Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MANION GAN S. R.

News
Cite
Share

MANION GAN S. R. Pymtheg mlynedd ar hugain yn ol, cefais fy anfon gan ryw ddwsin o eglwysi yn Nghymru, i'w cynrychioli fel cenhadwr mewn Cynhadledd Heddweh yn Frank- fort ac yr oeddwn yn ei theimlo yn an- rhydedd mawr i gael y fath ragorfraint a mwynhad. Cefais wythnos ddedwydd iawn yna gyda llaweroedd o gyfeilllion rhyddid a heddwch. Effeithiodd craffineb a doethineb a boneddigeiddrwydd ein cydwladwr enwog Henry Richard, pan yn trefnu ac arolygu gweithrediadau y fath gynhadladd gymaint ar fy meddwl, fel yr awgrymais yn fy adroddiad drwy y wasg o'i hanes, y dy]ai y drws gael ei agor i Mr Richard gynrychioli zn ein cenedl yn senedd ein gwlad, a da iawn genyf i'r awgrym gaal ei gymeryd i ystyr- iaeth, ac i'r amcan gael ei gyrhaedd mor an- rhydeddus, a bod hyny wedi profi o'r fath enill i Gymru. Rhai blynyddoedd ar ol hyny derbyniais y llythyr canlynol oddiwrth Mr Richard PEACE SOCIETY, 19, NEW BROAD, LLUNDAIN, AWST 6, 1867. Anwyl Hen Gy.£aill,- Y r oedd yn hyfryd- wch mawr i mi gael ychydig eiriau oddi- wrthych, fel prawf eich bod eto yn ddiogel ar dir Prydain. Sylwais yn fanwl "ar eich gyrfa drwy y rhyfel cartrefol yn America gyda dyddordeb., ac edmygedd o'ch egwydd- orion. Cefais inau lawer o ddirmyg fel chwithau am ardvstio yn erbyn rhyfel, ac yn erbyn caethwasanaeth. Y mae rhyddid i'ch cyfaill Mr Hughes gyhoeddi fy llythyrau yn America, a hoffwn hyny. Nid oes genyf hamdden jn awr i ysgrifenu ycbwaneg, ond anfonaf iddo ychydig eiriau o Ragymad- rodd. Yr wyf newydd fod yn derbyn cenhadaeth o Merthyr ac Aberdare, yn fy ngwahodd i ddyfod allan i'm cynyg fy hun i'w cynrychioli yn y senedd. Yr wyf mewn cryn gyfyngder meddwl beth ddylwn wneud. Y maent yn foddlon i-mi gael ych- ydig amser i ystyried y mater, ac ymgyngh- ori a'm cyfeillion. Gwn y caf eich cefnog- iad chwi a'r Cronicl; yr hwn oedd y cyntaf i awgrymu y peth. Yr wyf yn gobeithio cael eich gweled yn Llundain yn fuan. Peidiwch goddef i'ch hoff hen gyfeillion eich ofer neu ormod gweithlo.—Ydwyf, yr eiddoch yn gywir. HENRY RICHARD. Da genyf i'r awgrym am i Henry Richard gael lie a llais yn y senedd wreiddio ar un- waith drwy wahanol gylchoedd y wlad ac o'r diwedd i'r drws gael ei agor yn Merthyr ac Aberdare. Pan ddeallodd y Gwir Anrhydeddus John Bright ychydig ddyddiau yn ol yr hanes am gychwyniad seneddol Henry Richard, ysgrifenodd ataf y llinellau canlynol:— "Diolch i chwi am gael golwg ar hen lytbyr dyddorol Mr Henry Richard, Da. genyf

pjm a'r %k\\ o'r dogleg.

FY ADPYPYEION.