Pa le y maent ? Dydd Mawrth diweddaf, cynhaliwyd cyfar- fod blynyddol Gymdeithas Ddirwestol y medd- ygon, o dan lywyddiaeth Dr. Richardson, yn Manchester-square, Llundain. Yr oedd rhif yr aelodau wedi cyrhaedd 300. Nos Wener diweddaf cynhaliwyd conversa- zione mewn cysylltiad a'r Gymdeithas Ddir- westol Genedlaethol yn y Cannon Street Hotel, Llundain, pryd yr oedd oddeutu 600 o fonedd- igion a boned digesau yn bresenol. Dychwelodd Mr Matthew Burnett, yr ar- eithydd dirwestol enwog, oAwstralia, wedi bod yno am dair blynedd a haner; a dywedir fod rhai miloedd wedi eu dwyn i fod yn ddirwestwyr fel canlyniad ei areithiau. Y mae Ysgotyn o'r enw Bob Carlisle, yn bwriadu cerdded 5,100 o filldiroedd mewn 100 o ddyddiau, ac ar yr un pryd arfer a'r diodydd meddwol, er dangos nad oedd dim yn hynod yn ngwaith Weston yn cerdded heb ddiodydd poethion. Nos Lun diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod dirwestol yn nghapel Horeb, Bangor, mewn cysylltiad a chyfarfod Talaethol y Wesleyaid. Cymerwyd y gadair gan Mr Davies, Caer. a siaradwyd gan y Parchn. T. Hughes, Bootle; D. O. Jones, Bethesda; Owen Hughes, Pen- machno; J. Cadvan Davies, Dolgellau; a D. Young, Caerdydd. Yr oedd nifer o ddynion mewn tafarndy yn Blackpool, ac wedi hyny a,ethant allan mewn cwch. Yr oedd yr wyth o dan effeithiau y ddiod feddwol. Yr oedd y mor yn hynod o dawel ar y pryd, ond dywedir fod un o honynt wedi ceisio dringo yr hwylbren, a'r canlyniad fu i'r cwch droi a'i wyneb yn isaf. Boddodd chwech or dynion anffodus, ond llwyddwyd trwy anhawsder i achub dau o honynt. j
News
Cite
Share
East Finchley, Llundain. Mae ef wedi el hateb yn gadarnhaol, bydd yn dechreu ar ei weinidog- aeth yno y Sabboth cyntaf yn Gorphenaf. Gwn rywbeth am East Finchley, a gallaf gadarnhau yr hyn a ddywedwyd yn flaenorol am dano, mae yno faes braf i lafurio, capel prydferth a chyfleus. Diameu genyf dan weinidogaeth yr Eynon, bendith y Pen mawr y bydd yr eglwys hon yn uia. o brif eglwysi y maesdrefi. Cyflog i ddechreu tua phump cant ( £ 500). Llawenydd a gorfoledd mawr oedd yn East Finchley, nosjon darllen atebiad i'r alwad, a gofyuai rhyw frawd iddynt pa nifer o'r Davisiaid Cymraeg yma sydd yn Nghymru eto? Hen ysbiwr Seisnig oedd hwn mae yn debyg. Is id oes a'ngen i'r brawd Anmbynol hwn wrfch lythyrau canraoliaeth a phrops, noder y ffeithiau, maa ei glod trwy Gymru, ac hefid yn y Brifddiiias. Gwelar yumhlith hysbysiaclau Llundain i fod yno gyfarfod neillduol, nos Luii, heno, pan wyf yn penu y llinellau hyn, yn yr Exeter Hall, pryd y cymerir y gadair gan Arglwydd Shaftesbury. Siaradwyr, Parchn. R. C. Billing, Austin Davey, T. Eynon Davies, Dr. Grilton, Syr Thomas Chambers, Q.C., M.P., Recorder of London, W. S. Allen, M.P., A. McArthur, M.P., aa eraill. Pwnc siarad y cyfarfod, Cadwraeth y Sabboth oddiwrth gael ei haiogi gan agoriad Museums, &c." Llawen genym i ddeall i fod yr enwogion uchod yn cymeryd 11 y cyfryw bwnc fw hystyriaeth, ac yn dadlu dros gadwraeth y Sabbofh. Mae yr M.P.'od, y Q.C.'od, a g-weinidogion yr efengyl yn dyfod i sefyll ochr yn ochr ar lwyfanau em prif drefydd i bleidio tnoesoldeb a rhinwedd. Mawrion y byd yn dyfod yn bleidiol i grefydd. Brenhinoedd yn dadmaethod a breuhinesan yn famaethod. Dos rhagot Eynon, dangos dy wyneb yn erbYll cyfeiliornadau a llygredd yr oes, bydd byth yn Annibynwr, cofia Gymru, kiraethus wyf am dy golli o'n plith, nodded Duvv fyddo drosot ti; a'th briod anwyl, a'th deuln lioff. Hyderaf i gael y fraint o'th weled a'th wrando yn East Finchley.—Ieuan.