Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLYTHYR 0 IOWA CITY.

News
Cite
Share

LLYTHYR 0 IOWA CITY. ANWYL S.R.—Yr hyn yu benaf sydd yn peri i mi ysgrifenu atoch yu awr ydyw y newydd galarus a gefais neithiwr am farwolaeth an- nisgwyliadwya sydyn fy anwyl frawd, a'ch hoff lien gyfaill chwithau, Edward Peat, Gomer, Ohio. Parodd y newydd alar trwm i'm calon. Nis gallaf ddweyd mor brudd i'm mynwes. Yr oeddwn wedi son ac addaw lawer gwaith fyned i edrych am dano, ond yn awr y mae angau wedi dyrysu pob cynllun. Yr oedd fy anwyldeb o hono yn cryfhau o byd drwy ein bod yn gohebultawer a'n gilydd ac y mae gweled ol ei law, sydd yn awr yn ei arch, yn dryllio fy nheimladau. Gwyddoch fod ganddo ddawn i wneuthur llythyr yn un effeithiol. Tachwedd 18fed y cefais yr olaf odùiwrtho- yr olaf am hyLh. Bu farw am naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, Rhagfyr 24,1878, yn ymyl 68 oed. Anwyd trwm a gafodd bythefnos cyu ei farw, eifchr nid oedd yn cwyno ond ychydig iawn ac i olwg ei gyfeillion yr oedd wedi bod yn salach lawer gwaith, ond daeth angau yn annisgwy liadwy, trymhaodd ei beswch, byrhaodd ei anadl, ae yr oedd ei frest yn burgaeth. Nid oedd am gyn^eryd physic. .1 y Yr oedd fel pe buasai yn teimlo fod ei amser • ar ben, a bod arno chwant i ymddatod i fod gyda Christ, ac yr oedd yn eglut ei fod yn disgwyl ei Arglwydd. Deallodd ei briod y boreu hwnw fod cyfnewidiad yn cyraeryd lie a gofynodd oedd ganddo ddim l'w ddweyd iddi hi a'r plant. Atebodd yntau ei fod yn "Dawel right." Yr oedd y fath eiriau a'r fath deimlad yn ngwyneb angau, yn werth fawr iawn. Diffoddodd fel canwyll. Hun- odd yn yr Iesu; ac ehedodd ei ysbryd at Dduw Claddwyd ef y dydd Iau dilynol. Daeth tyrfa fawr i'w liebrwng i dy ei hir gartref yn myn- went Tawelan, yn ymyl gorweddfan yr hen dad a man o Dawelan. Yr oedd hiraeth trwm wrth ei adael yn i wely pridd; ond y mae ef yn awr gyda'r hen gyfeillion ag yr oedd mor hoff o gofio ac o goffa am danynt. Teimla y teula ei fod wedi gweddio llawer yn daer ac yn dyner drostynt. Pregethodd y Parch D' Jones y bregeth angladdol y Sabbath dilynol oddiwrth 2 Cor. viii. 18-" Y brawd yr hwn y mae ei glod yn yrefengyl, trwy'r holl eglwysi." Hoflem i chwi hysbysu ei hen gyfeillion yn Nghymru am ei farwolaeth drwy gyfrwng y 4 Celt.' Gan gofio yn gynes iawn atoch fel teulu. Ydwyf, anwyl gyfaill, o waelod dyffryn galar. MOBHISPEAT. Iowa City, Ion. 5, 1879. Y mae gan Olygydd y ,f Celt' adgofion cynes ac addysgiadol am ei hoff hen gyfaill Edward Peat. Yroedd, fel y sylwai ei weinidog, ei glod yn yr efengyl," drwy bob cylch gafodd yr hyfrydwch o'i gydnabod. Yr hyn sydd agosaf i'n meddwl yn awr yw-eangder a symledd a* thaerineb ei weddiau; ei adnabyddiaeth helaeth o'r ysgrythyrau, a'i ddull syml effeith- iol yn eu hegluroyn ei deulu, yn yrYsgol Sul, ac ) n y gyfcilbch grefyddol ei orfoledd pur yn wyneb pob arwydd o Iw\ d'liant crefydd, gartref ac oJdicartref; y dyddordeb a Jcimlai mewn newydd ion cenhadol; a'i deimlad tyner pan yn ceisio dyddanu y dtgalon a'r trallod- edig. GOL.

ANGIIYDFFUKFIAETII YN NGAEKGRAWNT.

BEDDARGAFF DR. FRANKLIN.

"LLYS MOR LEY.

HYSBYSIAD 0 BWYS I RECTORS…

GAU ANNIBYNIAETII.