Hide Articles List

1 article on this Page

CYNHADLEDD GYNHYRFUS .Y CYFARFOD…

News
Cite
Share

CYNHADLEDD GYNHYRFUS Y CYFARFOD CrlWARTEROL YN TREFLYS. ( Cynhaliwyd y gynhadledd hynod hon am 10.30., Ionawr 23ain, yn nghapel Treflys, Bethesda. Byddal yn iechyd mawr i ni oil pe caem sail i gredu na chynelir un o'i bath bytli eto. Camiyddaidyweydfodpobpethynddi yn annhrefnus. Yroedd anerchiad y cadeir- ydd yn rbagorol. A phe buasai ei lywydd- iaefch drwyddi morddifai a'r anerchiad buasai yn hwylusdod mawr ac yn llawenydd i'r gynhadledd. Nid oes hawl gan y cadeirydd i areithio ar bobpeth nac ar ddim o'r pethan addaw gerbron. Yn ei anerchiadagoriadol ⢠gall gyfeirio at y peth a fyno; o leiaf nid wy wedi gweledun terfyn diamhwys i anerchiad y cadeirydd, ond ei farn ei hun. Gall hono fod yn hynaws neu yn orthrymus. Ond hono yw'r safon am y tro. Ar ol ei anerchiad calonog y mae ein eadeirydd ni yn dechreu troseddu. Ni ddylai y cadeirydd gymeryd rhanmewn unrhyw ddadl yn y gynhadledd. Nid oes ganddo hawl i ddyweyd ei farn ar unrhyw bwnc mewn dadl, na hawl i bwyso dim dros, nac yn erbyn, oddieithr fod y bleidlais yn gyfartal. Yn yr amgylchiad hwnw y mae trefn gynhadleddol pob cenedl rydd yn caniatau i'r cadeirydd roddi ei hun gydag un o'r pleidiau a throi'r fantol yn y ffordd hono. Caniatau iddo os myn, ac nid ei rwymo i wneyd felly y mae'r drefn grybwylliedig. Ao y mae Uawer cadeirydd yn dewis peidio myned dan y fath gyfrifoldeb. Trefnydd y cyfarfod, h y., gofalu am bawliau pob aelod o gynhadledd yw swydd y cadeirydd; a dylai hawliau y naill fod mor gysegredig ganddo a hawliau y llall. Ni ddylai neb ddyweyd un gair mewn cyn- hadledd cyn cyfarch y cadeirydd, acos gwna, fel y gwnaed yn ami y tro diweddaf, ni ddylai synu os bydd y cadeirydd yn gofalu dim am dano. Ac y mae gan y cadeirydd, neu dylai fod ganddo ofal i feithrin yr arferiad hon. Aed trwy y gwaith sydd yn arfer bod ger- bron ein Cyfarfod Chwarterol, megis:- Trysorfa yr achosion gweiniaid a'r gwein- idogaethau gweiniaid lie cynhaliad y cyfarfod nesaf adroddiad y pwyllgor ar gapelau Llanberis a Chwmyglo; cyflwyno brodyr newyddion i sylw'r gynhadledd; a phasio cydymdeimlad o brodyr cystuddiedig. Yr oedd yn lied agos i ddeuddeg o'r gloch pan gyrhaeddwyd y terfyn uchod. Gwel pawb yn y man nad pethau dibwys oedd yr uchod, ond pethau anocheladwy os myn yr Eglwysi gydweithredu mewn pethau cyhoeddus. Ac nid wyf yn gwbl sicr fy mcddwl na ddylasai ein cynhadledd derfynu yn y manhyn. Nid, oes ddadleuon ffyrnig a pheryglus yn ein mysg ar y pethau uchod, a gellid ychwanegu un gwaith arall a goronai y gynhadledd a benditb, sef adroddiad o sefyllfa crefydd yn yn eglwysi ein cyfundeb. Barnwyf eu bod yn cael eu cynrychioli yn dda yn y gyn- hadledd hon. Cawsent felly ddychwelyd i'w cartrefi wedi eu cadarnhau yn y ffydd. Yn ol ein cyflwr ni yn awr yn y cyfundeb hwn, credaf fod angen trefn o'r fath am flynyddau. Ar ol "rbybuddio yn y cyfarfod o'r blaen daeth Capt. G. B. Thomas, Caernarfon, a phwnc gwin y cymundeb i'r bwrdd. Degbreu- odd fel pe buasai mewn oyfarfod dirwestol neu- seiat sef dyweyd gair ar ddirwest yn gyffred- i inol. Dygwyd ar gof iddo mai cynhadledd oedd hon ac nid eyfarfod i areithio. Yna daeth yn nes at ei bwnc, sef yr angenrheidrwydd am gael gwin anfeddwol at wasanaeth y cymundeb; a llefara eto heb ddarllen penderfyniad, i'w gynyg i'r gyn- hadledd. Yna ceisiwyd ganddo ddarllen ei gynygiad. Nid oedd wedi parotoi un. Ond daliai i ddyweyd ei ddymuniad mewn dull gwasgarog a dywedodd rai rhesymau da dros ei gynygiad. Oftiais y buasai yn eistedd heb roddi cynygiad o gwb1. A cbynygiodd Mr. Parry, Bethesda, fyned yn mlaen at rywbeth arall gan nad oedd un cynygiad ger- bron. Yr oedd hyn dipyn yn sharp. Yr oedd ynamlwgaad oedd Capt. Thomas wedi sefyll mor hir ac mor fanol uwch ben ei gyn- ygiad ag y mae y Brawd Parry yn gwneyd. Y mae efe yn annhraethol berffeithiach cyn- jluniwr na'r Capt. Thomas. Ond cydnabydd- wyd yn y man fod cynygiad gerbron. Eiliwyd gon R, Mawddwy Jones, Dolyddeleu, mewn dull grymus ac effeithiol, Gwasgai ef resymau mor gryno a bwledi. Dyma ddawn neillduol Mawddwy. Gwrthwyneb- wyd y cynygiad gan Mr. W. J. Parry, Bethesda, Mr. Stephen, Tanymarian, a Mr. J. A. Roberts, Pendref, Caernarfon. A rhodd- wyd tri neu bedwar corniad anfedrus iddo gan frodyr ereill. Y dull ar y cynygiad oedd "fod y gynhadledd yn cymeradwyo i'r eglwysi ddefnyddio gwin anfeddwol at was- anaeth y eymundeb." Nid felly yn liollol y rhoddwyd ef gan Capt. Thomas ond dyna ei ystyr. 'Lletbwyd y cynygiad yn effeithiol gan welliant hynod: "Ein bod yn gadael y mater i'r eglwysi i'w benderfynu drostynt eu hunain." Dyna beth newydd dan haul i'n henwad ni; dyna ras newydd yn nghyn- hadledd yr Aniribynwyr!! onide? ynte? I beg your pardon, I can't see it" meddai J. R. Methugwejed y gwelliant yr oedd y Brawd. Ond yr oedd cymaint a hyn ynddo. Yr oedd yn cynwys gwrthod cynygiad Capt. Thomas. Rhaid addef ddarfod i'r Capt. Thomas roddi y pwno gerbroumewn dull tra anaddawol, Yr oedd yn llawer rhy bryderus yn ei gylch. Gwelais yn y man nad oedd obaitb am y cyn- ygiad y diwrnod hwnw. Am y rhesymau a roddwyd yn erbyn y cynygiad gan y Brodyr crybwyHiedig, cant eu trin yn fanwl yn Y Golofn Ddirwestol." Y maent i'w canrool am eu gwroldeb. Dylai dyn fod yn ddigon diofn i amddiffyn ei farn. Nid oes dim i'w ofni :oddiwrth eglurder ond peth marwol yw distawrwydd llechwraidd. Mynodd y cadeirydd fel arfer ddyweyd tipyn ar y mater a haeru ei fod ef yn well dirwestwr na neb ag oedd yno ac y mynai ef gael y gwin anfeddwol i'r Eglwysi cyn pen deng mlynedd os cai fyw, &c., a gofalodd gyfyngu amser pob un a ddywedodd ryw- beth dros y cynygiad, ac ni wnaeth hyfiy ag un or rhai awrthwynebent y cynygiad. A lie yroedd yr amser mor fyr a chynifer yn barod i siarad dylasai hyny rwymo y cadeirydd i gadw trefn yn unig, Dichon fod hyn i'w briodoli i'w nervousness ef yn fwy nag i ddim arall. Ond difyrweh oedd y cwbl hyd yn hyn mewn cymhariaeth i'r ffrwydriaid strim-stram- strellach oedd i dori arnom a'n gorchuddio. Pan dorwyd yr argae yr oedd o fewn ychydig i 1 o'r gloch. Dim ond awr oedd rhyngom a dechreuad yr oedfa ddau o'r glocb. Yroedd gweinidog y lie yn teimlo yn bryderus er ys meityn. Ie, ddarllenydd ar yr awr ddiweddar hono, ar y fag end chwedl "I Y Gohebydd," y darllenodd. Mr. W. J. Parry, ei gynygiad i gondemnio llythyrau gwarthus'' M. D. Jones, yn < Y Celt mewn perthynas i Goleg Annibynol y Bala. Cymerai Mr. WilliatHS arno fod yn bur ddieithr i'r cynygiad ond II ganei fod wedi cael ei gynyg, fynwn i ddim i'r gair. fyned ar led i'r peth gael ei gynyg ond iddo fethu eael ei basio" ac yna mewn cywair uchel cymbyrfus a heriol soniai am y "ddau hen sant Calfinaidd" a'r Speetol Gaws, <&:c., &c. Creodd dipyn o gynhwrf o blaid y cynygiad. Yn y cyffro didrefn hwn mynodd Mr. Mawddwy Jones, Dolyddelen, ddadleu yn erbyn y cynygiad a cbynygiodd welliant i wrthod trin y mater y tro hwn. Tra bu ef yn siarad yn finiog a chadarn, boneddigaidd a hunan-feddiannol,yr oedd pump neu chwech yn aflonyddu arno.Ond dalioddy cwbl yn wrol alieb wyilfcio yn y gradd lleiaf. Rhy ddrwg ddarfod i frawd teilwng gael derbyniad mor anwaraidd. Ymataliaf y tro hwn rhag eawry personau oeddynt y'n aflonyddu arno. Gan obeitkfo na bydd an- gen gwneyd hyny byth eto chvvstitlu Rhodd- wyd y cynygiadau i bleidlais a dywedai y rhai oedd yn cyfrif fod chwech o fwyafrifgan y cynygiad gwreiddiol. Yr wyf inau yn credu fod mwy na chwech wedi tyna eu Haw i lawr cyn cael eu rhifo. Pa un bynag am hyny, mwyafrif main iawn ydoedd mewn cynulliad mor lluosog. Ond yr oedd yno ysbryd dialgar myn einioes Pharo'' yn ei yru yn mlaen. Chwilio am nerth yr oedd Mr. Parry yn ol ei addeliad ei hun, erbyn Pwyllgor Mawrtb, yn yr Amwythig gyda golwg ar Mr. Jones o'r Bala. Eitha peth oedd pleidlais gref fel hyn i gwtogi edyn tanllyd y ddau sydd yn cynrychioli y cyfundeb hwn. Clywais fod y conde-mnwyr yn addef pe gwybuasent y byddai cymaint o wrthwynebiad na fuasent yn ei. gynnyg o gwbl. Yr wyf yn ofni fod hyn yn rhy dda i'w greda. Gofynodd un brawd ai nid oedd y pender- fyniad ei hun yn cynwys iaith lawn mor feius a dim a ysgrifenwyd gan M. D. Jones ? Ar hyny cynygiodd Mr Williams, Bethesda, ac ereill dynu y geiriau caledion allan os mynai y cyfarfod, ond wed'yn, pan oedd Mr. Mawddwy Jones yn siarad, clywais Mr. Williams yn dyweyd am roddi geiriau caletach o lawer i mewn ac yn yr yspryd hwnw y rhuthrwyd y cynygiad condemniol yn mlaen. Pa faint o goel sydd i'w roddi i benderfyniad a eniIIwydmewn dull mor anngheilwng ? Cynygiodd un Brawd cariadlawrt ein bod i arfer gochelgarwch mawr wrth son am y cyfarfodâ" Peidiwch dyweyd yn ddrwg am dano. Dywedwch y goreu am dano, &c." Nid oes modd peidio parchn teimlad y brawd da hwn. Ond mantais i ddynion drwg yn unig yw tywyllwch. Cauigymeriad hollol yw i bobl dda geisio cysgod gan y tywyllwch. Rhwystr i'r gwirionedd yw pob math o dywyll- web. Nid oes un math o dywyllwch yn gynortbwyol i Grefydd Mab Duw. Cadw'r byd o'n cylch dan argraff gelwyddog am y danom yw y gwir amcan wrth gelu ein sefyllfa. Dyna ddyfais y Glasgow Bank Directors-cuddio eu sefyllfa rbag i'r wlad golli ymddiried ynddynt. Dywedaf eto mai mantais i ddynion drwg yn unig yw tywyll- wch. Mae oerfel a rhew a marwolaeth yn cydfyncd athywylI wch yn gyffrcdin ac y mae goleuni yn gyffredin yn dwyn gwres a bywyd i'w ganlyn. Dewch ini gymhwyso y feddygin- iaethhon at<( Gyfarfod Chwarterol Arfon. Ã. S. DA VIlIS,