Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.AT EIN GOHEBWYP.

News
Cite
Share

AT EIN GOHEBWYP. Yr ydym yn ddiolchgar, yn wir, yn ddiolchgar iawn, am eich cynorthwyon rhaid i ni, ar yr un pryd, erfyn am eichcydymdeimlad. Nid hawdd dirnad ein trafferth a'n gofid weithiau, yn ngbanol y cronfeydd sydd yma o adroddiadau ac erthyglau ag y methasom gael lie iddynt y misoedd di- weddaf. Dychwelwyd yma, rywfla yn ol, sypyn- au mawrion o swyddfa y Bala, ag oeddid wedi wasgu o'r neilldu. Yn eu mysg yr oedd dros bump ar hugain o "Nodiadau gan y Gol," ar destynau ymarferol o dipyn o ddyddordeb cyff- redinol. Yr oedd ganddo dros bump ar hugain o ysgrifau eraill wedi cael eu troi o'r neilldu i'w fasged fach gartref, er gallu rhoddi lie i lithoedd gohebwyr ag oeddyut wedi ysgrifenu i'r un cyf- eiriadau. Pe buasai haner cant o ysgrifau rhyw 0hebydd wedi cael eu troi or neilldu felly, buasai yn dramgwydd anfaddeuadwy j ond yr oedd yn gweddu i'r Golygydd ddyoddef yn ddystaw. Ein cais, gan hyny, ydyw ar i'n gohebwyr caredig ofalu am i'w hadroddiadau am eu gwleddoedd adloniadol a'u cyngherddau a'u cystadleuon fod mor gryno a chynhwysfawr ag y medrant eu gwneud. Hyderwn y ceir drwy hyny Ie i rai o'r ysgrifau buddiol ydys hyd yma heb gyhoeddi. Drwy ein bod wedi colli mis lonawr, y mae bron yn rhy ddiweddar i gyhoeddi yr adroddiadauam Wyliau y Nadolig a'r Calah. Y mac'n bryd bellach i'n cyfeillion barotoi ar gyfer Gwyl Dewi, Gwyl Fair, a Gwyl y Pasg ond gobeithio y cofia cin gohebwyr y bydd yn well genym gael gormod o ddefuyddiau na rhgfdch. At tin Dnsbarthwgr.—Y mae llwyddiant y CELT yn4icr o droi i raddau mawr ar eich ffyddlondeb chwi. Od oes rhyw anghywirdeb yn ein dull o gyfarwyddo ac anion eich sypyn, anfonwcii air ar unwaith i'r Argraffydd. At ein Derby nwyr.—Gwnewch brawf am ychydig flsoedd o argraffwaith swyddfa newydd y CELT. Cewch weled y bydd yn o hardd. Ni bydd ceiniog yr wythnos ond aberth bychan iawn i chwi am yr amrywiaeth a gewch ar ddalenau y CELT. Cafwyd trafferth nid bychan er gallu trefnu y swyddfa newydd. Y mae mewn lie cyfleus iawn yn nghanol caer ddinas Arfop. Yr ydym yn teimlo yn galonog ynawr fod genym argraffydd o chwaeth, a medr, ac ymroad.. Cawsom siom- edigaeth mewn dwy swyddfa, a hyny achosodd yr oediadau. Y mae y swyddfa newydd yn awr yn barod, a bydd y rhifyn nesaf allan Ionawr 30ain, a cheir ynddo ysgrifau adeiladol ar wasgfeuon y tymor yma, ar werth mawr cynildeb a dirwest, ar helyntion y brifddinas, ac ar elfenau pwysfawr cynulleidfaoliaeth, ac ar amrvw o faterion yr adeg bresenol. Byddwn yn ddiolchgar iawn am gef- nogaeth a chymorth ein holl gyfeillion. GOL. Conway, N. W., Ion. 21, 1879.

SPECIAL' NOTICE.

Advertising

GWASGFEUON TLODI.