Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

LLYTHYR LLUNDAIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR LLUNDAIN. CANOL Y FFORDD. 2 mis, 3ydd, 1879. Y mae y gwaith o gigyddio yr Afghan- laid yn myned yn y blaen yn rhagorol. Pan gyhoeddwyd y rhyfel, dywedai Llywodraethwr India wrth yr Afghaniaid taw yn erbyn yr Ameer ac Did yn eu herbyn hwy yr oedd yn ymladd. Mae yr Ameer wedi dianc o'r wlad,—wedi cael i yru i freicliiau Rwssia, ond mae y rhyfel—os teilwng o'r emv,—yn myned yn mlaen o hyd, Yn Nyffryn y Khost bu lladdfa fawr yn dcliweddar. Nid oedd y trigolion diniwed yn gwybod end y nesaf peth i ddim am yr Ameer na'r ffrae -oedd rhwng ein Llywodraeth ag ef, ond wrth weled llu o filwyr y wlad lion yn tramwy drwy eu dyffryn ymgasglasant at eu gil ydd gyda'r bwriad i amdcliffyn eu tai a'u teuluoedd, Gorchymynodd un o'r Maes-lywyddion i'w wyr meirch ymosod ar y trueiniaid a lladdwyd tua thri chant ohonynt Geilw papyrau Jingoes Llundain beth fel hyn yn great success a brilliant victory Yr unig lwybr gymer yr Afghaniaid i amddiffyn eu gwlad mwy fydd drwy gario yn mlaen ryfel annrhefnus, gwyllt (guerilla warfare) yn ein herbyn, ac yn mhob aclilysur o oresgyniad cydnabyddir cyfreithlondeb y dull hyny o ymladd gan holl genhedl- occld Ewrop. Ond fflangellir a saethir pob Afghan a ddelir yn cario arfaugan awdur- dodau gwareiddiedig ein gwlacl ni! Mewn gair, mae ein swyddogion wedi cario y rhyfel yn mlaen yno yn y modd mwyaf barbaraidd a didrugaredd ac mewn modd na feiddia ein Llywodraeth ei fabwysiadu at y wlad leiaf a gwanaf yn Ewrop. Fel y dywedodd Burt, Wilfrid Lawson, ac ereill yn Nhy y Cyffredin, rbyfel coward- aidd ydyw, ond dyna, rhaid i mi ys- grifuu y gair u cowardaidd" onide cy- huddir fi gan Barcliedig Olygydd y papyr duwiol liwnw a elwir y I Tyst a'r Dydd,' o ddefnyddio geiriau bryntion," fel. y gwnaeth. pan ddefnyddiais y gair unwaith o'r bla en. Ai tybed y gwna yr "Esgobion" gwladgarol a chrefyddol bleidleisiodd yn Nhy yr Arglwyddi dros wneuthur i ereill yr hyn 11 a ddymuncnt i ereill yr hyn na ddymunent i ereill wneyd iddynt hwy, diolch i'r Arglwydd am y fath fuddugoliaethau ?" Ychydig o gysur deimla ymiloedd sydd yn gorfod dioddef yn galed oddiwrth oerni a newynu yn ein trefi mawrion oddiwrth y newydd fod hyn a hyn 0 Afghaniaid wedi eulladd. Y mae yr areithydc] Amerieanaidd byd- enwog J. B Gough, wedi gwneyd cy tun- deb a'r Gymdeithas Ddirwestol Genedl- aethol i draddodi haner cant 0 ddarlithiau yn ystod y tymhor dyfodol. Traddodir rhai. ohonynt yn Lludain, ond y rhan fwyaf yn nhrefi mawrion y wlad. Declireisodd yn Exeter Hall ar yr 28ain o'r mis diweddaf. Yr oeddwn er ys blynyddau wedi teimlo blys i'w glywed, a phendeifynais fyned i'w wrando y cyfleusdra cyntaf. gawn. Yr oedd y neuadd fawr yn orlawn, er na ocldefic1 i neb fyned i mewn heb dalu swllt o leiaf. Aeth drwy ei waith yn rhagorol a gellir dywedyd yn ddibetrus ei fod yn un o'r areithwyr mwyaf galluog yn yr holl fyd. Dichony caiff darllenwyr y I Celt' fras- lun 0 hanes ei fywyd yn un o'r rhifynau nesaf. Mae dirwestwyr Llundain yn yiYiddangos fel lie byddent wedi pen- derfynu lladd meddwdod cyn rboddi yr ymdrech i fyny, Heno, cynelir cyfarfod mawr gan Gymdeithas Ddirwestol St.. Pancras. Disgwylir B. Whitworth, A.S,, i gymeryd y gadair, ac Alexander M. Sullivan, A.S., ac ereill i areithio. Yn ystod yr wythnosati diweddaf, pan oedd y rhew caled wedi cloi pobpeth, gwelid tyrfaoedd 0 bobl yn cerdded ar hyd heolydd y brxf-ddinas gaii ganu :— We got no work to do-oo-oo Yr oedd yr olwg arnynt yn druenus i'r eithaf nc yr oeddwn yn teimlo awydd gofyn ai tybed fod yn eu mysg rai oedd yn terfysgu y cyfa-riodydd gynhaliwyd yn Hyde Park fiwyddyn yn ol i wrth- dystio yn erbyn myned i ryfel a Ewssia, drwy ganu :— We don't want to fight, But by Jingo if we do, We got the men and got the ships rul got the money too Sut bynag am hyny, yr oedd yn amlwg y 0 fod rhai ohonynt yu wrthddrychau tosturi; ond ymddengys nad yw ynadoh Llundain yn credu hyny, oblegid ychydig ddyddiau yn ol darfu iddynt ddanfon amryw ohonynt i garchar. Caniateir i organ-grinders, bag-pipers, tfc.cardot. wyr proffesedig i aflonyddu. pobl a'u peiriiwmau ysgrechlyd ond os bydd rhai o'n gweithwyr allan 0 waith, rhaid iddynt aros yn eu tai i newynu, neu fyned i'r Tlotty Yn ol pob argoelion mae ein IJywodr- aeth ryfelgar wedi llwyddo i godi tymhestl fawr arall yn Neheubarth Aifrica. Gellir disgAvyl clywed yn fuan fod rhyfel dychryllyd wedi dechren yno. Priodol iawn ydyw gofyn beth mae ein gwlad wedi enill oddiwrth y rhyfeloedd diweddar ? Yn y I Times' am un o'r dyddiau diweddaf yma, ceir hanes am ymosodiad dewr aawnaeth ein milwyr ar ryw bentref bychan yn Afghantistan, ond yr holl yspail gafwyd ynddo ydoedd hen wraig a thair o ieir Yn Abyssynia cafwyd umbrella Theodore, a dygwyd mab yr hen frenin hwnw i'r wlad hon, ac y mae y llanc wedi costio rhyw saithleant o bunnau i'r trethdalwyr bob blwyddyn we di hyny. Yir Ashantee. ymosodwyd ar ein milwyr gan glefydau dieithr, a dygasant yr heintiau hyny adref i Brydain yn etifeddiaeth i'w plant a phobl ereill. Digon tebyg y cyflawnir rhyw wrhydri mawr eto yn Nehenbarth Affrica, tebyg i'r ymosodiad ar y pentref Afghan- aidd, ac y llwyddir i ddal rhyw hen wraig arall yn nliiriogaethau Zulu. Priodol gofyn hefyd pwy raid dalu y treuliau ? Prin y gellir disgwyl i bobl newynllyd a thlawd yn India i dalu treuliau yr ym- gyrch i Afghanistan, er fod ein Llywodr- aeth wedi csisio taflu y baich ar eu hysgwyddau. Cynaliwyd cyfarfod mawr y nos o'r blaen gan y prif Indiaid sytld yn byw yn Llundain i wrthdystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn gwneyd y fath beth. Nid oes sicrwydd chwaith y y medr y tair iar a gymerwyd gyda'r hen wraig Afghanaidd ddal caledi a plieryglon mordaith i'r [wlad hon, a phe gwnaent, y mae yn amheus genyf a fedrai y Llywodraeth gael digon am danynt i C:) y dalu y filfed ran o'r bill. Nos y 30ain, o'r mis diweddaf bu Deon Stanley yn areithio yn addoldy yr Anni- bynwyr, yn Westminster. Ei destyn oedd "Milton." Yr oedd y lie yn orlawn o bobl. Dywedai y Deon ei fod wedi addaw wrfch ddiweddar weinidog yr eglwys hono (S. Martin) i draddodi clarlith yn ei addolcly ar Milton." Yr oedd yn ddrwg ganddo nad oedd ty Milton i'w weled yn bresenal, ond yr oedd ei ardd i'w gweled yn Rhif 20, York- street. Canmolai weithiau y prif-fardd yn fawr. Efallai y bydd yn dda gan ambell Annibynwr selog glywed taw Annibynwr oedd Milton hefyd, ond llawer mwy Annibynol na rhai o'r bobl sydd yn ymgyfenwi eu hunain yn Annibynwyr y dyddiau hyn. Bydd y Senedd yn cyfarfod ar y 13eg cyfisol, Ty'r Cyffredin am 4 o'r gloch, a Thy'r Arglwyddi am o'r gloch pryd- nawn. Dealler taw nid dechreu- blwyddyn newydd y maent, felly ni ddarllenir yr un araeth oddiwrth y Frenhines ond disgwylir y gwna Syr Stafford Northcote yn Nhy'r Cyffredin ac Arglwydd Beacons- field yn Nhy'r Arglwyddi hysbysu pa Fesurau fwriedir ddwyn gerbron gan y Llywodraeth. Tobit. V